en
stringlengths
38
41.9k
cy
stringlengths
50
42.1k
url
stringlengths
31
150
Today, I published the Welsh Government’s outline draft Budget proposals for 2019\-20\. The draft Budget sets out spending plans for 2019\-20, together with indicative capital plans until 2020\-21\. As well as setting out the government’s revenue and capital spending proposals, this draft Budget provides details of our taxation and borrowing proposals, as we exercise the new fiscal responsibilities that have come to Wales. The 2019\-20 Budget will, for the first time, include tax revenues from the Welsh rates of income tax, which are introduced in April 2019\. In accordance with arrangements agreed by the National Assembly for Wales, the draft Budget will be published in two stages. The outline draft Budget published today represents the first stage, with detail on the financing, taxation and MEG level allocations.  The detailed draft Budget will be published on 23 October and will set out detailed portfolio spending plans. The documents published today are available on the Welsh Government website.   * Outline draft Budget proposals * Outline draft Budget Narrative document, including the strategic integrated impact assessment * Outline draft Budget leaflet * Chief Economist’s Report * Welsh Tax Policy Report The following documents, which are part of the suite of documents published today, are available at:     * Bangor University: Independent scrutiny and assurance of devolved tax forecasts for Wales.  
Heddiw, cyhoeddais gynigion Cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019\-20\. Mae'r Gyllideb ddrafft yn nodi cynlluniau gwario ar gyfer 2019\-20, ynghyd â chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020\-21\. Yn ogystal â nodi cynigion gwario refeniw a chyfalaf y Llywodraeth, mae’r Gyllideb ddrafft yn rhoi manylion am ein cynigion trethi a benthyca wrth i ni weithredu'r cyfrifoldebau ariannol newydd sydd wedi dod i Gymru. Bydd Cyllideb 2019\-20 yn cynnwys, am y tro cyntaf, refeniw trethi o gyfraddau treth incwm Cymru, sydd i’w cyflwyno ym mis Ebrill 2019\. Yn unol â'r trefniadau newydd y cytunwyd arnynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd y Gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam. Y Gyllideb ddrafft amlinellol a gyhoeddir heddiw yw'r cam cyntaf, sy'n manylu ar ariannu, trethiant a dyraniadau ar lefel Prif Grŵp Gwariant (MEG).  Bydd y Gyllideb ddrafft fanwl yn cael ei chyhoeddi ar 23 Hydref a bydd yn nodi’r cynlluniau gwario manwl fesul portffolio. Mae'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. * Cynigion y Gyllideb ddrafft amlinellol * Dogfen Naratif y Gyllideb ddrafft amlinellol, gan gynnwys yr asesiad effaith integredig strategol * Taflen am y Gyllideb ddrafft amlinellol * Adroddiad y Prif Economegydd * Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru Mae'r dogfen canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael yma: * Prifysgol Bangor: Gwaith craffu a sicrhau annibynnol ar ragolygon trethi datganoledig i Gymru
https://www.gov.wales/written-statement-draft-budget-2019-20-budget-build-better-wales
On 13 March 2018, Hannah Blythyn, Minister for the Environment made an Oral Statement in the Siambr on: Designated Landscapes (external link).
Ar 3 Mawrth 2018, gwnaeth y Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Tirweddau Dynodedig (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-designated-landscapes
Members may be aware of recent court judgments relating to the need for legal proceedings in every case before life\-supporting treatment is withdrawn from persons in permanent vegetative or minimally conscious states. In September last year, the Court of Protection in a significant judgment concluded that a decision to withdraw clinically assisted nutrition and hydration taken by clinicians in accordance with the prevailing professional guidance and the relevant statutory frameworks would be lawful.  The court was however keen to emphasise it is always available where there is disagreement, or where it is felt for some other reason that an application to court should be made. These are complex, sensitive and important issues and the Welsh Government is monitoring developments closely. In the meantime, I want to be assured that those working in the health and care sector here in Wales are fully equipped to deal with such issues should they be faced with them. Over recent months we have taken a number of actions to understand the current position in Wales in relation to people who are in a permanent vegetative or minimally conscious state. This includes the Chief Medical Officer writing to all health boards in Wales to assess the potential number of cases in Wales and to seek assurance that their diagnosis, care and treatment is being undertaken in their best interests. We are keen that lessons be learnt from the experiences of Welsh patients and their families. I have asked Professor Baroness Finlay of Llandaff, former clinical palliative care lead for Wales and current chair of the National Mental Capacity Forum for England and Wales to lead a review of decision making within a case which has been drawn to my attention. Professor Finlay will be supported by a registered social worker, Rachel Griffiths MBE, who has a good understanding of the way decisions were taken prior to and since the Mental Capacity Act 2005; and a retired barrister, Gerard Elias CBE QC. I have also asked the Deputy Chief Medical Officer for Wales to convene a task and finish group to consider, whether there is a need for any additional guidance, education or training to be developed for the health and social care sector in Wales. I am not providing full details within this statement out of respect for the privacy of the family involved.    
Efallai fod aelodau yn ymwybodol o ddyfarniadau llys a wnaed yn ddiweddar yn ymwneud â'r angen i gymryd camau cyfreithiol ym mhob achos cyn bod triniaeth cynnal bywyd yn cael ei thynnu'n ôl wrth bobl sydd mewn cyflwr diymateb parhaol neu gyflwr lled\-anymwybodol. Fis Medi y llynedd, daeth y Llys Gwarchod i’r casgliad mewn dyfarniad pwysig y byddai penderfyniadau i dynnu'n ôl maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol, a wneir gan glinigwyr yn unol â'r canllawiau proffesiynol cyffredinol a’r fframweithiau statudol perthnasol, yn gyfreithlon. Roedd y llys yn awyddus i bwysleisio, fodd bynnag, ei fod wastad ar gael pan fo anghytundebau yn codi, neu pan deimlir y dylid cyflwyno achos i’r llys am ryw reswm arall. Mae'r materion hyn yn gymhleth, yn sensitif ac yn bwysig, ac mae Llywodraeth Cymru yn monitro datblygiadau yn agos. Yn y cyfamser, rwyf am fod yn sicr bod gan y rheini sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal yma yng Nghymru yr adnoddau angenrheidiol i ymdrin â materion o'r fath, pe baent yn gorfod eu hwynebu. Dros y misoedd diwethaf,  rydym wedi cymryd nifer o gamau i ddeall y sefyllfa bresennol yng Nghymru, mewn perthynas â phobl sydd mewn cyflwr diymateb parhaol neu gyflwr lled\-anymwybodol. Yn hyn o beth, ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru i asesu'r nifer posibl o achosion yng Nghymru a chael sicrwydd bod eu diagnosis, eu gofal a'u triniaeth er eu budd nhw eu hunain. Rydym yn awyddus i weld gwersi’n cael eu dysgu o brofiad cleifion yng Nghymru a’u teuluoedd. Rwyf wedi gofyn i’r Athro y Farwnes Finlay o Landaf, cyn arweinydd clinigol ar gyfer gofal lliniarol Cymru a chadeirydd presennol Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol Cymru a Lloegr arwain adolygiad o’r penderfyniad mewn achos penodol sydd wedi cael ei ddwyn i’m sylw. Bydd gweithiwr cymdeithasol cofrestredig, Rachel Griffiths MBE, sydd â dealltwriaeth dda o’r ffordd yr oedd penderfyniadau’n cael eu gwneud cyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005, , ac wedi hynny, ynghyd â bargyfreithiwr sydd wedi ymddeol, Gerard Elias CBE QC, yn cefnogi’r Athro Finlay. Rwyf hefyd wedi gofyn i Ddirprwy Swyddog Meddygol Cymru gynnull ynghyd grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried a oes angen rhagor o ganllawiau, addysg neu hyfforddiant ar y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Nid wyf yn cynnwys manylion llawn yn y datganiad hwn, er mwyn parchu preifatrwydd y teulu dan sylw.
https://www.gov.wales/written-statement-diagnosis-treatment-and-care-people-permanent-vegetative-or-minimally-conscious
I would like to update Members on the deployment of the £2 million funding for electric charging points that was secured as part of the two\-year Budget agreement between the Welsh Government and Plaid Cymru. The funding will be used to help create a publicly accessible national network of rapid charging points. The focus will be on locations on/near our strategic road network, with a particular emphasis on North\-South and East\-West journeys. Following detailed information and advice that I have received and considered, particularly on my aim to lever in as much sustainable private investment as possible to support the creation of a national network, I am looking at a national concession delivery model. The framework and specifications will be as innovative and inclusive as possible in terms of adding value to local communities and businesses. I have also tasked officials to explore the feasibility of extending the deployment of the funding to charging points at park and ride facilities and taxi ranks to encourage and benefit public transport use in the wider sense.   Additional scoping, analysis and testing with key stakeholders, including local authorities, will now take place to set the strategic framework and specifications. I see the value in placing a national network within a statutory strategic and spatial planning context and will look to have this reflected within the National Development Framework. My intention is for Transport for Wales (TfW) to procure and oversee the concession once awarded on the basis of a strategic framework and specifications that Welsh Government will set.   My aim is for TfW to go out to procurement next Spring, when I will update Members further.  
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar sut y bwriedir defnyddio’r £2 filiwn a sicrhawyd ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan drwy’r cytundeb dwy flynedd ar y Gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i helpu i greu rhwydwaith cenedlaethol o fannau gwefru cyflym a fydd ar gael i’r cyhoedd. Byddwn yn canolbwyntio ar leoliadau ar/gerllaw ein rhwydwaith ffyrdd strategol, gan roi pwyslais arbennig ar siwrneiau rhwng y Gogledd a’r De a rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin. Ar ôl imi gael gwybodaeth a chyngor manwl, yn arbennig ar fy nod o ysgogi cymaint o fuddsoddiad preifat cynaliadwy ag y bo modd i helpu i greu rhwydwaith cenedlaethol, rwyf yn ystyried model cyflawni drwy gonsesiwn cenedlaethol. Bydd y fframwaith a’r manylebau mor arloesol a chynhwysol â phosibl o ran ychwanegu gwerth er budd cymunedau a busnesau lleol. Rwyf wedi gofyn hefyd i swyddogion ystyried ymarferoldeb defnyddio’r cyllid i dalu am fannau gwefru mewn cyfleusterau parcio a theithio a safleoedd tacsis er mwyn annog rhagor i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ei hystyr ehangach.   Bydd rhagor o waith cwmpasu, dadansoddi a phrofi yn cael ei wneud ar y  cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i greu'r fframwaith strategol a'r manylebau.   Rwyf yn gweld gwerth mewn rhoi rhwydwaith cenedlaethol mewn cyd\-destun strategol statudol a chyd\-destun cynllunio gofodol a byddaf yn awyddus i hynny gael ei adlewyrchu yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.   Fy mwriad yw gweld Trafnidiaeth Cymru yn caffael ac yn goruchwylio’r consesiwn ar ôl iddo gael ei roi, gan wneud hynny ar sail fframwaith strategol a manylebau a fydd yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru.   Fy nod yw gweld Trafnidiaeth Cymru yn trefnu proses caffael y gwanwyn nesaf, a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau bryd hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-electric-vehicle-infrastructure
On 1 May 2018, Kirsty Williams, Cabinet Secretary for Education made an oral statement in the Siambr on: Digital Skills and Coding (external link).
Ar 1 Mai 2018, gwnaeth y Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Sgiliau Digidol a Chodio (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-digital-skills-and-coding
Welsh Government is committed to protecting our common land both now and for future generations.  The Commons Act 2006 was introduced to remedy many of the deficiencies of earlier legislation, to protect common land from development, allow more sustainable management of common land and to improve the protection of common land from neglect and abuse. The area of common land in Wales amounts to some 175,000 hectares, or 8\.5% of the total land area, and is important to and predominately used for agricultural purposes. In addition, common land is valued for its contribution to the natural and national heritage of Wales, especially nature and habitat conservation, with 40% being designated as Sites of Special Scientific Interest and 50% falling within the protected landscape of Wales. Fundamental to the on\-going implementation of the Commons Act 2006 in Wales, is the need to develop and introduce an electronic register of Common Land for Wales. This work is now underway and progressing well.  The project has been broken down into four phases over a period of four years. These are set out at Annex One of this statement.   The development and introduction of electronic registers provides an opportunity for Wales to lead the way across the UK. I am keen to encourage all those with an interest in the future success of our commons to get involved in the process as we develop the new system for Wales. Details of how to register interest and become involved are available at http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/common/commonsact2006/commons\-section\-25\-electronic\-registers/?skip\=1\&lang\=en I will continue to keep Members updated on progress.   Annex One Table 1: Project Phases and Indicative Timeline   | **Phase** | **Title** | **Summary of Key Elements** | **2017**     **2021** | | --- | --- | --- | --- | | 1 | Project Start Up | Establish Governance arrangements, stakeholder mapping, risk and benefit analysis, initial discussions on procurement and security | | 2 | System Design and Build | Procuring a specification to inform options on systems build, systems hosting and data migration. Build of system. | | 3 | Data Migration | Implement process to migrate all paper maps and registers to the electronic system and quality assure. | | 4 | Deployment | Public consultation to verify the migration of paper records to the electronic system. Working with Commons Registration Authorities (CRAs) to agree implementation and training Agreeing roles and responsibilities (both within Welsh Government and CRAs) to manage system going forwards. | | Business As Usual | | |
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i warchod ein tir comin heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cyflwynwyd Deddf Tiroedd Comin 2006 i gael gwared ar sawl diffyg mewn deddfwriaeth flaenorol er mwyn gwarchod tir comin rhag cael ei ddatblygu, caniatáu i dir comin gael ei reoli yn fwy cynaliadwy a gwella’r ffordd y caiff tir comin ei warchod rhag cael ei esgeuluso a’i gamddefnyddio. Mae arwynebedd tir comin Cymru yn rhyw 175,000 o hectarau, neu 8\.5% o gyfanswm yr arwynebedd tir. Mae’r tir hwn yn bwysig at ddibenion amaethyddol a chaiff ei ddefnyddio’n bennaf at y dibenion hynny. Ar ben hynny, mae’n cael ei gydnabod am y ffordd y mae’n cyfrannu at dreftadaeth naturiol a chenedlaethol Cymru, yn enwedig o ran cadwraeth natur a chynefinoedd. Mae 40% ohono wedi’i ddynodi yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae 50% ohono yn cael ei ystyried yn rhan o dirwedd warchodedig Cymru. Wrth wraidd y gwaith parhaus o weithredu Deddf Tiroedd Comin 2006 yng Nghymru y mae’r angen i ddatblygu a chyflwyno cofrestr electronig o Dir Comin ar gyfer Cymru. Mae’r gwaith hwn bellach yn cael ei wneud ac yn mynd rhagddo’n dda. Mae’r prosiect wedi’i rannu yn bedwar cam dros gyfnod o bedair blynedd. Fe’u nodir yn Atodiad Un i’r datganiad hwn. Drwy ddatblygu a chyflwyno cofrestrau electronig yng Nghymru, cawn gyfle i fod ar flaen y gad ledled y DU yn hynny o beth. Rwy’n awyddus i annog pawb sydd am weld ein tir comin yn cael ei warchod yn y dyfodol i gymryd rhan yn y broses wrth inni ddatblygu’r system newydd ar gyfer Cymru. Mae’r manylion am sut i gofrestru eich diddordeb ac i gymryd rhan i’w gweld yma http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/common/commonsact2006/commons\-section\-25\-electronic\-registers/?skip\=1\&lang\=cy Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar hynt y gwaith hwn. Atodiad Un Tabl 1: Camau’r Prosiect ac Amcan o’r Amserlen | Cam | Teitl | Crynodeb o’r Prif Elfennau | 2017                                           2021 | | --- | --- | --- | --- | | 1 | Dechrau’r Prosiect | Sefydlu trefniadau llywodraethu, nodi rhanddeiliaid, dadansoddi risgiau a buddion, cynnal trafodaethau cychwynnol ar gaffael a diogelwch. | | 2 | Cynllunio a Chreu’r System | Caffael manyleb i lywio opsiynau ar gyfer sut i greu systemau, cynnal systemau a throsglwyddo data. Creu system. | | 3 | Symud data | Gweithredu proses i drosglwyddo pob map a chofrestr papur i’r system electronig ac i sicrhau ansawdd. | | 4 | Defnyddio | Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddilysu’r gwaith o drosglwyddo cofnodion papur i’r system electronig. Gweithio gydag Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin i gytuno ar ddulliau gweithredu a hyfforddi. Cytuno ar rolau a chyfrifoldebau (o fewn Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau hynny) i reoli’r system o hyn ymlaen. | | Busnes fel arfer | | |
https://www.gov.wales/written-statement-electronic-register-common-land-wales
On 26 June 2018, Julie James, Leader of the House and Chief Whip made an oral statement in the Siambr on: Enabling Gypsies, Roma and Travellers (external link).
Ar 26 Mehefin 2018, gwnaeth y Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-enabling-gypsies-roma-and-travellers
Today I am publishing a Digital Inclusion Progress Report and Forward Look. The Progress Report provides a summary of the important work that has taken place in the two years since publication of the Digital Inclusion Strategic Framework and Delivery Plan. Whilst good progress has been made on digital exclusion, there remains a challenge to help people overcome the barriers of lack of motivation, skills and confidence to be able to improve their lives through digital technology. Our dedicated digital inclusion programme, Digital Communities Wales, has provided an important co\-ordination role in communities across Wales. The Progress Report reminds us that tackling digital exclusion is still a vital part of creating an equal society where everybody has the same opportunity to access  online public services; find and progress in work; improve their learning opportunities; and save money by purchasing often cheaper online goods and services. I have seen and heard about the great examples of the life changing impact of our digital inclusion work. People have learned how to use technology and this, in turn, has reduced loneliness and isolation by helping them to stay in touch with friends and family or find new online support networks.   Our incredible young Digital Heroes continue to pass on their digital skills to those in need, often in care homes or hospital settings. The work with and through local schools, such as Griffithstown Primary School in Pontypool, has helped highlight the positive impact on the community that can be achieved through these intergenerational projects. As we look towards the next twelve months, our focus will be on continuing to explore innovative ways to engage young people in passing on skills to those in need of support. Working closely the Welsh Joint Education Committee (WJEC), we will continue to promote the Digital Inclusion Community Challenge Brief in our Welsh Baccalaureate qualification. This will help further develop and support the growing network of over 600 Digital Heroes across Wales. These Digital Heroes range from primary and secondary school children, Police Cadets, scouts, guides and college students, all with the aim of supporting and motivating more people to use digital technologies in ways that enhance their lives. Through our work with young people we will continue to encourage girls to consider future careers in STEM roles.  We will also support more young women to move into Technology positions through apprenticeships, which is imperative if future demand for Technology skills at all levels is to be met. We know 60% of those aged 75 and over and 25%1  of disabled people are still digitally excluded. These people are also more likely to access health and social care services than the rest of the population. Therefore, it is critical that we encourage more digital inclusion activities as part of our digital health transformation work, across a range of health settings.  This aligns with the aims of our Informed Health and Care Strategy. We remain fully committed to providing the strategic leadership for this work. However, there is a need for all sectors, public, private and third, as well as wider society to embed digital inclusion activities as a priority. The challenge remains to motivate those who are still resistant to using digital technologies or who lack the confidence to try to do more online to gain maximum benefit from digital services. We will continue to look at ways to further strengthen our partnership work in order to support individuals to embrace technology and help us achieve a more digitally inclusive Wales. http://gov.wales/topics/science\-and\-technology/digital/digital\-inclusion/?lang\=en    1 National survey for Wales 2016\-17
Heddiw rwy’n cyhoeddi’r Adroddiad Cynnydd a Rhagolwg Cynhwysiant Digidol. Mae’r Adroddiad Cynnydd yn rhoi crynodeb o’r gwaith pwysig sydd wedi digwydd yn y ddwy flynedd ers cyhoeddi’r Fframwaith Strategol a Chynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol. Er bod cynnydd da wedi cael ei wneud o ran allgau digidol, mae her yn dal i fodoli o ran helpu pobl i oresgyn rhwystrau diffyg cymhelliant, sgiliau a hyder i allu gwella’u bywydau trwy dechnoleg ddigidol. Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol bwrpasol, Cymunedau Digidol Cymru, wedi darparu rôl gydgysylltu bwysig mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r Adroddiad Cynnydd yn ein hatgoffa bod mynd i’r afael ag allgau digidol yn dal i fod yn rhan hanfodol o greu cymdeithas gyfartal lle mae gan bawb yr un cyfle i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus ar\-lein; dod o hyd i waith a symud ymlaen yn eu gwaith; gwella’u cyfleoedd dysgu; ac arbed arian trwy brynu nwyddau a gwasanaethau ar\-lein sy’n aml yn rhatach. Rwyf wedi gweld a chlywed am yr enghreifftiau gwych o effaith drawsnewidiol ein gwaith ym maes cynhwysiant digidol ar fywydau pobl. Mae pobl wedi dysgu sut i ddefnyddio technoleg ac mae hyn, yn ei dro, wedi lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd trwy eu helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu neu ddod o hyd i rwydweithiau cymorth ar\-lein newydd.   Mae ein Harwyr Digidol ifainc anhygoel yn parhau i drosglwyddo’u sgiliau digidol i’r rhai mewn angen, yn aml mewn cartrefi gofal neu ysbytai. Mae’r gwaith gyda a thrwy ysgolion, megis Ysgol Gynradd Griffithstown ym Mhont\-y\-pŵl, wedi helpu i amlygu’r effaith gadarnhaol ar y gymuned y gellir ei chael trwy’r prosiectau hyn sy’n pontio’r cenedlaethau. Wrth inni droi ein golygon tuag at y deuddeg mis nesaf, bydd ein ffocws ar barhau i archwilio ffyrdd arloesol o ennyn ymgysylltiad pobl ifanc o ran trosglwyddo sgiliau i’r rhai y mae arnynt angen cymorth. Gan gydweithio’n agos gyda Chydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), byddwn yn parhau i hyrwyddo Briff yr Her Gymunedol Cynhwysiant Digidol yn ein cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Bydd hyn yn gwneud cyfraniad pellach o ran datblygu a chefnogi’r rhwydwaith cynyddol o fwy na 600 o Arwyr Digidol ledled Cymru. Mae’r Arwyr Digidol hyn yn amrywio o blant ysgolion cynradd ac uwchradd i Gadetiaid yr Heddlu, sgowtiaid, geidiau a myfyrwyr colegau, sydd oll yn amcanu at gynorthwyo a chymell mwy o bobl i ddefnyddio technolegau digidol mewn ffyrdd sy’n gwella’u bywydau. Trwy ein gwaith gyda phobl ifanc byddwn yn parhau i annog merched i ystyried gyrfaoedd mewn rolau STEM yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn cynorthwyo mwy o fenywod ifainc i symud i swyddi ym maes Technoleg trwy brentisiaethau, y mae’n rhaid ei wneud er mwyn i’r galw am sgiliau Technoleg ar bob lefel yn y dyfodol gael ei ateb. Gwyddom fod 60% o’r rhai sy’n 75 oed a throsodd a 25%1  o bobl anabl yn dal wedi’u hallgau’n ddigidol. Mae’r bobl hyn hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol na gweddill y boblogaeth. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi anogaeth ar gyfer mwy o weithgareddau cynhwysiant digidol fel rhan o’n gwaith trawsnewid iechyd digidol, ar draws ystod o leoliadau iechyd. Mae hyn yn gyson â nodau ein Strategaeth Iechyd a Gofal Gwybodus. Rydym yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu’r arweinyddiaeth strategol ar gyfer y gwaith hwn. Fodd bynnag, mae angen i bob sector, y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn ogystal â’r gymdeithas ehangach, sefydlu gweithgareddau cynhwysiant digidol fel blaenoriaeth. Yr her o hyd yw cymell y rhai sy’n dal yn gyndyn o ddefnyddio technolegau digidol neu sydd â diffyg hyder i geisio gwneud mwy ar\-lein er mwyn iddynt gael y budd mwyaf posibl o wasanaethau digidol. Byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd o gryfhau ein gwaith mewn partneriaeth ymhellach er mwyn cynorthwyo unigolion i gofleidio technoleg a’n helpu i greu Cymru sy’n fwy cynhwysol yn ddigidol. http://gov.wales/topics/science\-and\-technology/digital/digital\-inclusion/?lang\=cy  1Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016\-17
https://www.gov.wales/written-statement-digital-inclusion-progress-report-forward-look-2018
You will be aware of the difficulties raised last weekend in relation to the recruitment of Junior Doctors. An error has occurred in the Royal College of Physicians (RCP) recruitment process for ST3 level (Speciality Trainees) higher medicine specialties, which means candidates across the UK have been incorrectly ranked and some potentially offered posts they shouldn’t have whilst others will have missed out. Since this identification of the error the Wales Deanery has been working with the organisations responsible for postgraduate medical training within the 4 UK countries to ensure we are clear about developments and implications for individuals. My officials have and continue to be in regular contact with the Wales Deanery to establish the consequences for Wales. The Deanery has confirmed 43 individuals had accepted an offer of a training place in Wales and as a result this is the minimum number affected. While for many there may be little, if any change in overall outcome of the recruitment process, there may be wider implications for individuals where for example their partners may have accepted posts and /or made other arrangements based upon the outcome of the recruitment process. It is important that those affected by this error are kept fully informed about the steps being taken to address the situation, how they can raise concerns about their individual circumstances and receive timely responses to inform the choices they face. The Wales Deanery has confirmed that information had been provided to all trainees affected and all Heads of Schools and Training Programme Directors.  Further information and a copy of the released statement can be found via this website link: ***http://www.st3recruitment.org.uk/news/major\-issue\-with\-st3\-2018\-r1\-process\-offers\-to\-be\-re\-run*** A series of UK and stakeholder discussions have taken place this week to identify and consider potential resolutions to this situation. A series of FAQs have been released which can be accessed via this website link: **http://www.st3recruitment.org.uk/news/st3\-re\-offers\-faqs\-published** My officials are monitoring the situation alongside the Wales Deanery to ensure we are clear about developments and any implications for individuals. The first iteration of offers was issued on 10th May, with further offer iterations scheduled for next week. Trainees will have until late on 14 May to respond. For those trainees who receive a less favourable offer than their original, there is a commitment to work with these individuals to ensure they are supported appropriately.  The Wales Deanery will work with the specialties where this may be the case to see whether, training capacity allowing, they can support and keep these trainees in Wales. I have asked my officials to work with the Wales Deanery as this situation develops and to identify any steps Welsh Government can take to support the Deanery in addressing any issues that may arise. Information has been issued to Workforce Teams across the Health Boards in Wales to notify them of the delays and revised timeframes.  Given the circumstances this is unavoidable and outside the control of the Wales Deanery. Over the last few days the Wales Deanery have been prioritising trainee queries and supporting the efforts to resolve this issue alongside UK colleagues. For further information please visit:  **https://www.rcplondon.ac.uk/**
Fe fyddwch yn ymwybodol o'r anawsterau a gododd yr wythnos ddiwethaf ynghylch recriwtio Meddygon Iau. Roedd camgymeriad ym mhroses recriwtio Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer arbenigeddau meddygaeth uwch lefel ST3 (Hyfforddeion Arbenigol), sy'n golygu bod ymgeiswyr ar draws y DU wedi'u graddio'n anghywir gyda rhai o bosib yn cael cynnig lleoliadau na ddylent ac eraill wedi colli cyfleoedd. Ers nodi'r camgymeriad hwn, mae Deoniaeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sefydliadau sy'n gyfrifol am hyfforddiant meddygol ôl\-raddedig ym mhedair gwlad y DU er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn glir beth yw'r datblygiadau a'r goblygiadau i unigolion. Mae fy swyddogion yn parhau i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â Deoniaeth Cymru er mwyn gweld beth yn union yw'r goblygiadau i Gymru. Mae'r Ddeoniaeth wedi cadarnhau mai 43 o unigolion oedd wedi derbyn cynnig am le hyfforddiant yng Nghymru, felly mae o leiaf cymaint â hynny wedi'u heffeithio. I nifer ohonynt, efallai mai ychydig, os o gwbl, o newid fydd yng nghanlyniad cyffredinol y broses recriwtio, ond mae'n bosib bod goblygiadau ehangach i unigolion sydd, er enghraifft, â'u partneriaid wedi derbyn swyddi a/neu sydd wedi gwneud trefniadau eraill ar sail canlyniad y broses recriwtio. Mae'n bwysig i'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y camgymeriad gael digon o wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd i roi sylw i'r sefyllfa, gwybod sut i fynegi pryderon am eu hamgylchiadau unigol a chael ymateb amserol er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau doeth. Mae Deoniaeth Cymru wedi cadarnhau bod gwybodaeth wedi'i darparu i bob un o'r hyfforddeion sydd wedi'u heffeithio a phob un o'r Penaethiaid Ysgol a Chyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi. Ceir rhagor o wybodaeth a chopi o'r datganiad drwy'r ddolen hon: ***http://www.st3recruitment.org.uk/news/major\-issue\-with\-st3\-2018\-r1\-process\-offers\-to\-be\-re\-run*** Cynhaliwyd cyfres o drafodaethau gyda rhanddeiliaid ac ar draws y DU yr wythnos hon i ganfod ac ystyried atebion posib i'r sefyllfa. Rhyddhawyd cyfres o Gwestiynau Cyffredin y gellir eu gweld drwy'r ddolen hon: **http://www.st3recruitment.org.uk/news/st3\-re\-offers\-faqs\-published** Mae fy swyddogion yn monitro'r sefyllfa wrth ochr Deoniaeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn iawn beth yw'r datblygiadau a'r goblygiadau i unigolion.  Rhyddhawyd y gyfres gyntaf o gynigion newydd ar 10 Mai, a bydd rhagor yn cael eu rhyddhau yr wythnos nesaf. Bydd gan yr hyfforddeion tan 14 Mai i ymateb. Ar gyfer yr hyfforddeion sy'n derbyn cynnig llai ffafriol na'r gwreiddiol, ceir ymrwymiad i weithio gyda'r unigolion hynny i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth briodol. Bydd Deoniaeth Cymru yn gweithio gyda'r arbenigeddau lle mai dyma'r achos i weld os oes modd iddyn nhw gynnal a chadw'r hyfforddeion hynny yng Nghymru, os yw'r capasiti hyfforddi yn caniatáu hynny. Rydw i wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda Deoniaeth Cymru wrth i'r sefyllfa ddatblygu a nodi unrhyw gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu'r Ddeoniaeth i roi sylw i unrhyw faterion allai godi. Rhoddwyd gwybodaeth i Dimau'r Gweithlu ar draws Byrddau Iechyd Cymru i'w hysbysu am yr oedi a'r amserlen ddiwygiedig. Gan ystyried yr amgylchiadau, mae hyn yn anochel ac y tu hwnt i reolaeth Deoniaeth Cymru. Dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf mae Deoniaeth Cymru wedi bod yn rhoi blaenoriaeth i ymholiadau hyfforddeion a chefnogi'r ymdrechion i ddatrys y mater hwn wrth ochr cydweithwyr ar draws y DU. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:  **https://www.rcplondon.ac.uk/**
https://www.gov.wales/written-statement-difficulties-royal-college-physicians-recruitment-process-junior-doctors
In the last week significant concerns have been expressed about the limited availability of EpiPen® products in the UK. I am making this written statement to inform Members of the detail of the steps being put in place to address the current situation and provide assurance that appropriate action is being taken to mitigate any risk. This is a global issue and one we are working actively with the UK Government and the Medicines and Healthcare Regulatory Agency (MHRA) to address.   The limited availability of EpiPen® is due to manufacturing delays from Mylan’s, the manufacturer of EpiPen® products, contract manufacturer Meridian Medical Technologies, a Pfizer company in the US. Stabilising supply is taking longer than anticipated and is affecting countries globally. Whilst the availability of EpiPen® products is currently limited, alternative adrenaline auto\-injectors continue to be available and their manufacturers are working with their supply chains to increase UK supplies. On 28 September, the Department of Health and Social Care (DHSC) issued guidance for healthcare professionals about the supply issue. This guidance, which was drawn up by NHS allergy experts, provides supply and clinical management advice. In the UK alternative adrenaline auto\-injector devices are available; Emerade®, supplied by Bausch and Lomb, and Jext®, supplied by ALK, are both available in adult and paediatric presentations. Both manufacturers are aware of the supply disruptions affecting EpiPen® and EpiPen Junior® and have been working with their supply chains to increase supplies of their products to the UK for the remainder of this year. All suppliers of adrenaline auto\-injector devices are working with their wholesaler partners to put processes in place to put reasonable limits on the number of devices that can be supplied per prescription. Mylan UK, has obtained agreement from the MHRA to extend the use of specific batch numbers of EpiPen® 300mcg auto‐injectors, beyond the labelled expiry date by four months.  The expiry dates on adrenaline auto\-injector devices applies until the final day of the month shown on the packaging. e.g. a device labelled ‘April 2019’ does not expire until the 30th of April 2019\. Details of the affected batches have been disseminated to healthcare professionals.  Any patient or carer concerned about the expiry date of their EpiPen® should consult their pharmacist or GP who will be able to advise whether their EpiPen® has had its shelf life extended. In addition, healthcare professionals have been advised to: • prescribe AAIs prudently • make patients aware of the extended product expiry periods • prescribe alternative products when appropriate   Some schools in Wales may hold EpiPen® and EpiPen Junior® devices for the purpose of emergency treatment of anaphylaxis. The Welsh Government has written to local authorities asking them to make schools aware of the situation and of the extension of product expiry dates for some batches. Most importantly, any patient unable to obtain supplies of EpiPen® should speak to their clinician about using an alternative adrenaline auto\-injector device.
Dros yr wythnos ddiwethaf, mynegwyd pryderon mawr ynghylch y cyflenwad cyfyngedig o gynhyrchion EpiPen® yn y Deyrnas Unedig (DU). Rwy'n gwneud y datganiad ysgrifenedig hwn i roi gwybod mwy i Aelodau am y camau sy'n cael eu rhoi ar waith i ymateb i'r sefyllfa bresennol. Rwy'n awyddus hefyd i roi sicrwydd bod camau priodol yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risg. Mae hwn yn fater byd\-eang ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) i fynd i'r afael ag ef. Oedi ym mhroses gweithgynhyrchu Mylan's, gwneuthurwr cynhyrchion EpiPen®, a’r gwneuthurwr contract Meridian Medical Technologies, sy'n un o gwmnïau Pfizer yn Unol Daleithiau America, sy'n gyfrifol am y diffyg hwn yn y cyflenwad o gynhyrchion EpiPen®. Mae'n cymryd mwy o amser na'r disgwyl i sicrhau bod y cyflenwad yn ddigonol unwaith eto ac mae hyn yn effeithio ar wledydd dros y byd. Er mai cyflenwad cyfyngedig o gynhyrchion EpiPen® sydd ar gael ar hyn o bryd, mae chwistrellwyr adrenalin awtomatig eraill ar gael o hyd ac mae'r gwneuthurwyr yn gweithio gyda'u cadwyni cyflenwi i gynyddu'r cyflenwadau yn y DU. Ar 28 Medi, cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganllawiau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd ynglŷn â'r mater gyda'r cyflenwad. Mae'r canllawiau hyn, a luniwyd gan arbenigwyr ar alergeddau o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), yn darparu cyngor ar gyflenwadau a rheolaeth glinigol. Mae dyfeisiau chwistrellu adrenalin awtomatig eraill ar gael yn y DU: Emerade®, a gyflenwir gan Bausch and Lomb, a Jext®, a gyflenwir gan ALK. Mae'r ddau chwistrelliad ar gael mewn ffurf i'w defnyddio mewn oedolion ynghyd â ffurf i’w defnyddio mewn cleifion pediatrig. Mae'r ddau wneuthurwr yn ymwybodol o'r diffyg yng nghyflenwadau EpiPen® ac EpiPen Junior® ac maent wedi bod yn gweithio gyda'u cadwyni cyflenwi i gynyddu'r cyflenwadau o'u cynhyrchion ar gyfer y DU am weddill y flwyddyn hon. Mae pob cyflenwr dyfeisiau chwistrellu adrenalin awtomatig yn gweithio gyda'i bartneriaid cyfanwerthu i roi prosesau ar waith a fydd yn gosod terfynau rhesymol ar nifer y dyfeisiau y gellir eu cyflenwi fesul presgripsiwn. Mae Mylan UK wedi cael cytundeb MHRA i ymestyn y defnydd o rifau batsh penodol o chwistrellwyr awtomatig EpiPen® 300mcg, am gyfnod o bedwar mis y tu hwnt i’r dyddiad terfynu sydd ar y label. Mae'r dyddiadau terfynu ar chwistrellwyr adrenalin awtomatig yn gymwys tan ddiwrnod olaf y mis a nodir ar y pecyn, ee os taw 'Ebrill 2019' sydd wedi'i nodi ar label dyfais, yna nid yw'n darfod tan 30 Ebrill 2019\.   Mae manylion y batshys sydd wedi cael eu heffeithio wedi cael eu rhannu â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. Dylai unrhyw glaf neu ofalwr sy'n poeni am ddyddiad terfynu ei EpiPen® gysylltu â'i fferyllydd neu ei feddyg teulu a fydd yn gallu rhoi gwybod a ydy dyddiad terfynu’r chwistrellydd EpiPen® penodol hwnnw wedi cael ei ymestyn. At hynny, dywedwyd wrth weithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd i: • fod yn ddarbodus wrth roi presgripsiynau am chwistrellwyr adrenalin awtomatig • sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o gyfnodau ymestyn dyddiadau cynhyrchion • rhoi presgripsiynau ar gyfer cynhyrchion eraill pan fo hynny'n briodol. Mae'n bosibl bod gan rai ysgolion yng Nghymru ddyfeisiau EpiPen® ac EpiPen Junior® at ddibenion trin achosion o anyffylacsis mewn argyfwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu i awdurdodau lleol yn gofyn iddynt sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn sylweddoli bod y dyddiadau terfynu wedi cael eu hymestyn ar gyfer rhai batshys. Yn bwysicach oll, dylai unrhyw glaf nad yw'n gallu cael cyflenwad o EpiPen® siarad â'i glinigydd ynglŷn â defnyddio dyfais chwistrellu adrenalin awtomatig arall.
https://www.gov.wales/written-statement-disruption-supply-epipenr-adrenaline-auto-injectors
Today, the Welsh Government published the Draft Budget 2019\-20, Detailed Proposals. The Welsh Government published its outline draft Budget – A Budget to Build a Better Wales – on October 2\. This year’s Budget marks another step in our fiscal devolution journey – it is the first year revenue raised from the new Welsh rates of income tax will be included in the Welsh budget, following their introduction in April 2019\. This is the final year of the UK Government’s current Spending Review settlement, which set the Welsh Government’s revenue budget for the period 2016\-17 to 2019\-20 and the capital budget until 2020\-21\. It is also the last budget before the UK is due to leave the European Union on 29 March 2019\. The Welsh Government is today setting out its detailed spending plans for 2019\-20, together with indicative capital plans to 2020\-21\. This document shows how we are allocating our budget in line with our priorities, which are set out in our national strategy Prosperity for All and our programme for government Taking Wales Forward. Our detailed proposals also reflect the two\-year Budget agreement with Plaid Cymru for the period 2018\-19 and 2019\-20\. The UK Government will be publishing its Autumn Budget on 29 October. We will carefully consider the impact of the UK Government’s budget on our spending plans and will bring forward any changes to our published plans at the final Budget stage in December. The detailed draft Budget proposals, including detailed budget expenditure line (BEL) tables, are available on the Welsh Government’s website.  
Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyllideb Ddrafft 2019\-20, Cynigion Manwl. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb ddrafft amlinellol – Cyllideb i Greu Cymru Well – ar 2 Hydref. Mae Cyllideb eleni yn gam arall yn hanes datganoli cyllidol \- dyma'r flwyddyn gyntaf i refeniw a godir gan gyfraddau treth incwm Cymru gael eu cynnwys yng nghyllideb Cymru, ar ôl eu cyflwyno ym mis Ebrill 2019\. Dyma flwyddyn olaf setliad Adolygiad o Wariant presennol Llywodraeth y DU, a osododd gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016\-17 i 2019\-20 a'r gyllideb gyfalaf tan 2020\-21\. Dyma'r gyllideb olaf hefyd cyn bod disgwyl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019\. Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei chynlluniau gwario manwl ar gyfer 2019\-20, ynghyd â chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020\-21\. Mae'r ddogfen hon yn dangos sut rydym yn dyrannu ein cyllideb yn unol â'n blaenoriaethau, sydd i'w gweld yn ein strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb a'n rhaglen lywodraethu Symud Cymru Ymlaen. Mae'n cynigion manwl hefyd yn adlewyrchu cytundeb dwy flynedd y Gyllideb gyda Phlaid Cymru ar gyfer y cyfnod 2018\-19 a 2019\-20\. Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei Chyllideb yr Hydref ar 29 Hydref. Byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar ein cynlluniau gwario, ac yn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r cynlluniau a gyhoeddwyd gennym yn ystod cyfnod olaf y Gyllideb ym mis Rhagfyr. Gellir gweld cynigion y Gyllideb ddrafft fanwl , gan gynnwys tablau llinell wariant y Gyllideb (BEL) ar wefan Llywodraeth Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-draft-budget-2019-20-detailed-proposals
In December, I launched the Economic Action Plan, setting out an agenda to build on our economic foundations, future proof businesses and empower productive regions and people.   Today, I am announcing the implementation of key components of the Plan.  This will include the Economic Contract, Calls to Action and Economy Futures Fund. This is a major step forward in translating the Plan’s vision for wealth and well\-being into delivery and new ways of working that will have a positive influence on businesses, communities and people across Wales.   I will be providing further detail in my Oral Statement tomorrow.      
Ym mis Rhagfyr, lansiais y Cynllun Gweithredu ar yr Economi sy'n nodi agenda i adeiladu ar ein sylfeini economaidd, i baratoi busnesau tuag at y dyfodol ac i rymuso rhanbarthau a phobl i fod yn fwy cynhyrchiol.   Heddiw, rwy’n cyhoeddi sut y bydd elfennau allweddol y Cynllun yn cael eu gweithredu. Bydd hynny'n cynnwys y Contract Economaidd, y Meysydd Gweithredu a Chronfa Dyfodol yr Economi.   Bydd hyn yn gam mawr ymlaen o ran gwireddu gweledigaeth y Cynllun ar gyfer cyfoeth a llesiant yn ogystal â chyflwyno ffyrdd newydd o weithio a fydd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar fusnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru.   Byddaf yn darparu manylion pellach yn fy Natganiad Llafar yfory.  
https://www.gov.wales/written-statement-economic-action-plan
As members are aware, the Welsh Government has come to an agreement with the UK government on their on their proposed EU (Withdrawal) Bill. The inter\-governmental agreement and associated documents can be found in the below link: gov.uk/government/collections/european\-union\-withdrawal\-bill\-agreement\-between\-the\-uk\-and\-welsh\-governments
Bydd yr aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ar ei Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) arfaethedig. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol a'r dogfennau perthnasol i'w gweld drwy'r dolenni isod: gov.uk/government/collections/european\-union\-withdrawal\-bill\-agreement\-between\-the\-uk\-and\-welsh\-governments
https://www.gov.wales/written-statement-eu-withdrawal-bill-0
On 22 May 2018, the Cabinet Secretary for Economy and Transport made an Oral Statement in the Siambr on: Economic Action Plan (external link).
Ar 22 Mai 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Y Cynllun Gweithredu Economaidd (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-economic-action-plan
We are today publishing the interim evaluation of the work in the seven pathfinder local authority areas to test the Early Intervention, Prevention and Support Grant. We are also confirming the future direction of the grant over the remainder of this Assembly term. We would like to thank everyone who has played a crucial role in the pathfinder local authorities and helped to develop and test the Early Intervention, Prevention and Support Grant. This has involved a great deal of commitment from local authorities and stakeholders and we are united in our commitment to improve outcomes for individuals and communities who benefit from services funded by this grant. Over the course of 2018\-19, we tested a new way of working in seven local authorities and at a public service board level. The aim of this work was to bring together a number of grants to strengthen the ability of local authorities and their partners to deliver preventative services focused on early intervention for those in the greatest need.   The interim evaluation demonstrates the potential for improved outcomes arising from better integrated services. Planning, commissioning and delivering services which reflect the complexity of people’s lives and the inter\-relationships between their support needs must be the right approach. It is only a few months since the pathfinders began their work the direction of travel looks promising. The evaluation has highlighted a variety of views about the opportunities for alignment between the grants included in the pathfinder arrangements. There is a natural alignment between the housing\-related grants which form part of the Early Intervention and Prevention Grant and a similar alignment between the non\-housing\-related grants. The interim evaluation does show that some of the pathfinders have managed to align both these areas and further investigation will be needed to see if and how this could be replicated across all local authorities. After carefully considering the results of the evaluation, we have decided we should split the Early Intervention and Prevention Grant into two, separating the housing\-related grants from non\-housing elements for all local authorities. Consequently, from April 2019 we will move ahead with establishing a Children and Communities Grant, encompassing Flying Start, Families First, the Legacy Fund, Promoting Positive Engagement for Young People, St David’s Day Fund, Communities for Work Plus and Childcare and Play.   We will also introduce a single Housing Support Grant encompassing Supporting People, Homelessness Prevention and Rent Smart Wales Enforcement.   These arrangements will remain in place for the remainder of this Assembly term and will apply to all local authorities in Wales. They will be carefully monitored and evaluated to ensure the concerns raised by the National Assembly’s Public Accounts Committee and the Wales Audit Office are addressed. We believe that this approach has a number of advantages. It will allow us to work with all of our partners to ensure that the crucial services are integrated as effectively as possible and it will ensure that we are able to consider fully the evidence and recommendations emerging from recent committees and reviews. The future of these grants will be determined by the evidence of the outcomes for the people and communities in Wales. We will continue to work in partnership with local authorities and our wider stakeholders, including by providing support to the non\-pathfinders, to take forward the new arrangements to emphasise the importance of early intervention and prevention.   The interim evaluation report is available at https://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-flexible\-funding\-programme/?lang\=en  
Heddiw rydym ni’n cyhoeddi gwerthusiad interim o’r gwaith yn y saith ardal awdurdod lleol braenaru i dreialu’r Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi. Rydym ni hefyd yn cadarnhau cyfeiriad y grant at y dyfodol gydol gweddill tymor y Cynulliad hwn. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan allweddol yn yr awdurdodau lleol braenaru a helpu i ddatblygu a threialu’r Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi. Mae hyn wedi gofyn am gryn ymrwymiad gan awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ac rydym yn unedig yn ein hymrwymiad i wella canlyniadau ar gyfer unigolion a chymunedau sy’n elwa ar wasanaethau a ariennir gan y grant hwn. Yn ystod 2018\-19, aethom ati i dreialu ffordd newydd o weithio mewn saith awdurdod lleol ac ar lefel bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Nod y gwaith hwn oedd dwyn ynghyd nifer o grantiau i gryfhau gallu awdurdodau lleol a’u partneriaid i ddarparu gwasanaethau ataliol sy’n canolbwyntio ar sicrhau ymyrraeth gynnar i’r rhai yn yr angen mwyaf. Mae’r gwerthusiad interim yn dangos y potensial i sicrhau canlyniadau gwell drwy wasanaethau mwy integredig. Rhaid mai cynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau sy’n adlewyrchu cymhlethdodau bywydau pobl a’r rhyngberthynas rhwng eu hanghenion cymorth yw’r dull gweithredu cywir. Dim ond ychydig fisoedd yn ôl y dechreuodd yr ardaloedd braenaru ar eu gwaith ond mae’r arwyddion cynnar i’w gweld yn addawol. Mae’r gwerthusiad wedi tynnu sylw at wahanol safbwyntiau am y cyfleoedd i alinio’r grantiau sydd wedi’u cynnwys yn y trefniadau braenaru. Mae’r grantiau cysylltiedig â thai sy’n rhan o’r Grant Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn alinio’n naturiol, felly hefyd y grantiau nad ydynt yn gysylltiedig â thai. Mae’r gwerthusiad interim yn dangos bod rhai o’r ardaloedd braenaru wedi llwyddo i alinio’r ddau faes hwn a bydd angen ymchwilio ymhellach i weld a oes modd efelychu hyn ym mhob awdurdod lleol a sut gellid gwneud hynny. Ar ôl ystyried canlyniadau’r gwerthusiad yn ofalus, rydym wedi penderfynu y dylem rannu’r Grant Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn ddau, gan wahanu’r grantiau cysylltiedig â thai o’r elfennau nad ydynt yn gysylltiedig â thai ar gyfer pob awdurdod lleol. O ganlyniad, o fis Ebrill 2019, byddwn yn bwrw ati i sefydlu Grant Plant a Chymunedau, sy’n cwmpasu Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Y Gronfa Waddol, Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc, Cronfa Dydd Gŵyl Dewi, Cymunedau am Waith a Mwy, a Gofal Plant a Chwarae. Hefyd, byddwn yn cyflwyno un Grant Cymorth Tai sy’n cwmpasu Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Bydd y trefniadau hyn yn parhau ar waith am weddill tymor y Cynulliad hwn a byddant yn berthnasol i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Byddant yn cael eu monitro a’u gwerthuso’n ofalus i sicrhau bod y pryderon a fynegwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad a Swyddfa Archwilio Cymru yn cael sylw. Credwn fod gan y dull hwn nifer o fanteision. Bydd yn ein galluogi i weithio gyda’n partneriaid i gyd i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol yn cael eu hintegreiddio mor effeithiol â phosibl a bydd yn sicrhau ein bod ni’n gallu ystyried yn llawn y dystiolaeth a’r argymhellion sy’n deillio o’r pwyllgorau a’r adolygiadau diweddar. Bydd dyfodol y grantiau hyn yn cael ei bennu gan dystiolaeth o’r canlyniadau i bobl a chymunedau Cymru. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a’n rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys drwy ddarparu cymorth i’r rhai nad ydynt ymhlith yr ardaloedd braenaru, er mwyn cyflwyno’r trefniadau newydd i bwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal.   Mae’r adroddiad gwerthuso interim ar gael yn https://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-flexible\-funding\-programme/?lang\=cy  
https://www.gov.wales/written-statement-early-intervention-prevention-and-support-grant
The last two decades have seen huge changes in the way digital technology has touched our lives.  From online banking to the provision of news; from the growth of social media to shopping and healthcare, the way we work and play continues to be transformed.  As a Welsh Government it is crucial that we are using our devolved powers to support our communities, our businesses and our public services to react, to adapt and to take advantage of these important digital changes. The challenges cut across every Welsh Government department and through the Data and Digital Group that I Chair, I have an important role, working with Welsh Government’s Chief Digital Officer, in helping coordinate and support the work we are doing across portfolios to meet these challenges and take advantage of new opportunities.   My colleague the Cabinet Secretary for Economy and Transport last year published the Economic Action Plan to help future\-proof our economy for the challenges ahead and through the review being undertaken by Professor Phil Brown we are looking at the impacts on the workforce in Wales of digital innovation. The Welsh Language Technology Action Plan, published by the Minister for Welsh Language and Lifelong Learning this week also creates opportunities. A key part of our work is to help our public services prepare for this digital transformation \- to improve services for our citizens, drive down costs and improve productivity.  That is why I am pleased today to announce that I have asked Lee Waters, AM for Llanelli, to lead on the establishment of an external Digital Panel. The panel is designed to complement the work that is already going on and to provide both advice and challenge on improving our public services through the better use of digital technologies. The panel will help test digital transformation opportunities and projects across the Welsh public sector, providing insight and recommendations into how they can be developed.   Once the panel is set up, the next step will be to develop a full work plan.  I believe it is important the panel considers how we can promote both successes and learning from what has not gone so well. To begin, I am proposing a short piece of work is initiated to gain insight into existing digital developments across Wales and beyond.   I will work with my colleagues across government, with initial emphasis on supporting the Cabinet Secretary for Health and Social Services Vaughan Gething AM and Cabinet Secretary for Local Government and Public Services Alun Davies AM on the work they are undertaking. Officials in the Office of the Chief Digital Officer (OCDO) are helping to facilitate access to the relevant teams across Welsh Government and will provide administrative support to get this work off the ground quickly. Members of the panel supporting the Chair will be announced in due course and will be appointed to bring expertise and experience of public services and digital transformation from across Wales and the UK. This work will support Welsh Government to assess our progress to date and to plan our next steps on this challenging agenda. I will report back to members on progress over the coming months.
Dros y ddau ddegawd, diwethaf, mae newidiadau mawr wedi bod yn y ffordd y mae technoleg ddigidol wedi cyffwrdd â'n bywydau ni.  O fancio ar\-lein i ddarparu newyddion, o'r twf yn y cyfryngau cymdeithasol i siopa a gofal iechyd, mae'r ffordd rydyn ni'n gweithio a chwarae yn parhau i drawsnewid. Fel Llywodraeth Cymru, mae'n hanfodol inni ddefnyddio ein pwerau datganoledig i gefnogi ein cymunedau, ein busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus i ymateb, addasu ac elwa ar y newidiadau digidol pwysig hyn. Mae'r heriau yn cyffwrdd â phob adran yn y Llywodraeth. Drwy'r Grŵp Data a Digidol yr wyf i'n ei gadeirio, mae gen i rôl bwysig i weithio gyda Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i gydlynu a chefnogi ein gwaith ar draws y portffolios i fodloni'r heriau hyn ac elwa ar gyfleoedd newydd. Cyhoeddodd fy nghyfaill yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Gynllun Gweithredu ar yr Economi y llynedd i helpu i baratoi ein heconomi at y dyfodol a'r heriau sydd o'n blaenau. Drwy'r adolygiad a gynhelir gan yr Athro Phil Brown, rydyn ni hefyd yn edrych ar yr effaith y mae arloesi digidol yn ei chael ar y gweithlu yng Nghymru.  Mae’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg, a gafodd ei gyhoeddi gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yr wythnos hon hefyd yn creu cyfleoedd. Mae helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i baratoi ar gyfer trawsnewid digidol yn rhan allweddol o'n gwaith \- i wella gwasanaethau ar gyfer ein dinasyddion, torri costau'n sylweddol a gwella cynhyrchiant.  Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw, felly, fy mod wedi gofyn i Lee Waters AC dros Lanelli arwain ar y gwaith o sefydlu Panel Digidol allanol. Cynlluniwyd y panel i gefnogi'r gwaith sydd ar y gweill eisoes ac i roi cyngor a her ar wella ein gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud defnydd gwell o dechnolegau digidol. Bydd y panel yn helpu i dreialu cyfleoedd a phrosiectau trawsnewid digidol ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus, gan roi cipolwg ar sut y gellid eu datblygu a chynnig argymhellion. Ar ôl sefydlu'r panel, y cam nesaf fydd datblygu cynllun gwaith llawn. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig i'r panel ystyried sut y gallwn ysgogi'r llwyddiannau ond hefyd ddysgu o'r hyn nad oedd mor llwyddiannus. I ddechrau, rwy'n cynnig bwrw ati gyda darn byr o waith er mwyn cael cipolwg ar ddatblygiadau digidol ar draws Cymru a thu hwnt.   Byddaf yn gweithio gyda fy nghyfeillion ar draws adrannau'r llywodraeth ac yn canolbwyntio i ddechrau ar gefnogi gwaith Vaughan Gething AC, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alun Davies AC, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, ar y gwaith sydd yn yr arfaeth ganddynt hwy. Mae swyddogion yn Swyddfa'r Prif Swyddog Digidol yn helpu i hwyluso mynediad i'r timau perthnasol ar draws Llywodraeth Cymru a byddant yn darparu cymorth gweinyddol i sicrhau bod modd dechrau ar y gwaith hwn yn gyflym.   Bydd aelodau'r panel a fydd yn cefnogi'r Cadeirydd yn cael eu cyhoeddi gyda hyn a byddant yn cael eu penodi i ddod ag arbenigedd a phrofiad o wasanaethau cyhoeddus a thrawsnewid digidol o bob cwr o Gymru a'r DU. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i asesu ein cynnydd hyd yma a chynllunio ein camau nesaf mewn perthynas â'r agenda heriol hon. Byddaf yn adrodd yn ôl i'r aelodau ar y cynnydd  yn y misoedd sydd i ddod.
https://www.gov.wales/written-statement-establishing-external-digital-panel
  The NHS’ strategic plan to introduce a national 111 service has been agreed and I have approved funding for 2018\-19 and 2019\-20\. This follows the successful roll out of the pathfinder service in Abertawe Bro Morgannwg University Health Board and Carmarthenshire. The 111 service offers a free easy to remember telephone number that allows people to be signposted to the right treatment in the right place by a multi professional team. The 111 service combines NHS Direct information and advice with ‘out of hours’ services. This model has emerged from the pathfinder programme, which will become part of a 24/7 model for access to primary care. An evaluation undertaken by Public and Corporate Economic Consultants (PACEC) in conjunction with Sheffield University is now available and provides positive evidence about the roll out and impact of the 111 pathfinder within Abertawe Bro Morgannwg University Health Board. The evaluation of the 111 pathfinder is an important milestone in the roll out of the 111 service across Wales. The pathfinder was implemented to test the practicalities of establishing the combined service of NHS Direct Wales and the GP Out of Hours service. The evaluation report provides evidence about how the service has been perceived by both staff and patients, and analyses the performance data collected. The key findings from the evaluation report include: * The 111 pathfinder was successfully implemented in October 2016 and received over 71,000 calls in the first six months of operation, 94% of which were answered by call takers; * Call priority: in the period under review 32,000 calls were triaged, of which 36% were urgent; * Average triage time for priority one calls was 3 minutes compared to the 20 minute standard; * There was a high level of service user satisfaction with 95% of survey respondents stating that they were satisfied or very satisfied with the whole 111 process; * Key stakeholders involved in the development and the operation of the service are enthusiastic about the pathfinder and believe that greater benefits and efficiencies could be achieved with careful roll\-out across Wales; * The impact on GP Out of Hours is the provision of a more clinically\-led model whereby patients have greater opportunity to access clinical telephone assessment and treatment (prescriptions etc.) in particular when the clinical hub is operating (evenings / weekends) without the need for a face to face appointment with GPs; * Although it is difficult to be absolutely certain about the impact on ED attendance, in the first 6 months of the pathfinder, Abertawe Bro Morgannwg UHB saw a 1% decrease compared to the previous year. It is estimated the 111 pathfinder contributed to saving £218,000 through a reduction in Emergency Department attendances; * During the period under review there was a reduction in ambulance conveyances to Emergency Departments. This change was seen largely in non\-urgent (Green) conveyances, which reduced by just over 25%. Although this change cannot be wholly attributed to 111 it has contributed to a saving of £205,000 for ambulance conveyances. The evaluation can be found at the following link:     https://www.ambulance.wales.nhs.uk/Default.aspx?pageId\=315\&lan\=en The NHS’ strategic plan for the 111 service in Wales has built on the evaluation of the pathfinder and are looking to extend the roll\-out into other areas of Wales over the next 2\-3 years. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.      
Cafodd cynllun strategol y GIG i gyflwyno gwasanaeth 111 cenedlaethol ei gytuno, ac rwyf wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2018\-19 a 2019\-20\. Mae hyn yn dilyn llwyddiant cyflwyno'r gwasanaeth braenaru hwn yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin. Mae'r gwasanaeth 111 yn cynnig rhif ffôn hawdd ei gofio sydd ar gael am ddim i gyfeirio pobl at y driniaeth gywir yn y lle iawn gan dîm o wahanol weithwyr proffesiynol. Mae'r gwasanaeth yn cyfuno'r wybodaeth a ddarperir gan Galw Iechyd Cymru â chyngor gan y gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae'r model hwn yn ganlyniad y rhaglen fraenaru, a fydd yn dod yn rhan o fodel ar gyfer mynediad at ofal sylfaenol bedair awr ar hugain. Mae’r gwerthusiad, a gafodd ei gynnal ar y cyd gan Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol (PACEC) a Phrifysgol Sheffield, bellach ar gael, ac mae'n cynnwys tystiolaeth gadarnhaol ynghylch cyflwyno'r gwasanaeth braenaru 111 a'i effaith o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae'r gwerthusiad o'r gwasanaeth hwn yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o gyflwyno gwasanaeth 111 ar draws Cymru. Treialwyd y gwasanaeth i weld pa mor ymarferol fyddai sefydlu gwasanaeth a fyddai'n cyfuno Galw Iechyd Cymru a gwasanaeth y tu allan i oriau y meddygon teulu. Mae'r adroddiad gwerthuso yn cynnwys tystiolaeth ynghylch profiad staff a chleifion o’r gwasanaeth, ac mae'n dadansoddi'r data a gasglwyd ynghylch ei berfformiad. Mae casgliadau allweddol yr adroddiad gwerthuso yn cynnwys y canlynol: * Cafodd y gwasanaeth braenaru 111 ei roi ar waith yn llwyddiannus ym mis Hydref 2016, a derbyniodd dros 71,000 o alwadau yn ei chwe mis cyntaf. Cafodd 94% o'r rhain eu hateb gan staff a oedd wedi eu hyfforddi’n benodol i gymryd galwadau; * Blaenoriaethu galwadau: yn ystod y cyfnod adolygu, cafodd 32,000 o alwadau eu brysbennu, ac o'r rhain roedd 36% yn alwadau brys; * Tri munud oedd yr amser brysbennu cyfartalog ar gyfer galwadau blaenoriaeth un, o gymharu â'r 20 munud arferol; * Roedd lefel boddhad defnyddwyr y gwasanaeth yn uchel, gyda 95% o'r ymatebwyr i'r arolwg yn dweud eu bod yn fodlon neu'n fodlon iawn ar holl broses y gwasanaeth 111\. * Mae'r rhanddeiliaid allweddol sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu'r gwasanaeth yn frwdfrydig yn ei gylch ac yn credu y gallai mwy o fanteision ac arbedion gael eu sicrhau o'i gyflwyno'r ofalus ledled Cymru; * Cafodd y gwasanaeth 111 effaith ar wasanaeth y tu allan i oriau meddygon teulu, drwy ddefnyddio model sy'n seiliedig ar ddarparu gwasanaeth mwy clinigol. Mae hynny’n rhoi mwy o gyfle i gleifion fanteisio ar gael asesiadau a thriniaethau (presgripsiynau etc) clinigol dros y ffôn, yn enwedig pan fydd y gwasanaeth yn gweithredu (ar nosweithiau a phenwythnosau) heb yr angen i gleifion gael apwyntiad wyneb yn wyneb gyda meddyg teulu. * Er ei bod yn anodd bod yn hollol bendant ynghylch yr effaith a gafwyd ar nifer yr achosion sy'n mynd i Adrannau Argyfwng, gwelodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ostyngiad o 1% yn y nifer hwnnw o gymharu â'r flwyddyn flaenorol yn ystod y chwe mis cyntaf y bu'r gwasanaeth ar waith. Amcangyfrifir fod y gwasanaeth 111 wedi helpu i arbed £218,000 drwy leihau nifer yr achosion sy'n mynd i Adrannau Argyfwng; * Yn ystod y cyfnod adolygu, bu ostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd eu cludo i Adrannau Argyfwng mewn ambiwlans. Yn bennaf, gwelwyd y newid hwn yn nifer y teithiau cludo nad oeddent yn rhai brys (Gwyrdd) a oedd wedi gostwng ychydig dros 25%. Er na ellir dweud mai'r gwasanaeth 111 fu'n hollol gyfrifol am y newid hwn, mae'r gwasanaeth yn sicr wedi helpu i arbed £205,000 o ran teithiau cludo pobl mewn ambiwlans. Mae'r gwerthusiad i'w weld drwy glicio ar y ddolen ganlynol:\- https://www.ambulance.wales.nhs.uk/Default.aspx?pageId\=315\&lan\=cy Mae cynllun strategol y GIG ar gyfer cyflwyno gwasanaeth 111 yng Nghymru wedi manteisio ar y gwerthusiad hwn o'r gwasanaeth braenaru a roddwyd ar waith, a'r bwriad nawr yw cyflwyno'r gwasanaeth mewn ardaloedd eraill yng Nghymru yn ystod y 2\-3 blynedd nesaf. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-evaluation-111-pathfinder-service-wales
I would like to update Members on the indirect economic gains we have secured through the procurement of the new Operator and Development Partner (ODP) for the Wales and Borders rail service, which I set out to members earlier this week. As I said then, we are at an historic point for the railway in Wales. I set Transport for Wales the objective of maximising the economic benefits of the single largest procurement ever undertaken in Wales, for Wales.  Today I want to update members on how this objective has been met. As we’ve done with our new Economic Contract, public investment with a social purpose is a cornerstone of our new approach to rail. Earlier this week I described how more than half of the trains required for the new service will be manufactured in Wales.  This is good news for jobs at the new CAF factory in Newport, providing a significant early workload for the anticipated staff of up to 300\. CAF’s announcement that they had chosen Wales as the base for their new UK manufacturing facility turned many heads in the rail industry.  This was the first time in the modern era that trains will be made here.  Since the initial announcement CAF has made it clear to the Welsh Government that they see Wales as being their base in the UK for an increasing range of activities. The Economic Contract is underpinned by the principle of something for something, and in this regard the new rail service is no different. As a result, KeolisAmey will create 600 new jobs over the life of the contract. In addition, KeolisAmey will create 30 apprenticeships per year. We will also ensure that the Real Living Wage will be cascaded throughout the supply chain, with KeolisAmey becoming an accredited Living Wage employer by 2021 Our Economic Action Plan highlighted the importance of encouraging more businesses to be headquartered in Wales.  The multiplier effect for business headquarters is considerable, and we recognise that this is an area where we need to develop. As a result of our approach to the procurement and the level of investment and innovation that will be delivered in Wales both Keolis and Amey will be moving key parts of their business to Wales; Keolis will be moving their UK Headquarters from London to Wales by 2019 developing the new office as a centre of excellence for all of Keolis’ UK subsidiaries and developing specialist expertise in new technologies, buses, cycling and parking. Keolis will move their global rail division from Paris to Wales by 2020, providing expertise to Keolis rail operations worldwide and helping to showcase Wales as a location of innovation in rail technologies. These two teams will be complemented by Amey who be opening a new design and consulting hub in Wales, delivering engineering solutions across the UK. In addition to these individual projects Keolis and Amey will together open a new shared services centre and customer contact centre. Taken together these new offices will create around 130 new high quality jobs in Wales in addition to the 600 new jobs and the 450 apprenticeships that were announced on Monday. These achievements are considerable and will create a real boost to the economy of Wales.  This is also a real example of the economic action plan working out in practice and where we are seeing real economic gains alongside the obvious transport and regeneration objectives.   Wales’s place in the history of the global railway is assured.  In 1804 the world's first steam\-powered railway journey took place when Richard Trevithick's steam locomotive hauled a train along the tramway of the Penydarren ironworks, near Merthyr Tydfil.  The first passenger rail services were opened between Swansea and Mumbles in 1807\.   But Wales is about more than history.  We want Wales to be at the forefront of the future rail industry as well.  Although Wales continues to be home to many organisations who work in the industry, with today’s announcements we are now beginning to become a serious force with a material impact and ability to shape future events.  These are great foundations on which to continue to develop this increasingly important Welsh industry, and to allow us to gain greater economic benefit as these organisations develop and prosper in their new home.  
Hoffwn roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ynghylch y budd economaidd anuniongyrchol sydd wedi deillio o gaffael y Partner Gweithredu a Datblygu newydd ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Amlinellais hyn i'r Aelodau yn gynharach yn yr wythnos hon.   Fel y dywedais ar y pryd, rydym wedi cyrraedd carreg filltir hanesyddol i'r rheilffyrdd yng Nghymru. Yr amcan a osodais i Drafnidiaeth Cymru oedd cynyddu i'r eithaf fanteision economaidd y broses gaffael unigol fwyaf erioed i'w chynnal yng Nghymru, i Gymru.  Heddiw, rydw i eisiau rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ynghylch sut y bodlonwyd yr amcan hwn. Yn yr un modd â’n Contract Economaidd newydd, buddsoddi cyhoeddus at bwrpas cymdeithasol yw conglfaen ein ffordd newydd o ymdrin â'r rheilffyrdd. Yn gynharach yn yr wythnos hon, soniais sut y bydd dros hanner y trenau y bydd eu hangen ar gyfer y gwasanaeth newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru.  Mae hyn yn newydd da o ran swyddi yn ffatri newydd CAF yng Nghasnewydd. Rhagwelir y bydd hyd at 300 o staff yn gweithio yno a bydd hyn yn darparu llif gwaith sylweddol iddynt yn gynnar. Gwnaeth cyhoeddiad CAF eu bod wedi dewis Cymru'n ganolfan ar gyfer eu cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yn y DU ennyn llawer o ddiddordeb yn y diwydiant rheilffyrdd.  Dyma'r tro cyntaf yn y cyfnod modern i drenau gael eu hadeiladu yma.  Ers y cyhoeddiad cyntaf hwnnw, mae CAF wedi ei gwneud yn amlwg i Lywodraeth Cymru eu bod yn gweld Cymru fel eu canolfan yn y DU ar gyfer amrywiaeth gynyddol o weithgareddau. Sail y Contract Economaidd yw egwyddor rhywbeth er lles pawb, ac mae'r gwasanaeth rheilffyrdd newydd hwn yn glynu wrth hynny. O ganlyniad, bydd KeolisAmey yn creu 600 o swyddi newydd dros oes y contract. Yn ogystal, bydd KeolisAmey yn creu 30 o brentisiaethau'r flwyddyn. Byddwn hefyd yn sicrhau y bydd y Cyflog Byw gwirioneddol ol yn cael ei raeadru drwy'r gadwyn gyflenwi, a bydd KeolisAmey'n dod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig erbyn 2021\. Pwysleisiodd ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi bwysigrwydd annog mwy o gwmnïau i leoli eu pencadlys yng Nghymru.  Mae busnesau'n dueddol i leoli eu pencadlys lle mae busnesau eraill wedi gwneud hynny ac mae'r 'effaith luosi' hon yn un sylweddol. Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes lle mae angen i ni wneud rhagor. O ganlyniad i'n dull gweithredu mewn perthynas â'r broses gaffael a lefel y buddsoddi ac arloesi a welir yng Nghymru bydd Keolis ac Amey yn symud rhannau allweddol o'u busnesau i Gymru; Bydd Keolis yn symud ei bencadlys yn y DU o Lundain i Gymru erbyn 2019\. Bydd yn datblygu'r swyddfa newydd i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer holl is\-gwmnïau Keolis yn y DU ac yn datblygu arbenigedd mewn technoleg newydd, bysiau, beicio a pharcio. Bydd Keolis yn symud ei isadran rheilffyrdd byd\-eang o Baris i Gymru erbyn 2020, gan ddarparu arbenigedd i holl weithgaredd Keolis o ran rheilffyrdd ledled y byd a helpu i arddangos Cymru fel canolfan arloesi ym maes technoleg rheilffyrdd. Ategir y ddau dîm gan Amey, a fydd yn agor canolfan dylunio ac ymgynghori newydd yng Nghymru. Bydd yn cynnig atebion i broblemau peirianyddol ledled y DU. Yn ogystal â'r prosiectau unigol hyn, bydd Keolis ac Amey yn agor canolfan cydwasanaethau newydd a chanolfan gyswllt newydd i gwsmeriaid ar y cyd. Gyda'i gilydd, bydd y swyddfeydd hyn yn creu tua 130 o swyddi newydd o ansawdd uchel yng Nghymru, yn ogystal â'r 600 o swyddi newydd a'r 450 o brentisiaethau a gyhoeddwyd ddydd Llun. Mae'r bob un o'r rhain yn gryn gamp a byddant yn rhoi hwb gwirioneddol i economi Cymru.  Mae hefyd yn tystio i’r modd y mae’r cynllun gweithredu ar yr economi’n  gweithio'n ymarferol wrth inni weld budd economaidd go iawn ochr yn ochr â'r amcanion trafnidiaeth ac adfywio amlwg.   Mae lle Cymru yn hanes rheilffyrdd y byd wedi'i hen sefydlu.  Yn 1804,  yng ngwaith haearn Penydarren ger Merthyr Tudful digwyddodd y daith gyntaf yn y byd i'w gyrru gan ager, pan dynnodd locomotif ager Richard Trevithick drên ar hyd tramffordd y gwaith. Agorwyd y gwasanaethau rheilffordd cyntaf i deithwyr rhwng Abertawe a'r Mwmbwls yn 1807   Ond mae mwy na hanes i Gymru.  Rydym ni eisiau i Gymru fod ar flaen y gad o ran dyfodol y diwydiant rheilffyrdd  hefyd.  Er bod Cymru'n parhau i fod yn gartref i nifer o sefydliadau sy'n gweithio yn y diwydiant, mae cyhoeddiad heddiw'n golygu ein bod yn datblygu'n ganolfan o bwys, sy'n cael effaith ymarferol ac yn gallu llywio digwyddiadau yn y dyfodol.  Dyma sylfeini ardderchog ar gyfer parhau i ddatblygu'r diwydiant  hwn, sy'n  cynyddu mewn pwysigrwydd yng Nghymru. Bydd yn ein galluogi i elwa ar ragor o fanteision economaidd wrth i'r sefydliadau hyn ddatblygu a ffynnu yn eu cartrefi newydd.
https://www.gov.wales/written-statement-economic-impact-new-wales-and-borders-rail-service
Fires in Wales are in long\-term decline, and are now at an all\-time low.  Sustaining that trend requires a full understanding of the changing risks of fire, and action by our Fire and Rescue Services to tackle those risks.  This is especially important for fires in the home, which account for the great majority of deaths and injuries from fire. Last year we detected a concerning trend in domestic electrical fires.  Unlike other known sources of dwelling fires, these are showing a sustained increase.  We therefore committed to undertaking research into this increase, and I am now able to publish the findings of that work.  It is available at:\- https://gov.wales/topics/people\-and\-communities/communities/safety/fire/?lang\=en    Although most dwelling fires originate in domestic appliances, they are largely caused by unsafe behaviours such as distraction while cooking or placing objects too close to heat.  Only a small and declining minority are caused by unsafe electrical appliances themselves.   The Fire and Rescue Services in Wales therefore focus much of their prevention activity on raising awareness of fire risks and changing people’s behaviours.  This has contributed significantly to the overall decline in accidental dwelling fires over the last 15 years. However, fires where the source is identified as “electrical distribution” have shown the opposite trend.  This includes fires which originate in the electricity supply in homes: electricity meters, fuse boxes and consumer units, wiring for lights and sockets, and the wiring to appliances.   These have been the focus of our research, which has looked in great detail at the nature and possible reasons for the increase we have seen.  This has been a painstaking exercise which has involved scrutiny of reports about hundreds of individual fires, as well as data from Wales and elsewhere.   I should stress that this research began before the Grenfell Tower fire and has no connection to it.  That tragedy arose because of how quickly the fire spread, not why it started.  And while it appears likely that the source of the fire was a domestic appliance, there is nothing at all implicating the electrical installation in the tower. When this issue was raised in Plenary last year there was speculation that the increase related to the increase in use of mobile devices such as phones, tablets and e\-cigarettes.  However, the detailed evidence shows that this is not the case.  We have also been able to rule out links to other electrical appliances, and there does not appear to be a link between the increase in these fires and the ageing of the population.   Whilst we have been able to rule these factors out, we have not been able to identify a definitive reason why this increase has occurred.  The trend mostly relates to fires in the South Wales geographical area and is not consistently replicated elsewhere in the UK, or in the USA or Ireland.   Around a third of the electrical distribution fires in South Wales relate to fuse boxes or consumer units, and it is reasonable to assume that the causes of these and other fires in electrical distribution systems might include old, damaged or defective wiring use of inappropriately rated or improvised fuses, and overloading of sockets.  There may be links to age of housing, housing tenure and/or deprivation, but it is not possible to verify that using the data which are currently available.  This is something that I now expect Fire and Rescue Services to explore.         Whatever the exact causes, electrical distribution fires seem more likely to result from old, defective or badly\-maintained installations than from the sorts of behavioural issues on which Fire and Rescue Services have focused their home safety work.  So the report also recommends that the Services review these programmes accordingly.  Firefighters are not electricians and cannot be expected to repair faults – but they can and should raise awareness, identify obviously old or defective installations, and recommend remedial action. The increase in electrical distribution fires is significant and sustained, and remains a concern.  However the number of these fires remain relatively low, and the evidence does not suggest that there is any greater risk of injury from electrical distribution fires than from any other accidental dwelling fire.  Nor are vulnerable groups such as older people at significantly greater risk.  This report is important in building understanding of fire risks in the home, but it should not be a cause for alarm.   I am confident our Fire and Rescue Services will act on it, and I will ensure my officials monitor their progress.
Mae tanau yng Nghymru ar drai ers talwm, ac erbyn hyn maent ar eu hisaf.  Mae sicrhau bod y duedd honno'n parhau'n gofyn am ddealltwriaeth lawn o'r newid yn risgiau tân, a chamau gweithredu gan ein Gwasanaethau Tân ac Achub i fynd i'r afael â'r risgiau hynny. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos tanau yn y cartref, sy'n cyfrif am y mwyafrif o danau ac anafiadau o dân. Y llynedd canfuwyd tuedd sy'n peri pryder mewn tanau trydanol yn y cartref.  Yn wahanol i ffynonellau hysbys eraill o dân, mae'r rhain ar gynnydd.  Gwnaethom ymrwymiad felly i ymchwilio i'r cynnydd hwn, ac rwyf bellach yn gallu cyhoeddi canfyddiadau'r gwaith hwnnw.  Mae ar gael yn:\- https://llyw.cymru/topics/people\-and\-communities/communities/safety/fire/?lang\=cy     Er bod y mwyafrif o danau mewn anheddau'n deillio o offer domestig, fe'u hachosir yn bennaf gan ymddygiadau anniogel megis rhywbeth yn tarfu ar berson sy'n coginio neu osod gwrthrychu'n rhy agos at y gwres.  Lleiafrif bach yn unig a achosir gan offer trydanol anniogel eu hunain. Mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru felly'n canolbwyntio llawer o'u gweithgarwch atal ar godi ymwybyddiaeth o risgiau tân a newid ymddygiad pobl.  Mae hyn wedi cyfrannu'n sylweddol at y gostyngiad mewn tanau damweiniol mewn cartrefi dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Er hynny, yn achos tanau lle nodir y ffynhonnell fel  “dosbarthiad trydanol” gwelwyd tuedd i'r gwrthwyneb.  Mae hyn yn cynnwys tanau sy'n dechrau yn y cyflenwad trydan mewn cartrefi: Mesuryddion trydan, blychau ffiwsiau ac unedau defnyddwyr, gwifro ar gyfer goleuadau a socedi, a'r gwifrau ar gyfer offer.   Rydym wedi canolbwyntio ar y rhain yn ystod ein hymchwil, sydd wedi edrych yn fanwl ar natur y cynnydd yr ydym wedi'i weld a'r rhesymau drosto.  Ymarfer manwl oedd hwn sydd wedi cynnwys craffu ar adroddiadau am gannoedd o danau unigol, yn ogystal â data o Gymru a mannau eraill.   Dylwn bwysleisio i'r ymchwil hon ddechrau cyn Twr Grenfell ac nad oes cysylltiad rhwng y ddau beth.  Digwyddodd y trasiedi hwnnw oherwydd pa mor gyflym y lledaenodd y tân, ddim paham y dechreuodd.  Ac er ei bod yn ymddangos mai eitem o offer yn y cartref oedd ffynhonnell y tân, nid oes dim byd yn awgrymu bod y tân i'w briodoli i'r gosodiad trydanol yn y twr. Pan godwyd y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn y llynedd roedd pobl yn dyfalu bod y cynnydd yn ymwneud â'r cynnydd yn y defnydd o ddyfeisiau symudol megis, ffonau llechi, ac e\-sigaréts.  Er hynny, mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw hyn yn wir.  Bu modd inni hefyd ddiystyru cysylltiadau ag offer trydanol eraill, ac nid yw'n ymddangos bod cysylltiad rhwng y cynnydd yn y tanau hyn a phoblogaeth sy'n heneiddio.   Er ein bod wedi llwyddo i ddiystyru'r ffactorau hyn, nid ydym wedi llwyddo i nodi rheswm pendant dros y cynnydd hwn.  Mae'r duedd hon yn ymwneud â thanau yn ardal ddaearyddol De Cymru ac nid yw'n cael ei dyblygu'n gyson mewn mannau eraill yn y DU, neu yn yr UDA neu Iwerddon.   Mae rhyw un rhan o dair o'r tanau dosbarthiad trydanol yn Ne Cymru'n ymwneud â blychau ffiwsiau neu unedau defnyddwyr, ac mae'n rhesymol tybio y gallai achosion y tanau hyn a thanau eraill mewn systemau dosbarthiad trydanol gynnwys defnyddio hen wifrau, gwifrau wedi'u difrodi neu ddiffygiol, defnyddio ffiwsiau â graddfa amhriodol, a gorlwytho socedi. Efallai y bydd cysylltiadau ag oedran y tai, deiliadaeth y tai a/neu amddifadedd ac nid oes modd dilysu hynny trwy ddefnyddio'r data sydd ar gael ar hyn o bryd.  Rhywbeth yr wyf yn disgwyl i'r Gwasanaethau Tân ac Achub ymchwilio iddo yw hwn.         Beth bynnag fo'r union achosion, ymddengys fod tanau dosbarthiad trydanol yn deillio o osodiadau sy'n hen, yn ddiffygiol, neu sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n wael yn hytrach nag o'r mathau o faterion ymddygiadol y mae Gwasanaethau Tân ac Achub wedi canolbwyntio eu gwaith diogelwch yn y cartref arnynt.  Felly mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod y Gwasanaethau'n adolygu'r rhaglenni hyn yn unol â hynny.  Nid trydanwyr yw diffoddwyr tân ac ni ellir disgwyl iddynt drwsio namau \- ond fe allant ac fe ddylent godi ymwybyddiaeth, nodi hen osodiadau neu osodiadau diffygiol, ac argymell camau unioni. Mae'r cynnydd mewn tanau dosbarthiad trydanol yn sylweddol ac yn digwydd yn rheolaidd ac mae'n dal yn destun pryder. Er hynny, mae nifer y tanau hyn yn dal yn gymharol isel, ac nid yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod risg uwch o anaf o danau dosbarthiad trydanol nag o unrhyw dân damweiniol arall mewn annedd.  Nid yw grwpiau agored i niwed megis pobl hŷn mewn risg sylweddol fwy ychwaith.  Mae'r adroddiad hwn yn bwysig wrth feithrin dealltwriaeth o risgiau tân yn y cartref, ond ni ddylai fod yn destun pryder.   Rwyf yn ffyddiog y bydd ein gwasanaethau Tân ac achub yn gweithredu arno, a byddaf yn sicrhau bod fy swyddogion yn monitro eu cynnydd.
https://www.gov.wales/written-statement-electrical-fires-wales
On 8 May 2018, Hannah Blythyn, Minister for the Environment made an oral statement in the Siambr on: Extended Producer Responsibility (external link).
Ar 8 Mai 2018, gwnaeth y Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-extended-producer-responsibility
Today, the Welsh Government and the UK Government are releasing an updated joint Statement of Values and Principles for England / Wales NHS Cross Border Healthcare Services which sets out the broad principles which guide the provision of cross border care along the border. The Welsh Government has been working with NHS England and the Department of Health, along with representatives from Welsh Local Health Boards, English Clinical Commissioning Groups, the Welsh Health Specialised Services Committee (WHSSC) and patient representative bodies to refresh the existing NHS Cross Border Protocol, which had been in place since 2013\. The Statement sets out broad principles, including legal rights and standards, financial principles and how the statement will be reviewed and potentially amended in the future. The appendices to the Statement provide the operational detail of cross border patient flow. A Welsh Health Circular will also be sent to Welsh NHS Chairs and Chief Executives requesting that they and their organisations adhere to the principles set out in the Statement.      
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyddhau ar y cyd Ddatganiad o Werthoedd ac Egwyddorion ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Trawsffiniol y GIG i Gymru a Lloegr wedi'i ddiweddaru, sy'n amlinellu'r egwyddorion cyffredinol sy'n llywio'r ddarpariaeth o ofal trawsffiniol ar hyd y ffin. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr ac Adran Iechyd San Steffan, ynghyd â chynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol Cymru, Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a byrddau sy'n cynrychioli cleifion i adnewyddu'r Protocol Trawsffiniol y GIG presennol, a oedd wedi bod ar waith ers 2013\. Mae'r Datganiad yn amlinellu egwyddorion cyffredinol, gan gynnwys safonau a hawliau cyfreithiol, egwyddorion ariannol a sut y bydd y fframwaith yn cael ei adolygu a'i ddiwygio o bosibl yn y dyfodol. Mae'r atodiadau i'r Datganiad yn darparu manylion gweithredu'r llif cleifion trawsffiniol. Bydd Cylchlythyr Iechyd Cymru hefyd yn cael ei anfon at Gadeiryddion a Phrif Weithredwyr GIG Cymru yn gofyn iddynt hwy a'u sefydliadau lynu at yr egwyddorion a gyflwynir yn y Datganiad.
https://www.gov.wales/written-statement-england-wales-nhs-cross-border-healthcare-services
The Welsh Government is taking action to make a real difference to people in Wales, their families and their communities. The government’s housing priorities are clear: more homes, better quality homes and better housing\-related services. The Welsh Government recognises the important role of the Private Rented Sector, alongside social housing and home ownership, in meeting the housing needs of people in Wales. We are committed to removing the barriers for tenants to enter and move within the Private Rented Sector. Our current legislation and the proposed Bill to address fees charged to tenants when entering into a tenancy will improve the accessibility and affordability of those homes. We continue to develop and deliver housing legislation that helps ensure we are providing a firm foundation to support the delivery of good quality, secure and affordable homes. On 30 November 2017, I informed Assembly Members of the Welsh Government’s commitment to legislate on fees charged to tenants. A consultation launched on 19 July 2017 and ended on 27 September 2017\. The results highlighted broad support for a ban on fees to tenants, consistent with the growing body of evidence showing the difficulties these fees present many current, or would\-be tenants. The analysis of the consultation is now complete, and I am today publishing a summary of the responses. Key messages were: * 56% of all respondents agreed with an outright ban on fees * When fees are charged, tenants say that, on average, they are charged £249\.47 to begin a tenancy, £108 to renew a tenancy and £142 at the end of a tenancy * 62% of tenants said that fees have affected their ability to move into a rented property, while 86% say that fees have affected their decision to use an agent * 61% of landlords did not know what their tenants were charged by their agent. These findings clearly support our proposals to ban fees charged to tenants, and further add to the evidence base that such fees make the Private Rented Sector unaffordable and inaccessible for a substantial number of tenants. I will shortly bring forward legislation to ban all payments required of tenants in the Private Rented sector, with limited exceptions stated on the face of the Bill. Anyone requiring a banned payment as part of the tenancy will be committing an offence. It will be important that the ban on fees to tenants is enforced. Consequently, any person charging a prohibited payment will be subject to enforcement action. The summary of consultation responses is available at: beta.gov.wales/fees\-charged\-tenants\-private\-rented\-sector
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl Cymru, eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae blaenoriaethau'r Llywodraeth ym maes tai yn glir: mwy o gartrefi, cartrefi o ansawdd gwell a gwell gwasanaethau sy'n gysylltiedig â thai. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd rôl y sector rhentu preifat ochr yn ochr â thai cymdeithasol a pherchentyaeth o ran bodloni anghenion pobl Cymru o ran tai. Rydym yn benderfynol o ddileu'r rhwystrau sy'n atal tenantiaid rhag symud o fewn y sector rhentu preifat a chael mynediad i'r sector. Bydd ein deddfwriaeth bresennol a'n Bil arfaethedig sy'n mynd i'r afael â'r ffioedd a godir ar denantiaid wrth gytuno ar denantiaeth yn gwella hygyrchedd a fforddiadwyedd y cartrefi hynny. Rydym yn parhau i ddatblygu a darparu deddfwriaeth tai sy'n ein helpu i sicrhau ein bod yn rhoi sylfaen gadarn i gefnogi cyflenwi cartrefi fforddiadwy, sy'n ddiogel ac o ansawdd da.   Ar 30 Tachwedd 2017, rhoddais wybod i Aelodau'r Cynulliad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y ffioedd a godir ar denantiaid. Lansiwyd ymgynghoriad ar 9 Gorffennaf 2017 a daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 27 Medi 2017\. Tynnodd y canlyniadau sylw at y gefnogaeth eang ar gyfer gwahardd codi ffioedd ar denantiaid, sy'n cyd\-fynd a'r dystiolaeth gynyddol sy'n dangos bod y ffioedd hynny yn peri llawer o anawsterau i denantiaid presennol neu ddarpar denantiaid. Mae'r gwaith o ddadansoddi'r ymgynghoriad bellach ar ben. Heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion. Dyma'r prif negeseuon:\- * Roedd 56% o'r holl ymatebion yn cytuno y dylid cael gwared ar ffioedd yn gyfan gwbl * Pan fo ffioedd yn cael eu codi, dywed tenantiaid, ar gyfartaledd, bod ffi o £249\.47 yn cael ei godi i gychwyn tenantiaeth, £108 i adnewyddu tenantiaeth a £142 ar ddiwedd tenantiaeth. * Dywedodd 62% o denantiaid bod  ffioedd wedi cael effaith ar eu gallu i symud i mewn i eiddo sy'n cael ei rentu, tra bo 86% yn dweud bod y ffioedd wedi cael effaith ar eu penderfyniad i ddefnyddio asiant. * Nid oedd 61% o'r landlordiaid yn ymwybodol o'r symiau a oedd yn cael eu codi ar eu tenantiaid gan eu hasiant. Mae'r casgliadau hyn yn cefnogi ein cynigion i wahardd ffioedd a godir ar denantiaid. Mae'n rhoi rhagor o dystiolaeth i ni fod y ffioedd hyn yn golygu na all nifer sylweddol o denantiaid fforddio’r sector rhentu preifat. Byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth cyn bo hir i wahardd taliadau a godir ar denantiaid y sector rhentu preifat, oni bai am yr eithriadau cyfyngedig  a nodir ar wyneb y Bil. Bydd unrhyw un sy'n gofyn am daliad gwaharddedig fel rhan o'r denantiaeth yn cyflawni trosedd. Yn bwysicach na dim, mae’n rhaid gorfodi'r gwaharddiad hwn ar ffioedd a godir ar denantiaid, a hynny o ddifrif. O ganlyniad, bydd unrhyw berson sy'n codi taliad gwaharddedig yn destun camau gorfodi. Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yma:https://beta.llyw.cymru/ffioedd\-godir\-ar\-denantiaid\-yn\-y\-sector\-rhentu\-preifat
https://www.gov.wales/written-statement-findings-consultation-about-fees-charged-tenants-private-rented-sector-and-next
The Welsh Government is committed to protecting our common land both now and for future generations.  We are leading the way in the UK on the development of electronic registers for common land and town or village greens. This work underpins the on\-going implementation of the Commons Act 2006\. Procurement of a supplier to undertake the system design and data migration work will commence in October 2018\. This represents a significant investment over five years, with the system scheduled to be in place by Spring 2022\. The proposed solution will transform user access to the registers allowing them to search and browse the registers on\-line for the first time. It will also provide a range of other benefits including a standard data management system, more efficient processes and instant information to support agricultural payments and an early and effective response to any future animal disease outbreak on common land. At the core of this project is partnership and collaborative working. I am grateful to the Commons Registration Authorities across Wales and the members of the Commons Act 2006 Advisory Group for their engagement with the project to date. I am keen for this to continue as we enter the next important phase. I will continue to update Assembly Members as this project develops.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’n tiroedd comin ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol.  Rydym yn arwain y ffordd yn y DU ar ddatblygu cofrestri electronig ar gyfer tiroedd comin a meysydd trefi a phentrefi. Mae'r gwaith hwn yn sail i weithredu Deddf Tiroedd Comin 2006 yn barhaus. Bydd y gwaith o gaffael cyflenwr i gynllunio'r system a gwaith symud data yn dechrau ym mis Hydref 2018\. Mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol dros bum mlynedd, gyda'r bwriad o sefydlu'r system erbyn Gwanwyn 2022\. Bydd yr ateb arfaethedig yn trawsnewid y ffordd y mae defnyddwyr yn cael mynediad i'r cofrestrau gan ganiatáu iddynt chwilio ac edrych ar y cofrestrau ar\-lein am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn cynnig amrywiol fanteision eraill gan gynnwys system rheoli data safonol, prosesau mwy effeithiol a gwybodaeth ar unwaith i gynorthwyo gyda taliadau amaethyddol ac ateb cynnar ac effeithio li unrhyw achos o glefyd anifeiliaid ar dir comin. Yn ganolog i'r prosiect hwn mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio. Rwy'n ddiolchgar i Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin ledled Cymru ac aelodau Grŵp Cynghori Deddf Tiroedd Comin 2006 am drafod y prosiect hyd yma. Rwy'n awyddus i hyn barhau wrth inni ddechrau ar y cam pwysig nesaf. Byddaf yn parhau i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad wrth i'r prosiect hwn ddatblygu.
https://www.gov.wales/written-statement-electronic-register-common-land-wales-0
In May 2015, following a policy review and substantial public consultation, the Welsh Government adopted a policy supporting geological disposal for the long\-term management of higher activity radioactive waste (HAW).  Adopting this policy allows for a permanent solution for the management of HAW, rather than leaving this responsibility to future generations.  Geological disposal has also been adopted around the World as the best and safest option for the long term management of HAW.  This also follows the advice of the independent expert Committee on Radioactive Waste Management. Following the adoption of geological disposal the Welsh Government joined a programme, funded by the UK Government, to seek a single geological disposal facility (GDF) for the HAW from Wales, England and Northern Ireland.  The programme will be delivered by Radioactive Waste Management Ltd (RWM), a subsidiary of the Nuclear Decommissioning Authority. Although the Welsh Government supports geological disposal, this does not necessarily mean a GDF will be built in Wales or that the Welsh Government will seek to have a GDF built in Wales.  The Welsh Government has not considered or identified any potential sites or communities for a GDF in Wales.  Our policy is very clear, a GDF can only be sited in Wales if a community voluntarily comes forward to host it.   The Welsh Government strongly supports this voluntarist approach whereby a potential host community would seek discussions with RWM about hosting a GDF. These discussions may last for up to twenty years, during which a potential host community will be able to withdraw at any time. Before a final decision about siting a GDF is taken, a test of public support in the potential host community would be required.  A GDF cannot be sited in that community unless the test resulted in a positive outcome. In December 2015, following a further public consultation, the Welsh Government issued a policy statement setting down the broad outline of arrangements for working with potential host communities in Wales should any wish to seek discussions about potentially hosting a GDF. I am now issuing a further consultation, seeking responses on proposals for the detailed arrangements for working with communities in Wales which may wish to seek discussions about potentially hosting a GDF.  We are seeking to adopt arrangements which reflect the special circumstances in Wales and which will also be compatible with those being adopted by BEIS.  This will allow communities in Wales to enter discussions with RWM on an equal basis as communities from England and Northern Ireland. In addition to needing a willing host community, for a GDF in Wales, RWM will also need to gain approval for safety cases from the Office for Nuclear Regulation (ONR) in respect of nuclear safety and security, and Natural Resources Wales in respect of protection of human health and the environment.  Any GDF in Wales would also need approval through the planning system in Wales. I will consider the responses to this consultation before adopting any detailed arrangements for working with potential host communities in Wales.  
Ym mis Mai 2015, yn dilyn adolygiad o'i pholisi ac ymgynghoriad cyhoeddus eang, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru bolisi o blaid rheoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd (GUA) yn y tymor hir trwy ei waredu'n ddaearegol. Mae mabwysiadu'r polisi hwn yn cynnig ateb parhaol ar gyfer rheoli GUA yn hytrach na'i adael yn broblem i'w datrys gan genedlaethau'r dyfodol. Mae'r polisi o waredu GUA yn ddaearegol wedi'i fabwysiadu ledled y byd fel yr opsiwn gorau a mwyaf diogel ar gyfer y tymor hir. Mae hefyd yn dilyn cyngor arbenigwyr annibynnol y Pwyllgor ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol. Ar ôl mabwysiadu polisi o blaid gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol, ymunodd Llywodraeth Cymru â rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU i chwilio am un cyfleuster gwaredu daearegol (CGD) ar gyfer GUA Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cynhelir y rhaglen gan Radioactive Waste Management Ltd (RWM), is\-gwmni sy'n perthyn i'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Er bod Llywodraeth Cymru o blaid gwaredu daearegol, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y caiff CGD ei adeiladu yng Nghymru na chwaith bod Llywodraeth Cymru'n gofyn am gael adeiladu CGD yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried na chlustnodi safleoedd neu gymunedau posibl ar gyfer CGD yng Nghymru. Mae ein polisi yn glir: ni chaiff CGD ei adeiladu yng Nghymru onid oes cymuned sy'n fodlon cynnig lleoliad iddo yn wirfoddol. Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i'r ymagwedd wirfoddoli hon, sef y byddai cymuned a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad yn gofyn am drafodaeth â RWM ynghylch cynnig lleoliad i CGD. Gallai'r trafodaethau hyn bara hyd at ugain mlynedd, ond gallai'r gymuned dan sylw dynnu ei chynnig yn ôl unrhyw bryd yn y cyfnod hwnnw. Cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch cynnal CGD, byddai angen mesur cefnogaeth y cyhoedd yn y gymuned dan sylw. Ni cheir cynnal CGD oni cheir canlyniad positif i brawf o gefnogaeth y gymuned. Ym mis Rhagfyr 2015, ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus arall, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad polisi oedd yn cynnig amlinelliad bras o'r trefniadau ar gyfer gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad i CGD yng Nghymru pe bai unrhyw rai yn gofyn am drafodaeth am hynny. Rwyf am gyhoeddi ymgynghoriad arall nawr, i ofyn am ymatebion i gynigion ar gyfer trefniadau manwl ar gyfer gweithio gyda chymunedau yng Nghymru sydd am drafodaeth am gynnig lleoliad i CGD. Rydym am fabwysiadu trefniadau fydd yn adlewyrchu amgylchiadau arbennig Cymru ac a fydd yn gydnaws hefyd â'r rheini a fabwysiedir gan BEIS. Bydd hyn yn caniatáu i gymunedau yng Nghymru ddechrau trafod â RWM ar yr un lefel â chymunedau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn ogystal ag angen cymuned fyddai'n fodlon lleoli CGD yng Nghymru, bydd angen cymeradwyaeth i’w achosion diogelwch ar RWM gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) o ran diogelwch a sicrwydd niwclear, a chan Gyfoeth Naturiol Cymru o ran diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. Bydd agen cymeradwyaeth y system gynllunio yng Nghymru ar gyfer unrhyw CGD yng Nghymru. Byddaf yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn cyn mabwysiadu unrhyw drefniadau manwl ar gyfer gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad yng Nghymru.
https://www.gov.wales/written-statement-geological-disposal-radioactive-waste-working-potential-host-communities
Glastir area payments commenced on 29 January 2018 and I am pleased to update Members of the significant progress made to process more than 77% of claims to farm businesses.  This represents a significant improvement compared with last year’s day one payment performance. In addition, 88% of the Glastir capital works claims received have also been processed.  Rural Payments Wales (RPW) continue to encourage and remind farm businesses to submit their capital works claims as soon as possible. There are a significant amount of claims still expected by the deadline of 28 February and I urge all farm businesses to ensure claims are completed and submitted before the deadlines. Late claims cannot be accepted. The BPS payment window opened on 1 December and over 91% of claims were paid on the first day.  Rural Payments Wales has, once again, out performed the Rural Payments Agency and other administrations, paying a higher percentage of BPS claims on day one of the payment window.   In parallel with the improved Glastir area payment performance, the BPS performance continues to progress with over 97% paid to date.  Over £223m has been paid into the bank accounts of over 15,000 Welsh farmers and businesses. RPW aims to pay as many claims as soon as possible during European Commission (EC) payment windows. However, EC regulations governing the scheme require inspections to be fully completed, which include the cross checking of land and updating of our mapping system, before any payment can be made. As with previous years, not all farm businesses will have received their Glastir and BPS payment on the first day of the payment window. My officials are working hard to process the remaining inspection findings as quickly as possible and I expect all but the most complex claims to be paid under both the Glastir and BPS schemes by the end of April 2018\. The Single Application Form (SAF) for 2018 will be available on RPW online from 5 March 2018 and must be submitted by 15 May 2018\.   If a farm business does not receive its 2017 inspection findings by the end of February, RPW will write to them explaining how they should complete their SAF 2018\. RPW will be operating preliminary checks again this year, to highlight any potential errors and give farm business the opportunity to amend their declaration and avoid potential penalties. I would like to take this opportunity to thank everyone, including industry stakeholders, who have worked in conjunction with my officials to continually develop RPW online, and contributed towards the improved 2017 Glastir and BPS payment performance.  
Dechreuwyd gwneud taliadau arwynebedd Glastir ar 29 Ionawr 2018 ac rwyf yn falch o fedru rhoi gwybod i'r aelodau  bod y gwaith yn mynd yn dda iawn a'n bod wedi prosesu mwy na 77% o'r hawliadau a wnaed gan fusnesau fferm. Mae hwn yn gryn welliant o gymharu â maint y taliadau a wnaed ar y diwrnod cyntaf y llynedd. Hefyd, mae 88% o'r hawliadau am waith cyfalaf Glastir wedi cael eu prosesu hefyd. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn parhau i annog ac atgoffa busnesau fferm i gyflwyno'u hawliadau am waith cyfalaf cyn gynted ag y bo modd. Mae cryn dipyn o hawliadau eto i ddod cyn y dyddiad cau ar 28 Chwefror, a hoffwn annog pob busnes fferm i sicrhau bod hawliadau'n cael eu cwblhau a'u cyflwyno cyn y dyddiadau cau. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr. Agorodd ffenestr daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar 1 Rhagfyr a chafodd dros 91% o'r hawliadau eu talu ar y diwrnod cyntaf. Unwaith eto, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi gwneud yn well na'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) a'r gweinyddiaethau eraill, gan dalu canran uwch o hawliadau BPS ar ddiwrnod cyntaf y ffenestr daliadau.   Yn ogystal â gwneud yn well ar daliadau arwynebedd Glastir, rydym yn dal i wneud yn dda wrth dalu BPS. Mae dros 97% o’r hawliadau wedi cael eu talu hyd yma. Mae dros £223 miliwn wedi cael eu talu i mewn i gyfrifon banc dros 15,000 o ffermwyr a busnesau yng Nghymru. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn ceisio talu cynifer o hawliadau ag y bo modd yn ystod ffenestri taliadau'r Comisiwn Ewropeaidd. Wedi dweud hynny, yn unol â rheoliadau'r Comisiwn ar gyfer y cynllun, mae'n ofynnol i’r holl archwiliadau, gan gynnwys sicrhau bod y cofnodion ar gyfer eich tir yn gywir a diweddaru'n system fapio, gael eu cwblhau cyn i unrhyw daliadau gael eu rhyddhau. Yn yr un modd ag yn y blynyddoedd a fu, ni fydd pob busnes fferm wedi cael ei daliad Glastir a BPS ar ddiwrnod cyntaf y ffenestr daliadau. Mae fy swyddogion yn gweithio'n galed i brosesu canfyddiadau'r archwiliadau sydd eto i'w prosesu cyn gynted ag y bo modd ac rwyf yn disgwyl i'r holl hawliadau, ar wahân i'r rhai mwyaf cymhleth, gael eu talu o dan gynllun Glastir a chynllun BPS erbyn diwedd Ebrill 2018\.   Bydd Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2018 ar gael i'w llenwi ar RPW Ar\-lein o 5 Mawrth 2018 ymlaen a bydd yn rhaid ei chyflwyno erbyn 15 Mai 2018\.   Os na fydd busnes fferm wedi cael canfyddiadau archwiliadau 2017 erbyn diwedd mis Chwefror, bydd Taliadau Gwledig Cymru yn ysgrifennu ato i esbonio sut y dylai fynd ati i lenwi Ffurflen y Cais Sengl (SAF) ar gyfer 2018\. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn cynnal gwiriadau cychwynnol eto eleni, i dynnu sylw at unrhyw gamgymeriadau posibl ac i roi cyfle i fusnesau fferm ddiwygio'u datganiad ac osgoi cosbau posibl. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid yn y diwydiant, sydd wedi bod yn cydweithio â fy swyddogion ar y gwaith parhaus i ddatblygu RPW Ar\-lein, ac sydd wedi cyfrannu at y gwelliant wrth wneud taliadau Glastir a BPS ar gyfer 2017\.
https://www.gov.wales/written-statement-glastir-and-basic-payment-scheme-bps-2017-payments
This year marks the start of an ambitious programme of reform to the GMS contract. This has been marked by a new approach managed through the GMS Contract Oversight Group and operated through a tripartite agreement, including representatives from Welsh Government, General Practitioners Committee (GPC) Wales and NHS Wales. The reform programme draws on the recommendations of the recent Parliamentary Review, and aligns with those important drivers in Taking Wales Forward and Prosperity for All. I am pleased to announce that the negotiations for the 2018/2019 General Medical Services (GMS) contract were concluded by the end of February 2018\. The following agreements have been reached for the 2018/2019 contracting year: * An uplift of 1% for pay and a 1\.4% increase for general expenses (excluding indemnity, which is being treated separately). The increase will be applied to global sum and the enhanced service for vaccinations and immunisations. * An uplift for professional indemnity, recognising the specific rises being seen in the indemnity market as a result of the change in discount rates announced by the Lord Chancellor. Coupled with the financial changes, the following activities have also been agreed to improve the provision of General Medical Services for 2018/2019: * Improved baseline provision of Welsh Language * Evaluation of Retainer and Returner schemes * Improved mentoring  and coaching arrangements for GPs * Review recruitment offering to GPs * Workload and system change, improving the interface between primary and secondary care * Agreed direction on improved access to and from services * Exploring removal of indemnity barrier for recently retired GPs * Reduced Quality and Outcomes Framework (QOF) to alleviate workload pressures * Extension of influenza outbreak prescribing Direct Enhanced Service (DES) * Commitment to monitor impact of IT migration, and * Commitment to consider General Data Protection Regulation (GDPR) alongside improved access to data. I would like to take this opportunity to thank all colleagues in NHS Wales and GPC Wales for their ongoing engagement and commitment to this programme of reform. While progress has been made with a number of items, there is still a substantive body of work to undertake for the forthcoming year. Nevertheless, this new approach provides us with the platform to reform the existing contract, tackle issues within the system and take forward those commitments that this Government has set out in Taking Wales Forward and Prosperity for All.
Eleni gwelir dechrau rhaglen uchelgeisiol i ddiwygio contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mae’n dilyn dull newydd sy'n cael ei reoli drwy Grŵp Goruchwylio Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ac sy'n cael ei weithredu drwy gytundeb sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a GIG Cymru. Mae'r rhaglen ddiwygio yn seiliedig ar argymhellion yr Adolygiad Seneddol diweddar, ac mae'n cyd\-fynd â'r ysgogwyr pwysig hynny sydd wedi'u cynnwys yn Symud Cymru Ymlaen ac yn Ffyniant i Bawb. Mae'n bleser gen i gyhoeddi y daeth y trafodaethau ynghylch contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2018/2019 i ben ddiwedd mis Chwefror 2018\. Cytunwyd ar y canlynol ar gyfer blwyddyn gontract 2018/2019: * Ymgodiad o 1% i gyflogau a chynnydd o 1\.4% ar gyfer costau cyffredinol (ac eithrio indemniad, sy'n cael ei drin ar wahân). Bydd y cynnydd yn cael ei gymhwyso i'r swm craidd a'r gwasanaethau ychwanegol ar gyfer brechiadau ac imiwneiddio. * Ymgodiad ar gyfer indemniad proffesiynol, gan gydnabod y cynnydd penodol yn y farchnad indemniad o ganlyniad i'r newid i'r cyfraddau disgownt a gyhoeddwyd gan yr Arglwydd Ganghellor. Ar ben y newidiadau ariannol, cytunwyd ar y gweithgarwch canlynol er mwyn gwella darpariaeth y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2018/2019: * Gwella darpariaeth sylfaenol y Gymraeg * Gwerthuso'r Cynllun Denu a Chadw Meddygon * Gwella'r trefniadau mentora a hyfforddi ar gyfer Meddygon Teulu * Adolygu'r cynnig recriwtio i Feddygon Teulu * Newid y llwyth gwaith a'r systemau, gan wella'r rhyngweithio rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd * Cytuno ar ffordd o fynd ati i wella hygyrchedd gwasanaethau * Edrych ar sut i ddileu'r rhwystr indemniad ar gyfer Meddygon Teulu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar * Llacio'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau er mwyn lleihau'r pwysau o'r llwyth gwaith * Estyn trefniadau Gwasanaethau Ychwanegol dan Gyfarwyddyd ar gyfer presgripsiynu oherwydd achosion o'r ffliw * Ymrwymiad i fonitro effaith symud i systemau TG eraill * Ymrwymiad i ystyried y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ochr yn ochr â mynediad gwell at ddata. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r holl gydweithwyr yn GIG Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru am eu gwaith a'u hymrwymiad parhaus i'r rhaglen ddiwygio hon. Rydym wedi gwneud cynnydd mewn cysylltiad â nifer o eitemau, ond mae corff sylweddol o waith yn parhau i'w wneud ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Fodd bynnag, mae'r dull newydd hwn yn rhoi'r llwyfan inni ddiwygio'r contract presennol, i fynd i'r afael â materion o fewn y system ac i ddatblygu'r ymrwymiadau hynny y mae'r Llywodraeth hon wedi'u hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb.
https://www.gov.wales/written-statement-general-medical-services-gms-contract-reform-20182019
For decades, the management of our land has been shaped by the European Union. This has greatly influenced the structure and performance of our agriculture sector. Brexit brings significant and swift changes. The combination of leaving the Common Agricultural Policy and new trading arrangements mean simply maintaining the status quo is untenable. This matters greatly to Wales. The vast majority of our land is owned and managed by farmers, foresters and environmental bodies. Farming is a vital part of the rural economy. It is the social anchor of communities and land managers are the custodians of the land that underpins our natural environment. The great challenge of Brexit is to ensure its impact does not undermine the true value land management provides to Wales. The great opportunity is to put in place new Welsh policy to help it adjust to future market forces and thrive in a global marketplace. The case for devolution is stronger than ever. The composition of our farming sector is very different to the rest of the UK, particularly to England. Our landscape is more varied, our rural communities are a much greater share of the population and our agriculture is more integrated into the fabric of our culture, especially the Welsh language. We have a once in a generation chance to redesign our policies in a manner consistent with Wales’ unique integrated approach, delivering for our economy, society and natural environment. I am grateful for the help and energy of all Welsh stakeholders who have come together at my Ministerial Brexit Roundtable. Drawing on those discussions, I have composed five core principles for the future of our land and the people who manage it. Firstly, we must keep our land managers on the land. I believe strongly this is what is best for our land, our communities and our rural economy. Secondly, food production remains vital. Food is core to Welsh farming values and is emblematic of our nation. We already have a thriving food and drink industry and this is the time to advance it. Where sustainable and economic production is possible, we will provide targeted support to help our farmers compete in a global marketplace. This will mean a focus on quality, our Welsh brand and considering the whole supply chain. We need not choose between food production and public goods. Whilst food production itself is not a public good, there is no reason why the same farm cannot produce both. We need our system of support to have a foundation that is robust to future changes in the market environment. Therefore, my third principle is our new policy should centre on Welsh land delivering public goods for all the people of Wales. The diversity and richness of the Welsh land means we have no shortage of public goods to provide. Our land is our nation’s biggest asset. It provides clean water, clean air, flood management, habitats for rare species, the list goes on. We must also look beyond the environment, most notably how landscapes underpin our Welsh brand, so vital for food and tourism. Fourth, every land manager must have the opportunity to access support. They must be able to continue to make a living from the land. However, I will be asking land managers to do different things in return for support – there can be no universal, automatic payment. This is vital for putting the industry on a secure footing. Finally, we need to ensure our agricultural sector can be prosperous and resilient in a post\-Brexit future, whatever that may be. Whilst the Basic Payment Scheme provides important support for many of our farmers, it will not help us withstand the changes brought by Brexit. We need to provide support in a different way. These principles will form the basis of future Welsh Government policy. They imply significant change and there must be a well\-planned and multi\-year transition. I am confident our land managers can adapt and it is the role of Government to provide time and support. This is why I have launched a new phase of intensive stakeholder engagement to work collaboratively on the details. Through my Roundtable, I will establish new working groups to consider how best to deliver the principles. These groups will support Welsh Government to bring forward initial proposals for reform by summer recess.  
Ers degawdau, yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi llywio’r ffordd yr ydym yn rheoli’n tir, gan ddylanwadu’n fawr ar strwythur a pherfformiad ein sector amaethyddol. Mae Brexit yn dod â newidiadau sylweddol a chyflym. Mae gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chael trefniadau masnachu newydd yn golygu na wnaiff y status quo mo’r tro. Mae hyn o bwys mawr i Gymru. Ffermwyr, coedwigwyr a chyrff amgylcheddol yw perchenogion a rheolwyr mwyafrif helaeth ein tir. Mae ffermio yn rhan annatod o’n heconomi wledig. Mae’n angor cymdeithasol i gymunedau a rheolwyr tir yw ceidwaid y tir sy’n sail i’n hamgylchedd naturiol. Her fawr Brexit yw sicrhau nad yw ei effaith yn tanseilio’r gwir werth y mae rheoli tir yn ei roi i Gymru. Mae gennym gyfle euraidd i lunio polisi newydd a fydd yn  helpu Cymru i addasu i rymoedd marchnadoedd y dyfodol a ffynnu ym marchnadoedd y byd. Mae’r ddadl dros ddatganoli yn gryfach nag erioed. Mae natur ein sector ffermio yn wahanol iawn i weddill y DU, yn arbennig i Loegr.  Mae’n tirwedd yn fwy amrywiol, mae’n cymunedau gwledig yn gyfran fwy o’n poblogaeth ac mae’n sector amaethyddol yn rhan fwy integredig o’n diwylliant, yn enwedig mewn cysylltiad â’r iaith Gymraeg. Mae gennym gyfle unigryw i ail\-lunio’n polisïau yn unol ag ymagwedd unigryw ac integredig  Cymru, at ein heconomi, cymdeithas a’n hamgylchedd naturiol. Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi dod ynghyd ar gyfer fy Mord Gron Gweinidogol ar Brexit am eu help a’u hegni. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny, rwyf wedi llunio pum egwyddor graidd ar gyfer ein tir a’r bobl sy’n yn ei reoli. Yn gyntaf, rhaid inni gadw’n ffermwyr ar y tir. Credaf yn gryf mai dyma sydd orau i’n tir, ein cymunedau a’n heconomi wledig. Yn ail, mae cynhyrchu bwyd yn aros yn hollbwysig. Bwyd yw craidd gwerthoedd ffermio yng Nghymru ac mae’n un o symbolau’n gwlad. Mae gennym ddiwydiant bwyd a diod ffyniannus eisoes a dyma’r amser i’w hybu. Lle bo modd cynhyrchu’n gynaliadwy ac yn economaidd, byddwn yn rhoi cymorth penodol i helpu’n ffermwyr i gystadlu ym marchnadoedd y byd. Bydd hynny’n golygu canolbwyntio ar ansawdd a brand Cymru, ac ystyried yr holl gadwyn gyflenwi. Nid oes angen inni ddewis rhwng cynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus. Er nad yw cynhyrchu bwyd ei hunan yn nwydd cyhoeddus, nid oes rheswm pam na all yr un fferm gynhyrchu’r ddau beth. Mae angen i sylfeini ein system gymorth fod yn ddigon cryf i wrthsefyll newidiadau mewn marchnadoedd yn y dyfodol.  Felly, fy nhrydedd egwyddor yw y dylai ein polisi newydd sicrhau bod tir Cymru yn darparu nwyddau cyhoeddus i holl bobl Cymru. Mae amrywiaeth a chyfoeth tir Cymru yn golygu nad oes prinder nwyddau cyhoeddus ganddo i’w rhoi. Ein tir yw trysor mwyaf ein gwlad. Mae’n rhoi dŵr glân ac aer glân inni, mae’n rheoli llifogydd, mae’n darparu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau prin. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni ystyried mwy na’r amgylchedd. Yn benodol mae’n rhaid rhoi sylw i sut y mae’n tirwedd yn sail i frand Cymru, sydd mor bwysig ar gyfer y diwydiannau bwyd a thwristiaeth. Yn bedwaredd, mae’n rhaid i bob rheolwr tir allu cael cymorth. Mae’n rhaid iddynt barhau i allu gwneud bywoliaeth ar y tir. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i reolwyr tir wneud pethau gwahanol yn dâl am gymorth \- ni fydd unrhyw fath o daliad awtomatig. Mae hynny’n hanfodol er mwyn sicrhau diwydiant sydd ar sylfaen gadarn. Yn olaf, rhaid inni sicrhau y gall ein sector amaethyddol ffynnu ac aros yn gryf mewn byd ar ôl Brexit, sut bynnag fo hynny. Er bod Cynllun y Taliad Sylfaenol yn rhoi help pwysig i lawer o’n ffermwyr, ni wnaiff eu helpu i wrthsefyll y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit. Mae angen inni ddarparu cymorth mewn ffordd wahanol. Bydd yr egwyddorion hyn yn sail i bolisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Maent yn golygu newid sylweddol ac mae’n rhaid inni gael cyfnod pontio dros nifer o flynyddoedd sydd wedi’i gynllunio’n dda. Rwy’n siŵr y gall ein rheolwyr tir addasu, a swyddogaeth Llywodraeth yw darparu amser a chymorth.   Dyma pam rwyf wedi lansio cyfnod newydd o ymgysylltu dwys â rhanddeiliaid er mwyn inni gydweithio ar y manylion. Drwy fy Mord Gron, byddaf yn sefydlu gweithgorau newydd a fydd yn ystyried sut orau i roi’r egwyddorion ar waith. Bydd y grwpiau hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i lunio cynigion cychwynnol am ddiwygio erbyn toriad yr haf.
https://www.gov.wales/written-statement-future-agriculture-and-land-management
I visited Brittany last week to renew our Memorandum of Understanding with the President of the Regional Council Loïg Chesnais Girard. Wales’ relationship with Brittany is built on long\-standing cultural, linguistic and trading links and the former First Minister first signed a MoU with Brittany in 2004\. The changing political context in Wales, with the UK about to leave the EU, means that it is the right time to re\-commit to our relationship with Brittany. The MoU and Action Plan set out a number of themes which are of common interest to Wales and Brittany.  These include business links, co\-operation on education, marine energy, the environment culture and language. Later this year for example, we will welcome a group of Breton further and higher education leaders to meet their counterparts in Wales with a view to developing an exchange programme for staff and students. Our relationship may be constructed on ancient roots, but it is developing in a way that is absolutely contemporary, with cyber security as one of the areas identified for potential co\-operation. In Rennes, I visited the French Cyber Pole of excellence, an impressive joint initiative between the French Government and the Regional Council which co\-ordinates France’s research, defence, business and training offer. We discussed how the sector in Wales, which is the UK’s biggest cyber cluster, could co\-operate with the Pole and officials will take this forward. I participated in a conference in Brittany about the future of Europe in the light of Brexit, outlining how the Welsh Government is working to protect Wales’ interests. I underlined that while the UK is leaving the European Union, we are committed to maintaining and strengthening our relations with our partner regions and nations across Europe and our membership of European and international networks. I was also able to reassure our Breton friends that Brexit should not disrupt the strong dynamic of collaboration which we have developed over the years and that the Welsh Government is pressing for continued UK participation in European programmes like Erasmus Plus, which have traditionally supported our collaboration.   It was an auspicious moment to renew the MoU as this year Wales will be the country of honour in the Interceltic Festival in Lorient, which attracts over 700,000 participants. During my visit, our cultural connection was celebrated by a concert at the new Congress centre in Rennes where the Breton symphonic orchestra \- whose musical director, Grant Llewellyn, is from Wales \- performed alongside the BBC National Orchestra of Wales Chorus, in a partnership which the orchestras are seeking to develop further.
Bûm ar ymweliad â Llydaw yr wythnos ddiwethaf i adnewyddu ein Memorandwm Cyd\-ddealltwriaeth gyda Llywydd y Cyngor Rhanbarthol, Loïg Chesnais Girard. Mae perthynas Cymru â Llydaw yn seiliedig ar gysylltiadau diwylliannol, ieithyddol a masnachu dros gyfnod maith a llofnodwyd Memorandwm Cyd\-ddealltwriaeth â Llydaw am y tro cyntaf yn 2004 gan y cyn Brif Weinidog. Mae'r cyd\-destun gwleidyddol cyfnewidiol sydd ohoni yng Nghymru oherwydd bod y DU ar fin ymadael â'r UE yn golygu mai dyma'r amser delfrydol i ailymrwymo i'n perthynas â Llydaw. Mae'r Memorandwm a'r Cynllun Gweithredu yn amlinellu nifer o themâu sydd o fudd cyffredin i Gymru a Llydaw. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau busnes, cydweithredu ar addysg, ynni'r môr, yr amgylchedd, diwylliant ac iaith. Yn ddiweddarach eleni er enghraifft, byddwn yn croesawu grŵp o arweinwyr addysg bellach ac uwch o Lydaw i gyfarfod â'r staff cyfatebol yng Nghymru gyda'r bwriad o ddatblygu rhaglen gyfnewid i staff a myfyrwyr. Mae ein perthynas yn seiliedig ar wreiddiau hanesyddol, ond mae'n datblygu mewn ffordd sy'n gwbl gyfoes, gyda seiberddiogelwch yn un o'r meysydd a nodwyd ar gyfer y posibilrwydd o gydweithio. Yn Roazhon (Rennes), ymwelais â'r Ganolfan Ragoriaeth Seiber \- menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Ffrainc a'r Cyngor Rhanbarthol sy'n cydlynu cynnig ymchwil, amddiffyn, busnes a hyfforddiant Ffrainc. Trafodwyd sut y gallai'r sector yng Nghymru, sef clwstwr seiber mwyaf y DU, gydweithio â'r Ganolfan Ragoriaeth a bydd swyddogion yn mynd i'r afael â hyn. Bûm mewn cynhadledd yn Llydaw a oedd yn trafod dyfodol Ewrop yn sgil Brexit, gan amlinellu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu buddion Cymru. Pwysleisiais er bod y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ein bod ni wedi ymrwymo i gynnal a chryfhau ein perthynas â'n rhanbarthau a'n gwledydd partner yn Ewrop, yn ogystal â'n haelodaeth o rwydweithiau Ewropeaidd a rhyngwladol. Cefais hefyd y cyfle i sicrhau ein ffrindiau yn Llydaw na ddylai Brexit effeithio ar y cydweithio cryf sydd wedi datblygu rhyngom dros y blynyddoedd, a bod Llywodraeth Cymru yn pwyso am i'r DU barhau i fod yn rhan o raglenni Ewropeaidd megis Erasmus\+, sydd fel arfer yn cefnogi ein cydweithrediad. Roedd adnewyddu'r Memorandwm yn gam pwysig gan mai Cymru fydd y wlad anrhydeddus eleni yng  Ngŵyl Ryng\-Geltaidd Lorient sy'n denu dros 700,000 o bobl. Yn ystod fy ymweliad, dathlwyd ein cysylltiad diwylliannol gyda chyngerdd yng nghanolfan newydd y Gyngres yn Roazhon lle'r oedd cerddorfa symffonig Llydaw – gyda’r Cymro, Grant Llewellyn, fel cyfarwyddwr cerddorol – yn perfformio ochr yn ochr â Chorws Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sy’n bartneriaeth y mae'r cerddorfeydd yn awyddus i'w datblygu ymhellach.
https://www.gov.wales/written-statement-fm-visit-brittany-10-12-january-2018
In April the First Minister announced his intention to take steps to establish a Fair Work Commission; a small independent panel of experts to take forward the initial work of the Fair Work Board which was to scope the available evidence and key practices impacting on Fair Work. As chair of the Fair Work Board I am very grateful to the Board, whose members were drawn from the tripartite Social Partner Strategy Group: the Wales TUC, the CBI and the FSB and included Cerys Furlong, Chief Executive of Chwarae Teg for their initial contributions. The Fair Work Board provided me with a forum for early dialogue on the development of Fair Work. It made good initial progress in identifying the evidence gaps and the levers currently available to Welsh Government to promote and drive Fair Work across Wales and was a source of good advice in helping to test our initial thinking. As the Minister responsible for Fair Work I am very pleased to announce that the Fair Work Commission, a Welsh Government Ministerial body, will be chaired by **Professor Linda Dickens MBE**, Emeritus Professor of Industrial Relations at the University of Warwick. A senior academic with an excellent national and international reputation in the field of employment relations, Linda has a demonstrable track record in the practical application of her knowledge and expertise across the public and private sectors, including through a number of public appointments. An experienced labour disputes arbitrator, mediator and inquiry chair, Linda was until recently a Deputy Chair of the Central Arbitration Committee and served on the Council of ACAS. Her current appointments include non\-Executive Board Member of the Gangmasters and Labour Abuse Authority. Linda will be joined by: **Sharanne Basham\-Pyke**, Director of Shad Consultancy Ltd providing professional business advice and change management to the private, public and third sectors. She also is CEO of Talkflow a start\-up software business and has a portfolio career as a Business Angel to a number of small businesses with a common theme – the desire to grow. Sharanne’s background is the corporate world, joining BT in 1999 from a background in management consultancy. **Edmund Heery**, originally from Liverpool was educated at the universities of Cambridge and Essex and the London School of Economics. Since 1996 he has been Professor of Employment Relations at Cardiff Business School. Professor Heery is an expert on work and employment in the UK and has published research on trade unions, employers’ organizations and the role of civil society in promoting fairness of work. His most recent research has examined the UK’s voluntary Living Wage, including its adoption within Wales. **Sarah Veale CBE** retired as Head of Equality and Employment Rights at the TUC in 2015\. At the TUC Sarah was responsible for the organisation’s work on equality and trade union and employment rights. Until January 2017 she was a Board member at the Equality and Human Rights Commission. She is a member of the Regulatory Policy Committee, which provides independent assessment of Government regulatory and de\-regulatory proposals. Sarah is a non\-Executive Director of the United Kingdom Accreditation Service. She is a visiting fellow at the Greenwich University Business School and a Vice Chair of the Equality and Diversity Forum. Sarah is a Vice President of the Chartered Institute of Environmental Health. In the past Sarah was a member of the ACAS Council and the HSE Board. Sarah was awarded the CBE in 2006 for services to diversity. In 2012 Sarah was awarded an Honorary Doctorate in Laws by Oxford Brookes University. The Commission will be supported by Professor Alan Felstead as the Commission’s Independent Expert Adviser. Professor Felstead is Research Professor at the School of Social Sciences, Cardiff University. His research focuses on skills, training and various aspects of job quality. He has generated research income of £7\.3 million and has produced over 200 publications. Based on research evidence he has given independent expert advice to government departments such as the Department for Business, Energy and Industrial Strategy and agencies such as the UK Commission for Employment and Skills, the Government Office for Science, and the Office for National Statistics. The Terms of Reference of the Commission are: > “On the basis of evidence and analysis the Commission is to make recommendations to promote and encourage fair work in Wales. > > > The Commission will develop indicators and measures of fair work and Identify data sources to help monitor progress. It will consider whether measures to promote fair work currently available to the Welsh government could be taken further and identify what new or additional steps might be taken, including new legislation, and make recommendations. > > > The Commission is to start work in July 2018 and report by March 2019\.” This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i gymryd camau i sefydlu Comisiwn Gwaith Teg; panel bach annibynnol o arbenigwyr i ddatblygu'r gwaith cychwynnol ar gyfer y Bwrdd Gwaith Teg oedd i gwmpasu'r dystiolaeth a'r arferion allweddol oedd ar gael oedd yn cael effaith ar Waith Teg. Fel cadeirydd y Bwrdd Gwaith Teg rwy'n ddiolchgar iawn i'r Bwrdd, sy'n cynnwys aelodau y Social Partner Strategy Group, sy'n cynnwys tri sefydliad: TUC Cymru, y CBI a'r FSB gan gynnwys Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg, am eu cyfraniadau cychwynnol. Rhoddodd y Bwrdd Gwaith Teg fforwm imi ar gyfer trafodaethau cynnar ar ddatblygu Gwaith Teg. Gwnaeth gynnydd da ar y dechrau wrth nodi'r bylchau yn y dystiolaeth a'r dulliau sydd ar gael ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a sbarduno gwaith teg ledled Cymru, ac roedd yn ffynhonnell cyngor da wrth helpu i brofi ein syniadau cychwynnol. Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am Waith Teg, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y Comisiwn Gwaith Teg, corff Gweinidogol Llywodraeth Cymru, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Linda Dickens MBE, Athro Emeritws Cysylltiadau Diwydiannol ym Mhrifysgol Warwick. Yn academydd uwch gydag enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ym maes cysylltiadau cyflogaeth, mae gan Linda hanes amlwg o ddefnyddio ei gwybodaeth a'i harbenigedd yn ymarferol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys drwy nifer o benodiadau cyhoeddus. Yn gymrodeddwr profiadol ym maes anghydfodau llafur, yn gyfryngwr a chadeirydd ymchwiliadau, roedd Linda tan yn ddiweddar yn Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Cymrodeddu Canolog, ac wedi gwasanaethu ar Gyngor ACAS. Mae ei phenodiadau presennol yn cynnwys Aelod Anweithredol yr Awdurdod Meistri Gangiau a Chamddefnyddio Llafur. Gyda Linda bydd: Sharanne Basham\-Pyke, Cyfarwyddwr Shad Consultancy Ltd sy'n rhoi cyngor busnes proffesiynol ac yn rheoli newid yn y sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol Talkflow, busnes meddalwedd newydd ac mae ganddi yrfa portffolio fel Angel Fusnes i nifer o fusnesau bychain gyda thema gyffredin \- yr awydd i ddatblygu. Mae cefndir Sharanne yn y maes corfforaethol, gan ymuno â BT yn 1999 o gefndir ym maes rheoli ymgynghoriadau. Edmund Heery, yn wreiddiol o Lerpwl, cafodd ei addysgu ym Mhrifysgolion Caergrawnt ac Essex a'r London School of Economics. Ers 1996 bu yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae yr Athro Heery yn arbenigwr ar waith a chyflogaeth yn y DU ac mae wedi cyhoeddi gwaith ymchwil ar undebau llafur, sefydliadau cyflogwyr a swyddogaeth cymdeithas sifil wrth hyrwyddo tegwch yn y gwaith. Mae ei waith ymchwil diweddaraf wedi edrych ar y Cyflog Byw gwirfoddol yn y DU, gan gynnwys ei fabwysiadu yng Nghymru. Sarah Veale CBE wedi ymddeol fel Pennaeth Hawliau Cydraddoldeb a Chyflogaeth yn y TUC yn 2015\. Yn y TUC roedd Sarah yn gyfrifol am waith y sefydliad ar gydraddoldeb ac undebau llafur a hawliau  cyflogaeth. Tan Ionawr 2017 roedd yn aelod Bwrdd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae'n aelod o'r Pwyllgor Polisi Rheoleiddio, sy'n cynnig asesiadau annibynnol o gynigion rheoleiddiol a di\-reoleiddiol y Llywodraeth.  Mae Sarah yn Gyfarwyddwr anweithredol Gwasanaeth Achredu y Deyrnas Unedig. Mae'n gymrodor ar ymweliad ag Ysgol Fusnes Prifysgol Greenwich ac yn Is\-gadeirydd y Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae Sarah yn Is\-lywydd y Sefydliad Siartedig Iechyd Amgylcheddol. Yn y gorffennol roedd Sarah yn aelod o Gyngor ACAS a Bwrdd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Derbyniodd Sarah CBE yn 2006 am ei gwasanaethau i amrywiaeth. Yn 2012 derbyniodd Sarah Ddoethuriaeth Anrhydeddus mewn Cyfreithiau ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Caiff y Comisiwn gefnogaeth yr Athro Alan Felstead fel Cynghorydd Arbenigol y Comisiwn. Mae yr Athro Felstead yn Athro Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar sgiliau, hyfforddiant ac amrywiol agweddau ar ansawdd swyddi. Mae wedi cynhyrchu incwm ymchwil o £7\.3 miliwn ac wedi cynhyrchu dros 200 o gyhoeddiadau. Yn seiliedig ar y dystiolaeth ymchwil, mae wedi rhoi cyngor arbenigol annibynnol i adrannau'r llywodraeth fel yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaethau Diwydiannol ac asiantaethau megis Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgilau, Swyddfa'r Llywodraeth dros Wyddoniaeth a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cylch Gorchwyl y Comisiwn yw: > "Ar sail tystiolaeth a dadansoddiad mae'r Comisiwn i wneud argymhellion i hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru. > > Bydd y Comisiwn yn datblygu dangosyddion a mesurau gwaith teg a nodi ffynonellau data i helpu i fonitro cynnydd. Bydd yn ystyried a ellid datblygu ymhellach y mesurau i hyrwyddo gwaith teg sydd ar gael ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, a nodi pa gamau newydd neu ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys deddfwriaeth newydd, a gwneud argymhellion. > > Mae'r Comisiwn i ddechrau gwaith fis Gorffennaf 2018 ac i adrodd yn ôl erbyn Mawrth 2019\." Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-establishment-fair-work-commission
I am pleased to announce that the Welsh Government will introduce a state backed scheme to provide clinical negligence indemnity for providers of GP services in Wales. The scheme, which is planned to come into force from April 2019, will cover all contracted GPs and other health professionals working in NHS general practice. The scheme, which will be aligned as far as possible to the state backed scheme announced for GPs in England, will ensure that GPs in Wales are not at a disadvantage relative to GPs in England. It will also help to ensure that GP recruitment and cross border activity will not be adversely affected by different schemes operating in England and Wales. The announcement of a state backed scheme for providers of GP services in Wales will help address the concerns of GPs about the affordability of professional indemnity premiums and its potential impact on services and wider GP recruitment and retention.  It is estimated that indemnity premiums have increased by 7% per year on average between 2013 and 2017\.   Among the factors driving the increasing cost of indemnity is an ageing population; technological innovation in medicine which keeps people alive longer; an increase in people living with complex conditions and an increasing claims culture. The Welsh Government made a commitment, as part of the changes to the GMS contract for 2017/18, to develop a solution to address this issue. We will continue to work with GPC Wales to do just that. In addition, through the General Medical Services Contract, Welsh Government has contributed towards the increasing costs of GP professional indemnity since 2017/18 through the annual uplift to GP pay and expenses.   The scheme will deliver a sustainable, longer term, solution to address the increasing costs of GP professional indemnity.       The state backed scheme will indemnify individuals against claims arising from clinical negligence for NHS work, but will not cover private work, complaints, involvement in coroners’ cases, GMC hearings and other matters relating to professional regulation.  GPs will be expected to take out indemnity insurance to cover private work and the other aspects not covered by the state.   The scheme will cover the activity of all contractors who provide primary medical services in the delivery of general medical services. This will include clinical negligence liabilities arising from the activities of GP practice staff and other medical professionals working for the GP practice in the provision of these contracted services.   Over the coming months, Welsh Government officials will make further progress with GPC Wales, Medical Defence Organisations and the Welsh Risk Pool over the way in which the scheme will operate. I will provide a further Written Statement in due course.    
Rwy'n falch iawn o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth i ddarparu indemniad rhag esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau meddyg teulu yng Nghymru. Bydd y cynllun, sy'n dod i rym ym mis Ebrill 2019, yn cynnwys yr holl ymarferwyr cyffredinol sydd wedi'u contractio ynghyd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes ymarfer meddygol yn y GIG. Bydd y cynllun mor debyg â phosib i'r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth a gyhoeddwyd yn Lloegr, er mwyn sicrhau nad yw meddygon teulu Cymru dan anfantais o gymharu â rhai Lloegr. Bydd hynny hefyd yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw effaith negyddol ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio yn sgil gwahanol gynlluniau yn gweithredu yn y ddwy wlad. Mae cyhoeddi cynllun o’r fath yn mynd i helpu i roi sylw i bryderon meddygon teulu am fforddiadwyedd premiymau indemniad proffesiynol a'r effaith bosib ar wasanaethau a materion ehangach fel recriwtio a chadw meddygon. Amcangyfrifir bod premiymau indemniad wedi codi 7% y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2013 a 2017\.Ymysg y ffactorau sy'n arwain at godi costau indemniad mae poblogaeth sy'n heneiddio; arloesi technolegol mewn meddyginiaeth sy'n cadw pobl yn fyw am gyfnod hwy; cynnydd yn nifer y bobl sy'n byw â chyflyrau cymhleth a diwylliant o hawlio iawndal. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r newidiadau i'r contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn 2017/18, i ddatblygu ateb i'r mater hwn. Byddwn yn parhau i weithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru i wneud hynny. Ar ben hynny, drwy'r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu tuag at gostau cynyddol indemniad proffesiynol meddygon teulu ers 2017/18 drwy'r ymgodiad blynyddol i'w tâl a'u costau.   Bydd y cynllun yn cynnig ateb cynaliadwy, hirdymor i gostau cynyddol indemniad proffesiynol meddygon teulu.       Bydd y cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn cynnig indemniad i unigolion rhag hawliadau esgeuluster clinigol yn codi o waith y GIG, ond ni fydd yn cynnwys gwaith preifat, cwynion, cyfranogaeth yn achosion y crwner, gwrandawiadau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol na materion eraill yn ymwneud â rheoleiddio proffesiynol.  Disgwylir i feddygon teulu gymryd yswiriant indemniad ar gyfer gwaith preifat ac agweddau eraill tu hwnt i'r hyn sy'n cael sylw gan y wladwriaeth.   Bydd y cynllun yn cynnwys gweithgarwch yr holl gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol wrth gynnig gwasanaethau meddygol cyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwyddau esgeuluster clinigol sy'n codi o weithgarwch staff practis meddyg teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill sy'n gweithio i'r practis wrth ddarparu'r gwasanaethau wedi'u contractio.   Dros y misoedd nesaf, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio ymhellach gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Sefydliadau Amddiffyn Meddygol a Chronfa Risg Cymru ynghylch gweithrediad y cynllun. Byddaf yn darparu Datganiad Ysgrifenedig pellach maes o law.
https://www.gov.wales/written-statement-gp-professional-indemnity
I am making this written statement as the House of Commons begins the Report stage of the EU (Withdrawal) Bill. The Bill as it currently stands represents a fundamental assault on devolution. It would replace current constraints on the National Assembly’s legislative competence, which will fall away as a consequence of the UK leaving the European Union, with a new set of constraints in devolved competences that would be controlled by the UK Government. We have consistently said there is no prospect of the Welsh Government recommending consent to the EU Withdrawal Bill as it is currently drafted. The Welsh Government agrees with the overall aim of the EU Withdrawal Bill which is to transfer EU law into domestic legislation from the date of our departure from the EU.  We have sought to work constructively with the UK Government to amend the EU Withdrawal Bill to ensure that it will be a success. It is a matter of considerable regret that the Government has not, despite the undertaking of the Secretary of State for Scotland, introduced any amendment to Clause 11 which, as it stands, is wholly unacceptable to us. We published a series of amendments jointly with the Scottish Government, which, had they been accepted by the UK Government during the Bill’s amending stages in the House of Commons, would have allowed us to recommend the National Assembly consents to the Bill. We continue to discuss with the UK Government the ways in which the Bill might be amended as it continues its passage through the Houses of Parliament – particularly in respect of clause 11 – to make sure that it is both fit for purpose as the UK prepares to leave the European Union and respects devolution in Wales, Scotland and Northern Ireland. This strategy, together with the legislative consent motion, which the National Assembly will vote on later this year, remains our preferred course of action for making the EU Withdrawal Bill fit for purpose and protecting Wales’ devolution settlement. However, over the course of the last eight months, the Welsh Government has been developing a Continuity Bill, which can be deployed if it becomes clear that it will not be possible to amend the EU Withdrawal Bill to ensure it properly reflects the devolution settlement. Should discussions we are having with the UK Government not result in the necessary amendments to the EU Withdrawal Bill coming forward, it is my intention to submit our Continuity Bill to the Presiding Officer, before the end of this month, for her determination.
Rwy'n gwneud y datganiad ysgrifenedig hwn wrth i Dŷ'r Cyffredin ddechrau ar Gyfnod Adrodd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Mae'r Bil fel y mae ar hyn o bryd yn ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Byddai'n golygu bod y cyfyngiadau presennol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn syrthio o'r neilltu wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn cael eu disodli â chyfres newydd o gyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol a fyddai'n cael eu rheoli gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydym wedi dweud yn gyson nad oes unrhyw obaith y bydd Llywodraeth Cymru yn argymell cydsynio â'r Bil hwn fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â nod cyffredinol y Bil Ymadael, sef trosglwyddo cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i ddeddfwriaeth ddomestig o'r dyddiad y byddwn yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi ceisio gweithio mewn ffordd adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r Bil er mwyn sicrhau ei lwyddiant. Rydym yn gresynu nad yw'r Llywodraeth, er gwaethaf ymrwymiad Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, wedi cyflwyno unrhyw welliant i Gymal 11 sydd, fel y mae ar hyn o bryd, yn gwbl annerbyniol i ni. Fe gyhoeddom gyfres o welliannau ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, a phe bai rheiny wedi'u derbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnodau diwygio'r Bil yn Nhŷ'r Cyffredin, byddai hynny wedi caniatáu i ni argymell y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gydsynio i'r Bil. Byddwn yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch ffyrdd y gellid diwygio'r Bil wrth iddo barhau ar ei daith drwy Ddau Dŷ'r Senedd \- yn arbennig o ran Cymal 11 \- er mwyn sicrhau ei fod yn ateb y diben wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a pharchu datganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Y strategaeth hon, ynghyd â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio arno yn ddiweddarach eleni, yw'r drefn yr ydym yn ei ffafrio o hyd ar gyfer sicrhau bod Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn addas i'r diben ac amddiffyn setliad datganoli Cymru. Fodd bynnag, dros yr wyth mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu Bil Parhad y gellir ei ddefnyddio os daw yn glir na fydd yn bosib diwygio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r setliad datganoli yn gywir. Os na fydd ein trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at y gwelliannau angenrheidiol i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), rwy’n bwriadu cyflwyno ein Bil Parhad i'r Llywydd cyn diwedd y mis hwn, er mwyn iddi wneud penderfyniad yn ei gylch.
https://www.gov.wales/written-statement-eu-withdrawal-bill
The Welsh Government is fundamentally committed to ensuring public services deliver the highest standards to the people of Wales. As we move towards leaving the European Union public bodies will need to think carefully about how they respond to emerging changes and continue to deliver vital services to our communities.   To support this, the Welsh Government’s £50million European Transition Fund (ETF) was announced in January to help organisations across Wales prepare for the impact of leaving the European Union.   Today I am announcing the success of the Welsh Local Government Association’s (WLGA) bid for funding under the ETF totalling £150k. This money will support the WLGA in delivering a European Transition support package to all 22 local authorities across Wales, helping them to build resilience and take a focused approach towards leaving the European Union.
Mae Llywodraeth Cymru yn hollol ymrwymedig i sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir i bobl Cymru yn bodloni'r safonau uchaf. Wrth inni symud tuag at ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, bydd angen i gyrff cyhoeddus feddwl yn ofalus ynghylch sut y gallant ymateb i'r newidiadau a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer ein cymunedau.  Er mwyn eu helpu i wneud hynny, ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi sefydlu Cronfa Pontio Ewropeaidd werth £50 miliwn, i helpu sefydliadau ledled Cymru i ymbaratoi ar gyfer effeithiau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.   Heddiw, rwy'n cyhoeddi bod cais Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gyllid gan y Gronfa hon wedi llwyddo a bod £150k wedi ei ddyrannu iddi. Bydd y cyllid hwn yn helpu'r Gymdeithas i ddarparu pecyn cymorth Pontio Ewropeaidd ar gyfer pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, gan eu helpu i fagu gwytnwch a gweithredu mewn modd sy'n canolbwyntio'n gryf ar yr hyn y mae angen ei wneud wrth inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
https://www.gov.wales/written-statement-european-transition-fund-welsh-local-government-association-wlga-european
  The Betsi Cadwaladr University Health Board (BCUHB), supported by the Welsh Renal Clinical Network (WRCN) is engaged in a competitive tender process with service providers for chronic haemodialysis (dialysis) services. The subject has become a point of focus in recent plenary business so I wish to set out Welsh Government’s well established policy position to all Assembly Members. No decision has yet been made as dialogue is still ongoing.   BCUHB worked with WRCN to engage patient representatives, trade unions and staff representatives from the outset in review of dialysis services. This included face to face meetings with satellite renal units. Difficulties were encountered early on in ensuring that staff representatives could attend meetings. Engagement was later strengthened, including representation from UNISON and the Royal College of Nursing (RCN) on the BCUHB tender Programme Board and Evaluation Panel. This ensured that staff representatives were engaged in looking at the various options along with service users.   It is widely recognised that Wales leads the UK in terms of access to high quality and sustainable dialysis facilities. The inclusion of a specific and measurable standard in the 2007 Renal National Service Framework (now the Renal Delivery Plan) enabled bespoke modelling of population need, in collaboration with Welsh Government, and the planning of the appropriate sites and sizes of dialysis units across Wales. A consistent approach to the commissioning of these services since 2004 has facilitated the proportion of the Welsh population that live within a 30 minute drive time of a dialysis unit to improve from 75% to over 90%. This success is as a result of the collaborative arrangements between NHS and independent service providers (ISPs) for the provision of NHS care. Wales has a long history of contracting with ISPs for renal services, the first contracts awarded over 20 years ago. These arrangements have never led to a requirement for NHS staff to transfer to an independent provider of renal dialysis services. The current tendering process in north Wales is the responsibility of BCUHB, with the support of WRCN. It is similar to processes that have taken place over many years in mid and south Wales. Since the recent conclusion of the 2016 South East Wales expansion contract, patients now experience facilities offering the best available equipment, greatly improved nursing to patient ratios and new comfortable environments for treatment. The expansion and improvement of NHS renal services in Wales has been a success for staff and patients and provided excellent value for money. Welsh Government’s long established policy position is we will not support the transfer of staff between the NHS and independent renal services providers.        
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chymorth Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru, yn cynnal proses dendro gystadleuol i ddarparwyr gwasanaethau haemodialysis cronig (dialysis).  Cafodd y pwnc hwn ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar, ac felly rwyf am eglur wrth holl Aelodau'r Cynulliad beth yw safbwynt polisi hirsefydlog Llywodraeth Cymru ar hyn. Ni wnaed unrhyw benderfyniad hyd yn hyn, gan fod y trafodaethau yn parhau i fynd rhagddynt.   O'r cychwyn cyntaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio gyda Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru i ymgysylltu â chynrychiolwyr cleifion, undebau llafur a chynrychiolwyr staff wrth adolygu'r gwasanaethau dialysis. Roedd hyn yn cynnwys cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda'r unedau arennol ategol sydd ar waith mewn gwahanol fannau. Cododd anawsterau'n gynnar yn y broses hon wrth geisio sicrhau bod cynrychiolwyr staff yn gallu mynychu cyfarfodydd. Cryfhawyd y broses ymgysylltu yn nes ymlaen, gan gynnwys drwy gael cynrychiolwyr o UNSAIN a'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar Fwrdd y Rhaglen a Phanel Gwerthuso'r broses dendro sydd o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd hynny'n creu'r cyfle i gynrychiolwyr staff a defnyddwyr y gwasanaethau, gyfrannu at y gwaith o edrych ar wahanol opsiynau.   Cydnabyddir yn helaeth bod Cymru yn arwain y DU o ran sicrhau mynediad at gyfleusterau dialysis cynaliadwy o ansawdd da. Roedd cynnwys safon benodol a mesuradwy yn Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol 2007 ar gyfer Gwasanaethau Arennol (bellach y Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau Arennol) yn golygu ei bod yn bosibl modelu'r ddarpariaeth yn seiliedig ar anghenion poblogaeth, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a chynllunio safleoedd addas ac unedau dialysis o feintiau priodol ar draws Cymru. Drwy ddefnyddio dull gweithredu cyson ar gyfer comisiynu'r gwasanaethau hyn ers 2004, bu'n bosibl cynyddu canran y boblogaeth yng Nghymru sy'n byw o fewn amser gyrru 30 munud i gyrraedd uned ddialysis, o 75% i dros 90%.     Daw’r llwyddiant hwn yn sgil y trefniadau cydweithredu ar gyfer darparu gofal y GIG, sydd wedi bod ar waith rhwng y GIG a darparwyr gwasanaethau annibynnol. Mae gan Gymru hanes hir o sefydlu contractau â darparwyr gwasanaethau annibynnol ar gyfer gwasanaethau arennol,  gan i’r contractau cyntaf gael eu dyfarnu dros 20 mlynedd yn ôl. Nid yw’r trefniadau hyn erioed wedi golygu bod gofyn i staff y GIG drosglwyddo at ddarparwr annibynnol o wasanaethau dialysis arennol.   Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chymorth Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru, sy'n gyfrifol am y broses dendro bresennol a gynhelir yn y Gogledd. Mae hon yn debyg i brosesau sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd yn y Canolbarth a'r De. Ers cwblhau contract ehangu 2016 y De\-ddwyrain, mae'r cleifion yno bellach yn cael manteisio ar gyfleusterau sy'n defnyddio'r offer gorau sydd ar gael; gwell gymarebau staff nyrsio i gleifion; ac amgylcheddau cyfforddus newydd ar gyfer cael eu triniaeth. Mae'r gwaith o ehangu a gwella gwasanaethau arennol y GIG yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant i staff a chleifion fel ei gilydd ac wedi rhoi gwerth ardderchog am arian. Safbwynt polisi hirsefydlog Llywodraeth Cymru yw na fyddwn yn cefnogi trosglwyddo staff, gan gynnwys o’r GIG, at ddarparwr annibynnol o wasanaethau arennol.
https://www.gov.wales/written-statement-expanding-provision-chronic-haemodialysis-dialysis-services-north-wales
On the 31 July I informed you of the appointment of the Fair Work Commission, Chaired by Professor Linda Dickens.   The Terms of Reference of the Commission are: “On the basis of evidence and analysis the Commission is to make recommendations to promote and encourage fair work in Wales.   The Commission will develop indicators and measures of fair work and Identify data sources to help monitor progress. It will consider whether measures to promote fair work currently available to the Welsh government could be taken further and identify what new or additional steps might be taken, including new legislation, and make recommendations. This statement is to draw your attention to the Fair Work Commission’s call for evidence which was launched on the 12 October.  The call is being made via the Fair Work Commission website at  https://beta.gov.wales/fair\-work\-commission\-call\-evidence and will be open until 19 November 2018\.   The call for evidence is aimed at a wide range of organisations and individuals across the public, private and third sectors.  The Commission wishes to tap into a wide range of experience, views and research relevant to the Fair Work Commission’s terms of reference.  It is not a consultation on developed proposals but rather an early stage request for input to help the Commission formulate its proposals and shape the recommendations it will make to Welsh Ministers. The Commission will also be writing to Assembly Committee Chairs as part of the call for evidence.  
Gwnes eich hysbysu ym mis Gorffennaf ynghylch penodi'r Comisiwn Gwaith Teg a fydd yn cael ei gadeirio gan yr Athro Linda Dickens. Cylch Gorchwyl y Comisiwn yw: "Ar sail tystiolaeth a dadansoddiad mae'r Comisiwn i wneud argymhellion i hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru. Bydd y Comisiwn yn datblygu dangosyddion a mesurau gwaith teg a nodi ffynonellau data i helpu i fonitro cynnydd. Bydd yn ystyried a ellid datblygu’r ffyrdd o fesur sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd er mwyn hyrwyddo gwaith teg, yn nodi pa gamau newydd neu ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys deddfwriaeth newydd, ac yn cyflwyno argymhellion. Diben y datganiad hwn yw tynnu eich sylw at gais y Comisiwn Gwaith Teg am dystiolaeth a lansiwyd ar 12 Hydref. Lansiodd y Comisiwn ei Gais am Dystiolaeth ar 12 Hydref ar ei wefan  https://beta.llyw.cymru/comisiwn\-gwaith\-teg a bydd modd cyflwyno tystiolaeth tan 19 Tachwedd 2018\.   Mae'r Cais am Dystiolaeth yn cael ei anelu at amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.  Mae'r Comisiwn yn dymuno elwa ar ystod eang o brofiad, safbwyntiau ac ymchwil sy'n berthnasol i gylch gorchwyl y Comisiwn Gwaith Teg.  Nid ymgynghoriad am gynigion sydd wedi cael eu datblygu eisoes mohono ond yn hytrach gais yn gynnar yn y broses i helpu'r Comisiwn i baratoi ei gynigion ac i lunio'r argymhellion a fydd yn eu cyflwyno i'r Gweinidogion. Bydd y Comisiwn hefyd yn ysgrifennu at Gadeiryddion Pwyllgorau'r Cynulliad fel rhan o'r cais am dystiolaeth.
https://www.gov.wales/written-statement-fair-work-commission-call-evidence
On 6 November 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: Findings of the Independent Accelerated Programme for Amber Review (external link).
Ar 6 Tachwedd 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Canfyddiadau'r Rhaglen Garlam Annibynnol i Adolygu Galwadau Oren (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-findings-independent-accelerated-programme-amber-review
I would like to update Members on the recent outbreaks of grass fires in Wales. Extended spells of hot and dry weather always increase the risk of fire, especially in areas of uncultivated grassland, moorland and forestry. Recent days have been no exception, with significant incidents from Anglesey to the Rhondda requiring a prolonged firefighting response. There have been many more small fires which have been quickly and easily dealt with. Most of these fires appear to have been started deliberately. I am sure Members will join me in condemning this behaviour in the strongest possible terms. Grass fires devastate the environment, kill wildlife and livestock, threaten homes and businesses and put the lives of firefighters and others at risk. Starting them deliberately is not funny or clever – it is dangerous and idiotic. Those caught doing so face prosecution for the very serious offence of arson. They can expect a substantial fine or time in prison, and a criminal record for the rest of their lives. It is clearly far better to prevent such fires than to fight them. That has been our focus since Easter 2015, when we saw almost 1,500 grass fires in a month. The Fire Service has worked intensively with the police, local authorities, schools, farmers and others to divert and deter people from fire\-setting, and to develop other ways of reducing risk such as better land management. That has unquestionably worked. The number of grass fires fell by almost half in the first year of this programme – and, despite recent outbreaks, this year could well still see the lowest number of grass fires on record. But we can never eliminate the problem altogether. Grass fires are too easy to start, especially in weather like this. So we have also supported the Fire Service to invest in the specialist equipment and training firefighters need to tackle grass fires swiftly and effectively. In particular, South Wales FRS – which faces by far the greatest risk – is one of the best\-equipped brigades in the UK, with an expertise that is recognised internationally. Its crews were among the first to be deployed to help Greater Manchester FRS to tackle the Saddleworth Moor fire, without compromising the Service’s ability to respond to incidents closer to home. Despite all that, fighting grass fires remains challenging and dangerous. Sometimes, the safest and most effective way of tackling such a fire is to contain it and allow it to burn out. To those in the vicinity this might seem like slow progress. They should be assured that any fire which threatens life or property will receive a more aggressive response, and that protecting public safety is the Fire Service’s top priority at all times. It is also important to remember that most of our firefighters are not full\-time, and in rural areas none of them are. They are called in from their homes or workplaces as they are needed, and at times like these the demands on them can be severe. So can the demands on their employers, who can experience significant disruption to their businesses when on\-call firefighters among their staff are called upon. I would like to thank them for their support in keeping our communities safe. The forecast indicates little change in the weather for the next 7 to 10 days, which means the risk of grass fires remains high. We are keeping the situation under constant review, but, I am confident that our fire services have all they need to manage this risk effectively.
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr achosion diweddar o danau glaswellt yng Nghymru. Mae cyfnodau estynedig o dywydd poeth a sych wastad yn cynyddu’r perygl o danau, yn enwedig mewn ardaloedd o laswelltir heb ei drin, gweundiroedd a choedwigoedd. Cafwyd cyfnod o’r fath yn ystod y dyddiau diweddar, gyda thanau difrifol mewn mannau gan gynnwys Ynys Môn a’r Rhondda, a bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân dreulio amser maith yn ymateb iddynt. Bu nifer o danau llai o faint hefyd a ddiffoddwyd yn gyflym ac yn rhwydd. Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r tanau hyn wedi eu cynnau yn fwriadol. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau yn ymuno â mi wrth gondemnio’r ymddygiad hwn yn llwyr. Mae tanau glaswellt yn diffeithio’r amgylchedd, yn lladd bywyd gwyllt a da byw, yn peryglu cartrefi a busnesau ac yn peryglu bywydau diffoddwyr tân a phobl eraill. Nid yw cynnau tanau yn fwriadol yn rhywbeth doniol neu glyfar – mae’n beryglus ac yn dwp. Bydd pobl a gaiff eu dal yn gwneud hynny yn cael eu herlyn am y drosedd ddifrifol iawn o gynnau tanau bwriadol. Gallant ddisgwyl dirwy drom neu gyfnod o garchar, a chofnod troseddol am weddill eu hoes. Yn amlwg, mae’n well o lawer atal tanau o’r fath yn hytrach na gorfod eu diffodd. Rydym wedi canolbwyntio ar atal tanau ers cyfnod y Pasg 2015, pan welwyd bron 1,500 o danau glaswellt mewn mis. Bu’r Gwasanaeth Tân yn cydweithio’n ddyfal â’r heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion, ffermwyr ac eraill i annog pobl i beidio â chynnau tanau, a datblygu dulliau eraill o leihau risgiau megis gwella trefniadau rheoli tir. Yn ddiamau, mae’r dull gweithredu hwn wedi gweithio. Roedd nifer y tanau glaswellt bron wedi ei haneru ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen hon – ac, er gwaethaf yr achosion diweddar, mae’n bosibl o hyd y bydd nifer y tanau a gofnodir eleni yn is nag erioed o’r blaen. Er hynny, ni ellir cael gwared â’r broblem yn llwyr. Mae tanau glaswellt yn rhy hawdd i’w cynnau, yn enwedig mewn tywydd fel hyn. Gan hynny, rydym hefyd wedi cynorthwyo’r Gwasanaeth Tân i fuddsoddi yn y cyfarpar arbenigol a’r hyfforddiant arbenigol sydd eu hangen ar ddiffoddwyr tân i ddiffodd tanau glaswellt yn gyflym ac yn effeithiol. Yn enwedig, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru \- sy’n wynebu’r perygl mwyaf o lawer – yw un o’r gwasanaethau tân sydd â’r offer a’r cyfarpar gorau yn y DU, ac mae’r gwasanaeth hwnnw yn meddu ar arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Roedd criwiau’r gwasanaeth hwnnw ymhlith y cyntaf i gael eu hanfon i helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf i ddiffodd tân Gweundir Saddleworth, heb beryglu gallu’r Gwasanaeth i ymateb i ddigwyddiadau yn ei ardal leol hefyd. Er gwaethaf hynny oll, mae diffodd tanau glaswellt yn dal i fod yn waith heriol a pheryglus. Weithiau, y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o ddiffodd tân o’r fath yw ei gyfyngu a gadael iddo losgi hyd at ddiffodd. Efallai y bydd hynny’n ymddangos i’r rheini yn y cyffiniau agos fel dull braidd yn araf o ddiffodd y tân. Gallwn eu sicrhau y diffoddir unrhyw dân sy’n peryglu bywydau neu eiddo mewn ffordd fwy gweithredol o lawer, ac mai gwarchod diogelwch y cyhoedd yw prif flaenoriaeth y Gwasanaeth Tân ar bob adeg. Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw’r rhan fwyaf o’n diffoddwyr tân yn ddiffoddwyr tân llawn amser, ac nid oes yr un ohonynt yn ddiffoddwyr tân llawn amser mewn ardaloedd gwledig. Caiff y diffoddwyr eu galw i mewn o’u cartrefi neu eu gweithleoedd fel y bo’u hangen, ac ar adegau fel hyn gall y galwadau arnynt fod yn drwm iawn. Gall y galwadau fod yn drwm iawn ar eu cyflogwyr hefyd, gan fod galw diffoddwyr tân o blith eu staff yn gallu amharu’n ddifrifol ar eu busnesau. Hoffwn ddiolch i’r cyflogwyr hynny am eu cymorth o ran cadw ein cymunedau yn ddiogel. Nid oes unrhyw olwg o newid yn rhagolygon y tywydd dros y saith i ddeng niwrnod nesaf, sy’n golygu bod perygl uchel o danau glaswellt o hyd. Rydym yn monitro’r sefyllfa yn barhaus, ond rwyf yn hyderus bod gan ein gwasanaethau tân bopeth sydd eu hangen arnynt i reoli’r perygl hwn yn effeithiol.
https://www.gov.wales/written-statement-grass-fires
  I have previously stated that I intend to review the way Welsh\-medium education is planned for through Welsh in Education Strategic Plans (WESPs). I am pleased to announce that an independent advisory board has been established, meeting today (17\.May) for the first time. The WESP Advisory Board will be chaired by Aled Roberts, who was appointed earlier this year to complete phase 2 of the rapid review of WESPs, by implementing the recommendations made in that report. I am certain that the board members, identified for their experience and knowledge, will help shape the future direction of WESPs and oversee the recommendations of the report. This work will enable equitable access to the linguistic, cultural and academic opportunities gained from a Welsh\-medium Education. One of the key tasks of the board will be to review the legislation that determines the scope and structure of Welsh in Education Strategic Plans. I have been very clear that if we are to achieve our aim of a million Welsh speakers by 2050, we need to be ambitious in the changes we make now. I have been heartened by the commitment shown by local authorities to make changes to the way they approach Welsh\- medium education planning. I look forward to meeting members of the Advisory Board who will lead us through phase 2 of the report.   The board members consist of: **Meirion Prys Jones**, former chief Executive of the Welsh language Board and the NPLD (Network to Promote Linguistic Diversity) 18 years experience Education **Bethan Morris Jones**, Gwynedd Primary head teacher with experience of ALN and the Welsh language **Sarah Mutch**, Early Years Manager at Caerphilly County Council providing valuable Local Authority perspective **Dylan Foster Evans**, Lecturer/Head of the school of Welsh, Cardiff University and Cardiff school governor        
Rwyf eisoes wedi datgan fy mwriad i adolygu’r modd y mae addysg Gymraeg yn cael ei gynllunio trwy’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Mae’n bleser gen i gyhoeddi fod bwrdd cynghori annibynnol wedi’i sefydlu ac yn cwrdd heddiw (17\. Mai) am y tro cyntaf. Bydd Bwrdd Cynghori CSGA yn cael ei gadeirio gan Aled Roberts. Cafodd ei apwyntio yn gynharach eleni i gyflawni cam dau o’r gwaith sy’n dilyn Adolygiad Brys o’r CSGA, gan weithredu’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwnnw. Rwy’n sicr y bydd aelodau’r bwrdd, sydd wedi’u hadnabod am eu profiad a’u gwybodaeth, yn cefnogi’r gwaith o bennu cyfeiriad y CSGA ar gyfer y dyfodol a goruchwylio argymhellion yr adolygiad. Bydd y gwaith a wneir yn galluogi mynediad teg i’r cyfleoedd ieithyddol, diwylliannol ac academaidd a cheir o dderbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Un o brif dasgau’r bwrdd fydd adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n pennu sgôp a strwythur y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Rwyf wedi bod yn glir iawn o’r angen i fod yn uchelgeisiol gyda’r newidiadau a wnawn nawr os ydym am lwyddo i gyrraedd eich nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050\. Mae’n galonogol i weld ymrwymiad awdurdodau lleol i gofleidio dulliau newydd o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.   Edrychaf ymlaen at gwrdd ag aelodau’r Bwrdd Cynghori fydd yn ein harwain drwy gan 2 o’r adolygiad. Mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys: Meirion Prys Jones, Cyn\- Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r NPLD (Network to Promote Linguistic Diversity) gyda 18 mlynedd o brofiad addysg   Bethan Morris Jones, Pennaeth ysgol Gynradd yng Ngwynedd gyda phrofiad  ADY a’r iaith Gymraeg Sarah Mutch, Rheolwr Blynyddoedd Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Caerffili, fyddai’n cynnig cyd\-destun awdurdod lleol gwerthfawr Dylan Foster Evans, Darlithydd/Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a Llywodraethwr ysgol yng Nghaerdydd  
https://www.gov.wales/written-statement-first-meeting-wesp-advisory-board
EU nationals who intend to study in Wales for the academic year 2019/20 will be eligible to pay the same tuition fees as Welsh students and will be eligible to receive loans and/or grants from Student Finance Wales (SFW) – subject to the existing eligibility criteria. This is a continuation of the current policy and students will be eligible to receive support until they finish their course. This applies to all student finance from SFW for students in Wales for which EU nationals are eligible. This includes loans to cover tuition fees (for those resident in the EEA for three years), loans and grants for maintenance (limited to those resident in the UK for at least three years), and some other grants and allowances. The rules applying to EU nationals who will apply for a place at university for the academic year 2018/19 to study a course which attracts student support are unchanged. SFW will assess these applications against existing eligibility criteria, and will provide loans and/or grants in the normal way. EU nationals, or their family members, who are assessed as eligible to receive grants and/ or loans by the Student Loans Company will also then be eligible for the duration of their study on that course.   Students should consult their university’s student finance office, or the Student Finance Wales website, for information about the support available.            
Bydd gwladolion yr UE sy’n bwriadu astudio yng Nghymru am y flwyddyn academaidd 2019/20 yn gymwys i dalu’r un ffioedd dysgu â myfyrwyr o Gymru a byddant hefyd yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru – yn amodol ar y meini prawf sydd eisoes yn eu lle o ran cymhwystra.  Mae hyn yn barhad o’r polisi presennol a bydd myfyrwyr yn parhau i dderbyn cymorth nes y byddant yn gorffen eu cwrs. Mae hyn yn berthnasol i holl gyllid myfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru y mae gwladolion yr UE yn gymwys amdano. Mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu (ar gyfer y rheiny sy'n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd am dair blynedd), benthyciadau a grantiau cynnal  (yn gyfyngedig i'r rhai sy'n byw yn y DU am dair blynedd o leiaf), a rhai grantiau a lwfansau eraill. Nid yw’r rheolau sy'n berthnasol i wladolion yr UE sydd wedi gwneud cais am le mewn prifysgol ym mlwyddyn academaidd 2018/19 i astudio cwrs sy'n denu cymorth i fyfyrwyr wedi newid. Bydd CMC yn asesu'r ceisiadau hyn yn erbyn y meini prawf presennol, a bydd yn darparu benthyciadau a/neu grantiau yn y ffordd arferol. Bydd gwladolion yr UE, neu aelodau o'u teulu, sy'n cael eu hasesu’n gymwys i gael grantiau a/neu fenthyciadau gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedyn yn gymwys drwy gydol eu hastudiaethau ar y cwrs hwnnw. Dylai myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd ymgynghori â swyddog cyllid myfyrwyr eu prifysgol neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
https://www.gov.wales/written-statement-funding-and-support-eu-students-studying-wales
The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 is at the heart of our programme to transform the education and support for children and young people with additional learning needs (ALN) in Wales.   Today, I have published the first in a series of guides which explain how the Act will be implemented. This guide focuses on implementing individual development plans (IDPs) for children of compulsory school age and under. It sets out the intended mandatory phased timetable for local authorities and school governing bodies to transfer children with special educational needs plans – such as statements and individual education plans \- to the new ALN system.  Under the new system, children with ALN will be entitled to IDPs. Conversion of statements will take place over a two year period and conversion of plans for learners on early years action, school action, early years action plus and school action plus will take place over three years. The phased approach has been informed by the views of stakeholders responding to the public consultation on how the Act should be implemented. The consultation found strong support for mandating a phased approach to implementing the ALN system. Most stakeholders agreed that national timeframes for transferring specific cohorts of children and young people to the new system would be the most manageable and consistent approach. The phased approach prioritises the transfer of learners with statements and means workloads will be more equally spread between local authorities and schools. In addition, the approach focuses on, the youngest of learners to facilitate early and effective intervention, and those learners nearing key points of progression to facilitate effective transition planning.   The guides are intended for use by organisations with duties set out in the Act. The guide published today will be of particular interest to local authorities, governing bodies of maintained schools, school teaching staff and special education needs co\-ordinators (SENCos)/additional learning needs co\-ordinators (ALNCos). Information for parents – to explain what the new system means for children and young people including how, and when, they can access their new rights under the Act will be published in due course. I also intend to publish further guides which will set out the arrangements for implementing specific aspects of the ALN system. This includes the arrangements for further education, including specialist post\-16 education. The Additional Learning Needs Code will place requirements on local authorities and governing bodies and contain guidance on the exercise of functions under the Act.  A draft of the Code is expected to be published for public consultation late in the Autumn term. The guide to implementing IDPs for children of compulsory school age and under is available at:   https://beta.gov.wales/additional\-learning\-needs\-and\-education\-tribunal\-wales\-act\-implementation\-guide\-individual    
Y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw canolbwynt ein rhaglen i weddnewid yr addysg a'r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru.   Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres o ganllawiau sy'n esbonio sut y caiff y Ddeddf ei gweithredu. Mae'n canolbwyntio ar weithredu cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol ac yn iau. Mae'r canllaw yn amlinellu'r amserlen orfodol arfaethedig i’w chyflwyno’n raddol ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion i drosglwyddo plant â chynlluniau anghenion addysgol arbennig \- ee datganiadau a chynlluniau addysg unigol – i’r system newydd. O dan y system newydd, bydd gan blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol hawl i gael cynlluniau datblygu unigol. Bydd y broses o drosi’r datganiadau yn digwydd dros gyfnod o ddwy flynedd, a'r broses o drosi cynlluniau ar gyfer dysgwyr o ran gweithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu gan yr ysgol, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy a gweithredu gan yr ysgol a mwy yn digwydd dros dair blynedd. Seiliwyd y cynllun graddol ar safbwyntiau rhanddeiliaid a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar sut y dylid gweithredu'r Ddeddf. O edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, daeth i'r amlwg bod yna gefnogaeth gref i weithredu'r system ADY mewn ffordd raddol. Gan mwyaf, roedd y rhanddeiliaid yn cytuno mai pennu amserlenni cenedlaethol ar gyfer trosglwyddo carfanau penodol o blant a phobl ifanc i'r system newydd fyddai'r dull hawsaf i'w reoli a'r dull mwyaf cyson. Mae'r dull graddol yn rhoi blaenoriaeth i drosglwyddo dysgwyr â datganiadau ac yn golygu y bydd llwyth gwaith yn cael ei rannu'n fwy cyfartal rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion. Hefyd, mae'r dull yn canolbwyntio ar y dysgwyr ieuengaf, er mwyn hwyluso’r gwaith o ymyrryd yn gynnar ac yn effeithiol a hefyd ar y dysgwyr hynny sy'n agosáu at bwyntiau cynnydd allweddol, er mwyn hwyluso’r gwaith o gynllunio prosesau trosglwyddo effeithiol ar gyfer dysgwyr ag ADY.   Lluniwyd y canllawiau i'w defnyddio gan sefydliadau sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf. Bydd y canllaw a gyhoeddir heddiw o ddiddordeb penodol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, staff addysgu mewn ysgolion a chydlynwyr anghenion addysgol arbennig/cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol. Maes o law, cyhoeddir gwybodaeth i rieni \- i esbonio beth mae'r system newydd yn ei olygu i blant a phobl ifanc, gan gynnwys sut a phryd y gallant fanteisio ar eu hawliau newydd o dan y Ddeddf. Rwyf hefyd yn bwriadu cyhoeddi canllawiau pellach a fydd yn amlinellu'r trefniadau ar gyfer gweithredu agweddau penodol ar y system ADY, ee addysg bellach, gan gynnwys addysg ôl\-16 arbenigol. Bydd y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gosod gofynion ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ac yn cynnwys canllawiau ar sut i arfer y swyddogaethau hynny o dan y Ddeddf. Disgwylir i fersiwn ddrafft o’r Cod gael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn nes ymlaen yn nhymor yr hydref. Mae’r canllawiau i weithredu’r cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol ac yn iau ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/canllaw\-gweithredu\-deddf\-anghenion\-dysgu\-ychwanegol\-ar\-tribiwnlys\-addysg\-cymru\-ar\-gyfer\-cynlluniau
https://www.gov.wales/written-statement-guides-implementing-new-additional-learning-needs-system-wales
On 27 February 2018, Kirsty Williams, Cabinet Secretary for Education made an Oral Statement in the Siambr on: High Achievement \- Supporting our More Able and Talented Learners (external link).
Ar 27 Chwefror 2018, gwnaeth y Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Cyrhaeddiad Uchel \- Cefnogi ein Dysgwyr Mwy Abl a Thalentog (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-high-achievement-supporting-our-more-able-and-talented-learners
Dame Judith Hackitt last week published her report about the current systems of building regulation and fire safety, which the UK Government commissioned in the aftermath of the Grenfell Tower tragedy. As those systems are similar in Wales and England, I am today setting out the Welsh Government’s initial response. Dame Judith’s report is challenging, and rightly so. It recognises that a tragedy on the scale of Grenfell Tower has many complex causes. The report avoids attributing all blame to specific organisations, decisions or products. Instead, it argues strongly that there are serious and systemic underlying failures. Attitudes, values and cultures in the construction, housing and fire safety sectors do not always give proper weight to safety.  The processes for inspecting, regulating and enforcing fire safety are complex, burdensome and ineffective.   We accept that broad diagnosis.   A safe building is one which is constructed, managed and occupied with safety as the paramount consideration – not profit, or convenience, or habitual practices which have become outdated.  But without the sorts of changes Dame Judith calls for, we can never be assured of this. More importantly, nor can residents – many of whom have understandably been concerned since the tragic events of last June.   I am therefore announcing our intention to make the radical and far\-reaching reforms to the regulatory system which Dame Judith calls for. Our reforms will embrace all relevant regimes, including fire safety, building regulations and housing standards, and will aim to simplify, strengthen and integrate those as the report recommends. It will also consider other high risk buildings, not just high\-rise blocks over a specified height. While we do not want to see regulation out of proportion to risk, we also cannot accept a dysfunctional system which jeopardises the safety of any citizens.   There are also more immediate and specific issues. Dame Judith deliberately avoided any reference to specific matters, such as materials in cladding systems. She was right to point out that underlying failures of culture and of the regulatory system may allow unsafe practices and products to persist and those failures will manifest themselves in other ways unless they are addressed head\-on. But I cannot ignore the risks and the clear public concern. Subject to a legally\-required consultation into this matter, we will move to ban the use of combustible materials in cladding systems  on high\-rise residential buildings in Wales. Dame Judith’s report was addressed to the UK Government, and reflected the current position in England. While the statutory framework here is similar, our institutions, our housing stock and our risks are different.  We must consider Dame Judith’s recommendations in our own context and apply the principles to our proposals for a new, robust system in Wales.   The First Minister has therefore asked me to chair an expert group to develop those recommendations into workable law, policy and practice changes for Wales.   I hope to complete this work, and to bring forward detailed proposals, by the end of the year.  I will, of course, keep Members informed in the meantime.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Fonesig Judith Hackitt ei hadroddiad ar y systemau cyfredol ym maes rheoliadau adeiladau a diogelwch tân. Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn sgil trychineb Tŵr Grenfell. Gan fod y systemau dan sylw yn debyg yng Nghymru a Lloegr, dyma nodi ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn un heriol, ac mae hynny’n gwbl briodol. Cydnabyddir yn yr adroddiad bod y ffactorau sy’n achosi trasiedi ar raddfa Tŵr Grenfell yn niferus a chymhleth. Nid yw’r adroddiad yn rhoi’r holl fai ar sefydliadau penodol. Yn hytrach, mae’n dadlau’n gryf bod methiannau systemig difrifol a sylfaenol i’w cael. Ceir agweddau, gwerthoedd a diwylliannau ym maes adeiladu, tai a diogelwch tân nad ydynt yn rhoi’r ystyriaeth ddyledus i ddiogelwch. Hefyd, mae’r prosesau archwilio, rheoleiddio a gorfodi ym maes diogelwch tân yn gymhleth, beichus ac aneffeithiol. Rydym ni’n gytuno â’r dadansoddiad cyffredinol hwn. Adeilad diogel yw adeilad a gaiff ei adeiladu, ei reoli a’i feddiannu gan roi’r pwys mwyaf ar ddiogelwch, nid ar elw, cyfleustra nac arferion sydd wedi dyddio. Heb y math o newidiadau y mae’r Fonesig Judith Hackitt yn galw amdanynt, ni allwn fyth fod yn hollol siŵr o hyn. Yn bwysicach, ni all preswylwyr fod yn hollol dawel eu meddwl – ac mae trasiedi’r flwyddyn ddiwethaf wedi peri cryn bryder i lawer. Rwyf felly yn cyhoeddi ein bwriad i ddiwygio’r system reoleiddio yn y ffordd radical, bellgyrhaeddol y mae’r Fonesig Judith yn galw amdani. Bydd ein diwygiadau yn cwmpasu’r holl weithdrefnau perthnasol, gan gynnwys diogelwch tân, rheoliadau adeiladu a safonau tai, a’r nod fydd eu symleiddio, eu cryfhau a’u hintegreiddio yn unol ag argymhellion yr adroddiad. Bydd y gwaith hwn yn rhoi sylw i bob adeilad, nid dim ond blociau o ryw uchder penodol. Er nad ydym am gyflwyno rheoliadau sy’n anghymesur â’r risg, ni allwn chwaith dderbyn system nad yw’n gweithio ac sy’n peryglu dioglewch ein dinasyddion.   Mae yna rai materion penodol sydd angen sylw ar frys. Osgôdd y Fonesig Judith gyfeirio at faterion penodol ar bwrpas, ee deunydd inswleiddio a chladin llosgadwy. Roedd yn iawn i nodi bod methiannau sylfaenol o ran diwylliant a’r system reoleiddio yn gallu caniatáu i arferion anniogel barhau ac i gynhyrchion anniogel ddal i gael eu defnyddio, ac y bydd y methiannau hynny yn dod i’r amlwg mewn ffyrdd eraill oni bai ein bod yn mynd i’r afael yn benodol â nhw. Ond ni allaf anwybyddu’r risgiau a’r pryder amlwg ymhlith y cyhoedd. Yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad i’r mater, y mae’n rhaid inni ei gynnal yn ôl y gyfraith, awn ati i wahardd y defnydd o bob deunydd inswleiddio a chladin llosgadwy yn y maes adeiladu yng Nghymru cyn gynted â phosibl. Adroddiad ar gyfer Llywodraeth y DU oedd adroddiad y Fonesig Judith, ac roedd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yn Lloegr. Er bod y fframwaith statudol yn debyg yma, mae ein sefydliadau, ein stoc dai a’n risgiau yn wahanol. Ni allwn dderbyn holl argymhellion y Fonesig Judith yn ddigwestiwn. Rhaid inni eu hystyried yng ngoleuni ein cyd\-destun ein hunain.   Mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn imi, felly, gadeirio grŵp arbenigol i ddatblygu’r argymhellion hynny yn newidiadau ymarferol i’r gyfraith, i bolisïau ac i arferion yng Nghymru.   Rwy’n gobeithio cwblhau’r gwaith hwn, a chyflwyno cynigion manwl, erbyn diwedd y flwyddyn. Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd i’r Aelodau yn y cyfamser wrth gwrs.
https://www.gov.wales/written-statement-hackitt-review-building-regulations-and-fire-safety
On 6 February 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: How digital technology is improving primary care (external link).
Ar 6 Chwefror 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Sut y mae technoleg ddigidol yn gwella gofal sylfaenol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-how-digital-technology-improving-primary-care
Further to my announcement of the Provisional Police Settlement in December, I am today laying before the Assembly the Local Government Finance Report (No.2\) 2018\-19 (Final Settlement – Police and Crime Commissioners). This sets out the Welsh Government’s component of the Final Police Settlement for police forces in Wales for 2018\-19\. It follows the completion of the consultation on the Provisional Settlement, and today’s announcement made by the Home Office on the final Police Grant allocations for policing bodies in England and Wales. A common needs\-based formula, operated by the Home Office, is used to distribute funding across English and Welsh police forces, and the approach to setting and distributing the Welsh Government component of police funding provision is based on a principle of ensuring consistency and fairness across England and Wales.   As announced in the Provisional Police Settlement, the Home Office has overlaid its needs\-based formula with a floor mechanism.  This ensures all police forces in England and Wales can expect to receive a cash flat settlement for 2018\-19 when compared on a like\-for\-like basis with 2017\-18\.   The figures are summarised in Tables 1 to 3 of this Statement, and are unchanged from the Provisional Settlement. Total revenue support for Welsh police forces in 2018\-19 is £349\.9 million. Of this, the Welsh Government is providing £140\.9 million as unhypothecated Revenue Support Grant and Non Domestic Rates. The Local Government Finance Report is scheduled for debate in the Assembly on 13 February. This information is also published on the Welsh Government’s website at: http://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/policesettlement/police\-settlement\-2018\-19/?lang\=en   **Police Revenue Funding** | **Table 1: Aggregate External Finance (RSG\+NNDR, £m)** | | | | | | | | | | --- | --- | --- | --- | --- | --- | --- | --- | --- | | | | | | | | | | | | | | 2015\-16 | | 2016\-17 | | 2017\-18 | | 2018\-19 | | Dyfed\-Powys | | 12\.788 | | 12\.895 | | 12\.870 | | 13\.101 | | Gwent | | 29\.696 | | 30\.107 | | 30\.583 | | 31\.083 | | North Wales | | 21\.308 | | 21\.578 | | 21\.907 | | 22\.122 | | South Wales | | 71\.218 | | 72\.177 | | 73\.341 | | 74\.594 | | Total | | 135\.010 | | 136\.757 | | 138\.700 | | 140\.900 | | | | | | | | | | | | **Table 2: Police Grant and Floor Funding (£m)1** | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | 2015\-16 | | 2016\-17 | | 2017\-18 | | 2018\-19 | | Dyfed\-Powys | | 37\.511 | | 37\.117 | | 36\.443 | | 36\.212 | | Gwent | | 43\.220 | | 42\.393 | | 40\.904 | | 40\.404 | | North Wales | | 51\.854 | | 51\.167 | | 49\.821 | | 49\.606 | | South Wales | | 89\.338 | | 87\.463 | | 84\.066 | | 82\.812 | | Total | | 221\.923 | | 218\.140 | | 211\.234 | | 209\.034 | | | | | | | | | | | | **Table 3: Total Central Support (£m)** | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | 2015\-16 | | 2016\-17 | | 2017\-18 | | 2018\-19 | | Dyfed\-Powys | | 50\.299 | | 50\.012 | | 49\.313 | | 49\.313 | | Gwent | | 72\.917 | | 72\.501 | | 71\.487 | | 71\.487 | | North Wales | | 73\.162 | | 72\.745 | | 71\.728 | | 71\.728 | | South Wales | | 160\.555 | | 159\.639 | | 157\.407 | | 157\.407 | | Total | | 356\.933 | | 354\.897 | | 349\.934 | | 349\.934 |  Notes: 1 This is the amount of police grant set out in section 3 of the Police Grant Report which includes the allocation under 'Principal Formula' and 'Add Rule 1' (columns a and b) plus the amount 'floor funding' that the Home Office has made available.    
Yn dilyn fy nghyhoeddiad ynghylch Setliad Dros Dro yr Heddlu ym mis Rhagfyr, rwyf heddiw yn gosod gerbron y Cynulliad Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2\) 2018\-19 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2018\-19\. Mae’n dilyn cwblhau’r broses ymgynghori ar y Setliad Dros Dro, a chyhoeddiad y Swyddfa Gartref heddiw ar ddyraniadau terfynol Grant yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona Cymru a Lloegr. Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr. Mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr. Fel y cyhoeddwyd yn Setliad Dros Dro yr Heddlu, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael setliad arian gwastad ar gyfer 2018\-19 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2017\-18\. Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn, ac nid ydynt wedi newid ers y Setliad Dros Dro. Cyfanswm y cymorth refeniw ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2018\-19 yw £349\.9 miliwn. O’r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £140\.9 miliwn fel Grant Cymorth Refeniw heb ei neilltuo ac Ardrethi Annomestig. Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol fod yn destun trafodaeth yn y Cynulliad ar 13 Chwefror. Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma:  http://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/policesettlement/police\-settlement\-2018\-19/?skip\=1\&lang\=cy  Cyllid Refeniw yr Heddlu  | Tabl 1: Cyllid Allanol Cyfun (RSG\+NNDR, £m) | | | | | | | | | | --- | --- | --- | --- | --- | --- | --- | --- | --- | | | | | | | | | | | | | | 2015\-16 | | 2016\-17 | | 2017\-18 | | 2018\-19 | | Dyfed\-Powys | | 12\.788 | | 12\.895 | | 12\.870 | | 13\.101 | | Gwent | | 29\.696 | | 30\.107 | | 30\.583 | | 31\.083 | | Gogledd Cymru | | 21\.308 | | 21\.578 | | 21\.907 | | 22\.122 | | De Cymru | | 71\.218 | | 72\.177 | | 73\.341 | | 74\.594 | | Cyfanswm | | 135\.010 | | 136\.757 | | 138\.700 | | 140\.900 | | | | | | | | | | | | Tabl 2: Grant yr Heddlu a Chyllid Gwaelodol (£m)1 | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | 2015\-16 | | 2016\-17 | | 2017\-18 | | 2018\-19 | | Dyfed\-Powys | | 37\.511 | | 37\.117 | | 36\.443 | | 36\.212 | | Gwent | | 43\.220 | | 42\.393 | | 40\.904 | | 40\.404 | | Gogledd Cymru | | 51\.854 | | 51\.167 | | 49\.821 | | 49\.606 | | De Cymru | | 89\.338 | | 87\.463 | | 84\.066 | | 82\.812 | | Cyfanswm | | 221\.923 | | 218\.140 | | 211\.234 | | 209\.034 | | | | | | | | | | | | Tabl 3: Cyfanswm Cymorth Canolog (£m) | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | | 2015\-16 | | 2016\-17 | | 2017\-18 | | 2018\-19 | | Dyfed\-Powys | | 50\.299 | | 50\.012 | | 49\.313 | | 49\.313 | | Gwent | | 72\.917 | | 72\.501 | | 71\.487 | | 71\.487 | | Gogledd Cymru | | 73\.162 | | 72\.745 | | 71\.728 | | 71\.728 | | De Cymru | | 160\.555 | | 159\.639 | | 157\.407 | | 157\.407 | | Cyfanswm | | 356\.933 | | 354\.897 | | 349\.934 | | 349\.934 | Nodiadau: 1 Dyma swm grant yr heddlu a nodir yn adran 3 o Adroddiad Grant yr Heddlu sy'n cynnwys y dyraniad o dan 'Prif Fformiwla' ac 'Ychwanegu Rheol 1' (colofnau a a b) plws swm y 'cyllid gwaelodol' y mae'r Swyddfa Gartref wedi'i sicrhau sydd ar gael. 
https://www.gov.wales/written-statement-final-police-settlement-2018-19
Members will know that I am committed to improving people’s chances of surviving an out of hospital cardiac arrest. To support this aspiration, in June of last year, I launched the Out of Hospital Cardiac Arrest plan for Wales. This is an ambitious plan which will see the general public, the third sector, emergency services and health care professionals working together to respond to people having cardiac arrests in the community. As the Welsh Ambulance Service once again launches its annual Shoctober and Restart a Heart Day campaigns, it seems an appropriate time to update Members on progress in implementing the plan. It is a sad fact that a patient’s chance of surviving an out of hospital cardiac arrest decreases by an estimated 10% with every passing minute. Survival rates are low but there is the potential for many more lives to be saved, as has been demonstrated by a number of countries which have taken active steps to improve each stage in what is called “the chain of survival”. This is the reason behind this plan and why it is so important that we take concerted action.   Improving outcomes requires a broad range of activities across the chain of survival, including early recognition and call for help to try to prevent cardiac arrest happening; early cardiopulmonary resuscitation (CPR) to buy time for the patient; early defibrillation to restart the heart and then optimal post\-resuscitation care which should ensure a good outcome and quality of life.   Key to the successful implementation of the plan is the need for partnership. Following the publication of the plan, a collaboration implementation workshop was held in Cardiff last December. Organisations from across the public and voluntary sector came together to agree how the plan would be taken forward. We heard from the Scottish Government about their Save a Life for Scotland partnership, and via video link from Professor Mickey Eisenberg about the work done at King County in Seattle. There was agreement that we should seek to learn from the experiences of other countries here in Wales.   The feedback from the workshop has been used to develop specific work streams in each part of the chain of survival. These include communications, CPR/Defibrillation, Pre and Post hospital care and Registry/Research. Whilst progress was initially slower than we would have ideally liked on some aspects of the plan, significant progress has been made in improving pathways within both the Welsh Ambulance service and health boards to ensure once a 999 call is received, people receive the necessary help and support to increase the chance of survival both prior to the paramedics’ arrival and on the scene, before their transport to an appropriate hospital for definitive treatment. There has also been a steady increase in the number of defibrillators mapped into the Welsh Ambulance Service dispatch system, with 2,763 defibrillators from across Wales now registered. In addition, the Welsh Ambulance Service has been working with the Wales Cardiac Network and Warwick University to better map the data surrounding out of hospital cardiac arrests. This includes mapping the entire pathway of a cardiac arrest from onset to treatment and discharge from hospital, using data from health boards. By better understanding the pathway of care, this data will help to bring about consistency in response to out of hospital cardiac arrests. We are now turning our attention in earnest to some of the more challenging parts of the plan, including how we can build a strong cohort of the general public who, following suitable training, could take confident action when someone is having a cardiac arrest. I am pleased to announce today we will be establishing a partnership, similar to the one in Scotland, called Save a Life Cymru, Achub Bywydau Cymru in Welsh. This work will build on the sterling efforts already made by the Welsh Ambulance Service to teach CPR in schools \- last October during the Start a Heart Campaign, nearly 13,000 schoolchildren were taught CPR.  Save a Life Cymru will lead the work improving access to CPR training and defibrillation. We are inviting all third sector, public and other organisations with an interest to become a member of the partnership and work with us to lay the foundation for building lifesaving activity across the country. Save a Life Cymru will highlight and encourage the work of groups who are already teaching CPR within their communities. Developing local community networks to encourage cross service collaboration, identify communities across Wales who have less CPR training opportunity and to offer support to coordinate larger scale events. Finally, the partnership will promote the campaign to the Welsh public. This partnership will be supported initially by a full time programme manager to aid its establishment and ensure rapid progress can be made on the first stages of the chain of survival. We are encouraged by the response so far from key stakeholders. Welsh Government will provide funding, totalling £586,000, for the first two years of the partnership to support the programme manager and necessary communication awareness raising activities. This will include the development of proactive media, social media, website, promotional items and other content in order to generate a public profile for the work and drive people of all ages to learn CPR. To successfully achieve the implementation of the plan, we recognise that not only will organisations need to develop their own plans to support delivery; but there needs to be co\-ordinated action on a national level. The tragic deaths over the weekend at the Cardiff Half Marathon highlight how an out of hospital cardiac arrest can happen at anytime and the importance of rapid intervention, even though on this occasion it was not possible to save their lives. I would like to extend my sympathies to the families and loved ones of these two young men and thank the emergency services, volunteers and bystanders for all their efforts. My update today outlines the work Welsh Government, NHS and partners have undertaken so far, to create and deliver the first steps in implementing the Welsh Out of Hospital Cardiac Arrest Plan. The funding we have provided reinforces Welsh Government’s commitment to drive forward progress and establish the Save a Life Cymru partnership. Collectively, we are determined to improve the outcomes of people suffering a cardiac arrest in Wales. A copy of the OHCA plan can be found at: https://gov.wales/topics/health/nhswales/plans/heart\_plan/?lang\=en
Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i wella siawns pobl o oroesi ar ôl ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. I gefnogi'r dyhead hwn, ym mis Mehefin y llynedd, lansiais y Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty i Gymru. Cynllun uchelgeisiol yw hwn a fydd yn gweld y cyhoedd, y trydydd sector, y gwasanaethau brys a gweithwyr proffesiynol iechyd yn cydweithio i ymateb i bobl sy'n cael ataliad y galon yn y gymuned. Wrth i Wasanaeth Ambiwlans Cymru lansio ei raglenni blynyddol unwaith eto ar gyfer Shoctober a Diwrnod Ailddechrau'r Galon, mae'n amser priodol i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd wrth roi'r cynllun ar waith. Y gwir trist amdani yw bod cleifion 10% yn llai tebygol o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty wrth i bob munud fynd heibio. Mae'r cyfraddau goroesi'n isel ond mae yna botensial i lawer mwy o fywydau gael eu hachub, fel y dangosir gan nifer o wledydd eraill sydd wedi cymryd camau gweithgar i wella pob cam yn yr hyn a elwir yn “gadwyn oroesi”. Hwn yw'r rheswm y tu ôl i'r Cynllun hwn a dyna pam y mae mor bwysig inni gymryd camau pendant.   Mae gwella canlyniadau'n gofyn am ystod eang o weithgareddau ar draws y gadwyn oroesi, gan gynnwys adnabod problem yn gynnar a galw am help i atal ataliad y galon rhag digwydd; adfywio cardio\-pwlmonaidd cynnar i brynu amser i'r claf; diffibrilio cynnar i ailddechrau'r galon ac wedyn gofal ôl\-ddadebru da a ddylai sicrhau canlyniad da ac ansawdd bywyd da.   Mae'r angen am bartneriaeth yn allweddol i roi'r cynllun ar waith yn llwyddiannus. Yn sgil cyhoeddi'r cynllun, cynhaliwyd gweithdy i roi cydweithrediad ar waith yng Nghaerdydd fis Rhagfyr diwethaf. Daeth sefydliadau o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol ynghyd i gytuno ar sut y byddai'r cynllun yn cael ei symud ymlaen. Clywsom gan Lywodraeth yr Alban am bartneriaeth Save a Life for Scotland, a thrwy gyswllt fideo gan yr Athro Mickey Eisenberg am y gwaith sy'n cael ei wneud yn King County yn Seattle. Cytunwyd y dylem geisio dysgu o brofiadau gwledydd eraill yma yng Nghymru.   Mae'r adborth o'r gweithdy wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu ffrydiau gwaith penodol ym mhob rhan o'r gadwyn oroesi. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu, CPR/Diffibrilio, gofal cyn ar ac ar ôl yr ysbyty a Chofrestru/Ymchwil. Er bod y cynnydd yn arafach nag y byddem wedi ei ddymuno ar rai agweddau ar y cynllun, gwnaed cynnydd sylweddol o ran gwella llwybrau o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r byrddau iechyd i sicrhau, pan ddaw galwad 999 i law, fod pobl yn cael y cymorth angenrheidiol i'w helpu i oroesi a hynny cyn i'r parafeddygon gyrraedd ac yn y lleoliad, cyn cael eu cludo i ysbyty priodol ar gyfer triniaeth ddiffiniol.   Cafwyd cynnydd cyson yn nifer y diffilibrwyr sydd wedi'u mapio i mewn i system ddosbarthu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda 2,763 o ddiffibrilwyr ym mhob rhan o Gymru wedi'u cofrestru erbyn hyn. Yn ogystal, bu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n gweithio gyda Rhwydwaith y Galon Cymru a Phrifysgol Warwick i fapio'r data am ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys mapio llwybr cyfan ataliad y galon o'r dechrau hyd at y driniaeth a rhyddhau'r claf o'r ysbyty, gan ddefnyddio data o'r byrddau iechyd. Trwy ddeall y llwybr gofal yn well, bydd y data hwn yn helpu i sicrhau cysondeb mewn ymateb i ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Rydym yn dechrau edrych o ddifrif yn awr ar rai o rannau mwyaf heriol y cynllun, gan gynnwys sut y gallwn greu carfan gref o'r cyhoedd a allai, ar ôl cael  hyfforddiant addas, gymryd camau hyderus pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon. Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi heddiw y byddwn yn sefydlu partneriaeth, sy'n debyg i'r un yn yr Alban, o'r enw Achub Bywydau Cymru. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar yr ymdrechion clodwiw sydd eisoes wedi'u gwneud gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i addysgu CPR mewn ysgolion \- fis Hydref diwethaf yn ystod Ymgyrch Dechrau'r Galon, addysgwyd CPR i bron 13,000 o blant ysgol.  Bydd Achub Bywydau Cymru yn arwain y gwaith o wella mynediad i hyfforddiant CPR a diffilibrio. Rydym yn gwahodd holl gyrff y trydydd sector, y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill sydd â buddiant i ddod yn aelodau o'r bartneriaeth a chydweithio â ni i osod y sylfaen ar gyfer adeiladu gweithgarwch achub bywydau ledled y wlad. Bydd Achub Bywydau Cymru yn tanlinellu ac yn hybu gwaith grwpiau sydd eisoes yn  addysgu CPR yn eu cymunedau. Datblygir rhwydweithiau cymunedol lleol i hybu cydweithredu ar draws gwasanaethau, nodi cymunedau ledled Cymru sydd â llai o gyfle am hyfforddiant CPR a chynnig cymorth i gydgysylltu digwyddiadau graddfa fwy. Yn olaf, bydd y bartneriaeth yn hyrwyddo'r ymgyrch i'r cyhoedd yng Nghymru. Caiff y bartneriaeth hon ei chefnogi i ddechrau gan Reolwr Rhaglen i helpu i'w sefydlu ac i sicrhau y gellir gwneud cynnydd cyflym ar gamau cyntaf y gadwyn oroesi. Mae'r ymateb hyd yn hyn gan randdeiliaid allweddol yn galondid inni. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfanswm o  £586,000 o gyllid am ddwy flynedd gyntaf y bartneriaeth i gefnogi rheolwr y rhaglen a gweithgareddau cyfathrebu angenrheidiol i godi ymwybyddiaeth. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cyfryngau rhagweithiol, cyfryngau cymdeithasol, gwefan, eitemau hyrwyddo a chynnwys arall er mwyn creu proffil cyhoeddus ar gyfer y gwaith ac annog pobl o bob oedran i ddysgu CPR. Er mwyn llwyddo i roi'r cynllun ar waith, rydym yn cydnabod y bydd angen i sefydliadau ddatblygu eu cynlluniau eu hunain i gefnogi cyflenwi ac y bydd angen camau cydgysylltiedig ar lefel genedlaethol hefyd. Mae'r marwolaethau trasig dros y penwythnos yn Hanner Marathon Caerdydd yn tanlinellu sut y gall ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ddigwydd unrhyw bryd a phwysigrwydd ymyrraeth gyflym, er nad oedd modd achub eu bywydau y tro hwn. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i deuluoedd ac anwyliaid y ddau ddyn ifanc hyn a diolch i'r gwasanaethau brys, gwirfoddolwyr a phobl yn y dorf am eu holl ymdrechion. Mae'r diweddariad heddiw'n amlinellu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid wedi'i wneud hyd yn hyn i greu a darparu'r camau cyntaf o ran rhoi'r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty ar waith. Mae'r cyllid yr ydym wedi'i ddarparu'n atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati i sefydlu partneriaeth Achub Bywydau Cymru. Gyda'n gilydd rydym yn benderfynol o wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliad y galon yng Nghymru. Gellir cael copi o'r cynllun OHCA yn: https://gov.wales/topics/health/nhswales/plans/heart\_plan/?skip\=1\&lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-implementing-out-hospital-cardiac-arrest-plan-wales
In May 2018 I announced the Welsh Government will be establishing a state backed scheme from April 2019 to provide clinical negligence indemnity for providers of GP services in Wales.   Since May, officials have engaged with Department of Health and Social Care, NHS bodies in Wales, General Practitioners Committee (Wales), , NHS Wales Shared Services Partnership Wales \- Legal and Risk Services, NHS Wales Shared Services Partnership \- Welsh Risk Pool Services and Medical Defence Organisations over the way in which the scheme will operate in Wales. Following this stakeholder engagement, I have decided that NHS Wales Shared Services Partnership \-Legal and Risk Services, is the preferred partner to operate the state backed scheme for GPs in Wales in relation to clinical negligence claims arising from April 2019 (known as the Future Liabilities Scheme). Welsh Risk Pool Services will work closely with Legal and Risk Services, ensuring an integrated approach between claims management, reimbursement and the learning of lessons.  On\-going engagement with Legal and Risk Services and other stakeholders will continue.   The Future Liabilities Scheme will deliver a more stable and more sustainable indemnity system for general practice in Wales, through greater longer\-term certainty for the on\-going provision of general medical services in Wales by addressing concerns about increasing indemnity costs. I anticipate that as the scheme is taken forward over the coming months, further discussions with stakeholders will be required to ensure the needs of general practice are fully met.   The Future Liability Scheme will be aligned as far as possible to the state backed scheme to be established for GPs in England in April 2019\.  This will ensure that general medical contractors and their practice teams in Wales are not at a disadvantage relative to GPs in England and will also help to ensure that GP recruitment and cross border activity will not be adversely affected by different schemes operating in England and Wales.   The Future Liabilities Scheme will cover the activity of all contractors who provide primary medical services, plus any other integrated urgent care delivered through Schedule 2 of the NHS standard contract. This will include clinical negligence liabilities arising from the activities of GP practice staff and other medical professionals such as salaried GPs; locum GPs; practice pharmacists; practice nurses; healthcare assistants. However, the Future Liabilities Scheme will not cover private work, complaints, involvement in coroners’ cases, GMS hearings, private funded primary healthcare and other matters relating to professional regulation. GPs will be expected to ensure that they have indemnity to cover all aspects not covered by the state backed scheme. Following further engagement with medical defence organisations and our other stakeholders, I will make a final decision on the delivery of the FLS in Wales over the coming weeks.   In addition, I confirm my commitment to the state backed scheme covering clinical negligence claims which have arisen before April 2019, (known as the Existing Liabilities Scheme) subject to the completion of legal and financial due diligence and satisfactory negotiations with Medical Defence Organisations.   I will provide a further Written Statement in due course.
Ym mis Mai 2018, cyhoeddais y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun gyda chymorth y wladwriaeth i ddarparu indemniad rhag esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau ymarfer cyffredinol yng Nghymru. Ers mis Mai, mae swyddogion wedi bod yn trafod gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cyrff y GIG yng Nghymru, Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol (Cymru), Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru a Sefydliadau Amddiffyn Meddygol ynglŷn â’r ffordd y bydd y cynllun yn cael ei weithredu yng Nghymru. Yn dilyn yr ymgysylltu hwn â rhanddeiliaid, rwyf wedi penderfynu mai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yw’r partner a ffefrir i weithredu’r cynllun hwn gyda chymorth y wladwriaeth, mewn perthynas â hawliadau ynghylch esgeluster clinigol fydd yn codi o fis Ebrill 2019 (a adnabyddir fel Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol). Bydd Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru yn cydweithio’n agos â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg er mwyn sicrhau dull gweithredu integredig ar gyfer rheoli hawliadau, gwneud ad\-daliadau a dysgu gwersi. Bydd ymgysylltu parhaus â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a rhanddeiliaid eraill. Bydd Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol yn sicrhau system indemniad fwy cadarn a chynaliadwy ar gyfer ymarferwyr meddygol yng Nghymru, drwy roi mwy o sicrwydd tymor hir o ran darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru. Bydd yn gwneud hynny drwy fynd i’r afael â phryderon ynghylch costau cynyddol indemniad. Rwy’n rhag\-weld, wrth i’r cynllun fynd rhagddo yn ystod y misoedd nesaf, y bydd gofyn cael trafodaethau pellach gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod anghenion ymarfer cyffredinol yn cael eu bodloni’n llawn. Bydd Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol yn cydweddu cymaint â phosibl â’r cynllun gyda chymorth y wladwriaeth sydd i’w sefydlu ar gyfer ymarferwyr cyffredinol yn Lloegr ym mis Ebrill 2019\. Bydd hyn yn sicrhau na fydd contractwyr meddygol cyffredinol a’u timau ymarfer yng Nghymru o dan anfantais o’u cymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr, a bydd yn helpu hefyd i sicrhau na fydd y ffaith fod cynlluniau gwahanol yng Nghymru ac yn Lloegr yn cael effaith niweidiol o ran recriwtio meddygon teulu a gweithgarwch trawsffiniol. Bydd Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol yn ymdrin â gweithgarwch yr holl gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, ynghyd ag unrhyw ofal brys integredig arall a ddarperir drwy Atodlen 2 contract safonol y GIG. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwyddau o ran esgeulustod clinigol sy’n deillio o weithgareddau staff practisau meddygon teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill megis meddygon teulu ar gyflog, meddygon teulu locwm, fferyllwyr practis, nyrsys practis a chynorthwywyr gofal iechyd. Fodd bynnag, ni fydd y Cynllun yn ymdrin â gwaith preifat, cwynion, cymryd rhan mewn achosion crwneriaid, gwrandawiadau’r GMS, gofal iechyd sylfaenol a ariennir yn breifat a materion eraill yn ymwneud â rheoleiddio proffesiynol. Bydd disgwyl i ymarferwyr cyffredinol sicrhau bod ganddynt indemniad ar gyfer yr holl agweddau nad ydynt wedi’u cynnwys dan y cynllun gyda chymorth y wladwriaeth. Yn dilyn ymgysylltu pellach â sefydliadau amddiffyn meddygol a’n rhanddeiliaid eraill, byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol yn ystod yr wythnosau nesaf ynglŷn â gweithredu’r Cynllun yng Nghymru. Yn ogystal, rwy’n cadarnhau fy ymrwymiad i’r cynllun gyda chymorth y wladwriaeth sy’n ymdrin â hawliadau am esgeulustod clinigol sydd wedi codi cyn Ebrill 2019 (sef y Cynllun Atebolrwyddau Presennol), yn amodol ar gwblhau prosesau diwydrwydd dyladwy ariannol a chyfreithiol a chynnal trafodaethau boddhaol gyda sefydliadau amddiffyn meddygol. Byddaf yn gwneud Datganiad Ysgrifenedig arall maes o law.
https://www.gov.wales/written-statement-gp-professional-indemnity-0
In October 2017, as part of a refreshed TB Eradication Programme, the Welsh Government adopted a regionalised approach with the introduction of Low, Intermediate and High TB Areas. This has meant measures can be tailored to address varying risks and disease drivers in each ‘TB Area’. This allows measures to be taken quickly, flexibly and at a local level to drive down disease and react to any localised increases in disease. In line with these safeguards, I am today announcing the introduction of additional contiguous testing in the Intermediate TB Area North (ITBAN) as part of our long term goal to eradicate bovine TB in Wales. Government epidemiologists have identified an unprecedented increase in new incidents in the Intermediate Area North. This spike is not a short term trend and it is clear the rate of new incidents will not reduce unaided.  Last year there was a 75% increase on the previous 12 months. My priority is to protect the status of the Low TB Area of North Wales and to expand it to include new areas in the ITBAN that meet the appropriate disease pre\-requisites by 2023\. A disease spike in an area adjacent to the Low TB Area endangers these aspirations. In view of this, from 13 November 2018, I am proposing to extend the use of additional contiguous testing around Officially TB Free Withdrawn (OTFW) breakdown herds in the ITBAN. This additional testing in herds with increased risk of becoming infected will result in a doubling of the effort expended on identifying disease in the area adding a further 2 contiguous tests at 6 month intervals into the regime. To support farmers in the ITBAN during this difficult time, I have agreed to the introduction of Government subsidised “keep it out” veterinary visits for herds which have tested negative to contiguous testing.  These visits will be delivered by the farmer’s own local practice via specially trained vets and will look at the local disease picture, biosecurity and the farm’s cattle trading policy and improved informed purchasing mirroring the approach used in TB breakdown Cymorth TB visits. An important point I want to promote in the ITBAN, and indeed elsewhere in Wales, is that introducing new animals into a herd can be a potential disease risk with regards TB, and other cattle diseases. So a key objective here is the use of Informed Purchasing to minimise the risk of disease incursion. Encouraging farmers to consider the TB history of the herd cattle are being purchased from so that an informed assessment can be made to manage the risk of introducing TB into their herd. This will include asking questions about the testing history of the animals concerned and through the use of the ibTB tool. My officials are working closely with those in Defra to ensure that, although policies may on occasion differ, consistent messages are provided on each side of the border. I believe that this is of particular importance with regard to the information provided through the “keep it out” visits in Wales and the work of the TB Advisory Service (TBAS) in England when promoting good biosecurity and informed purchasing. The focus is on delivering these measures through active engagement and partnership with local stakeholders. The Welsh Government’s approach to the eradication of TB incorporates addressing all sources of TB infection, including cattle\-to\-cattle and the role of wildlife. We have seen good progress toward achieving our goal of eradicating bovine TB from Wales. The introduction of additional contiguous testing within the ITBAN will put us in a stronger position to ensure we continue to make progress towards a TB Free Wales. I have committed to reporting on progress on the refreshed TB Eradication Programme in April next year once we have a full calendar year of data. My officials have written to all farmers in the ITBAN explaining the disease situation in the area and setting out the additional measures that we are putting in place at a local level.  
Ym mis Hydref 2017, fel rhan o'r Rhaglen newydd i Ddileu TB, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddull rhanbarthol gan gyflwyno Ardaloedd TB Uchel, Canolradd ac Isel. Mae hyn yn golygu y gellir teilwra mesurau i fynd i'r afael â risgiau a ffactorau amrywiol sy’n achosi’r clefyd ym mhob 'Ardal TB'. Mae hyn yn caniatáu i fesurau cael eu rhoi ar waith yn gyflym, yn hyblyg ac ar lefel leol er mwyn lleihau’r clefyd ac ymateb i unrhyw gynnydd lleol yn nifer yr achosion o’r clefyd. Yn unol â'r mesurau diogelu hyn, rydw i heddiw yn cyhoeddi bod profion ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn Ardal TB Canolradd y Gogledd (ITBAN) fel rhan o'n nod hirdymor i ddileu TB gwartheg yng Nghymru. Mae epidemiolegwyr y Llywodraeth wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer yr achosion newydd yn Ardal TB Canolradd y Gogledd. Nid yw'r cynnydd hwn yn duedd tymor byr ac mae'n glir na fydd nifer yr achosion newydd yn lleihau heb gymorth. Y llynedd roedd cynnydd o 75% ers y 12 mis diwethaf. Fy mlaenoriaeth yw diogelu statws Ardal TB Isel y Gogledd a’i hehangu er mwyn cynnwys ardaloedd newydd yn Ardal TB Canolradd y Gogledd erbyn 2023 os bydd yr ardaloedd Canolradd hynny’n bodloni'r gofynion priodol o ran y clefyd . Mae cynnydd yn nifer yr achosion o’r clefyd mewn ardal ger yr Ardal TB Isel yn peryglu'r dyheadau hyn. O ganlyniad, o 13 Tachwedd 2018 ymlaen, rwy'n bwriadu estyn y defnydd o brofion ychwanegol ar fuchesi yn Ardal TB Canolradd y Gogledd  sydd gerllaw buchesi sydd wedi'u heintio ac sydd wedi colli’u statws heb TB swyddogol . Bydd y profion ychwanegol hyn ar fuchesi sydd â risg uchel o gael eu heintio yn arwain at ddyblu'r ymdrechion i ddod o hyd i’r clefyd yn yr ardal, drwy gynnal2 brawf ychwanegol ar fuchesi cyffiniol chwe mis ar wahân. Er mwyn cefnogi ffermwyr yn Ardal TB Canolradd y Gogledd yn ystod yr cyfnod anodd hwn, rwyf wedi cytuno i gyflwyno ymweliadau milfeddygol "Cadw TB Allan" a gymorthdelir gan y Llywodraeth ar gyfer buchesi sydd wedi cael canlyniad negyddol mewn profion ar fuchesi cyffiniol. Milfeddygon o bractis lleol y ffermwr, a fydd wedi cael hyfforddiant penodol, fydd yn gwneud yr ymweliadau hyn a byddant yn edrych ar y sefyllfa o ran y clefyd yn lleol, bioddiogelwch a pholisi’r fferm ar brynu a gwerthu gwartheg, a gwella prynu gwybodus gan adlewyrchu'r dull a ddefnyddir mewn ymweliadau Cymorth TB ar gyfer buchesi sydd wedi'u heintio â TB. Pwynt pwysig yr hoffwn ei hyrwyddo yn Ardal TB Canolradd y Gogledd, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, yw y gall cyflwyno anifeiliaid newydd i fuchesi fod yn risg bosibl o ran TB, a chlefydau eraill mewn gwartheg. Felly, y nod allweddol yw prynu'n wybodus er mwyn lleihau'r risg o ledaenu clefydau. Dylid annog ffermwyr i ystyried hanes TB y fuches y mae'r gwartheg yn cael eu prynu oddi wrthi er mwyn iddynt allu gwneud asesiad gwybodus er mwyn rheoli'r risg o gyflwyno TB i'w buches. Bydd hyn yn cynnwys gofyn cwestiynau ynghylch hanes profi'r anifeiliaid dan sylw a thrwy ddefnyddio'r offeryn ibTB. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos â'r rheini yn DEFRA er mwyn sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu rhoi ar ddwy ochr y ffin, er y gall polisïau amrywio ar adegau. Credaf fod hyn yn bwysig iawn o ran yr wybodaeth a ddarperir drwy ymweliadau "Cadw TB Allan" yng Nghymru a'r gwaith y mae'r Gwasanaeth Cynghori TB (TBAS) yn ei wneud yn Lloegr wrth hyrwyddo bioddiogelwch da a phrynu gwybodus. Mae'r ffocws ar gyflawni'r mesurau hyn drwy gysylltiadau a phartneriaethau â rhanddeiliaid lleol. Mae dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB yn cynnwys mynd i'r afael â phob ffynhonnell heintio, gan gynnwys gwartheg yn heintio’i gilydd a rôl bywyd gwyllt. Rydym wedi gwneud cynnydd da at gyflawni ein nod o ddileu TB buchol yng Nghymru. Bydd cyflwyno profion ychwanegol ar fuchesi cyffiniol yn Ardal TB Canolradd y Gogledd yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd at fod yn Gymru heb TB. Rwyf wedi ymrwymo i adrodd ar y cynnydd a wneir ar y Rhaglen newydd i Ddileu TB ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf unwaith y bydd gennym ddata ar gyfer blwyddyn galendr lawn. Mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at yr holl ffermwyr yn Ardal TB Canolradd y Gogledd yn esbonio sefyllfa'r clefyd yn yr ardal gan nodi'r mesurau ychwanegol yr ydym yn eu rhoi ar waith ar lefel leol.
https://www.gov.wales/written-statement-implementation-additional-contiguous-testing-intermediate-tb-area-north-itban
During Business Questions on 16 January, I committed to updating Members on policy relating to Gypsy, Roma and Traveller communities. When I took up this portfolio, our ‘Enabling Gypsies, Roma and Travellers’ plan was already out to consultation. This document set out proposals for how the Welsh Government would be seeking to improve access to advice and services and reduce inequalities experienced by these communities. Today we are publishing the consultation summary document, which can be found here: https://beta.gov.wales/enabling\-gypsies\-roma\-and\-travellers During the last couple of months, I have been undertaking a series of visits to Gypsy and Traveller sites and meetings with Councils across Wales to discuss in particular the fundamental issues of access to good quality accommodation and improved engagement with communities, as well as specific concerns relating to each site. Although we are making good progress towards adequate Gypsy and Traveller site provision, it is too slow in some areas. We want to ensure ingrained inequalities are challenged but this will not be fully effective without sufficient residential and transit site development. To further support this, we have encouraged local authorities to bid for our Gypsy and Traveller Sites Capital Grant and we intend to publish an updated Gypsy and Traveller Sites planning circular later this spring. The Welsh Government will also be reviewing local authority compliance with Part 3 of the Housing (Wales) Act 2014 during April and May to help me identify areas which are not complying as fully as they should. It is clear from my visits that engagement between these communities and public authorities could improve significantly. It is incumbent upon public authorities to eliminate discrimination, advance equality of opportunity and foster good relations between Gypsies and Travellers and wider society but it is clear that this will not be effective unless the principles of the Wellbeing of Future Generations (Wales) Act ‘5 ways of working’ are utilised. Gypsies and Travellers must be involved in discussions about matters which affect them and collaborative solutions sought. We are working to try to improve opportunities for this through a range of mechanisms but I would also urge other public authorities to consider this too. I have also been discussing with Cabinet colleagues what more we can do as a Government to support Gypsies and Travellers. I intend to delay publication of the new Gypsy, Roma and Traveller plan until June 2018 to allow time for us to consider the outcome of these discussions. I will also bring a further statement to plenary to coincide with its publication. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.        
Yn ystod Cwestiynau Busnes ar 16 Ionawr, fe wnes i ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am bolisi sy’n ymwneud â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Pan ddes i’n gyfrifol am y portffolio yma, roedd ein cynllun ‘Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr’ eisoes yn destun ymgynghoriad. Roedd y ddogfen hon yn cyflwyno cynigion ar gyfer sut byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella mynediad at gyngor a gwasanaethau a lleihau’r anghydraddoldebau sy’n wynebu’r cymunedau hyn. Heddiw rydyn ni’n cyhoeddi dogfen grynodeb yr ymgynghoriad, sydd ar gael yma: https://beta.llyw.cymru/galluogi\-sipsiwn\-roma\-theithwyr Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o ymweliadau â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a chyfarfodydd gyda Chynghorau ledled Cymru i drafod yn benodol faterion hollbwysig mynediad at lety o ansawdd da ac ymgysylltu gwell â chymunedau, yn ogystal â phryderon penodol sy’n ymwneud â phob safle. Er ein bod yn symud ymlaen yn dda at ddarpariaeth ddigonol o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, mae hyn yn rhy araf mewn rhai ardaloedd. Mae arnom eisiau sicrhau bod anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio yn cael eu herio ac ni fydd hyn yn gwbl effeithiol heb ddatblygu safleoedd preswyl a thramwy yn ddigonol. Er mwyn cefnogi hyn ymhellach, rydyn ni wedi annog awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am ein Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi cylchlythyr cynllunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wedi’i ddiweddaru yn nes ymlaen yn ystod y gwanwyn. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn adolygu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â Rhan 3 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ystod mis Ebrill a mis Mai i’m helpu i ddod o hyd i ardaloedd nad ydynt yn cydymffurfio mor llawn ag y dylent. Mae hi’n glir o fy ymweliadau y gallai’r ymgysylltiad rhwng y cymunedau hyn ac awdurdodau cyhoeddus fod yn llawer gwell. Mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus ddileu camwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng Sipsiwn a Theithwyr a chymdeithas yn ehangach ond mae hi’n glir na fydd hyn yn effeithiol oni bai fod egwyddorion ‘5 ffordd o weithio’ Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael eu defnyddio. Mae’n rhaid i Sipsiwn a Theithwyr fod yn rhan o drafodaethau am faterion sy’n effeithio arnyn nhw a rhaid ceisio dod o hyd i atebion cydweithredol. Rydyn ni’n gweithio i geisio gwella cyfleoedd ar gyfer hyn drwy amrywiaeth o fecanweithiau ond byddwn hefyd yn annog awdurdodau cyhoeddus eraill i ystyried hyn hefyd. Rwyf hefyd wedi bod yn cael trafodaethau gyda chyd\-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch beth allwn ni ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi Sipsiwn a Theithwyr. Rwyf yn bwriadu gohirio cyhoeddi’r cynllun Sipsiwn, Roma a Theithwyr newydd tan fis Mehefin 2018 er mwyn i ni gael amser i ystyried canlyniad y trafodaethau hyn. Byddaf hefyd yn cyflwyno datganiad arall gerbron y cyfarfod llawn i gyd\-fynd â’i gyhoeddi. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-gypsy-roma-and-traveller-support
Following the appointment of interim Chair Dr Chris Jones and the Chief Executive Alex Howells, I am pleased to announce the appointment of six independent members of the Board. The interest in these roles was very encouraging and we have been able to appoint a diverse and high quality group of people from across Wales. The members will be able to bring the voice of the professionals, education and the patient into the discussions of the HEIW Board. The six members of the Board are: **Mrs Tina Donnelly CBE DL FRCN** Tina has been Director of the Royal College of Nursing in Wales since 2004, she is a Registered Nurse who also trained as a Midwife, she also completed specialist training in cardiac care, palliative care and clinical teaching/teaching. Tina has held senior management posts in the NHS, Higher Education and she has worked in the Welsh Assembly Government as a Nursing Officer advising on health and nursing policy, regulation, Human Resources, research and education. Tina is an honorary Fellow of the University of South Wales and a Fellow of the Royal College.   **Dr Ruth Hall CB** Medically qualified, Ruth practised in paediatrics and child health before specialising in public health medicine in North Wales, then serving as Chief Medical Officer for Wales from 1997 till 2005\.  She has since held non\-executive Board and advisory appointments, as a member of NICE’s Public Health Advisory Committee, the board of Environment Agency and currently, Natural Resources Wales. Since 2015, she has co\-chaired the Mid Wales Healthcare Collaborative, focused on improving healthcare services in rural Wales. A governor of the Public Policy Institute Wales hosted by Cardiff University, she also holds a visiting chair at the University of the West of England. She is a Council member of the National Trust and of the Canal and River Trust and its Wales Board. **Mr John Hill\-Tout** John has 40 years experience in large and complex organisations with the NHS and Government. He served as an Executive Director, and for a period of six\-months as Acting Chief Executive of North Bristol NHS Trust. He left the NHS in 2001 to take up a post of Director of Performance and Operations within Health Department of Welsh Government before retiring in 2007\. He served as an independent member of Cwm Taf Health Board from 2009 until 2017 where his particular responsibilities were financial matters and he served as chair of the Audit sub\-committee and chair of the Finance, Performance and workforce committee. **Mrs Gill Lewis** Gill is currently Chair of Public Services Staff Commission in Wales and has worked in the public sector for most of her career. She is a qualified chartered accountant and held a number of senior positions in the former Audit Commission and the Wales Audit Office. She has more recently undertaken a wide variety of key roles across the public sector in Wales including Deputy Chief Executive, Director of Resources and statutory Section 151 officer and other Director roles in both the Local Government and the Health sectors. Gill has served on Housing Association Boards and CIPFA Council, and specialises in corporate governance, peer review and organisational turnaround. **Professor Ceri Phillips** Ceri is Head of the College of Human and Health Sciences at Swansea University and Professor of Health Economics at Swansea Centre for Health Economics. He is the University non\-officer member of ABMU Health Board and been heavily involved in the development of the ARCH Programme and the current Chair of Council of Deans of Health Wales. He is a member of the Ministerial Taskforce on Primary Care Workforce in Wales. He sat on the Panel commissioned by the Minister of Health and Social Services to review the NHS Workforce in Wales and was a member of the Panel that undertook the Review of Health Professions Education Investment in Wales in 2015, along with the Williams review that has led to the establishment of Health Education and Improvement Wales. He was also co\-lead of the Review of the appraisal of orphan and ultra\-orphan medicines in Wales in 2014\. **Dr Heidi Phillips** Heidi has been a GP in South Wales since 2001 and is currently Associate Professor/Admissions Director for the Graduate Entry Medicine and Physician Associate programmes at Swansea University Medical School. She is a Fellow of the Academy of Medical Educators and a Senior Fellow of the Higher Education Academy. Heidi has a special interest in recruitment and retention of GPs in Wales and is leading on the development of a Primary Care Academy. Passionate about widening access to medical school, she sits on the Medical Schools Council Selection Alliance Board and is leading on several equality/disability workstreams. All Independent Board members will take up appointment in February and tenures have been staggered with members being offered two or three year terms. Following a request from the Chair and Chief Executive, I have also agreed to a change in some of the dates for the new organisation’s establishment. In the first six months of the 2018/19 financial year, HEIW will now operate in shadow form. The advice from my Programme Board and the HEIW leadership has been that a six month shadow period would allow the new organisation to develop its governance and operational processes, and to work with staff and stakeholders to prepare for the important work ahead.   
Yn dilyn penodiad y Cadeirydd interim, Dr Chris Jones, a'r Prif Weithredwr, Alex Howells, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod chwe aelod annibynnol o'r Bwrdd bellach wedi eu penodi. Roedd y diddordeb a ddangoswyd yn y rolau hyn yn galonogol dros ben, ac rydym wedi gallu penodi aelodau amrywiol o ansawdd uchel sy'n dod o wahanol rannau o Gymru. Bydd yr aelodau hyn yn sicrhau bod lleisiau gweithwyr proffesiynol, addysgwyr a chleifion i'w clywed yn nhrafodaethau Bwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Y chwe aelod hyn yw: Mrs Tina Donnelly CBE DL FRCN Mae Tina wedi bod yn Gyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ers 2004; mae'n Nyrs Gofrestredig sydd hefyd wedi cwblhau hyfforddiant fel bydwraig, yn ogystal â hyfforddiant arbenigol mewn gofal cardiaidd, gofal lliniarol, ac addysgu, gan gynnwys addysgu clinigol. Mae Tina wedi dal swyddi uwch\-reoli yn y GIG ac ym maes Addysg Uwch, ac mae wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru fel Swyddog Nyrsio yn rhoi cyngor ar bolisi iechyd a nyrsio, rheoleiddio, Adnoddau Dynol, ymchwil ac addysg. Mae Tina yn Gymrawd anrhydeddus ym Mhrifysgol De Cymru ac yn gymrawd yn y Coleg Brenhinol.   Dr Ruth Hall CB Yn gymwysedig mewn meddygaeth, mae Ruth wedi bod yn ymarferydd mewn pediatreg ac iechyd plant, cyn arbenigo ym meddygaeth iechyd cyhoeddus yn y Gogledd ac yna gwasanaethu fel Prif Swyddog Meddygol Cymru rhwng 1997 a 2005\. Ers hynny, mae wedi dal swyddi anweithredol ar Fyrddau a rolau cynghorol, fel aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar Iechyd y Cyhoedd yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Bwrdd Asiantaeth yr Amgylchedd, ac ar hyn o bryd Cyfoeth Naturiol Cymru. Ers 2015, mae wedi bod yn cyd\-gadeirio Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth, sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru wledig. Mae’n Llywodraethwr yn Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n Gadeirydd gwadd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae’n aelod o Gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a’i Fwrdd yng Nghymru. Mr John Hill\-Tout Mae gan John brofiad 40 mlynedd o weithio mewn sefydliadau mawr a chymhleth sy'n gysylltiedig â'r GIG a'r llywodraeth. Bu'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol, ac am gyfnod o chwe mis bu'n Brif Weithredwr dros dro yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste. Gadawodd y GIG yn 2001 i ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Perfformiad a Gweithrediadau yn Adran Iechyd Llywodraeth Cymru, cyn ymddeol yn 2007\. Bu'n gwasanaethu fel aelod annibynnol ar Fwrdd Iechyd Cwm Taf rhwng 2009 a 2017, lle bu ganddo gyfrifoldebau penodol dros faterion ariannol, a bu'n gwasanaethu fel cadeirydd yr is\-bwyllgor Archwilio a chadeirydd y pwyllgor ar gyfer Cyllid, Perfformiad a'r Gweithlu. Mrs Gill Lewis Ar hyn o bryd mae Gill yn Gadeirydd Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, ac mae wedi gweithio yn y sector cyhoeddus y rhan fwyaf o’i gyrfa. Mae'n gyfrifydd siartredig cymwysedig ac mae wedi dal nifer o swyddi uwch gyda'r Comisiwn Archwilio gynt a Swyddfa Archwilio Cymru. Yn fwy diweddar, mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o rolau allweddol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Adnoddau, a swyddog statudol Adran 151, yn ogystal â rolau eraill fel cyfarwyddwr yn y sectorau Llywodraeth Leol ac Iechyd. Mae Gill wedi gwasanaethu ar Fyrddau Cymdeithasau Tai a Chyngor CIPFA, ac mae'n arbenigo mewn llywodraethu corfforaethol, adolygu gan gymheiriaid, a gweithredu newidiadau sefydliadol trawsnewidiol.   Yr Athro Ceri Phillips Mae Ceri yn bennaeth ar y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro Economeg Iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe.   Ef yw aelod y Brifysgol nad yw'n swyddog o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac mae wedi gwneud cyfraniad mawr at y gwaith o ddatblygu Rhaglen ARCH. Hefyd ef yw Cadeirydd presennol Cyngor Deoniaid Iechyd Cymru. Mae'n aelod o'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer y Gweithlu Gofal Sylfaenol yng Nghymru. Bu'n eistedd ar y Panel a gomisiynwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adolygu Gweithlu'r GIG yng Nghymru, a bu'n aelod o'r Panel a fu’n gyfrifol am gynnal yr Adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yng Nghymru yn 2015, ynghyd ag adolygiad Williams sydd wedi arwain at sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Bu hefyd yn cydarwain yr adolygiad o'r gwerthusiad o feddyginiaethau amddifad a thra amddifad yng Nghymru yn 2014\.   Dr Heidi Phillips Mae Heidi wedi gweithio fel meddyg teulu yn y De ers 2001, ac ar hyn o bryd mae'n Athro Cyswllt/Cyfarwyddwr Derbyniadau ar gyfer y rhaglenni Meddygaeth Mynediad i Raddedigion ac Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae'n Gymrawd yn Academi yr Addysgwyr Meddygol ac yn Gymrawd Hŷn yn yr Academi Addysg Uwch. Mae gan Heidi ddiddordeb penodol mewn recriwtio a chadw meddygon teulu yng Nghymru, ac mae'n arwain y gwaith o ddatblygu Academi Gofal Sylfaenol. Mae'n frwd dros ehangu mynediad i ysgolion meddygaeth, ac mae'n eistedd ar Fwrdd yr MSC Selection Alliance, gan arwain ar nifer o ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac anabledd. Bydd holl aelodau annibynnol y Bwrdd yn dechrau ym mis Chwefror, ac mae eu cyfnodau’n amrywio, gyda'r aelodau'n cael cynnig tymhorau dwy neu dair blynedd. Yn sgil cais gan y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr, rwyf hefyd wedi cytuno i newid rhai o'r dyddiadau ar gyfer rhoi'r sefydliad newydd ar waith. Yn ystod chwe mis cyntaf blwyddyn ariannol 2018/19, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru bellach yn gweithredu mewn modd cysgodol. Roedd fy Mwrdd Rhaglenni ac arweinwyr Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi fy nghynghori y byddai cyfnod cysgodol o chwe mis yn caniatáu i'r sefydliad newydd ddatblygu ei brosesau llywodraethu a gweithredu, a gweithio gyda staff a rhanddeiliaid i baratoi ar gyfer y gwaith pwysig sydd o'i flaen.
https://www.gov.wales/written-statement-health-education-and-improvement-wales-update-board-members-and-timetable
I would like to update Members on the progress of improvements to gender identity services. Work continues to establish the multi\-disciplinary Wales Gender Team which, subject to the recruitment of specialist staff, will start seeing patients at the end of October. The lead clinician and service manager have been appointed and recruitment is underway for the Advanced Nurse Practitioner. I am also pleased to announce that Cardiff and Vale University Health Board has confirmed that arrangements will be in place by September for patients who have been seen and assessed by the London Gender Identity Clinic to continue their treatment here in Wales. I realise  from my interactions with the trans community the importance of having access to prescribing locally, and this development is targeted towards the area of most need – with most patients awaiting hormone replacement therapy living in the Cardiff and Vale University Health Board area. Other health boards have also put similar arrangements in place. These improvements follow our additional £500,000 investment per year to improve gender identity services in Wales and will provide the platform for the implementation of a fully integrated service which is planned for next year. As with all NHS Wales patients, I feel strongly that transgender people should be able to have their healthcare needs met as close to home as possible and I hope that these developments start the process of real and tangible improvements for the trans community.    
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch cynnydd y gwelliannau i'r gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. Mae'r gwaith yn parhau i sefydlu Tîm Rhywedd amlddisgyblaethol Cymru a fydd yn dechrau gweld cleifion ddiwedd mis Hydref os bydd staff arbenigol wedi'u recriwtio. Mae'r clinigydd arweiniol a rheolwr y gwasanaeth wedi'u penodi, ac mae'r gwaith o recriwtio Uwch\-ymarferydd Nyrsio yn mynd rhagddo. Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau y bydd trefniadau yn eu lle erbyn mis Medi i gleifion sydd wedi'u gweld a'u hasesu gan Glinig Hunaniaeth Rhywedd Llundain allu parhau â'u triniaeth yma yng Nghymru. Ar ôl bod yn trafod â'r gymuned draws, rwy'n sylweddoli pa mor bwysig yw cael mynediad at wasanaethau presgripsiynu yn lleol. Mae'r datblygiad hwn felly wedi'i dargedu tuag at yr ardal lle mae mwyafrif y cleifion yn aros am therapi adfer hormonau, sef yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae byrddau iechyd eraill hefyd wedi rhoi trefniadau tebyg ar waith. Daw'r gwelliannau hyn yn dilyn ein buddsoddiad ychwanegol o £500,000 y flwyddyn i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd yng Nghymru a bydd yr arian hwn yn sylfaen ar gyfer gweithredu gwasanaeth cwbl integredig sydd yn yr arfaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fel sy'n wir am holl gleifion ein gwasanaeth iechyd, rwy’n teimlo'n gryf y dylai anghenion gofal iechyd pobl drawsryweddol gael eu diwallu mor agos at y cartref â phosibl ac rwy'n gobeithio mai dechrau'r broses o sicrhau gwelliannau go iawn a phendant yw hyn i'r gymuned draws.
https://www.gov.wales/written-statement-improvements-gender-identity-services
Members will have noted the recent announcement from the Independent QC Investigation that its work has been suspended pending the outcome of the Judicial Review initiated by the family of the late Carl Sargeant. There is rightly a significant amount of interest in this process. I am constrained in what I can say to Members in the light of the Judicial Review, but I feel it is important and appropriate to provide as full an update as possible to Members on this matter. In relation to the Judicial Review, we have previously confirmed that we will be strongly contesting all the grounds on which it is being brought and the legal process will now take its course. The process of setting up the IQCI has been complex, and has had to take into account a number of inter\-related factors, including among other things the absolute requirement to maintain the confidentiality of the complainants. I announced the QC Investigation on 10 November 2017, using my powers under s 48 and s 71 of the Government of Wales Act. Following this, I gave the Permanent Secretary a clear remit to make the operational arrangements to take it forward on the basis that it would not be a public inquiry, and that the confidentiality of the complainants must take precedence. I made it clear that the implementation of the investigation on this basis should take place at arm’s length from me and my office. The Permanent Secretary and her legal team drafted an Operational Protocol which met the remit in full, and contained substantial safeguards for the confidentiality of witnesses and information related to the Investigation. A shortlist of three highly respected QCs based outside Wales was provided to the Sargeant family and their first choice, Paul Bowen QC, was approached to undertake the investigation on the basis of the Operational Protocol as drafted. Mr Bowen QC indicated there was no impediment to him taking up the role, based on the Operational Protocol. In the interests of transparency, the protocol was circulated by the Permanent Secretary to all Assembly Members in January. In line with his remit as chair of the investigation, Mr Bowen QC discussed proposed terms of reference for his investigation with the Sargeant family. An amendment to the terms to clarify the scope of the investigation was requested by the family through Mr Bowen and agreed by the Permanent Secretary. Mr Bowen QC requested a further series of significant changes to the Operational Protocol, which as Chair of the Investigation he was of course entitled to do. The proposed changes went well beyond the remit that I had given to the Permanent Secretary, and therefore she made clear to Mr Bowen QC that she did not have the authority to agree them, and would have to refer them back to me as First Minister. Following intensive and constructive discussions between Mr Bowen QC and the Permanent Secretary, including the involvement of outside counsel retained by the Welsh Government, I was provided with formal advice on the proposed changes, and agreed to the majority of Mr Bowen’s requests, including discretion for the chair to enable the Sargeant family and their legal representatives to be present during questioning, subject to assurances about the confidentiality of the complainants and any evidence that might risk identifying them. Once agreement had been reached on the revised Operational Protocol, I indicated to the investigation that I would make myself available for oral evidence sessions at any time. A series of dates for these were proposed by Mr Bowen to take place in September, however, the Sargeant family indicated their barrister would be unavailable for these dates, so later ones would have to be found. On 25 June, we received a pre\-action protocol letter from the Sargeant family’s solicitors indicating that they intended to pursue a Judicial Review in relation to elements of the Operation Protocol.  Mr Bowen QC wrote to the Permanent Secretary in July indicating that, in light of the uncertainties caused by the Judicial Review, he was formally requesting an extension to the six month timescale for delivery of his report which is set out in the Operational Protocol, and this was agreed. Mr Bowen QC has announced that, subject to the outcome of the Judicial Review process, he intends to hold evidence sessions in March or April next year. I have indicated throughout that I will make myself available to give evidence at any time, and this will of course continue after my tenure as First Minister comes to an end. I hope this statement is useful to Members in terms of setting out some of the background to the current situation. I recognise that nobody wants these delays. It is having an impact on everyone involved in this tragic case, not least Carl’s family. I was the one who announced the need for this investigation and, as much as anyone, I wish this process had reached a conclusion by now. However, this must be done properly and in a way that does not compromise the anonymity of the people who came forward with complaints.
Bydd yr Aelodau wedi nodi'r cyhoeddiad diweddar gan yr Ymchwiliad Annibynnol Cwnsler y Frenhines fod ei waith wedi'i ohirio er mwyn disgwyl am ganlyniad yr Arolwg Barnwrol a gychwynnwyd gan deulu'r diweddar Carl Sargeant. Mae llawer iawn o ddiddordeb yn y broses hon, ac mae hynny’n gwbl briodol. Mae'r hyn a allaf ei ddweud wrth yr Aelodau'n gyfyngedig o ystyried yr Arolwg Barnwrol, ond rwy'n teimlo ei bod yn bwysig ac yn briodol rhoi diweddariad mor llawn â phosibl i’r Aelodau ar y mater hwn. Mewn perthynas â'r Arolwg Barnwrol, rydym wedi cadarnhau’n flaenorol y byddwn yn herio'n gryf yr holl seiliau y cafodd ei gyflwyno arnynt a bydd y broses gyfreithiol yn awr yn dilyn ei hynt. Bu'r broses o sefydlu'r Ymchwiliad Annibynnol hwn yn un cymhleth, a bu'n rhaid ystyried nifer o ffactorau rhyng\-gysylltiedig, gan gynnwys y gofyniad diamod i gadw cyfrinachedd yr achwynwyr. Cyhoeddais Ymchwiliad Cwnsler y Frenhines ar 10 Tachwedd 2017 gan ddefnyddio fy mhwerau o dan adrannau 48 a 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru. Yn dilyn hyn, rhoddais gylch gwaith pendant i'r Ysgrifennydd Parhaol wneud trefniadau gweithredol i fwrw ymlaen â hyn ar y sail na fyddai'n ymchwiliad cyhoeddus, ac y byddai’n rhaid i gyfrinachedd yr achwynwyr gael blaenoriaeth. Nodais yn glir, ar y sail hon, y dylai'r ymchwiliad gael ei gynnal hyd braich oddi wrthyf fi a'm swyddfa. Drafftiwyd Protocol Gweithredol gan yr Ysgrifennydd Parhaol a'i thîm cyfreithiol a oedd yn diwallu'r cylch gwaith yn llawn. Roedd hefyd yn cynnwys mesurau diogelu sylweddol i sicrhau cyfrinachedd y tystion a'r wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad. Rhoddwyd rhestr fer o dri Chwnsler y Frenhines uchel eu parch o'r tu allan i Gymru i’r teulu Sargeant a gofynnwyd i'w dewis cyntaf, Paul Bowen CF, gynnal yr ymchwiliad ar sail y Protocol Gweithredol fel y'i drafftiwyd. Dywedodd Mr Bowen CF nad oedd dim yn ei rwystro rhag ymgymryd â'r rôl, yn seiliedig ar y Protocol Gweithredol. Er mwyn bod yn dryloyw, cafodd y protocol ei ddosbarthu gan yr Ysgrifennydd Parhaol i holl Aelodau'r Cynulliad ym mis Ionawr. Yn unol â'i gylch gwaith fel cadeirydd yr ymchwiliad, aeth Mr Bowen CF ati i drafod cylch gorchwyl arfaethedig ei ymchwiliad â'r teulu Sargeant. Drwy Mr Bowen, gofynnodd y teulu am gael gwneud diwygiad i'r telerau er mwyn egluro cwmpas yr ymchwiliad, a chytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol â hynny. Ar wahân, gofynnodd Mr Bowen CF am gyfres o newidiadau sylweddol i’r Protocol Gweithredol. Fel Cadeirydd yr Ymchwiliad, roedd hawl ganddo ef wneud hynny wrth reswm. Roedd y newidiadau arfaethedig yn mynd ymhell tu hwnt i’r cylch gwaith roeddwn i wedi’i roi i’r Ysgrifennydd Parhaol, ac felly eglurodd hithau yn glir wrth Mr Bowen CF nad oedd ganddi’r awdurdod i gytuno arnynt, ac y byddai’n rhaid iddi eu cyfeirio yn ôl ataf i fel y Prif Weinidog. Yn dilyn trafodaethau dwys ac adeiladol rhwng Mr Bowen CF a’r Ysgrifennydd Parhaol, gan gynnwys y cyngor cyfreithiol allanol a gafodd Llywodraeth Cymru, cefais gyngor ffurfiol ar y newidiadau arfaethedig. Cytunais â’r rhan fwyaf o geisiadau Mr Bowen, gan gynnwys disgresiwn i’r cadeirydd alluogi i aelodau’r teulu Sargeant a’u cynrychiolwyr cyfreithiol fod yn bresennol yn ystod y cwestiynau, ar yr amod y byddai sicrwydd ynghylch cyfrinachedd yr achwynwyr ac unrhyw dystiolaeth a allai olygu bod perygl iddynt gael eu hadnabod. Wedi dod i gytundeb ynghylch y Protocol Gweithredol ar ei newydd wedd, dywedais wrth yr ymchwiliad y byddwn yn sicrhau fy mod ar gael ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar ar unrhyw adeg. Awgrymodd Mr Bowen gyfres o ddyddiadau ar gyfer y rhain i’w cynnal ym mis Medi ond awgrymodd y teulu Sargeant, fodd bynnag, na fyddai eu bargyfreithiwr ar gael ar gyfer y dyddiadau hyn, ac felly byddai’n rhaid dod o hyd i ddyddiadau diweddarach.   Ar 25 Mehefin, derbyniom lythyr protocol cyn\-gweithredu oddi wrth cyfreithwyr y teulu Sargeant yn dweud eu bod yn bwriadu mynd ar drywydd Adolygiad Barnwrol mewn perthynas ag elfennau o’r Protocol Gweithredol. Ysgrifennodd Mr Bowen CF at yr Ysgrifennydd Parhaol ym mis Gorffennaf i ddatgan, yng ngoleuni ansicrwydd a achoswyd gan yr Adolygiad Barnwrol, ei fod yn gofyn yn ffurfiol am estyniad i’r amserlen chwe mis ar gyfer cyflwyno ei adroddiad sydd wedi’i nodi yn y Protocol Gweithredol, a chytunwyd ar hyn.   Cyhoeddodd Mr Bowen CF, yn amodol ar ganlyniad yr Adolygiad Barnwrol, ei fod yn bwriadu cynnal sesiynau tystiolaeth ym mis Mawrth neu Ebrill y flwyddyn nesaf. Rwyf innau wedi dweud bob amser y byddaf yn sicrhau fy mod i ar gael i roi tystiolaeth ar unrhyw adeg, a bydd hyn yn parhau wrth gwrs wedi i’m cyfnod fel Prif Weinidog ddod i ben.   Rwy’n gobeithio bod y datganiad hwn yn ddefnyddiol i Aelodau o ran egluro rhywfaint o’r cefndir i’r sefyllfa bresennol. Rwy’n cydnabod nad oes unrhyw un am weld yr oedi hwn. Mae’n cael effaith ar bawb sydd ynghlwm wrth yr achos trasig hwn, yn enwedig teulu Carl. Myfi fy hun gyhoeddodd bod angen yr ymchwiliad hwn a fy nymuniad i, gymaint ag unrhyw un arall, yw y byddai’r broses hon wedi dod i’w therfyn erbyn hyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud pethau’n iawn ac mewn ffordd sy’n sicrhau bod pob unigolyn a gyflwynodd gŵyn yn cael aros yn anhysbys.  
https://www.gov.wales/written-statement-independent-qc-investigation
I am pleased to say that as of 17 September 2018 Cervical Screening Wales is providing high risk Human Papilloma Virus (HPV) testing as the primary cervical screening test across Wales. This is a more sensitive test and its use will prevent more cancers than current testing. It is also a more specific test which means that a negative result will be more reassuring. Wales will be the first of the UK nations to introduce this test for all screening participants. The introduction of high risk HPV primary testing in Wales represents a completely new approach to cervical screening. There are over 100 different types of HPV, but only around 13 types are associated with cancer and these are known as 'high risk' types. The new test will look for the 13 known high risk HPV types, which cause 99\.8% of cervical cancers. A woman’s immune system fights off most HPV infections naturally, but about 1 in 10 infections are harder to get rid of. Occasionally, HPV may start to damage cells and cause them to change which, if left untreated, can develop into cancer. The new test will enable us to move from manual detection of abnormal cells to the identification of the cause of cervical cancer by detecting the infection via automated molecular testing. The test will deliver significantly better quality testing and improved patient experience. There will also be more appropriate referrals to colposcopy services, resulting in quicker treatment and women being discharged back to routine surveillance more quickly. The current HPV vaccination programme protects against the two high risk HPV types that cause over 70% cervical cancer cases and some other types. As the HPV vaccine does not protect against all types of high risk HPV, regular cervical screening remains important. This combination of immunisation and cervical screening offers the best possible protection against cervical cancer and I would encourage all eligible women to take up the offer of screening when invited.              
O 17 Medi 2018 ymlaen, rwy'n falch iawn o ddweud y bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn darparu profion Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel fel y prif brawf sgrinio serfigol ar draws Cymru. Mae hwn yn brawf mwy sensitif ac fe fydd ei ddefnydd yn atal mwy o achosion o ganser na'r profion presennol. Mae hefyd yn brawf mwy penodol, sy'n golygu y bydd canlyniad negyddol yn rhoi mwy o sicrwydd. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r prawf hwn i bob un sy'n cael ei sgrinio. Mae cyflwyno prawf sylfaenol am Feirws Papiloma Dynol risg uchel yng Nghymru yn ffordd gwbl newydd o sgrinio serfigol. Mae dros 100 o wahanol fathau o HPV, ond dim ond tua 13 sy'n gysylltiedig â chanser, a'r rhain sy'n cael eu galw'n fathau 'risg uchel'. Bydd y prawf newydd yn edrych am yr 13 math hysbys o HPV risg uchel, sy'n achosi 99\.8% o'r achosion o ganser ceg y groth. Gall system imiwnedd menyw ymladd yn erbyn y rhan fwyaf o heintiau HPV yn naturiol, ond mae tua 1 o bob 10 haint yn anoddach cael gwared ohonynt. Yn achlysurol, gall HPV ddechrau niweidio celloedd ac achosi iddynt newid, a gall hynny ddatblygu i fod yn ganser os na chaiff ei drin. Bydd y prawf newydd yn ein galluogi i symud o system sy'n dibynnu ar unigolyn i ganfod celloedd annormal at system sy'n canfod yr hyn sy'n achosi canser ceg y groth drwy ddod o hyd i'r haint drwy brofion moleciwlaidd awtomatig. Bydd y prawf yn arwain at brofion o ansawdd llawer gwell, a gwell profiad i'r cleifion. Bydd atgyfeiriadau mwy priodol hefyd at wasanaethau colposgopi, gan arwain at driniaeth gyflymach a throsglwyddo menywod yn ôl i’r rhaglen sgrinio arferol yn gyflymach. Mae'r rhaglen frechu HPV bresennol yn gwarchod rhag dau fath o HPV risg uchel sy'n achosi dros 70% o'r achosion o ganser ceg y groth, ynghyd â rhai mathau eraill. Gan nad yw'r brechlyn HPV yn amddiffyn rhag pob math o HPV risg uchel, mae sgrinio serfigol rheolaidd yn parhau i fod yn bwysig. Mae'r cyfuniad hwn o imiwneiddio a sgrinio serfigol yn cynnig yr amddiffyniad gorau posib rhag canser ceg y groth, ac fe fyddwn yn annog pob menyw gymwys i dderbyn y cynnig o gael ei sgrinio pan fydd yn cael gwahoddiad.
https://www.gov.wales/written-statement-implementation-hpv-testing-cervical-screening-wales
  Every year NHS Wales strives to increase the level of protection against seasonal influenza (flu) for those who are recommended to have the flu vaccine. During the 2017\-18 flu season, just over 58,000 more people in at risk groups were vaccinated than in the previous season. Vaccination of children aged 2 and 3 years increased by 5% and an additional primary school year (children aged 8\) was included in the programme. As we prepare for the flu season each year, it is important that we maximise resilience within health and social care services to enable them to manage better during times of exceptional seasonal pressure. NHS healthcare staff are already offered flu vaccination by NHS employers as part of occupational health services. Sustained, year on year progress has been made in increasing uptake. During the 2017\-18 flu season, vaccination of NHS staff was up by 5%, with four health boards and trusts exceeding the 60% target. The target had been increased by 10% to 60% for the 2017/18 season. Vaccination of staff has been shown to be effective in reducing disease spread and patient mortality in care settings. It can also help to ensure business continuity by reducing flu related staff illness and the need to provide locum cover. The social care sector has a crucial role to play in preventing hospital admissions over the winter period, particularly for older people. Last winter, to the end of March 2018, there were 71 reported flu outbreaks in Wales, of which 42 (60%) happened in care homes. Studies have shown that the uptake of flu immunisation in staff in care homes is low, and that they have an increased risk of catching flu. The Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) recommends that healthcare and social care workers receive a flu vaccination to help protect vulnerable patients and residents in their care, from the effects of flu. To date, responsibility for offering flu vaccine to social care staff has rested with individual employers. Despite having high flu vaccination rates in residents, flu can spread easily within care homes and can be passed from staff to residents when the staff member has mild or even no symptoms. This is partly because as people age they do not produce as good an immune response to vaccination. This makes vaccination of staff caring for frail, older people even more important. Therefore, for winter 2018\-19, I have taken the decision to offer flu vaccination to staff working in adult residential care and nursing homes, at no cost to themselves or their employers through community pharmacies on the NHS. This action is being taken alongside a significant expansion of our children’s vaccination programme. Next winter, the children’s programme will be extended by two additional school years to include school years 5 and 6\. This means that all primary school aged children from reception class to year 6 will be offered the flu vaccine from 2018\-19\. It is also really important that people more at risk of developing complications from flu, such as pregnant women, those aged 65 and over, and people with long term health conditions, receive the vaccine. In 2017\-18, take up of the flu vaccine in these groups, was higher than ever. That is good news, but we cannot be complacent, and our flu campaign for 2018\-19 will continue to stress the real benefits of getting the flu jab.        
Bob blwyddyn, mae GIG Cymru yn ymdrechu i gynyddu'r amddiffyniad yn erbyn ffliw tymhorol i'r rheini yr argymhellir eu bod yn cael eu brechu rhag y ffliw. Yn ystod tymor ffliw 2017\-18, cafodd ychydig dros 58,000 yn fwy o bobl mewn grwpiau risg eu brechu nag yn ystod y tymor blaenorol. Gwelwyd cynnydd o 5% yn nifer y plant 2 a 3 oed a gafodd eu brechu, a chafodd blwyddyn ychwanegol o blant ysgol gynradd (8 oed) ei chynnwys yn y rhaglen. Wrth inni baratoi ar gyfer y tymor ffliw bob blwyddyn, mae'n bwysig inni sicrhau bod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mor gadarn â phosibl er mwyn eu galluogi i ymdopi'n well yn ystod cyfnodau o bwysau tymhorol eithriadol. Mae staff gofal iechyd y GIG eisoes yn cael cynnig brechiad rhag y ffliw gan eu cyflogwyr fel rhan o wasanaethau iechyd galwedigaethol, gyda mwy a mwy yn derbyn y brechiad o flwyddyn i flwyddyn. Yn ystod tymor ffliw 2017\-18, gwelwyd cynnydd o 5% yn nifer staff y GIG a gafodd eu brechu, gyda phedwar bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yn rhagori ar y targed o 60%. Cafodd y targed ei gynyddu 10% ar gyfer tymor 2017/18, ac mae bellach yn 60%. Gwelwyd bod brechu staff yn effeithiol iawn wrth atal heintiau rhag lledaenu a lleihau nifer y cleifion sy'n marw mewn lleoliadau gofal. Gall hefyd helpu i sicrhau parhad busnes drwy leihau salwch sy'n ymwneud â'r ffliw ymysg staff a'r angen i ddarparu staff locwm. Mae gan y sector gofal cymdeithasol rôl hanfodol i'w chwarae o ran osgoi derbyniadau i'r ysbyty yn ystod y gaeaf, yn arbennig ymysg pobl hŷn. Yn ystod gaeaf y llynedd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2018, cafwyd 71 adroddiad am achosion o'r ffliw yng Nghymru, ac roedd 42 (60%) o'r rheini wedi'u cofnodi mewn cartrefi gofal. Mae astudiaethau wedi dangos bod nifer y staff mewn cartrefi gofal sy'n cael eu brechu rhag y ffliw yn isel, a'u bod yn wynebu risg uwch o ddal y feirws. Mae'r Cyd\-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell bod gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu brechu rhag y ffliw i helpu i amddiffyn cleifion a phreswylwyr agored i niwed yn eu gofal rhag effeithiau'r ffliw. Hyd yma, cyflogwyr unigol oedd yn gyfrifol am gynnig brechlyn ffliw i staff gofal cymdeithasol. Er bod cyfraddau uchel o breswylwyr yn cael eu brechu rhag y ffliw, gall y feirws ledaenu'n rhwydd mewn cartrefi gofal a chael ei drosglwyddo o staff i'r preswylwyr pan fo gan yr aelod o'r staff symptomau ysgafn, neu ddim symptomau o gwbl. Mae hyn yn rhannol oherwydd wrth i bobl fynd yn hŷn, nid yw eu system imiwnedd yn ymateb gystal i frechlynnau. Oherwydd hynny, mae brechu staff sy'n gofalu am bobl hŷn a bregus yn bwysicach fyth. Ar gyfer gaeaf 2018\-19 felly, rwyf wedi penderfynu cynnig brechlyn rhag y ffliw i staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal a nyrsio preswyl i oedolion, heb unrhyw gost i'w hunain na'u cyflogwyr. Bydd hyn yn digwydd drwy fferyllfeydd cymunedol a’r GIG fydd yn ysgwyddo’r gost. Yn ogystal â hyn, bydd ein rhaglen i frechu plant yn cael ei hehangu’n sylweddol. Y gaeaf nesaf, bydd y rhaglen blant yn ehangu i gynnwys dwy flynedd ysgol ychwanegol, sef blynyddoedd 5 a 6\. Golyga hyn y bydd pob plentyn oedran cynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 yn cael cynnig brechlyn ffliw o 2018\-19 ymlaen. Mae hefyd yn bwysig iawn i bobl sy'n wynebu risg uwch o ddioddef cymhlethdodau oherwydd y ffliw, gan gynnwys menywod beichiog, y rheini sy'n 65 oed a hŷn a phobl sy'n dioddef o gyflyrau iechyd hirdymor, gael eu brechu. Yn ystod 2017\-18, cafodd mwy o bobl nag erioed yn y grwpiau hyn eu brechu rhag y ffliw. Mae hynny'n newyddion da, ond ni fedrwn laesu ein dwylo. Bydd ein hymgyrch ar gyfer 2018\-19 yn parhau i bwysleisio gwir fuddion brechu pobl rhag y ffliw.
https://www.gov.wales/written-statement-influenza-vaccination-programme-priorities-2018-19
An Individual Patient Funding Request (IPFR) is the process health boards and the Welsh Health Specialised Services Committee (WHSSC) use to consider providing a patient with a treatment which is not routinely available in NHS Wales. In July 2016, I announced an independent review of the IPFR process, to consider the criterion used to make IPFR decisions \- clinical exceptionality \- and the potential to reduce the number of IPFR panels.   In January last year I published the report and sought feedback on it.  In March I announced that I accepted and would implement the recommendations contained in the report.   The report concluded that, rather than attempting to prove a patient was clinically exceptional, a clinician should prove the patient would gain significant clinical benefit from the treatment requested and that the treatment offered reasonable value for money for NHS Wales (recommendation 11\).  In May 2017, NHS Wales issued new national guidance NHS Wales Policy: Making Decisions on Individual Patient Funding Requests, which incorporates these new criteria.  All health board IPFR panels are adhering to the new guidance. The report recommended that each health board should continue to have its own IPFR panel, rather than establishing a single national panel, so this practice has continued (recommendation 20\).  A single panel was considered impracticable, due to the number of IPFRs and the logistics of managing a single panel.  The application form was re\-designed to reflect the new criteria (recommendation 27\) and the electronic version launched in December.  A standard template for the IPFR panel meeting minutes was developed to record a broad estimate of the IPFR’s benefit and value (recommendation 15\) by September. Ten recommendations (9, 12\-14, 16\-18 and 20\-22\) endorsed current practice in the NHS such as disregarding the availability of a treatment, affordability or non\-clinical factors when the IPFR panel makes its decision; seeking expert advice for the IPFR panel when necessary; monitoring the outcomes of IPFRs and documenting the reasons for the IPFR panel’s decision.  They were implemented immediately by continuing current practice. Seven recommendations (2\-8\) addressed commissioning issues, which can impact on IPFRs.  NHS Wales produced all\-Wales prior approval process guidance and an application form (2 and 5\).  Health board commissioners held meetings to share good practice and co\-ordinate commissioned services (3\).  The All\-Wales Therapeutics and Toxicology Centre website has updated information on how the IPFR process works and the alternative commissioning routes for access to medicines and non\-medicines (4 and 6\).  Health boards are using agreed standard text to explain why patients in Wales may not choose their place of treatment (7\), even though their health board may send them to another healthcare provider for treatment.  The WHSSC website has been revised to give clearer information about which services it does or does not commission (8\).  These recommendations were implemented by October. An NHS staff working group has been established to draft the new commissioning framework (recommendation 1\), reflecting the changes brought about by implementing the other recommendations.  The framework is still in development. One recommendation (10\) was to set a consistent national policy on the use of inexpensive interventions requested via IPFR.  Health boards and WHSSC already have arrangements in place to maximise the use of interventions of equal effectiveness but lower cost; for example, health boards already routinely use generic and biosimilar medicines over more expensive branded medicines without the need for bureaucratic approval arrangements.  There will be occasions where it is appropriate to use the IPFR process even where an intervention is inexpensive; simply because a medicine is less expensive does not mean it is appropriate to deviate from the usual treatment pathway.   There were three recommendations (24\-26\) to improve the training for clinicians.  By September, clinicians had received training sessions as part of their continuing professional development (24\); there were guidance notes for clinicians about explaining the IPFR process to patients (25\); a decision\-making guide had been developed to help clinicians with the IPFR application process and each health board had a single point of contact for help with the application (26\). A Quality Assurance Advisory Group was established, and held its first meeting in January, to review randomly selected IPFRs from each health board (recommendation 19\).  The Group reports to medical directors and to the Welsh Government’s Chief Medical Officer.  Members have been involved in developing new training materials for patients and clinicians (recommendation 23\). I would like to reiterate my thanks to the members of the review group, for carrying out such a demanding task amongst all their other commitments; to the patients and organisations who provided evidence, and to everyone who has worked so diligently to make the IPFR process simpler and better understood.
Cais Cyllido Claf Unigol (IPFR) yw’r broses y mae byrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) yn ei defnyddio i ystyried darparu claf â thriniaeth nad yw ar gael fel rheol yn GIG Cymru. Ym mis Gorffennaf 2016, cyhoeddais adolygiad annibynnol o’r broses IPFR, i ystyried y maen prawf a ddefnyddiwyd wrth wneud penderfyniadau IPFR – eithriadoldeb clinigol – a’r posibiliad o leihau nifer y paneli IPFR. Ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddais yr adroddiad a gofyn am adborth amdano.  Ym mis Mawrth cyhoeddais fy mod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad ac y byddwn yn eu gweithredu. Daeth yr adroddiad i’r casgliad y dylai clinigwr brofi yr enillai claf fudd clinigol arwyddocaol o’r driniaeth y gofynnwyd amdani a bod y driniaeth yn cynnig gwerth rhesymol am arian i GIG Cymru, yn hytrach na cheisio profi bod claf yn eithriadol yn glinigol (argymhelliad 11\).  Ym mis Mai 2017, cyhoeddodd GIG Cymru ganllawiau cenedlaethol newydd, Polisi GIG Cymru: Gwneud Penderfyniadau ynghylch Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol, sy’n ymgorffori’r meini prawf newydd hyn.  Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cadw at y canllawiau newydd. Argymhellodd yr adroddiad y dylai pob bwrdd iechyd barhau i gael ei banel IPFR ei hun, yn hytrach na sefydlu un panel cenedlaethol, felly mae’r arfer hwn wedi parhau (argymhelliad 20\).  Ystyriwyd un panel yn anymarferol, oherwydd nifer y ceisiadau a logisteg rheoli un panel.  Ailddyluniwyd y ffurflen gais i adlewyrchu’r meini prawf newydd (argymhelliad 27\) a lansiwyd y fersiwn electronig ym mis Rhagfyr.  Datblygwyd templed safonol i gofnodion cyfarfod y panel IPFR er mwyn cofnodi brasamcan budd a gwerth yr IPFR (argymhelliad 15\) erbyn mis Medi. Cymeradwywyd deg argymhelliad (9, 12\-14, 16\-18 a 20\-22\) arferion cyfredol yn y GIG fel diystyru argaeledd triniaeth, fforddiadwyedd, neu ffactorau anghlinigol pan fo’r panel IPFR yn gwneud ei benderfyniad; ceisio cyngor arbenigol i’r panel IPFR pan fo angen; monitro deilliannau’r IPFRs a nodi’r rhesymau dros benderfyniad y panel.  Fe’u gweithredwyd ar unwaith, drwy barhau â’r arferion presennol. Aeth saith argymhelliad (2\-8\) i’r afael â materion comisiynu, a all effeithio ar IPFRs.  Cynhyrchodd GIG Cymru ganllawiau cymeradwyo ymlaen llaw Cymru gyfan a ffurflen gais (2 a 5\).  Cynhaliodd comisiynwyr byrddau iechyd gyfarfodydd i rannu arferion da a chydlynu gwasanaethau a gomisiynir (3\).  Ar wefan Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan y mae gwybodaeth wedi’i diweddaru am sut mae’r broses IPFR yn gweithio a’r llwybrau comisiynu eraill ar gyfer mynediad i feddyginiaethau a thriniaethau eraill (4 a 6\).  Mae byrddau iechyd yn defnyddio testun safonol a gytunwyd i esbonio pam na chaiff cleifion yng Nghymru ddewis lle y’u trinnir (7\), er y caiff eu bwrdd iechyd eu hanfon at ddarparwr iechyd arall am driniaeth.  Adolygwyd gwefan WHSSC i roi gwybodaeth gliriach am y gwasanaethau y mae’n eu comisiynu a’r rhai nad yw (8\).  Gweithredwyd yr argymhellion hyn erbyn mis Hydref. Sefydlwyd grŵp gweithio gan staff y GIG i lunio fframwaith comisiynu newydd (argymhelliad 1\), sy’n adlewyrchu’r newidiadau a gafwyd drwy weithredu’r argymhellion eraill.  Mae’r fframwaith yn cael ei ddatblygu o hyd. Un argymhelliad (10\) oedd sefydlu polisi cenedlaethol cyson o ran defnyddio ymyriadau rhad y gofynnwyd amdanynt drwy IPFR.  Mae gan fyrddau iechyd a WHSSC drefniadau yn barod i wneud y mwyaf o ymyriadau sydd yr un mor effeithiol ond sy’n costio llai; er enghraifft, mae byrddau iechyd yn defnyddio meddyginiaethau generig a biodebyg yn barod yn lle meddyginiaethau brand drutach heb fod eisiau trefniadau cymeradwyo biwrocrataidd.  Ar adegau bydd yn briodol defnyddio’r broses IPFR hyd yn oed pan fo’r ymyriad yn rhad; nid yw’n briodol gwyro oddi ar y llwybr trin arferol dim ond am fod meddyginiaeth yn llai drud.   Cafwyd tri argymhelliad (24\-26\) i wella’r hyfforddiant i glinigwyr.  Erbyn mis Medi, roedd clinigwyr wedi derbyn sesiynau hyfforddi fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus (24\); cafwyd nodiadau canllaw i glinigwyr am esbonio’r broses IPFR i gleifion (25\); datblygwyd canllaw gwneud penderfyniadau i helpu clinigwyr â’r broses ceisio am IPFR ac roedd gan bob bwrdd iechyd un man cyswllt i helpu â’r cais (26\).   Sefydlwyd Grŵp Cynghorol Sicrhau Ansawdd a chafodd ei gyfarfod cyntaf ym mis Ionawr i adolygu IPFRs a ddewiswyd ar hap oddi wrth bob bwrdd iechyd (argymhelliad 19\).  Mae’r Grŵp yn adrodd i gyfarwyddwyr meddygol a Phrif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru.  Mae’r aelodau wedi cyfrannu at ddatblygu deunyddiau hyfforddi newydd i gleifion a chlinigwyr (argymhelliad 23\).   Hoffwn ailadrodd fy niolch i aelodau’r grŵp adolygu, am wneud tasg mor feichus ymhlith eu holl ymrwymiadau eraill; i’r cleifion a’r cyrff a ddarparodd dystiolaeth, ac i bawb sy wedi gweithio mor ddiwyd i wneud y broses IPFR yn symlach ac yn haws ei deall.
https://www.gov.wales/written-statement-individual-patient-funding-request-ipfr-review
This statement alerts Members to the publication of the final report to the UK Government of the Independent Review of Building Regulations and Fire Safety, chaired by Dame Judith Hackitt. The independent review was commissioned as part of the UK Government’s immediate response to the tragic fire at Grenfell Tower last June. I welcome the publication of the final report, which builds on the interim conclusions published earlier this year. As I set out in my letter of 21 March, we continue to work closely with the UK Government and across the Welsh Government as we consider the need for changes in light of the Grenfell tragedy. Whilst Dame Judith’s recommendations are directed to the UK Government, given the broadly similar context in which we in Wales are working they provide us with a robust and useful basis on which to develop our own long\-term, robust approach to building safety. Our approach will be one which has at its heart the well\-being and safety of residents in Wales. I would like to place on record my thanks to Dame Judith Hackitt for the review team’s engagement with the Welsh Government and stakeholders in Wales during the formative stages of the review. Dame Judith’s report is challenging, and rightly so given the scale of the tragedy which prompted it. The report makes a number of very significant, high\-level findings and recommendations. These would have a profound impact across a number of portfolio areas, for many organisations in the public and private sectors, and indeed for residents themselves.  We now need to properly scrutinise, consider and respond. This does not however mean undue delay or a lack of commitment to taking necessary actions.  In considering the recommendations in detail we will continue to adopt the same cross\-Welsh Government approach we have taken since the fire at Grenfell Tower.  I will continue to liaise with the Cabinet Secretaries for Local Government and Public Services, and for Energy, Planning and Rural Affairs.  We will also continue to engage with our United Kingdom Government counterparts. These are, however, primarily devolved matters and we will of course take forward the recommendations in ways that reflect the best interests and, ultimately, safety and well\-being of the people of Wales. I will continue to keep Members informed of our response to this wide\-ranging review.  I am also taking this opportunity to share with Members the ‘position statement’ and recommendations of the Fire Safety Advisory Group, established by the Welsh Government following the fire at Grenfell Tower.  The recommendations chime with those of the Independent Review, the fire safety elements of which I have asked the Advisory Group to consider.  I will continue to share this information and our response. ### Documents * #### Fire Safety Advisory Group \- Position Statement, file type: pdf, file size: 167 KB 167 KB * #### Fire Safety Advisory Group Position Statement \- Welsh Government Response, file type: pdf, file size: 250 KB 250 KB * #### Fire Safety Advisory Group \- Final Recommendations, file type: pdf, file size: 221 KB 221 KB * #### Fire Safety Advisory Group Final Recommendations \- Welsh Government Response, file type: pdf, file size: 303 KB 303 KB
Diben y datganiad hwn yw tynnu sylw'r Aelodau at gyhoeddi adroddiad terfynol Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân, o dan gadeiryddiaeth y Fonesig Judith Hackitt, i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.  Cafodd yr adolygiad annibynnol ei gomisiynu'n rhan o ymateb uniongyrchol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r tân trasig yn Nhŵr Grenfell fis Mehefin diwethaf. Croesawaf gyhoeddi'r adroddiad terfynol sy'n adeiladu ar y casgliadau interim a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Fel y nodais yn fy llythyr dyddiedig 21 Mawrth, rydyn ni'n parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac ar draws Llywodraeth Cymru wrth i ni ystyried yr angen am newidiadau yn sgil trasiedi Grenfell. Tra bo argymhellion y Fonesig Judith wedi'u hanelu at Lywodraeth y DU, o ystyried y cyd\-destun eang tebyg rydyn ni'n gweithio oddi mewn iddo yng Nghymru, maent yn cynnig i ni sylfaen gadarn a defnyddiol i ddatblygu ein camau gweithredu hirdymor a chadarn ein hunain i ddiogelwch adeiladau. Yn greiddiol i'n dull o weithredu fydd lles a diogelwch preswylwyr yng Nghymru. Hoffwn gofnodi'n ffurfiol fy niolch i'r Fonesig Judith Hackitt am yr ymgysylltiad rhwng y tîm oedd yn cynnal yr adolygiad a Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru yn ystod camau ffurfiannol yr adolygiad. Mae adroddiad y Fonesig Judith yn un heriol, yn briodol felly o ystyried maint y drasiedi a'i hysgogodd. Mae nifer o ganfyddiadau ac argymhellion arwyddocaol iawn ac ar lefel uchel yn yr adroddiad. Byddai eu heffaith ar nifer o feysydd portffolio, ar nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ac yn wir, ar y preswylwyr eu hunain, yn sylweddol. Mae angen i ni nawr graffu arnynt yn iawn, eu hystyried ac yna ymateb iddynt. Nid yw hyn yn golygu, fodd bynnag, y bydd yna oedi neu ddiffyg ymrwymiad i gymryd y camau angenrheidiol.  Wrth ystyried yr argymhellion yn fanwl byddwn yn parhau i fabwysiadu'r un dull o weithredu ar draws Llywodraeth Cymru ag a gymerwyd ers y tân yn Nhŵr Grenfell.  Byddaf yn parhau mewn cyswllt ag Ysgrifenyddion y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a thros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Byddwn hefyd yn parhau i gysylltu â'n cymheiriaid yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y mae'r materion hyn, fodd bynnag, yn rhai sydd wedi'u datganoli a byddwn wrth reswm yn gweithredu ar yr argymhellion mewn modd a fydd yn adlewyrchu buddiannau ac, yn y pen draw, les pob Cymru, orau. Byddaf yn parhau i ddiweddaru'r Aelodau ynghylch ein hymateb i'r adolygiad eang hwn.  Dyma fanteisio ar y cyfle hefyd i rannu ag Aelodau 'ddatganiad sefyllfa' ac argymhellion y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell.  Mae'r argymhellion yn gyson â'r rhai yn yr Adolygiad Annibynnol ac rwyf wedi gofyn i'r Grŵp Cynghori edrych ar yr elfennau sy'n ymwneud â diogelwch rhag tân.  Byddaf yn parhau i rannu'r wybodaeth hon a hefyd ein hymateb i'r sefyllfa. ### Dogfennau * #### Fire Safety Advisory Group \- Position Statement (Saesneg yn unig), math o ffeil: pdf, maint ffeil: 167 KB 167 KB * #### Fire Safety Advisory Group Position Statement \- Welsh Government Response (Saesneg yn unig), math o ffeil: pdf, maint ffeil: 250 KB 250 KB * #### Fire Safety Advisory Group \- Final Recommendations (Saesneg yn unig), math o ffeil: pdf, maint ffeil: 221 KB 221 KB * #### Fire Safety Advisory Group Final Recommendations \- Welsh Government Response (Saesneg yn unig), math o ffeil: pdf, maint ffeil: 303 KB 303 KB
https://www.gov.wales/written-statement-independent-review-building-regulations-and-fire-safety-final-report
The Welsh Government is today launching a new round of the Innovate to Save fund, which operates alongside our successful Invest to Save fund. When the £5m Innovate to Save fund was launched last February, it was against the backdrop of ongoing austerity and the need for all public services to think and work differently to continue to provide the level of services people rely on. A year on, there is no sign of the UK Government abandoning its damaging policy of austerity and providing the much\-needed financial stimulus public services across the UK need. Against this backdrop, the need for change remains as important as ever. The first round of the Innovate to Save fund attracted 50 bids from across the Welsh public and third sectors. Over the summer, all of these applications were assessed for their suitability and readiness and taking into account the position established in the Well\-Being of Future Generations Act. A shortlist of eight projects was selected to begin the research and development phase and the ideas were tested and developed more fully before applying for repayable funding to take forward the proposal. This process is ongoing and will be completed next month   In launching a second funding round, our aim is to continue the momentum and build on the innovative ideas and proposals which were put forward last year. We will continue to work in partnership with Nesta and Cardiff University (through the Y Lab arrangement), and the Wales Council for Voluntary Action.  The basic structure of the fund will remain the same – a mixture of non\-repayable grant and a repayable element – but there will be some changes to the process to reflect experience and learning from the first round.   There will be an extended application period with targeted support for those organisations developing their ideas and a flexible research and development phase to take account of the varied nature of the projects. All parts of the Welsh public and third sectors are eligible to apply for Innovate to Save funding. Last year, a wide range of proposals, from the effectiveness of social prescribing to looking at new ways to assist communities threatened by coastal flooding and long\-term decline, were put forward. We hope to see a similarly wide range of proposals coming forward this year, which will generate cash\-releasing savings which can then be re\-invested in services and improve outcomes for people, including their quality of life.   I will keep Assembly Members updated about progress.     This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Mae Llywodraeth Cymru heddiw yn lansio cylch newydd o'r gronfa Arloesi i Arbed, sy'n gweithredu ochr yn ochr â'n cronfa lwyddiannus Buddsoddi i Arbed. Pan lansiwyd y gronfa £5m Arloesi i Arbed fis Chwefror diwethaf, roeddem mewn cyfnod o gyni parhaus ac roedd angen i'r holl wasanaethau cyhoeddus feddwl a gweithio'n wahanol er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt. Flwyddyn yn ddiweddarach, nid oes unrhyw arwydd bod Llywodraeth y DU yn troi cefn ar ei pholisi cyni niweidiol na rhoi'r hwb ariannol y mae cymaint o'i angen ar wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU. O ganlyniad, mae'r angen am newid yn parhau mor bwysig ag erioed. Llwyddodd cylch cyntaf y gronfa Arloesi i Arbed i ddenu 50 o geisiadau o bob cwr o sector cyhoeddus a thrydydd sector Cymru. Dros yr haf, fe gafodd pob un o'r ceisiadau hyn eu hasesu o ran eu haddasrwydd a'u parodrwydd gan ystyried y safbwynt sydd wedi’i sefydlu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dewiswyd rhestr fer o wyth prosiect i gychwyn ar y cam ymchwil a datblygu, ac fe brofwyd y syniadau a'u datblygu'n ehangach cyn gwneud cais am gyllid ad\-daladwy i symud ymlaen â'r cynnig. Mae'r broses hon yn parhau i fynd rhagddi, ac fe fydd yn cael ei chwblhau fis nesaf.   Wrth lansio ail gylch cyllido, ein nod yw parhau â'r momentwm ac adeiladu ar y syniadau a'r cynigion arloesol a gyflwynwyd llynedd. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Nesta a Phrifysgol Caerdydd (drwy drefniant Y Lab) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Bydd strwythur sylfaenol y gronfa yn parhau'r un fath \- cymysgedd o grant nad oes angen ei ad\-dalu ac elfen ad\-daladwy \- ond bydd rhai newidiadau i'r broses er mwyn adlewyrchu'r profiadau a'r hyn a ddysgwyd yn ystod y cylch cyntaf.   Bydd cyfnod ymgeisio estynedig, gyda chymorth wedi'i dargedu i'r sefydliadau sy'n datblygu eu syniadau a chyfnod ymchwil a datblygu hyblyg i ystyried natur amrywiol y prosiectau. Bydd modd i bob rhan o sector cyhoeddus a thrydydd sector Cymru ymgeisio am gyllid Arloesi i Arbed. Llynedd cyflwynwyd amrywiaeth eang o gynigion, o effeithiolrwydd presgripsiynu cymdeithasol i edrych ar ffyrdd newydd o helpu cymunedau dan fygythiad llifogydd arfordirol a dirywiad hirdymor. Gobeithio y bydd amrywiaeth debyg o gynigion yn dod i law eleni, gan gynhyrchu arbedion sy'n rhyddhau arian i'w ail\-fuddsoddi mewn gwasanaethau a gwella canlyniadau i bobl, gan gynnwys ansawdd eu bywydau.   Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i Aelodau'r Cynulliad. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-innovate-save-fund
Our national mission to raise standards, reduce the attainment gap, and deliver an education system that is a source of national pride, can only be fulfilled if we have high quality, well\-qualified teachers. I have been clear in my expectations of our teacher training reforms and the high quality bar I expect Initial Teacher Education (ITE) providers to meet. The principle purpose of the reforms is to improve the quality and consistency of provision, introduce a new approach to teacher education, and ensure that all programmes meet high aspirations for world leading ITE in Wales. On our reform journey we have worked closely with our stakeholders as part of our drive to build consensus and commitment to improving provision. In a short space of time, we have made significant progress. We have: * Developed, consulted on and published ITE accreditation criteria * Held a week long series of workshops organised by the OECD, involving world leading experts in the field of Initial Teacher Preparation * Empowered the Education Workforce Council to accredit individual ITE programmes, through the establishment of the Teacher Education Accreditation Board (the Board) * Completed the public appointment of the highly credible and high calibre Chair and Deputy Chairs of the Board, Professor Furlong, Dr Áine Lawlor and Professor Olwen Mcnamara * Seen ITE Partnerships submit their new, academically validated, ITE Programmes to the Board in December. It is against this backdrop I was pleased to hear from Professor Furlong and receive the results of EWC’s Teacher Education Accreditation Board’s deliberations. I am assured of the rigour of the Accreditation process. By empowering the Education Workforce Council to accredit individual ITE programmes, through the establishment of the Board it is rightly the teaching profession and experts, not Welsh Government, that determines if ITE programmes are suitably demanding, credible and professionally appropriate. **Wales newly accredited ITE programmes are:** **Primary – Undergraduate** * CaBan BA Primary * Cardiff Partnership BA (Hons) Primary Education with QTS * Yr Athrofa: Professional Learning Partnership BA (Hons) Primary Education with QTS **Primary – Postgraduate**   * Aberystwyth ITE Partnership PGCE * CaBan PGCE Primary * Cardiff Partnership PGCE: Primary * Yr Athrofa: Professional Learning Partnership PGCE with QTS **Secondary \- Postgraduate**     * Aberystwyth ITE Partnership PGCE * CaBan PGCE Secondary * Cardiff Partnership PGCE: Secondary * Yr Athrofa: Professional Learning Partnership PGCE with QTS The CaBan, Cardiff Partnership, Yr Athrofa: Professional Learning Partnership and Aberystwyth ITE Partnership have proven to the Board that their accredited ITE programmes are the real step change Professor Furlong’s Teaching Tomorrow’s Teachers pointed to; the high quality provision attracting the right people with the right skills, qualifications and an aptitude for teaching, to enter the profession.     Today is an important milestone in our reform journey and all involved should be proud of this significant achievement. http://www.ewc.wales/site/index.php/en/ite\-accreditation/providers\-of\-initial\-teacher\-education\-in\-wales\-from\-2019\.html
Dim ond os oes gennym athrawon cymwys o safon uchel y gallwn wireddu cenhadaeth ein cenedl o ran addysg, sef codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol. Mae fy nisgwyliadau innau o ran diwygio hyfforddiant athrawon yn hollol glir. Rwyf hefyd yn disgwyl i'n darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) gyrraedd safon uchel iawn. Prif ddiben y gwaith diwygio hwn yw gwella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth, cyflwyno dull newydd o gyflawni addysg athrawon, a sicrhau bod pob rhaglen yn bodloni'r dyhead am AGA yng Nghymru sy’n arwain y ffordd ar y llwyfan byd eang. Ar ein taith hyd yn hyn, rydym wedi cydweithio â rhanddeiliaid fel rhan o'r ymgyrch i greu consensws ac ymrwymiad i wella'r ddarpariaeth. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd mewn cyfnod byr. Dyma rai o’r prif bethau: * Datblygu meini prawf achredu AGA, ymgynghori arnynt, a'u cyhoeddi * Cynnal cyfres wythnos o hyd o weithdai, a drefnwyd gan OECD, a oedd yn cynnwys arbenigwyr byd\-eang sy'n flaenllaw ym maes AGA * Rhoi grym i Gyngor y Gweithlu Addysg achredu rhaglenni AGA unigol drwy sefydlu'r Bwrdd Achredu Addysg Athrawon * Cwblhau penodiadau cyhoeddus i swydd Cadeirydd ac Is\-gadeirydd y Bwrdd: pobl uchel eu parch a chanddynt hygrededd, sef yr Athro Furlong, Dr Áine Lawlor a'r Athro Olwen Mcnamara * Wedi gweld Partneriaethau AGA yn cyflwyno eu Rhaglenni AGA newydd, sydd wedi eu dilysu yn academaidd, i'r Bwrdd fis Rhagfyr. Roeddwn yn falch hefyd o gael clywed gan yr Athro Furlong a chael canlyniadau trafodaethau Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg. Rwyf wedi cael fy sicrhau bod y broses achredu yn drwyadl iawn. Trwy sefydlu'r Bwrdd,  rydym wedi rhoi grym i Gyngor y Gweithlu Addysg achredu rhaglenni AGA unigol. Golyga hyn mai penderfyniad y proffesiwn addysgu ac arbenigwyr, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, yw penderfynu a yw rhaglenni AGA yn ddigon heriol, a oes iddynt ddigon o hygrededd, ac a ydynt yn broffesiynol briodol. Yn fy marn i, dyma fel y dylai hi fod. Dyma raglenni newydd AGA achrededig Cymru: Cynradd – Israddedig * CaBan BA Cynradd * Partneriaeth Caerdydd BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC * Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC Cynradd – Ôlraddedig* Partneriaeth AGA Aberystwyth TAR * CaBan TAR Cynradd * Partneriaeth Caerdydd TAR: Cynradd * Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol TAR gyda SAC Uwchradd \- Olraddedig * Partneriaeth AGA Aberystwyth TAR * CaBan TAR Uwchradd * Partneriaeth Caerdydd TAR: Uwchradd * Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol TAR gyda QTS Mae CaBan, Partneriaeth Caerdydd, Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol, Partneriaeth AGA Aberystwyth  wedi profi i'r Bwrdd bod eu rhaglenni achredu AGA yn rhan o'r newid mawr y cyfeirir ato yn adroddiad yr Athro Furlong, sef ‘Addysgu Athrawon Yfory’; y ddarpariaeth o ansawdd uchel sy'n denu'r bobl iawn i'r proffesiwn – hynny yw, pobl sydd â'r sgiliau cywir, y cymwysterau cywir a'r ddawn i addysgu. Mae heddiw yn garreg filltir bwysig ar y daith hon a dylai pawb sy'n ymwneud â'r broses fod yn falch tu hwnt o'r llwyddiant mawr hwn http://www.ewc.wales/site/index.php/cy/achredu\-aga/darparwyr\-addysg\-gychwynnol\-athrawon\-yng\-nghymru\-o\-2019\.html
https://www.gov.wales/written-statement-initial-teacher-education-accredited-ite-programmes
On 2 October 2018, Huw Irranca\-Davies, Minister for Children and Social Care made an oral statement in the Siambr on: In celebration of Older People's Day (external link).
Ar 2 Hydref 2018, gwnaeth y Huw Irranca\-Davies, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Anabledd Dysgu, Y Rhaglen Gwella Bywydau (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-celebration-older-peoples-day
On 15 May 2018, Julie James, Leader of the House and Chief Whip made an oral statement in the Siambr on: International Day against Homophobia, Biphobia and Transphobia (external link).
Ar 15 Mai 2018, gwnaeth y Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-international-day-against-homophobia-biphobia-and-transphobia
On 13 November 2018, Huw Irranca\-Davies, Minister for Children and Social Care made an oral statement in the Siambr on: Improving Outcomes for Children: Reducing the Need for Children to Enter Care, and the Work of the Ministerial Advisory Group (external link).  
Ar 13 Tachwedd 2018, gwnaeth y Huw Irranca\-Davies, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-improving-outcomes-children-reducing-need-children-enter-care-and-work-ministerial
Last July I informed Assembly Members that Her Majesty’s Chief Inspector for Education and Training in Wales had written to me seeking my support for a review of the role of Estyn, to assess the implications of our education reforms on the future work of the Inspectorate. This was a proposal that I fully supported to continue to drive up standards in our education system. The independent review, published today on Estyn’s website, was undertaken by Professor Graham Donaldson who has a wealth of experience of conducting reviews of education systems around the world, including Australia, Portugal, and Japan. As Professor Donaldson remarks in this review *“the ultimate tests of the reforms to Welsh education will be the extent to which they lead to higher standards of attainment and more relevant learning for all pupils”*.  Needless to say, the work of the Inspectorate has an important part to play in our ongoing reforms. I welcome this report and will work with Estyn and the wider education system to consider the recommendations and its implications for our reform process. You can read the report on the Estyn website.    
Fis Gorffennaf diwethaf, fe roddais wybod i Aelodau'r Cynulliad fod Prif Arolygydd Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi ysgrifennu ataf i ofyn am fy nghefnogaeth i gynnal adolygiad o rôl Estyn, i asesu goblygiadau'r diwygiadau addysgol i waith yr Arolygiaeth yn y dyfodol.  Roeddwn i'n gwbl gefnogol o'r cynnig, er mwyn inni barhau i wella safonau yn ein system addysg. Cafodd yr adolygiad annibynnol, a gyhoeddir heddiw ar wefan Estyn, ei gynnal gan Yr Athro Graham Donaldson. Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn cynnal adolygiadau o systemau addysg ar draws y byd, gan gynnwys Awstralia, Portiwgal,  a Japan. Fel y dywed yr Athro Donaldson yn ei adolygiad *“O ran diwygio addysg yng Nghymru, bydd mesur ei lwyddiant yn ddibynnol ar y graddau y bydd yn arwain at safonau uwch o gyrhaeddiad a dysgu mwy perthnasol ar gyfer pob disgybl”*.  Prin bod angen dweud bod gan waith yr Arolygiaeth rôl bwysig i'w chwarae yn y diwygiadau sydd ar y gweill. Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a byddaf yn gweithio gydag Estyn a'r system addysg ehangach i ystyried yr argymhellion a'u goblygiadau i'n proses ddiwygio. Gallwch ddarllen yr adroddiad ar wefan Estyn.      
https://www.gov.wales/written-statement-independent-review-implications-educational-reform-programme-future-role-estyn
The Childcare Funding (Wales) Bill has today been introduced to the National Assembly for Wales, together with its explanatory memorandum and regulatory impact assessment. The cost of childcare is a major concern for working parents; it can cause a drain on household finances and the family’s quality of life. We have listened to these concerns and to parents who say these costs are acting as a barrier, preventing them from returning to work or progressing in work. The Welsh Government is introducing our Childcare Offer, providing 30 hours of government\-funded education and childcare for the working parents of 3 and 4\-year\-olds for 48 weeks a year. I am keen to establish a national system for managing applications and for making the necessary eligibility checks. This Bill will enable us to achieve this. It provides Welsh Ministers with the power to provide funding for childcare for eligible 3 and 4\-year\-old children of working parents and to make regulations setting out the arrangements for administering and operating such funding. The Bill will enable Welsh Ministers to secure access to information which is pertinent to making a decision about a person’s eligibility for the funding. In the main, this information is held by Her Majesty’s Revenue and Customs, the Home Office and the Department for Work and Pensions. Regulations made under the Bill will specify the information which applicants will need to provide in support of their claim for childcare funding and will explain how applications are to be made. Penalties and sanctions to be imposed, in the event that applicants provide false, misleading or dishonest information or should any of the sensitive information provided by third parties be disclosed unlawfully, will also be specified in regulations under the Bill. The Bill will also make it possible for the Welsh Ministers to establish arrangements whereby applicants will be able to ask for decisions in respect of their eligibility or penalties to be reviewed. Subject to the Bill being passed, it is envisaged that administration of the scheme will be carried out by Her Majesty’s Revenue and Customs who will accept applications and check eligibility for the Welsh Childcare Offer. This Bill will enable a technical solution to the management and processing of applications for the Childcare Offer, reducing some of the administrative and time burden upon parents and local authorities. I will make an oral statement about the Bill tomorrow.
Heddiw, mae Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol wedi cael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwyddom fod cost gofal plant yn bryder mawr i rieni sy'n gweithio, a'i fod yn dreth ar ansawdd bywyd y teulu ac ar gyllideb yr aelwyd. Rydym wedi gwrando ar y pryderon hyn ac ar rieni sy'n dweud bod y costau hyn yn rhwystr sy'n eu hatal rhag dychwelyd i fyd gwaith neu rhag dod yn eu blaenau yn y gwaith. Gan fod yr elfen gofal plant o'r 30 awr wedi’i hanelu at rieni sy'n gweithio, mae angen dull i rieni allu gwneud cais am y Cynnig a chlywed a ydynt yn gymwys ai peidio. Rydw i'n awyddus i sefydlu system genedlaethol ar gyfer rheoli ceisiadau am y Cynnig Gofal Plant a gwneud y gwiriadau cymhwystra angenrheidiol. Bydd cynigion y Bil hwn yn ein galluogi ni i gyflawni'r amcan hwn. Mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid ar gyfer gofal plant i blant cymwys 3 a 4 oed rhieni sy'n gweithio ac i wneud rheoliadau ynghylch y trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu cyllid o'r fath. Bydd y Bil hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gael mynediad at wybodaeth sy'n berthnasol i wneud penderfyniad ynghylch cymhwystra rhywun i gael y cyllid. Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y Swyddfa Gartref a'r Adran Gwaith a Phensiynau sy'n dal yr wybodaeth hon, yn bennaf. Bydd rheoliadau a wneir o dan y Bil yn pennu'r wybodaeth y bydd yn rhaid i ymgeiswyr ei darparu i gefnogi eu cais am gyllid a bydd yn esbonio sut i wneud ceisiadau. Bydd rheoliadau a wneir o dan y Bil hefyd yn pennu cosbau a sancsiynau i'w gosod pan fydd ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth anwir, gamarweiniol neu anonest neu petai unrhyw wybodaeth sensitif a ddarperir gan drydydd partïon yn cael ei datgelu'n anghyfreithlon. Hefyd, bydd y Bil yn ei gwneud yn bosibl i Weinidogion Cymru sefydlu trefniadau a fydd yn galluogi ymgeiswyr i ofyn am adolygu penderfyniadau ynghylch eu cymhwystra, neu benderfyniadau ynghylch cosbau. Yn amodol ar basio'r Bil, rhagwelir y bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gweinyddu'r cynllun. Byddant yn derbyn ceisiadau ac yn gwirio cymhwystra ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru. Bydd y Bil hwn yn darparu ateb technegol i'r broblem o reoli a phrosesu ceisiadau am y Cynnig Gofal Plant, gan ysgafnhau rhywfaint o'r baich o ran amser a gweinyddiaeth ar rieni ac awdurdodau lleol. Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn yfory.
https://www.gov.wales/written-statement-introduction-childcare-funding-wales-bill
On 23 April 2018, I announced that I have commissioned a review of affordable housing supply. To ensure that the review is fair, transparent and robust, I am establishing an independent panel to oversee this work. The panel, working under an independent Chair, will examine the approach we are currently taking, and recommend changes as it sees fit.  I expect the panel to report by the end of April 2019\. The Welsh Government has a longstanding commitment to increasing the supply of affordable homes, and this commitment is central to Prosperity for All.  We have a target of building 20,000 new affordable homes over the course of this Assembly, but I want to lay the ground work for the prospect of setting even more stretching targets in the future, in response to a range of housing needs.  I also want Welsh Government to continue to create a climate which drives innovation and improvements in terms of design, quality and energy efficiency.   I have already announced that Lynn Pamment, Cardiff office senior partner at PwC, will chair this group.  I can also now advise that the remaining panel members who I have asked to be part of this group \- and who I am pleased to say have accepted \- are: • Dr Peter Williams – Academic attached to the Department of Land Economy at the University of Cambridge and an independent consultant on housing and mortgage markets and housing policy • Helen Collins – Savills, Head of Housing Consultancy • Professor Kevin Morgan – Professor of Governance and Development and Dean of Engagement for Cardiff University • Dr Roisin Willmott OBE FRTPI – Director for the Royal Town Planning Institute in Wales (RTPI Cymru) • Phil Jenkins – Managing Director, Centrus I am pleased that we have been able to assemble a panel which offers such a strong cross\-section of skills and expertise across the breath of the areas being considered by the review.  The members bring real insight into housing supply issues and solutions both in Wales and other parts of the UK.  The panel also offers a deep understanding of the impact the housing sector has on the wider Welsh economy and of innovative methods of achieving even greater impact.  The review will also involve extensive engagement with all of the organisations currently involved in the delivery of affordable housing and I look forward to the debate which I hope will now surround this work.   I will provide a further statement once the panel has met and the terms of the wide reaching consultation that will be undertaken by the review become clear.  The review will ensure we get the best value for money from our investments and have housing policies fit for the future, which support many more people in Wales to access the affordable housing they need.
Ar 23 Ebrill 2018, cyhoeddais fy mod i wedi comisiynu adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn deg, yn dryloyw ac yn gadarn, rwy'n sefydlu panel annibynnol i oruchwylio'r gwaith hwn. Bydd y panel, a fydd yn gweithio o dan Gadeirydd annibynnol, yn archwilio'r dull gweithredu presennol, ac yn argymell newidiadau fel y gwêl yn dda. Rwy'n disgwyl i'r panel gyflwyno ei adroddiad erbyn diwedd Ebrill 2019\. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac mae'r ymrwymiad hwn yn ganolog i Ffyniant i Bawb. Mae gennym darged i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy newydd dros dymor y Cynulliad hwn, ond rwyf hefyd eisiau gosod y seiliau ar gyfer y posibilrwydd o bennu targedau mwy heriol byth yn y dyfodol, mewn ymateb i anghenion tai o bob math. Rwyf hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i greu hinsawdd sy'n hyrwyddo arloesi a gwelliannau o ran cynllunio, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni.   Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd Lynn Pamment, uwchbartner yn swyddfa Caerdydd PwC, yn cadeirio'r grŵp hwn. Gallaf hefyd gyhoeddi bellach mai'r aelodau eraill y gofynnwyd iddynt fod yn rhan o'r grŵp – ac yr wyf yn falch o roi gwybod sydd wedi derbyn y cynnig yw: • Dr Peter Williams – academydd sy’n gysylltiedig ag Adran Economi’r Tir ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ymgynghorydd annibynnol ar y marchnadoedd tai a morgeisi a pholisi tai. • Helen Collins – Savills, Pennaeth yr Ymgynghoriaeth Dai. • Yr Athro Kevin Morgan \- Athro Llywodraethu a Datblygu a Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd. • Dr Roisin Willmott OBE FRTPI – Cyfarwyddwr ar gyfer Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru. • Phil Jenkins \- Rheolwr Gyfarwyddwr.   Rwy'n falch ein bod wedi gallu creu panel sy'n cynnig trawsdoriad mor gryf o sgiliau ac arbenigedd ar draws yr holl feysydd y mae'r adolygiad yn eu hystyried. Bydd yr aelodau'n taflu goleuni newydd ar faterion yn ymwneud â'r cyflenwad tai yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU a'r atebion sydd ar gael. Mae'r panel hefyd yn cynnig dealltwriaeth fanwl o effaith y sector tai ar economi ehangach Cymru, a ffyrdd arloesol o gynyddu'r effaith honno. Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn golygu ymgysylltu'n helaeth â'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â chyflenwi tai fforddiadwy ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth yr wyf yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn ei ysgogi.   Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach pan fydd y panel wedi cwrdd a phan fydd cylch gorchwyl y broses ymgynghori eang a gynhelir fel rhan o'r adolygiad hwn yn glir. Bydd yr adolygiad yn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian o'n buddsoddiadau, a bod gennym bolisïau tai sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n helpu llawer mwy o bobl yng Nghymru i gael gafael ar y tai fforddiadwy sydd eu hangen arnynt.
https://www.gov.wales/written-statement-independent-panel-affordable-housing-supply-review
  The Welsh Government is today launching the next bidding round of the Invest to Save fund for 2018\-19\. Since 2009, the fund has supported more than 180 projects, with an aggregate value of more than £174m. These projects have been spread across Wales in the areas of ICT; new ways of working; improving service delivery; and workforce planning. In every bidding round, a wide range of proposals come forward – some are designed to realise financial savings and others to improve the way public sector organisations work and deliver services. Some require significant investment while others are more modest.   This year, we are asking organisations to consider whether some of the major challenges they face would suit the funding model offered by Invest to Save. Proposals could be for a Wales\-wide solution or for more local ideas, which, if proven to be successful, could be rolled out more widely. We want organisations to be ambitious in their aspirations. The closing date for the submission of expressions of interest to the Invest to Save fund is 31 July.   Since the publication of the last Invest to Save annual report, we have launched the Innovate to Save initiative in partnership with Nesta, Cardiff University and the Wales Council for Voluntary Action.   The first call for projects attracted 50 proposals, eight of which were selected for the research and development phase. The first tranche is now drawing to a close and the projects are developing their final business cases. The second Innovate to Save  bidding round opened in February – the deadline for submission of expressions of interest is the 16 July. I am pleased to report there is an ongoing appetite for this fund.   Together, Invest to Save and Innovate to Save provide organisations with a real choice of funding options for  their proposals. Organisations with ideas, which are at the very early stages of development and need research to establish their viability, are able to apply to the Innovate to Save fund for support; projects which are ready to be rolled out are eligible for the Invest to Save fund.   I will update Members about progress with the two bidding rounds and about the projects to be supported by Invest to Save and Innovate to Save as soon as possible. To coincide with the launch of the Invest to Save bidding round, the 2018 Invest to Save Annual Report is today being published. It is available at: https://gov.wales/topics/improvingservices/invest\-to\-save/annual\-report?lang\=en        
Heddiw mae Llywodraeth Cymru'n lansio cylch ymgeisio nesaf y Gronfa Buddsoddi i Arbed ar gyfer 2018\-19\. Ers 2009, mae'r Gronfa wedi cefnogi dros 180 o brosiectau, gyda chyfanswm gwerth o dros  £174m. Mae'r prosiectau hyn wedi bod ar waith ledled Cymru a hynny ym maes TGCh, ffyrdd newydd o weithio; a chynllunio'r gweithlu. Ym mhob cylch ymgeisio, mae ystod eang o gynigion yn cael eu cyflwyno \- bwriedir i rai wireddu arbedion ariannol ac i rai eraill wella'r ffordd y mae cyrff y sector cyhoeddus yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau. Mae rhai'n gofyn am fuddsoddiad sylweddol tra bo eraill yn llai o ran eu maint.   Eleni, rydym yn gofyn i sefydliadau ystyried pam y byddai rhai o'r heriau mawr y maent yn eu hwynebu yn gweddu i'r model ariannu a gynigir gan Fuddsoddi i Arbed. Gallai cynigion fod ar gyfer ateb Cymru gyfan neu ar gyfer syniadau mwy lleol, a allai gael eu cyflwyno'n ehangach os byddant yn llwyddiannus. Rydym am i gyrff fod yn uchelgeisiol o ran eu dyheadau. Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb i'r Gronfa Buddsoddi i Arbed yw 31 Gorffennaf.   Ers i'r adroddiad diwethaf ar Fuddsoddi i Arbed gael ei gyhoeddi, rydym wedi lansio'r Fenter Arloesi i Arbed gyda Nesta, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.   Yn sgil y cais cyntaf am brosiectau cafwyd 50 o gynigion, ac fe gafodd wyth o'r rhain eu dewis ar gyfer y cam ymchwil a datblygu. Mae'r gyfran gyntaf bellach yn dirwyn i ben ac mae'r prosiectau'n datblygu eu hachosion busnes terfynol. Agorodd yr ail gylch ymgeisio ar gyfer Arloesi i Arbed ym mis Chwefror  \- y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 16 Gorffennaf. Rwyf yn falch o roi gwybod bod y galw am y gronfa hon yn parhau.   Gyda'i gilydd mae Buddsoddi i Arbed ac Arloesi i Arbed yn rhoi i sefydliadau ddewis gwirioneddol o ddewisiadau ariannu ar gyfer eu cynigion. Mae cyrff sydd â syniadau sydd yn nyddiau cyntaf eu datblygiad lle mae angen ymchwil i weld pa mor hyfyw ydynt, yn gallu gwneud cais i'r Gronfa Buddsoddi i Arbed am gymorth; mae prosiectau sy'n barod i gael eu cyflwyno yn gymwys am y Gronfa Buddsoddi i Arbed.   Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd ar y ddau gylch ymgeisio ac am y prosiectau i'w cefnogi gan Fuddsoddi i Arbed ac Arloesi i Arbed cyn gynted â phosibl. I gyd\-fynd â chylch ymgeisio Buddsoddi i Arbed, mae Adroddiad Blynyddol Buddsoddi i Arbed yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae ar gael yn: https://gov.wales/topics/improvingservices/invest\-to\-save/annual\-report?skip\=1\&lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-invest-save-fund-2018-19
I am pleased to inform Assembly Members that I have today introduced the Renting Homes (Fees etc.) (Wales) Bill (‘the Bill’), together with its explanatory memorandum and regulatory impact assessment. In summary, the Bill: * Makes it an offence for a landlord or letting agent to require a person to make a payment which is prohibited, or to enter into a contract for services, or to require the grant of a loan, as a condition of the grant, renewal or continuance of a standard occupation contract1; * Provides for certain exceptions, these being rent, security deposits, holding deposits and payments in default (a payment required under the contract where the contract\-holder breaches the contract). * Provides for investigation powers, enabling investigating officers, authorised by local housing authorities, to give a notice requiring information of any person as part of an investigation.  An offence will occur if the person served a notice fails to comply with its instructions.  This carries a fine not exceeding level 4 on the standard scale. * Provides for enforcement arrangements.  Local housing authorities will have powers to issue fixed penalty notices to any person who has committed an offence of charging a prohibited payment as a condition of the contract.  The offence may be discharged by paying the fixed penalty notice.  A person found guilty of an offence by the Magistrates court will be subject to a fine, which is not subject to any maximum on the standard scale. * Permits applications to be made through the county court to recover prohibited payments or unreturned holding deposits, if the Magistrates court convicts a person of an offence. Provides for offences committed by a body corporate to be within the scope of the Bill. The responses to the Welsh Government’s consultation seeking views on the nature and level of fees charged to tenants in the private rented sector have also been published: https://beta.gov.wales/fees\-charged\-tenants\-private\-rented\-sector   Subject to the Bill being passed, key legislative changes will be made regarding the payments, that can be required of contract\-holders as a condition of the grant, renewal or continuance of a standard occupation contract in the private rented sector (known as ‘permitted payments’).  It will make it easier and cheaper to rent, and help improve the overall functioning of the sector.  The Bill prohibits payments unless they are permitted removing a number of the significant costs contract\-holders are likely to face at the start of, during, and end of, their contract. I will make an oral statement about the Bill tomorrow.   1 Under the Renting Homes (Wales) Act 2016, standard occupation contracts will replace the current assured shorthold tenancy as the default tenancy in the PRS.  Furthermore, tenants and licensees are termed ‘contract\-holders’ under Renting Homes.
Rwyf yn falch o roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad fy mod wedi cyflwyno Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) ('y Bil') heddiw, ynghyd â'i femorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol. I grynhoi, mae'r Bil: * yn nodi ei bod yn drosedd i landlord neu i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i berson wneud taliad sy'n daliad gwaharddedig, neu gytuno ar gontract am wasanaethau, neu  ofyn i fenthyciad gael ei roi, fel amod o roi neu o adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu o barhau â chontract o'r fath1; * yn darparu ar gyfer eithriadau penodol, sef rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, a diffygdaliadau (taliad sy'n ofynnol o dan y contract os bydd deiliad y contract yn torri amodau'r contract). * yn darparu ar gyfer pwerau ymchwilio, sy'n galluogi swyddogion ymchwilio, a awdurdodir gan awdurdodau tai lleol, i gyflwyno hysbysiad yn gofyn am wybodaeth am unrhyw berson sy'n rhan o ymchwiliad.  Mae'n drosedd os bydd y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn methu â chydymffurfio â'r cyfarwyddiadau.  Mae dirwy am hynny nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol. * yn darparu ar gyfer trefniadau gorfodi.  Bydd pwerau gan awdurdodau tai lleol i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i unrhyw berson sydd wedi cyflawni trosedd o godi taliad gwaharddedig fel amod o'r contract.  Gallai'r drosedd gael ei gollwng drwy dalu'r hysbysiad cosb benodedig.  Bydd person a gafwyd yn euog o drosedd gan Lys Ynadon yn agored i ddirwy, nad yw'n rhwym wrth unrhyw uchafswm ar y raddfa safonol; * yn caniatáu i geisiadau gael eu gwneud drwy'r llys sirol i adennill taliadau gwaharddedig neu flaendaliadau cadw na roddwyd yn ôl, os bydd y llys Ynadon yn barnu person yn euog o drosedd; * yn darparu ar gyfer troseddau a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol sydd o fewn cwmpas y Bil. Mae'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a oedd yn ceisio barn am natur a lefel y ffioedd a godir ar denantiaid yn y sector rhentu preifat wedi'u cyhoeddi hefyd: https://beta.llyw.cymru/ffioedd\-godir\-ar\-denantiaid\-yn\-y\-sector\-rhentu\-preifat Ar yr amod bod y Bil yn cael ei basio, bydd newidiadau deddfwriaethol yn cael eu gwneud ynghylch y taliadau y gellir eu gwneud yn ofynnol i ddeiliaid contract eu talu fel amod o roi neu o adnewyddu contract meddiannaeth safonol neu o barhau â chontract o'r fath yn y sector rhentu preifat (a elwir yn 'daliadau a ganiateir'). Bydd hynny'n ei gwneud yn haws ac yn rhatach i bobl rentu, ac yn helpu i wella'r ffordd y mae'r sector yn cael ei weithredu'n gyffredinol.  Mae'r Bil yn gwahardd taliadau oni bai eu bod yn rhai a ganiateir, gan gael gwared ar nifer o'r costau sylweddol y mae deiliaid contract yn debygol o'u hwynebu ar ddechrau, yn ystod, ac ar ddiwedd eu contract. Byddaf yn cyflwyno datganiad llafar ar y Bil yfory.   1 O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, bydd contractau meddiannaeth safonol yn disodli'r denantiaeth fyrddaliadol sicr bresennol. Y contractau hynny fydd y denantiaeth ddiofyn yn y sector rhentu preifat. Yn ychwanegol, gelwir tenantiaid a thrwyddedeion yn 'ddeiliaid contract' o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi.
https://www.gov.wales/written-statement-introduction-renting-homes-fees-etc-wales-bill
  An education system cannot exceed the quality of its teachers, and our new curriculum cannot be delivered without a well\-supported, aspirational teaching profession. We know that the world’s highest\-performing education systems have vibrant, engaged educators and support staff who are committed to continuous learning. That is what we all want for Wales. Our national mission for education – to raise standards, reduce the attainment gap, and deliver an education system that is a source of national pride and public confidence – can only be fulfilled if we have high quality, well\-qualified teachers to deliver it. To achieve that, we need excellent and inclusive teacher education. In 2015 Professor Furlong published his report “Teaching Tomorrows Teachers”. That report told us that the Initial Teacher Education on offer in Wales was not capable of developing the teachers we need now and in the future. As a government, we’ve made a commitment to enhance support for part\-time and postgraduate students. Therefore making it easier for them to obtain the higher level skills our economy needs. And in Our National Mission, published last year, we made a clear commitment to attract and retain more high\-quality graduates into teaching. I do not underestimate the importance of delivering on that commitment. The need for a sufficient supply of high quality, well\-qualified teachers underpins all our education reforms. We have been working with key stakeholders, such as the Teacher Recruitment and Retention Advisory Board, the regional consortia and expert consultants to develop and refine our proposals. We have made significant progress. Last year we: • Published ITE accreditation criteria; • Established the EWC Teacher Education Accreditation Board, Chaired by Professor Furlong, enabling the profession to set its own entry requirements; and • Invited ITE Partnerships to submit their new ITE Programmes to the board in December. I am assured of the rigour of the Accreditation process, and I want to take this opportunity to congratulate the Board – they have achieved an enormous amount in a very short space of time. We have set high standards for the new ITE programmes through our Accreditation Criteria. The Board have judged whether those programmes are demanding, credible, and professionally appropriate. That is absolutely the right approach. We want only the highest quality programmes to prepare our teachers of tomorrow. The Board will also scrutinise the ITE Partnerships’ recruitment strategies for filling their allocated places, and reaching their targets with high calibre and highly capable candidates. Work is continuing apace and we are on track for the first programmes to be delivered to students in September 2019\. ITE Partnerships will soon be informed by the EWC of decisions and indicative numbers in June; and final confirmation of numbers will be sent in September this year. Estyn will continue to monitor the provision of initial teacher education in the existing centres. This will ensure the quality of the ‘legacy programmes’ for the students who complete these programmes after September 2019\. Fundamental reform of ITE in Wales has been, and will continue to be, a collaborative process. We have worked with leading providers, including Oxford University, Glasgow University, Warwick University and Sheffield Hallam University. We also held a week long series of workshops organised by the OECD, involving world leading experts in the field of Initial Teacher Preparation. From this solid progress, we are continuing to focus on developing alternative routes into teaching that: • Are intellectually challenging and rigorously practical; • Widen participation and enhance diversity in the profession; • Provide career pathways and aid those changing their career; • Address proven shortage areas, including Welsh medium provision; and • Provide flexibility for trainees and schools. To help us achieve those aims, we are proposing a world\-leading development in the field of ITE – a new school\-based, university\-partnered part\-time PGCE, which includes a number of employment based places. To attract people with the expertise and knowledge to enrich our education system, we must remove barriers that prevent them entering the profession. I believe this new route will help us do that. This new part\-time PGCE will deliver the qualification to students via a high\-quality, blended learning model, ensuring a student’s locality is not an issue. It will also enable part\-time students to take advantage of the opportunities afforded by the new student finance arrangements. An Employment Based Route will mean that a student teacher can be employed in school from the outset. It will also enable the regional consortia to address proven shortages in schools region by region. We will be looking to an HE provider, or partnership of providers, to deliver these proposals. This will mean working with the consortia in all regions, and with schools, thus securing the benefits of working to scale. This new route must be both flexible and agile, involving effective professional support and development, and meet the same high quality requirements of new accreditation criteria. Enriching the profession means we enrich the learning experience for our children. The flexibility of this new part\-time route into teaching will provide opportunities to widen participation for those groups currently underrepresented in Wales’ teaching workforce. It will enrich the profession by increasing diversity and allowing those with work\-related experience from other fields to enter teaching. We are working with stakeholders to develop proposals and engaging with potential bidders on delivery of the programme. It is our intention that any new contract will commence in February 2019, ready for the 2019/20 academic year.      
Ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon, ac ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm newydd heb broffesiwn addysgu uchelgeisiol a gefnogir yn dda. Mae gan y systemau addysg sy’n perfformio orau yn y byd addysgwyr a staff cymorth egnïol a brwdfrydig sy'n dysgu'n barhaus. Dyna rydym ni oll am ei weld yng Nghymru. Dim ond drwy gael athrawon cymwys, athrawon o safon uchel, y gallwn gyflawni cenhadaeth ein cenedl o ran addysg \- sef codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder ymysg y cyhoedd. I wireddu hyn, mae angen addysg athrawon cynhwysol a rhagorol. Yn 2015, cyhoeddodd yr Athro Furlong ei adroddiad ‘Addysgu Athrawon Yfory’. Nododd yr adroddiad hwnnw nad oedd yr Addysg Gychwynnol Athrawon oedd ar gael yng Nghymru yn gallu datblygu'r athrawon sydd eu hangen arnom, nawr ac yn y dyfodol. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wella'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser a myfyrwyr ôl\-raddedig. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddyn nhw gaffael y sgiliau lefel uwch sydd eu hangen arnyn nhw ac ar ein heconomi. Mae safon uchel yn hollbwysig inni: yn ‘Cenhadaeth Ein Cenedl’, a gyhoeddwyd y llynedd, gwnaethom ymrwymiad clir i ddenu mwy o raddedigion o safon uchel i faes addysg, a'u cadw. Rwy'n rhoi pwys mawr ar gyflawni'r ymrwymiad hwn. Mae sicrhau digon o athrawon cymwys, athrawon da, yn sail i'n holl ddiwygiadau ym maes addysg. Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, megis y Bwrdd Cynghori ar Recriwtio a Chadw Athrawon, y consortia rhanbarthol ac ymgynghorwyr arbenigol i ddatblygu a mireinio ein cynigion. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi: * Cyhoeddi meini prawf achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) * Sefydlu Bwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg, dan Gadeiryddiaeth yr Athro Furlong, a fydd yn caniatáu i'r proffesiwn osod ei ofynion mynediad ei hun; a * Gwahodd Partneriaethau AGA i gyflwyno'u Rhaglenni AGA newydd i'r Bwrdd ym mis Rhagfyr. Rwy'n siŵr y bydd y broses achredu yn drylwyr, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch y Bwrdd \- maent wedi cyflawni llawer mewn ychydig o amser. Rydym wedi gosod safonau uchel ar gyfer y Rhaglenni AGA newydd drwy ein meini prawf achredu. Mae'r Bwrdd wedi ystyried a yw'r rhaglenni'n ddigon heriol a chredadwy ac a ydynt yn briodol yn broffesiynol, ac mae wedi penderfynu ar hynny. Dyma'r ffordd orau i fynd ati, does dim dwywaith. Dim ond y rhaglenni gorau oll sy'n ddigon da i baratoi athrawon y dyfodol. Bydd y Bwrdd hefyd yn craffu ar strategaethau recriwtio'r Partneriaethau AGA ar gyfer llenwi’r lleoedd sydd wedi’u dyrannu iddynt, a chyflawni eu targedau gydag ymgeiswyr galluog o safon. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym, ac rydym ar y trywydd cywir i ddarparu'r rhaglenni cyntaf i fyfyrwyr ym mis Medi 2019\. Yn fuan, ym mis Mehefin, caiff Partneriaethau AGA wybod gan Gyngor y Gweithlu Addysg am benderfyniadau a niferoedd dangosol; yna, caiff y niferoedd eu cadarnhau ym mis Medi eleni. Bydd Estyn yn parhau i fonitro'r ddarpariaeth addysg gychwynnol yn y canolfannau presennol. Bydd hyn yn sicrhau ansawdd y ‘rhaglenni etifeddol’ i'r myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglenni hyn ar ôl mis Medi 2019\. Mae'r gwaith sylfaenol o ddiwygio AGA yng Nghymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn broses gydweithredol. Rydym wedi cydweithio â darparwyr arweiniol, sy'n cynnwys Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Warwick a Phrifysgol Sheffield Hallam. Rydym hefyd wedi cynnal cyfres wythnos o hyd o weithdai, a drefnwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac a oedd yn cynnwys arbenigwyr byd\-eang sy'n flaenllaw ym maes addysg gychwynnol athrawon. Yn sgil y cynnydd cadarn a wnaed eisoes, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu llwybrau amgen i addysgu, llwybrau sydd: * yn fanwl ymarferol ac yn her ddeallusol; * yn ehangu cyfranogiad a chynyddu amrywiaeth yn y proffesiwn; * yn darparu llwybrau gyrfaoedd i helpu'r rhai sy'n newid gyrfa; * yn mynd i'r afael â meysydd lle mae prinder, gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg; a * yn rhoi hyblygrwydd i hyfforddeion cynradd ac ysgolion. I'n helpu i gyflawni'r amcanion hyn, rydym yn cynnig datblygiad arloesol ym maes AGA \- cwrs TAR newydd, rhan\-amser wedi ei leoli mewn ysgolion sy'n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion. Cwrs a fydd yn cynnwys nifer o leoliadau gwaith. Er mwyn denu pobl sydd â'r arbenigedd a'r wybodaeth i gyfoethogi ein system addysg, mae'n rhaid inni dynnu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag mynd i'r proffesiwn. Rwy'n credu y bydd y llwybr newydd hwn yn help inni wneud hynny. Bydd y cwrs TAR newydd, rhan\-amser, yn cyflwyno'r cymhwyster i fyfyrwyr trwy gyfrwng model dysgu cyfunol o safon uchel, a fydd yn sicrhau nad yw ardal leol y myfyriwr yn broblem. Bydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr rhan\-amser fanteisio ar y cyfleoedd a roddir gan y trefniadau cyllid myfyrwyr newydd. Bydd Llwybr yn Seiliedig ar Gyflogaeth yn golygu y gallai athro dan hyfforddiant gael ei gyflogi mewn ysgol o'r cychwyn cyntaf. Bydd hefyd yn galluogi i'r consortia rhanbarthol fynd i'r afael â phrinder mewn ysgolion fesul rhanbarth. Byddwn yn edrych ar ddarparwr Addysg Uwch, neu bartneriaeth o ddarparwyr, i gyflwyno'r cynigion hyn. Bydd hyn yn golygu cydweithio â'r consortia ac ysgolion ym mhob rhanbarth, a thrwy hynny sicrhau'r buddiannau o weithio i raddfa. Rhaid i'r llwybr newydd hwn fod yn hyblyg ac yn ystwyth, a rhaid iddo gynnwys cymorth a datblygiad proffesiynol effeithiol, a bodloni'r un gofynion safon uchel a'r meini prawf achredu newydd. Drwy gyfoethogi’r proffesiwn, byddwn yn cyfoethogi profiad dysgu ein plant: bydd hyblygrwydd y llwybr rhan\-amser newydd hwn yn rhoi cyfleoedd i bobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yng ngweithlu addysgu Cymru. Bydd yn cyfoethogi’r proffesiwn drwy gynyddu amrywiaeth a chaniatáu i bobl sydd â phrofiad mewn meysydd eraill i gychwyn addysgu. Rydym yn cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion ac rydym yn trafod â'r rhai sy'n debygol o gynnig i gyflwyno'r rhaglen. Ein bwriad yw cychwyn unrhyw gontract newydd ym mis Chwefror 2019, yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20\.
https://www.gov.wales/written-statement-initial-teacher-education
On 6 March 2018, the Leader of the House and Chief Whip made an oral statement in the Siambr on: International Women's Day (external link).
Ar 6 Mawrth 2018, gwnaeth y Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-international-womens-day
On 27 February 2018, the Cabinet Secretary for Finance made an Oral Statement in the Siambr on: JMC(EN), 22 February 2018 (external link).
Ar 27 Chwefror 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Cyfarfod y Cyd\-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), 22 Chwefror 2018 (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-joint-ministerial-committee-eu-negotiations-22-february-2018
On 26 June 2018, the Minister for Housing and Regeneration made an oral statement in the Siambr on: Integrating Housing, Health and Social Care (external link).
Ar 26 Mehefin 2018, gwnaeth y Gweinidog Tai ac Adfywio ddatganiad lafar yn y Siambr: Integreiddio Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-integrating-housing-health-and-social-care
I would now like to update Members about the plans for investment in rolling stock facilities, including a new state\-of\-the\-art depot facility to support the operation of the South Wales Metro.   Through the procurement we have secured investment of almost £100m in a new depot, which will be built in Taffs Well on a site acquired by the Welsh Government in March 2016\. It will house and service 36 of the new Metro vehicles that will operate services on the Taff Vale lines and eventually be the base for 400 train crew and 35 Metro vehicle maintenance staff. The new Taffs Well depot will complement the continued use of existing depots such as Canton, where around £5m will be invested to modernise the maintenance facilities to support the new tri\-mode rolling stock.  Together these depots will perform a critical function supporting the operation of the South Wales Metro The new Taffs Well depot will also be home to an integrated control centre for the South Wales Metro employing 52 staff. The Economic Action Plan focuses investment such that it aligns with our decarbonisation aims. Electricity sourced from 100% renewable sources will be used at the new Taffs Well depot, with rain water harvesting expected to save over 3,000m3 of water per year. Added to this, solar panels will also be installed and the latest LED lighting will minimise light pollution and energy use, in line with the Environment (Wales) Act 2016 and helping to achieve the policy goals of the Well\-being of Future Generations Act. In addition to the new depot facilities, Taffs Well station will also be modernised as part of our £194m investment in station improvements. A park and ride facility will also be created to enable commuters to use the South Wales Metro. Clearance and construction work is expected to start in 2019 and be completed by mid\-2022, with Transport for Wales procuring construction companies through Sell2Wales and the STRIDE framework. Public investment with a social purpose is a cornerstone of our new approach to rail and in accordance with our Economic Action Plan, we are aiming to maximise the opportunities for Welsh businesses, stimulate the Welsh economy and develop local skills, creating and supporting as many local jobs as possible. The construction of the Taffs Well depot will be one of the first opportunities for Welsh suppliers to benefit from the £738m investment in the South Wales Metro to create a sustainable transport infrastructure. Transport for Wales considered a number of potential locations, including the tops of the Valley Lines branches, for the new depot and other facilities.  Whilst Taffs Well is the best value solution for the new depot by a significant margin in terms of capital and operations costs, as well as operational efficiencies, we are investing in other important support facilities around the network. There will be investment in enhanced stabling facilities in Treherbert. In Rhymney there will be investment in stabling facilities and enhanced light maintenance alongside an upgrade to the station, to accommodate more and longer tri\-mode rolling stock. I look forward to sharing with you further details of our exciting, transformative plans for the next Wales and Borders rail service and South Wales Metro in the coming weeks and months.
Hoffwn nawr roi'r diwedddaraf i Aelodau am y cynlluniau i fuddsoddi mewn cyfleusterau trenau, gan gynnwys depo modern newydd, fydd yn rhoi hwb i waith Metro'r De. Mae canlyniad y broses gaffael wedi sicrhau buddsoddiad o bron £100m mewn depo newydd a gaiff ei adeiladu yn Ffynnon Taf ar safle a brynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016\. Caiff 36 o gerbydau newydd y Metro fydd yn darparu gwasanaethau ar lein Ffynnon Taf eu cadw a'u gwasanaethu yno, ac yn y pen draw, bydd 400 o staff trenau a 35 o weithwyr cynnal a chadw cerbydau'r Metro yn gweithio yno. Bydd y depo newydd yn Ffynnon Taf yn ategu'r gwaith a wneir mewn depos eraill fel Canton, lle caiff rhyw £5m ei fuddsoddi i foderneiddio'r cyfleusterau yno ar gyfer cynnal a chadw'r cerbydau tri modd newydd. Gyda'i gilydd, bydd y depos yn gwneud gwaith pwysig iawn, yn helpu i redeg Metro'r De. Bydd y depo yn Ffynnon Taf yn gartref hefyd i ganolfan reoli integredig Metro'r De fydd yn cyflogi 52 o staff. Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi am fuddsoddi mewn cynlluniau fydd yn cefnogi'n hamcanion i ddatgarboneiddio. Bydd y depo newydd yn Ffynnon Taf yn defnyddio trydan o ffynonellau adnewyddadwy a bydd yn defnyddio dŵr glaw gyda'r disgwyl y bydd hynny'n arbed dros 3,000m3 o ddŵr y flwyddyn. Yn ogystal, caiff paneli solar eu gosod a'r goleuadau LED diweddaraf eu defnyddio i arbed ynni ac i leihau lefelau llygredd golau, hynny yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac i wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn ogystal â'r depo newydd, caiff stesion Ffynnon Taf ei moderneiddio fel rhan o'n buddsoddiad o £194m i wella gorsafoedd. Caiff cyfleusterau parcio a theithio eu darparu er mwyn i gymudwyr allu defnyddio Metro'r De. Disgwylir i'r gwaith clirio ac adeiladu ddechrau yn 2019 a'i gwblhau erbyn canol 2022\.  Bydd Trafnidiaeth Cymru'n caffael cwmnïau adeiladu trwy GwerthwchiGymru a fframwaith STRIDE. Buddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol yw conglfaen ein ffordd newydd o weithio gyda'r rheilffyrdd ac yn unol â'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rydyn ni'n awyddus i gynyddu'r cyfleoedd i fusnesau o Gymru, rhoi hwb i economi Cymru a datblygu sgiliau lleol gan greu a chynnal cymaint o swyddi lleol â phosib. Y depo newydd yn Ffynnon Taf fydd un o'r cyfleoedd cyntaf i gyflenwyr o Gymru allu manteisio ar y buddsoddiad o £738m ym Metro'r De i greu seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy. Gwnaeth Trafnidiaeth Cymru ystyried nifer o fannau posib, gan gynnwys pen draw canghennau Leiniau'r Cymoedd, ar gyfer y depo newydd a chyfleusterau eraill. Er mai Ffynnon Taf oedd y lleoliad oedd yn cynnig y fargen orau inni o bell ffordd o ran costau cyfalaf a rhedeg ac arbedion, rydyn ni'n buddsoddi mewn cyfleusterau pwysig ym mhob rhan o'r rhwydwaith. Byddwn yn buddsoddi i wella'r cyfleusterau stablu yn Nhreherbert. Yn Rhymni, byddwn yn buddsoddi mewn cyfleusterau stablu ac i wella'r cyfleusterau cynnal a chadw ysgafn yno yn ogystal a gwella'r orsaf iddi allu delio â mwy o gerbydau tri modd a rhai hirach. Rwy'n disgwyl ymlaen at rannu â chi fwy o fanylion ein cynlluniau cyffrous ar gyfer gweddnewid gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a Metro'r De yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
https://www.gov.wales/written-statement-investment-rolling-stock-depot-facilities-support-new-south-wales-metro
On 11 October, the Cabinet Secretary for Finance attended the Joint Ministerial Committee (EU Negotiations). This meeting included an update from the Secretary of State for Exiting the EU on the progress of negotiations, and discussion of domestic issues related to Brexit, including common frameworks, preparedness and legislation. The Committee also discussed migration, following the publication of the Migration Advisory Committee’s report and in advance of the anticipated forthcoming UK Government White Paper on this important issue. The Welsh Government has made clear that migration policy cannot be discussed in a vacuum, not least given that the rights of British citizens to live and work elsewhere in Europe and vice\-versa will be a critical part of the negotiations on a future relationship with the EU. The Migration Advisory Committee’s recent report has shown that we will continue to need – and benefit from – migration into the future. It would be foolish to put at risk our access to the EU’s single market by insisting on ending freedom of movement of people between the UK and EU, only to have to increase inward migration from other parts of the world. Our push for engagement from the UK Government on its proposals for our future relationship with the EU was taken forward by the Minister for Housing and Regeneration, who was joined by the Cabinet Secretary for Education, at the Ministerial Forum on EU Negotiations (MF(EN)) on 22 October. That Forum sits under JMC(EN) and shares the same terms of reference: the meeting on 22 October was its fifth. The meeting focussed on the UK Government plans and progress on ‘co\-operative accords’. The UK Government’s intention is that these accords will provide a strategic approach to cooperation between the UK and the EU, further to agreeing the UK’s participation in individual EU programmes on a case by case basis. We have been clear that Wales is an outward facing nation, and our universities, innovators and creators work with partners throughout Europe and beyond. We want Welsh universities, colleges, schools, businesses and arts organisations to continue to collaborate in European networks like Horizon 2020, Erasmus \+ and Creative Europe. We are also clear that the UK Government cannot decide which programmes the UK should continue to participate in without our involvement. And we have voiced our concerns that, for the benefits of these programmes to be fully realised, they cannot be considered in isolation from issues around mobility and service provision. The UK is at a critical stage in negotiations with the EU in relation to withdrawal issues and the parameters of our future relationship, and we have pushed for engagement in the development of the political declaration which is intended to accompany a withdrawal agreement. We remain clear that a ‘no deal’ scenario must be avoided. The Welsh Government has stood ready to engage with the UK Government throughout the process to date, to contribute to the UK position and ensure that Wales’s interests are protected. We remain committed to these goals, and will continue to update Assembly Members on the progress of this work.
Ar 11 Hydref, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn bresennol yng nghyfarfod Cyd\-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE). Cafwyd diweddariad yn y cyfarfod hwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r UE ar gynnydd y negodiadau, a thrafodwyd materion domestig sy'n gysylltiedig â Brexit, gan gynnwys fframweithiau cyffredin, parodrwydd a deddfwriaeth. Trafodwyd yn y Cyd\-bwyllgor faterion ymfudo hefyd, ac roedd y cyfarfod ei hun yn cael ei gynnal ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo gael ei gyhoeddi a chyn i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y mater pwysig hwn ddod i law. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl glir nad oes modd trafod y polisi ar ymfudo mewn gwagle. Nid yw hyn yn bosibl pan fydd hawliau dinasyddion Prydain i fyw a gweithio mewn ardaloedd eraill yn Ewrop, ac i'r gwrthwyneb, yn rhan hanfodol o'r negodiadau ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol. Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi dangos y bydd dal angen mudwyr arnom yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i gael budd ohonynt. Byddem yn ffôl iawn i roi ein mynediad at y farchnad sengl mewn perygl drwy fynnu rhoi terfyn ar hawl pobl i symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ac wedyn gorfod cynyddu'r niferoedd sy'n mewnfudo o rannau eraill o'r byd. Yn Fforwm y Gweinidogion ar Negodiadau'r UE ar 22 Hydref, cododd y Gweinidog Tai ac Adfywio, ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ein dadleuon dros gael Llywodraeth y DU i ymgysylltu ynghylch ei chynigion ar gyfer ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Mae'r Fforwm yn eistedd o dan Cyd\-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ac yn rhannu'r un cylch gorchwyl. Y cyfarfod ar 22 Hydref oedd y pumed tro i'r Fforwm gyfarfod. Canolbwyntiwyd yn y cyfarfod ar gynlluniau Llywodraeth y DU a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r 'cytundebau cydweithredol'. Darparu dull strategol ar gyfer cydweithredu rhwng y DU a'r UE yw bwriad Llywodraeth y DU gyda'r cytundebau hyn, yn ogystal â chytuno ar gyfranogiad y DU mewn rhaglenni penodol yr UE fesul achos. Rydym wedi bod yn glir bod Cymru yn genedl agored, ac mae ein prifysgolion, arloeswyr a'n gwneuthurwyr yn gweithio gyda phartneriaid drwy Ewrop a thu hwnt. Rydym am i brifysgolion, colegau, ysgolion, busnesau a sefydliadau celfyddydol Cymru barhau i gydweithio mewn rhwydweithiau Ewropeaidd fel Horizon 2020, Erasmus\+ ac Ewrop Greadigol. Rydym hefyd yn glir na all Llywodraeth y DU benderfynu pa raglenni y dylai'r DU barhau i gymryd rhan ynddynt heb inni fod yn rhan o'r penderfyniad hwnnw. At hynny, rydym wedi mynegi ein pryderon, er mwyn gwireddu holl fuddion y rhaglenni yn llawn, na ellir eu hystyried heb gadw mewn cof faterion ynghylch symudedd a darpariaeth gwasanaethau. Mae'r DU wedi cyrraedd cam tyngedfennol yn y negodiadau â'r UE mewn perthynas â'i hymadawiad a natur ein perthynas yn y dyfodol. Rydym ni wedi gwthio i gael bod yn rhan o ddatblygu'r datganiad gwleidyddol y bwriedir iddo gyd\-fynd â'r cytundeb ymadael. Mae ein hagwedd ni’n bendant o hyd fod yn rhaid osgoi sefyllfa lle na ellir dod i gytundeb. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefyll yn barod i drafod â Llywodraeth y DU gydol y broses hyd yma, yn barod i gyfrannu at safbwynt y DU a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu. Rydym yn ymroddedig i'r amcanion hyn o hyd, a byddwn yn parhau i ddiweddaru Aelodau'r Cynulliad ar gynnydd y gwaith hwn.
https://www.gov.wales/written-statement-joint-ministerial-committee-eu-negotiations-and-ministerial-forum
  At the invitation of the First Minister, I am pleased to chair the Inter\-Ministerial Group on Paying for Social Care. This will take forward work initially started by the Cabinet Secretary for Finance as part of the national debate on new tax ideas. A social care levy was one of the shortlisted ideas. The group will examine the relevant policy considerations associated with introducing a social care levy, including future models of social care which are developing. It will also consider the work carried out by Professor Gerald Holtham on a social care levy. The membership of the group reflects the intended cross\-government focus, and therefore includes the Cabinet Secretary for Health and Social Services, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services, the Cabinet Secretary for Finance and the Minister for Housing and Regeneration.   At its first meeting on 27 June, the group agreed its terms of reference and an initial work programme, which consists of five distinct work streams. These work streams include the raising, distribution and use of additional funding to support a seamless, integrated health and social care service, consistent with the vision set out in A Healthier Wales, our long\-term plan for health and social services. The workstreams also include the development of a communications strategy to engage citizens and the social care sector, as well as relationships with the UK Government in recognition of the many inter\-dependencies between this agenda in Wales and the wider UK welfare system. As part of that the Cabinet Secretary for Finance and I will send a joint letter to relevant UK Ministers to outline our approach, and to seek a constructive dialogue between our two governments. Professor Holtham will attend the group’s next meeting later this month to discuss his recently published report Paying for Social Care, which provides an economic analysis underpinning his concept of a social care levy in Wales. I will keep Members updated as the work of the Inter\-Ministerial Group on Paying for Social Care progresses.    
Ar wahoddiad y Prif Weinidog, mae’n bleser gennyf gadeirio Grŵp o Weinidogion sy'n ystyried materion sy’n ymwneud â thalu am ofal cymdeithasol. Bydd hyn yn datblygu'r gwaith a ddechreuwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fel rhan o'r ddadl genedlaethol ar syniadau ar gyfer trethi newydd. Roedd ardoll gofal cymdeithasol ar restr fer y syniadau hynny. Bydd y grŵp yn ystyried materion sy'n ymwneud â pholisïau ar gyfer cyflwyno ardoll gofal cymdeithasol, gan gynnwys y modelau gofal cymdeithasol sy'n cael eu datblygu. Bydd hefyd yn ystyried y gwaith ar ardoll gofal cymdeithasol a wnaed gan yr Athro Gerald Holtham. Mae aelodaeth y grŵp yn adlewyrchu’r ffocws a roddir i’r mater hwn ar draws y llywodraeth, ac felly mae’n cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r Gweinidog Tai ac Adfywio.  Yng nghyfarfod cyntaf y grŵp ar 27 Mehefin, cytunodd yr aelodau ar ei gylch gorchwyl a'i raglen waith gychwynnol, sy'n cynnwys pum ffrwd waith benodol. Mae'r ffrydiau hyn yn ymwneud â chodi, dosbarthu, a defnyddio cyllid ychwanegol i helpu i sicrhau gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig a di\-dor, sy'n gydnaws â'r weledigaeth a ddisgrifir yng nghynllun Cymru Iachach, sef cynllun tymor hir ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol. Maent hefyd yn cynnwys datblygu strategaeth gyfathrebu i ymgysylltu â dinasyddion a'r sector gofal cymdeithasol, yn ogystal â meithrin cysylltiadau gyda Llywodraeth y DU gan fod llawer o gyd\-ddibyniaethau rhwng yr agenda hon yng Nghymru a system les ehangach y DU. Fel rhan o hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a finnau wedi anfon llythyr ar y cyd at y Gweinidogion perthnasol yn Llywodraeth y DU i amlinellu ein dull gweithredu ac i geisio deialog adeiladol rhwng ein dwy lywodraeth.   Bydd yr Athro Holtham yn dod i gyfarfod nesaf y grŵp yn nes ymlaen y mis hwn i drafod yr adroddiad y mae wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar, sef Talu am Ofal Cymdeithasol, sy'n cynnwys dadansoddiad economaidd sy’n sail i’w gysyniad ar gyfer gweithredu ardoll gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael clywed yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt gwaith y Grŵp o Weinidogion ar Dalu am Ofal Cymdeithasol. 
https://www.gov.wales/written-statement-inter-ministerial-group-paying-social-care
Today I am pleased to launch a consultation seeking views on proposals for a post Brexit Land Management Programme for Wales. https://beta.gov.wales/support\-welsh\-farming\-after\-brexit https://beta.llyw.cymru/cymorth\-i\-ffermwyr\-cymru\-ar\-ol\-brexit Welsh land matters to us all. It supports livelihoods, anchors communities and generates vital natural resources we all rely on. The people who manage it contribute a huge amount to our country. Leaving the EU presents significant challenges, however we have a unique opportunity to put in place bespoke Welsh policy which delivers for our economy, society and natural environment. We must take it. There is an overwhelming case for supporting land managers and this paper puts forward our proposals for ambitious reform. Earlier this year, after extensive discussions with a wide range of stakeholders, I announced my five core principles which underpin my vision for a new Welsh land management policy. Following this, we are now proposing a new Land Management Programme to replace the Common Agricultural Policy (CAP) in Wales in its entirety. The Programme consists of two over\-arching schemes: the Economic Resilience scheme and the Public Goods scheme. The Economic Resilience scheme will provide targeted investment to both land managers and their supply chains. The Public Goods scheme will provide support to deliver more public goods from the land and, in return provide a new income stream for land managers. To underpin both these schemes we believe there is a good case for fairer, simpler and more coherent regulation The Programme marks a significant change.  We want to see a phased transition which balances time needed for change with the need to provide timely support.  No changes will be made to the existing Basic Payment Scheme (BPS) in 2018 and 2019 and all current Glastir contracts will continue to be honoured. From 2020, work will begin to move to the new schemes, including a phased reduction in BPS as new schemes come on\-stream.  The ambition is to have the new schemes fully in place by 2025 using existing high\-performing Rural Payments Wales systems. We are grateful for the help and energy of all Welsh stakeholders who have come together to aid this work. We will continue these discussions as we prepare detailed plans, bring forward legislation and implement change. I welcome your views on whether the proposals in the consultation will help us deliver our long term objectives. The consultation will close on 30 October 2018\. Following this, we will publish a further, detailed consultation next spring  and we intend to bring forward primary legislation to make provision for reform. Our ambition is to publish a Bill before the end of this Assembly term in 2021\.
Mae'n bleser gen i lansio ymgynghoriad heddiw sy'n gofyn eich barn am ein cynigion ar gyfer Rhaglen Rheoli Tir i Gymru ar ôl Brexit. https://beta.gov.wales/support\-welsh\-farming\-after\-brexit https://beta.llyw.cymru/cymorth\-i\-ffermwyr\-cymru\-ar\-ol\-brexit Mae tir Cymru'n bwysig inni i gyd. Mae'n rhoi bywoliaeth, yn cynnal cymunedau ac yn creu'r adnoddau naturiol rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae'r bobl sy'n gofalu amdano yn gwneud cyfraniad anferthol at les y wlad. Bydd Brexit yn dod â heriau mawr yn ei sgil.  Ond mae’n cynnig cyfle digynsail i greu polisi unigryw all ddod â budd i'n heconomi, cymdeithas a'r amgylchedd naturiol. Rhaid peidio â cholli'r cyfle hwn. Mae'r ddadl o blaid cefnogi'n rheolwyr tir yn aruthrol ac mae'r papur hwn yn gosod allan ein cynigion ar gyfer rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau. Yn gynharach eleni, ar ôl trafod helaeth â llawer o randdeiliaid, cyhoeddais fy mhum egwyddor graidd sy'n sail i 'ngweledigaeth ar gyfer polisi rheoli tir newydd i Gymru. Ac yn awr, rydyn ni'n cynnig Rhaglen Rheoli Tir newydd i gymryd lle'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yng Nghymru. Caiff y Rhaglen ei rhannu'n ddau gynllun: y cynllun Cydnerthedd Economaidd a'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus. Bydd y Cynllun Cadernid Economaidd yn buddsoddi'n benodol i helpu rheolwyr tir a'u cadwyni cyflenwi. Bydd y cynllun Nwyddau Cyhoeddus yn cynnig ffrwd incwm newydd i reolwyr tir fel tâl am ddefnyddio'u tir i ddarparu mwy o nwyddau cyhoeddus. Fel sail i'r ddau gynllun, rydyn ni'n credu bod dadl gref o blaid trefn reoleiddio decach, symlach a mwy ystyrlon. Mae hyn yn golygu newid mawr.  Rydyn ni am i’r newid hwnnw fod yn un graddol er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amser sydd ei angen i newid a'r angen i roi cefnogaeth amserol.  Bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn aros yn union fel y mae yn 2018 a 2019 a chaiff pob contract Glastir ei anrhydeddu. Yn 2020, byddwn yn dechrau'r broses o symud i'r cynlluniau newydd, fydd yn cynnwys gostwng y BPS yn raddol wrth inni ddechrau rhoi'r cynlluniau newydd ar waith.  Y nod yw cael y cynlluniau newydd ar eu traed erbyn 2025 gan ddefnyddio systemau llwyddiannus Taliadau Gwledig Cymru. Rydyn ni'n ddiolchgar i randdeiliaid Cymru sydd wedi dod ynghyd i'n helpu â'r gwaith hwn am eu cymorth a'u hegni. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau wrth inni baratoi cynlluniau manwl, creu deddfwriaeth a rhoi'r newidiadau ar waith. Rwy'n disgwyl ymlaen at glywed a ydych yn meddwl y gwnaiff y cynigion ein helpu i wireddu'n hamcanion tymor hir. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref 2018\. Byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad manylach yn y gwanwyn ac yna ddeddfwriaeth ar gyfer diwygio'r drefn. Ein hamcan yw cyhoeddi'r Bil cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn yn 2021\.
https://www.gov.wales/written-statement-launch-brexit-our-land
Never has it been more important to bridge Wales culturally, digitally and physically to the world. The strength of our overseas relationships and improving transport connectivity will determine our ability to forge new markets and maintain and grow our position as an attractive and competitive place to visit and study, invest and do business, especially as we exit the EU. Tourism marketing is often a flag\-carrier for Wales \- and Visit Wales’s international marketing work delivers a strong return on investment on the resources available. Around 90% of Wales’s visitors come from within the UK; and most of Visit Wales’s promotional resources are focused on this market. However, international tourism is crucial to building Wales’s general profile as well as a sustainable visitor economy. Wales now attracts around 1m international visitors a year. These are record numbers, and the most recent Tourism Industry Barometer survey shows that 84% of businesses say that their performance this summer was better or the same as that of last year. As international tourism to the UK generally grows, the challenge will be to grow our share of this market, and to attract visitors to spend more and stay longer in Wales – in an exceptionally competitive marketplace. Visit Wales’s current international marketing strategy focuses the effort on a select number of target markets with the most growth prospects. The Republic of Ireland is Wales’s main market, and Welsh Government works with partners such as Stena Line to deliver multi\-channel marketing campaigns, including television advertising, directly to this audience.  In Germany, Visit Wales’ programme includes advertising, events, media relations, and targeted activity aimed at tour operators, working with brands such as DERTOUR, TUI and Globetrotter. Visit Wales also retains a small team in New York, where the focus is on growing business\-to\-business travel trade interest in Wales. There was an impressive and encouraging growth of 24% in business from the top 100 international operators to Wales in 2017\. We work with and host journalists on itineraries around wales. This results in high\-profile coverage in publications ranging from National Geographic Germany to Topphälsa Sweden to Condé Nast Spain; whilst the content shared with Visit Wales’s 1\.45m global followers on social media has doubled in its reach in the last twelve months. As the International Convention Centre Wales opens, Visit Wales is leading the work of promoting Wales generally in the lucrative business events marketplace, which is forecast to be worth at least £24m extra per annum to the economy. Wales’s heritage is a major part of the appeal, and Visit Wales engages with Cadw and National Museum Wales to ensure that they attend international tourism trade fairs, and that their award\-winning marketing campaigns are aligned with Visit Wales international marketing programme.  Partners such as North Wales Tourism are also funded to undertake very targeted international marketing activity, which has resulted in tangible visitor increases from Japan to the Conwy area for example. Beyond tourism, Welsh Government is active in a wide range of countries and regions. Wales has 20 offices globally in key locations such as Dublin, Dubai, New York, Shanghai and Brussels. This network is expanding quickly; new offices opened this year in Montréal, Doha, Berlin and Paris, with Düsseldorf also scheduled to open before the end of this year. We are growing connections with key European partners: a visit to Ireland took place earlier this year and Welsh Government recently welcomed a delegation from the Basque Country to Wales. Wales was the featured nation at the Festival Interceltique de Lorient this year. Welsh Government’s programme of overseas export events includes around 30 export market visits and trade fairs a year, such as MRO Europe in Amsterdam, Arab Health in Dubai, and the Games Development Conference in San Francisco. A recent Trade Development Visit saw ten food and drink businesses visit Doha, taking advantage of the new Qatar Airways direct flights from Cardiff Airport. The Food and Drink sector in Wales is performing well and is ahead of its target to grow the turnover of the sector by 30% to £7bn by 2020\. Further investment will be made over the next two years to boost exporting across all sectors. Retaining and growing foreign direct investment for Wales is clearly crucial and Welsh Government’s FDI marketing programme delivered a 60% growth in visitors to tradeandinvest.wales last year. Whilst most of this activity is focused on the London market, our digital content provision is designed to appeal to wider audiences. Over the next eighteen months £3m will be invested to promote Wales as a place to study in new markets; and our Health recruitment campaigns to attract health professionals to train, work and live in continue in several international domains. Welsh Government will also be doing more to promote Science and Innovation through all its activity, and part of this again centres on developing its footprint and influence in London. The creative industries, culture and sport are crucial to building Wales’s appeal: Visit Wales delivered its first ever television advertising in Germany around the Euros and has recently launched a reactive cycling\-specific campaign around Geraint Thomas’s Tour de France success. Teams are currently exploring cross\-sector options around the forthcoming Rugby World Cup in Japan. Wales Arts International’s recent work to underpin a Wales trade mission to China resulted in promoting a rounded view of Wales in our target regions. There is a real opportunity to become more strategic and ambitious with this aspect of our work – bringing culture to the heart of the approach in future. All of this now falls under a unified and coherent Cymru Wales nation brand. The brand won Best in Show and Gold at the European Design Awards in Porto in 2017, and was peer\-selected to feature at the prestigious Beasley Designs of the Year at the Design Museum in London. Crucially, it is delivering tangible results: the economic impact of Visit Wales’s marketing has doubled since 2013 and the first on\-brand GP Recruitment campaign led to an increase of 16% in those signing up to train in Wales. New multi\-lingual international digital websites for Wales will be launched early next year. A recent Economy, Infrastructure and Skills Committee report on Selling Wales to the World also includes further recommendations for Welsh Government in some of these areas. We are currently in the process of responding to these in the context of our own existing ambitious international plans as outlined in Prosperity for All and the Economic Action Plan.   However, our ability to reach out starts at our feet – as Prosperity for All also commits to creating a nation that takes pride in its identity. Investing in places, events, organisations and businesses that are confident and outward\-looking is a key part of the international approach: The difference major events such as the UEFA Champions League Final and the Volvo Ocean Race make to Wales’s international image is clear; and it’s no coincidence that The Lonely Planet’s decision to shortlist North Wales as one of the top regions in the world to visit in 2017 was directly linked with the opening of Welsh Government funded international\-quality attractions in the region. Welsh Government – through its Economic Action Plan – continues to invest in major events; is working to make Welsh businesses export\-ready; is collaborating with stakeholders to deliver significant investment of around £100m in the tourism sector; and is also improving  Wales’s general transport infrastructure for the future. From a connectivity perspective, a number of major initiatives are in development. Transport for Wales recently launched and ongoing investments are planned in Wales’s roads, ports and airports. The removal of the Severn Bridge tolls will bring benefits. Developing Cardiff Airport is a key pillar of our strategy. Welsh Government bought Cardiff Airport in 2013 and the Airport’s performance has transformed during this period. There was an increase of 9% in passenger numbers in the year to March 2018 – with passenger numbers totalling 1\.488m at the end of the 2017/18 financial year. This signifies a passenger growth of almost 50% since Cardiff Airport came under public ownership. And whilst transforming the Airport’s financial sustainability is a long\-term priority, it was encouraging to see that the Airport has achieved positive EBITDA (earnings before interest, tax, depreciation and amortization) last year. Passenger growth was achieved by adding new or increased flights to popular outbound destinations and through strengthening the Airport’s strategic connections with key growth markets for Wales from a visitor, trade and export perspective. New air links, such as the new long haul route to Doha launched earlier this year provides important prospects for the Welsh economy. In addition to the Qatar route, the airport has seen significant growth as a result of other partner airlines such as Flybe, KLM, Ryanair and TUI. Identifying further new routes for Wales is a priority and Welsh Government recently attended World Routes in China, along with Cardiff Airport. Visit Wales also engages with a number of these airlines such as Qatar Airways and KLM to promote Wales in a number of markets. As part of the long\-term strategy, Welsh Government has been working with the European Commission and counterparts in UK Government to impose a number of new aviation Public Service Obligations routes for Wales, including to other UK destinations. Should this be pursued, the new routes will be procured through public tender. Transport for Wales will be leading the procurement process and we hope services will commence in spring 2019\. PSO routes are exempt from Air Passenger Duty meaning that return journeys on new domestic PSO routes will benefit from the removal of £26 of tax imposed by the UK Government – a tax which the Silk Commission recognised should be devolved to Wales, but whose devolution the UK Government has consistently resisted. Indeed, the devolution of Air Passenger Duty to Wales is a matter we also continue to pursue. Consumers and businesses need choices for how they can connect with the rest of the UK, Europe and the world. Air Passenger Duty effectively stifles this choice. The devolution of Air Passenger Duty will enable the introduction of further new routes, including more long haul destinations. We continue to raise the matter with UK Government and at the end of last year published robust evidence to support devolution. The Welsh Affairs Select Committee have begun an inquiry into the devolution of APD and the Welsh Government has this week submitted detailed evidence to the committee. We will continue to work with UK Government too \- and partners such as VisitBritain, the British Council and the Department of International Trade – to promote Wales on the world stage. All of our key industrial sectors – as well as our rich cultural heritage \- have so much to contribute to enhance their message on the international stage. In doing so Welsh Government recognises its key role in bringing businesses, organisations and partners across Wales together to protect and promote Wales’s own reputation and image and to bridge our communities to each other and to the world.        
Nid yw wedi mor bwysig erioed inni godi pontydd diwylliannol, digidol a ffisegol rhwng Cymru a gweddill y byd. Cryfder ein perthynas a gweledydd tramor, a gwell cysylltiadau trafnidiaeth, fydd yn ein galluogi i greu marchnadoedd newydd ac i gynnal ac ychwanegu at yr enw sydd gennym am fod yn lle deniadol a chystadleuol i ymweld ag ef ac i astudio, buddsoddi a chynnal busnes ynddo, yn enwedig wrth inni ymadael â'r UE. Yn aml, mae'r gwaith marchnata a wneir ym maes twristiaeth yn denu cryn sylw i Gymru − ac mae'r buddsoddiad yng ngwaith marchnata rhyngwladol Croeso Cymru yn talu ar ei ganfed. Mae rhyw 90% o'r bobl sy'n ymweld â Chymru yn dod o'r tu mewn i'r DU; ac mae'r rhan fwyaf o adnoddau hyrwyddo Croeso Cymru yn hoelio sylw ar y farchnad honno. Ond mae twristiaeth ryngwladol yn hollbwysig o safbwynt codi proffil cyffredinol Cymru a chreu economi ymwelwyr gynaliadwy. Erbyn hyn, mae Cymru yn denu rhyw filiwn o ymwelwyr rhyngwladol y flwyddyn. Dyma’r niferoedd uchaf ar record, ac yn ôl arolwg diweddaraf Baromedr y Diwydiant Twristiaeth, mae 84% o fusnesau'n dweud bod eu perfformiad yn ystod yr haf naill ai’n well na'r llynedd neu'r un peth. Wrth i dwristiaeth ryngwladol dyfu'n gyffredinol yn y DU, yr her a fydd yn ein hwynebu fydd ennill cyfran fwy o'r farchnad honno, a denu ymwelwyr i wario mwy ac i aros yn hirach yng Nghymru – a hynny mewn marchnad sy'n un hynod gystadleuol. Ar hyn o bryd, mae strategaeth farchnata ryngwladol Croeso Cymru yn hoelio sylw ac ymdrechion ar nifer dethol o farchnadoedd targed sydd â'r potensial mwyaf i dyfu. Gweriniaeth Iwerddon yw prif farchnad Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel Stena Line ar ymgyrchoedd marchnata aml\-gyfrwng, gan gynnwys hysbysebu ar y teledu, er mwyn targedu'r gynulleidfa honno'n uniongyrchol. Yn yr Almaen, mae rhaglen Croeso Cymru yn cynnwys hysbysebu, digwyddiadau, cysylltiadau â'r cyfryngau, a gweithgarwch wedi'i dargedu at gwmnïau sy'n trefnu teithiau, gan weithio gyda brandiau fel DERTOUR, TUI a Globetrotter. Mae gan Croeso Cymru dîm bach yn Efrog Newydd hefyd, sy’n canolbwyntio ar feithrin diddordeb yng Nghymru ymhlith busnesau sy'n rhan o'r diwydiant teithio. Roedd yn galonogol gweld bod twf sylweddol o 24% yn 2017 yn y busnes a gafwyd yma yng Nghymru oddi wrth y 100 prif weithredwr rhyngwladol. Mae gwaith i groesawu newyddiadurwyr yn arwain at sylw amlwg mewn cyhoeddiadau sy'n amrywio o National Geographic yn yr Almaen i Topphälsa yn Sweden i Condé Nast yn Sbaen; ac mae nifer y dilynwyr ym mhedwar ban byd sy'n edrych ar y cynnwys a rennir gan Croeso Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dyblu yn ystod y deuddeg mis diwethaf, gan gyrraedd 1\.45m. Wrth i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru agor, Croeso Cymru sy'n arwain y gwaith o hyrwyddo Cymru yn gyffredinol yn y farchnad digwyddiadau busnes hefyd. Mae’r farchnad honno’n un hynod broffidiol a rhagwelir y bydd yn werth o leiaf £24m yn ychwanegol i'r economi bob blwyddyn.   Mae treftadaeth Cymru yn rhan bwysig o'i hapêl, ac mae Croeso Cymru yn cydweithio â Cadw ac Amgueddfa Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn dod i ffeiriau twristiaeth rhyngwladol, a bod eu hymgyrchoedd marchnata, sydd wedi ennill gwobrau, yn cyd\-fynd â rhaglen farchnata ryngwladol Croeso Cymru. Mae partneriaid fel Twristiaeth Gogledd Cymru yn cael eu cyllido hefyd i wneud gwaith marchnata rhyngwladol sy'n cael ei dargedu'n benodol iawn. Mae hynny wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr o Japan sy'n dod i ardal Conwy, er enghraifft.   Y tu allan i faes twristiaeth, mae Llywodraeth Cymru yn weithgar mewn amrywiaeth eang o wledydd a rhanbarthau: Mae gan Gymru 20 o swyddfeydd ledled y byd mewn lleoliadau allweddol fel Dulyn, Dubai, Efrog Newydd, Shanghai a Brwsel. Mae'r rhwydwaith hwn yn ehangu'n gyflym; agorodd swyddfeydd newydd eleni yn Montréal, Doha, Berlin and Paris, a disgwylir hefyd i'r swyddfa yn Düsseldorf agor cyn diwedd y flwyddyn. Rydym yn meithrin cysylltiadau â phartneriaid Ewropeaidd allweddol: teithiwyd i Iwerddon yn gynharach yn y flwyddyn a chroesawodd Llywodraeth Cymru ddirprwyaeth o Wlad y Basg i Gymru yn ddiweddar. Cymru oedd y genedl a gafodd y prif sylw yng Ngŵyl Ryng\-geltaidd Lorient eleni. Mae rhaglen Llywodraeth Cymru o ddigwyddiadau allforio dramor yn cynnwys rhyw 30 o ymweliadau â marchnadoedd allforio a ffeiriau masnach bob blwyddyn, fel MRO Ewrop yn Amsterdam, Arab Health yn Dubai a'r Gynhadledd Datblygu Gemau yn San Fransisco. Yn ystod Ymweliad Datblygu Masnach a gynhaliwyd yn ddiweddar, ymwelodd deg busnes bwyd a diod â Doha, gan fanteisio ar hediadau uniongyrchol newydd Qatar Airways o Faes Awyr Caerdydd. Mae'r sector Bwyd a Diod yng Nghymru yn gwneud yn dda ac mae ar y blaen o safbwynt y darged o sicrhau twf o 30% yn nhrosiant y sector erbyn 2020, gan gyrraedd cyfanswm o £7bn erbyn hynny. Bydd rhagor o fuddsoddi dros y ddwy flynedd i hyrwyddo allforio ar draws pob sector. Mae'n amlwg bod cadw a denu mwy o fuddsoddiad uniongyrchol o dramor i Gymru yn hollbwysig, a llwyddodd rhaglen farchnata Llywodraeth Cymru yn y maes hwn sicrhau twf o 60% yn nifer yr ymwelwyr â tradeandinvest.wales y llynedd. Er mai canolbwyntio ar farchnad Llundain y mae'r rhan fwyaf o'r gweithgarwch hwn, bwriedir i'r cynnwys digidol a ddarperir gennym apelio at gynulleidfaoedd ehangach. Dros y deunaw mis nesaf, bydd £3m yn cael eu buddsoddi mewn marchnadoedd newydd er mwyn mynd i hyrwyddo Cymru fel lle i astudio ynddo; ac mae'n hymgyrchoedd recriwtio ym maes iechyd i ddenu gweithwyr iechyd proffesiynol i hyfforddi, gweithio a byw yma yn parhau ar sawl llwyfan rhyngwladol. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud mwy i hyrwyddo Gwyddoniaeth ac Arloesedd, ac mae rhan o’r ymdrech eto’n cynnwys datblygu ein proffil a’n dylanwad yn Llundain. Mae'r diwydiannau creadigol, yn ogystal â diwylliant a chwaraeon yn hanfodol er mwyn ehangu apêl Cymru: aeth Croeso Cymru ati am y tro cyntaf erioed yn ystod yr Ewros i hysbysebu ar y teledu yn yr Almaen, ac lansiodd ymgyrch feicio yn mewn ymateb i lwyddiant Geraint Thomas yn y Tour de France. Mae timau wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau ar draws sawl sector mewn cysylltiad â Chwpan Rygbi'r Byd yn Japan. Drwy waith a wnaed gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ddiweddar i gefnogi taith fasnach o Gymru i Tsieina, llwyddwyd i greu darlun cynhwysfawr o Gymru yn ein rhanbarthau targed yno, ac mae cyfle gwirioneddol inni fod yn fwy strategol ac uchelgeisiol gyda'r agwedd hon – gan roi rhan ganolog i ddiwylliant mewn gwaith hyrwyddo o’r fath yn y dyfodol. Mae hyn oll bellach yn rhan o un brand cydlynol ar gyfer Cymru. Enillodd y brand hwnnw'r wobr Gorau yn y Sioe a'r wobr Aur yng Ngwobrau Dylunio Ewrop yn Porto yn 2017, ac fe'i dewiswyd gan gymheiriaid i fod yn rhan o Ddyluniadau'r Flwyddyn Beazley yn yr Amgueddfa Ddylunio yn Llundain. Ond yn anad dim arall, mae’r brand yn dwyn ffrwyth: mae effaith economaidd gwaith marchnata Croeso Cymru wedi dyblu ers 2013 ac ar ôl  defnyddio'r brand am y tro cyntaf mewn ymgyrch i recriwtio meddygon teulu, gwelwyd cynnydd o 16% yn y rheini a ddewisodd hyfforddi yng Nghymru. Bydd gwefannau digidol rhyngwladol newydd i Gymru, a fydd ar gael mewn sawl iaith, yn cael eu lansio'r flwyddyn nesaf. Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Werthu Cymru i’r Byd hefyd yn cynnwys argymhellion eraill i Lywodraeth Cymru ar rai o’r pynciau hyn. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o ymateb i’r rhain yng nghyd\-destun ein cynlluniau uchelgeisiol presennol ein hunain, fel a amlinellir yn Ffyniant i Bawb a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Fodd bynnag, wrth ein traed y mae dechrau arni – wrth i Ffyniant i Bawb ymrwymo hefyd i greu cenedl sy'n ymfalchïo yn ei hunaniaeth. Mae buddsoddi mewn lleoedd, digwyddiadau a busnesau sy'n hyderus ac sy’n troi eu golygon tuag allan yn rhan allweddol o weithredu ar lefel ryngwladol: Mae'r gwahaniaeth y mae digwyddiadau mawr fel Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA a Ras Cefnfor Volvo yn ei wneud i ddelwedd ryngwladol Cymru yn amlwg; ac nid  cyd\-ddigwyddiad oedd penderfyniad Lonely Planet i roi'r Gogledd ar y rhestr fer o ranbarthau gorau'r byd i ymweld â nhw yn 2017\. Mae'n siŵr bod cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a’r ffaith bod atyniadau o safon ryngwladol, a gafodd gymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru, wedi agor. Mae Llywodraeth Cymru – drwy ei Chynllun Gweithredu ar yr Economi – yn parhau i fuddsoddi mewn digwyddiadau mawr; mae'n gweithio i sicrhau bod busnesau Cymru yn barod i allforio; mae'n cydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau buddsoddiad sylweddol o ryw £100m yn y sector twristiaeth; ac mae hefyd yn gwella seilwaith trafnidiaeth cyffredinol Cymru ar gyfer y dyfodol.   O safbwynt cysylltiadau, mae nifer o fentrau pwysig wrthi'n cael eu datblygu. Lansiwyd Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar a bwriedir parhau i fuddsoddi yn ffyrdd, porthladdoedd a meysydd awyr Cymru. Bydd dileu'r tollau ar Bont Hafren o fudd yn ogystal. Mae datblygu Maes Awyr Caerdydd yn un o gonglfeini'n polisi. Prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd yn 2013 ac mae perfformiad y Maes Awyr wedi'i drawsnewid yn ystod y cyfnod hwnnw. Gwelwyd cynnydd o 9% yn niferoedd y teithwyr yn ystod y flwyddyn tan fis Mawrth 2018 – ac roedd cyfanswm o 1\.488m o deithwyr erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2017/18\.  Mae hynny'n dwf o bron 50% yn nifer y teithwyr ers i Faes Awyr Caerdydd fod mewn perchenogaeth gyhoeddus. Ac er bod trawsnewid cynaliadwyedd ariannol y Maes Awyr yn flaenoriaeth hirdymor, roedd yn galonogol gweld bod EBITA (enillion cyn treth, dibrisiant ac amorteiddiad) y Maes Awyr yn bositif y llynedd.   Llwyddwyd i gynyddu nifer y defnyddwyr drwy drefnu teithiau newydd neu ychwanegol allan i gyrchfannau poblogaidd, a hefyd drwy gryfhau cysylltiadau strategol y Maes Awyr â marchnadoedd sy'n allweddol i Gymru o safbwynt ymwelwyr, masnach ac allforio. Mae cysylltiadau awyr newydd, megis y daith pellter hir i Doha a lansiwyd yn gynharach eleni yn dod â chyfleoedd pwysig i economi Cymru. Yn ogystal â llwybr Qatar, mae'r maes awyr wedi gweld twf sylweddol hefyd o ganlyniad i gwmnïau hedfan eraill sy'n bartneriaid, fel Flybe, KLM, Ryanair a TUI.  Mae datblygu llwybrau hedfan eraill ar gyfer Cymru yn flaenoriaeth a bu Llywodraeth Cymru, ynghyd â Maes Awyr Caerdydd, yn fforwm World Routes yn Tsieina yn ddiweddar. Mae Croeso Cymru yn cydweithio â nifer o'r cwmnïau hedfan hyn, fel Qatar Airways a KLM, hefyd er mwyn hyrwyddo Cymru mewn nifer o farchnadoedd. Rhan o'r strategaeth hirdymor yw bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ac adrannau cyfatebol yn Llywodraeth y DU i bennu nifer o lwybrau hedfan newydd ar gyfer Cymru, gan gynnwys llwybrau hedfan i fannau eraill yn y DU, o dan y Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus. Os eir ar drywydd y mater hwn, bydd y llwybrau newydd yn cael eu caffael drwy dendr cyhoeddus. Trafnidiaeth Cymru fydd yn arwain y broses gaffael a’r gobaith yw y bydd gwasanaethau'n dechrau yng ngwanwyn 2019\. Mae llwybrau sy'n dod o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael eu hesemptio rhag talu'r Doll Teithwyr Awyr, sy'n golygu y bydd teithiau yn ôl ar lwybrau domestig newydd o'r fath yn elwa ar beidio â gorfod talu treth o £26 a osodir gan Lywodraeth y DU. Mae hon yn dreth y cydnabu Comisiwn Silk y dylai gael ei datganoli i Gymru, ond mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwneud hynny dro ar ôl tro. Yn wir, mae datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru yn fater y byddwn yn parhau i fynd ar ei drywydd. Mae angen i ddefnyddwyr a busnesau allu dewis sut y maent yn gallu cysylltu â gweddill y DU, Ewrop a'r byd. I bob pwrpas, mae'r Doll Teithwyr Awyr yn cyfyngu ar y dewis hwnnw. Bydd datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn golygu y bydd modd cyflwyno rhagor o lwybrau newydd, gan gynnwys rhagor o gyrchfannau pellter hir. Rydym yn parhau i godi'r mater gyda Llywodraeth y DU, a ddiwedd y llynedd, gwnaethom gyhoeddi tystiolaeth gref o blaid datganoli'r dreth hon. Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi dechrau ymchwiliad ar fater datganoli TTA ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth fanwl ar y mater i’r pwyllgor. Byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU hefyd, a gyda phartneriaid fel VisitBritain, y British Council a'r Adran Masnach Ryngwladol, i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd. Mae gan ein holl sectorau diwydiannol allweddol − yn ogystal â'n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog − gymaint i’w gyfrannu at wella'n neges ar y llwyfan rhyngwladol. Wrth wneud hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ganddi hi hefyd ran allweddol i'w chwarae drwy ddod â busnesau, sefydliadau a phartneriaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i warchod ac i hyrwyddo enw da a delwedd Cymru ac i greu pontydd rhwng ein cymunedau â'i gilydd a gyda'r byd.
https://www.gov.wales/written-statement-international-marketing-and-developing-air-links-cardiff
In April the Children, Young People and Education Committee published Mind over Matter, the findings from its inquiry into the emotional and mental health support for children and young people. The report called for emotional and mental wellbeing and resilience to be a stated national priority and in July we debated the report and our formal response in Plenary. Quite rightly, there was considerable strength of feeling among AMs about this important topic. Since the debate, we have reflected on what more we can do to recognise and accelerate the pace of the good work that is already taking place in this area, and achieving a truly whole\-school approach to mental health and wellbeing.   We fully recognise the importance of supporting the emotional wellbeing of our children and young people. We have already stated this as a priority in Prosperity for all – highlighting the important role of schools in identifying problems early and the need to provide children and young people with the tools to cope with the stresses of growing up. We have also made mental health one of five national priorities, to challenge all of Welsh Government to consider its impact on mental health and wellbeing. We have been delivering in recent years across a number of areas and with a range of partners. This includes developing the new curriculum with its Health and Wellbeing Area of Learning and Experience; supporting the Welsh Network of Healthy School Schemes; and launching the Child and Adolescent Mental Health Service school in\-reach programme in 2017\. However, we agree with the Committee that further action needs to be taken, underpinned by planning, resource and commitment to deliver real change. Taken together our work, and that of our partners across statutory and third sectors, has the potential to deliver the step\-change we all seek. However, we recognise this has become a crowded landscape with a multitude of partners and initiatives all contributing to this agenda.  As such, there is potential for disconnect, duplication and competition in an area where all are working with the best intentions and in the best interests of the young person.   We have therefore agreed a new focus on a ‘whole school’ approach to mental health and wellbeing for children and young people to support wider and ongoing reforms of mental health support. As part of a multi\-agency approach, schools have an important role to help deliver the ambitious goal of building a population of emotionally resilient and mentally healthy children and young people in Wales. A ‘whole school’ approach would ensure that mental health and wellbeing becomes central to the way schools work and will touch on many different aspects of school life. This means that the school ethos will support the broader mental health and wellbeing of learners, which in turn will help to prevent other issues from developing or escalating, including mental health issues. We have also agreed to convene a Joint Ministerial Task and Finish Group to accelerate our work to achieve this whole school approach. We will jointly chair the group, which will bring together the key strategic stakeholders from across education, health, the wider public and third sectors. Lynne Neagle, AM, has agreed to act as an observer on the group in her role as chair of the Children, Young People and Education Committee and will fully participate in its work. The group will enable us to move the next stages of this agenda forward at pace; knitting the various strands of activity together; highlighting gaps in provision; and ensuring energy and resources are targeted to have the maximum benefit.   The Ministerial Task and Finish Group will be supported by a stakeholder reference group, to ensure the broad range of agencies with a role in delivering a whole school approach have a meaningful engagement in this programme. Central to this will be ensuring that children and young people also have the opportunity to directly feed in their views to inform the activity which directly impacts upon them. The detailed work\-programme for these two groups is yet to be agreed, but will be informed by a multi\-agency and multi\-profession workshop we are holding on 7 September. Here, with our partners, we will explore our understanding of what a ‘whole\-school approach’ means; identify our collective contributions; and identify where any gaps may exist. The outcomes of this workshop will inform the first Ministerial Task and Finish Group meeting which we intend to hold soon after the National Assembly returns from recess. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish us to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns we would be happy to do so.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cadernid Meddwl, canfyddiadau ei ymchwiliad i gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Roedd yr adroddiad yn galw am ddatgan bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig, ac ym mis Gorffennaf fe drafodwyd yr adroddiad a'n hymateb ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn. Yn ddigon teg, roedd teimladau cryf iawn ymysg Aelodau'r Cynulliad am y testun pwysig hwn. Ers y drafodaeth, rydym wedi bod yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud i adnabod a chyflymu'r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn y maes hwn, a sicrhau gwir ddull ysgol gyfan i hybu iechyd meddwl a llesiant. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi llesiant emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Rydym eisoes wedi datgan bod hyn yn flaenoriaeth yn Ffyniant i Bawb \- gan dynnu sylw at swyddogaeth bwysig ysgolion yn sylwi ar broblemau yn gynnar a'r angen i arfogi plant a phobl ifanc â ffyrdd o ddygymod â'r straen o dyfu i fyny. Rydym hefyd wedi gwneud iechyd meddwl yn un o bum blaenoriaeth genedlaethol, i herio Llywodraeth Cymru i ystyried ei effaith ar iechyd a llesiant meddyliol. Rydym wedi bod yn cyflawni dros y blynyddoedd diwethaf ar draws nifer o feysydd, gydag amrywiol bartneriaid. Mae hyn yn cynnwys datblygu cwricwlwm newydd gyda'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant; cefnogi Rhwydwaith o Gynlluniau Ysgolion Iach; a lansio rhaglen ysgolion Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed 2017\. Fodd bynnag, rydym yn cytuno â'r Pwyllgor bod angen cymryd camau pellach, ynghyd â chynlluniau, adnoddau ac ymrwymiad i sicrhau newid gwirioneddol. Gyda'i gilydd, mae gan ein gwaith ni a gwaith ein partneriaid ar draws y sector statudol a'r trydydd sector, y potensial i gyflawni'r newid sylweddol yr ydym i gyd am ei weld. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y maes hwn yn un prysur iawn, gydag amryw o bartneriaid a mentrau oll yn cyfrannu at yr agenda. O ganlyniad, mae perygl o ddiffyg cyfathrebu, dyblygu gwaith a chystadlu mewn maes lle mae pawb yn gweithio gyda'r bwriad gorau ac er lles y person ifanc. Rydym felly wedi cytuno i roi sylw o'r newydd i ymdrin ag iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc ar lefel 'ysgol gyfan', gan gefnogi’r gwaith ehangach sy’n mynd rhagddo i ddiwygio cymorth iechyd meddwl. Fel rhan o ymdrech amlasiantaethol, mae rôl bwysig gan ysgolion wrth geisio cyflawni’r nod uchelgeisiol o feithrin poblogaeth o blant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n emosiynol gryf ac yn iach yn feddyliol. Byddai ymdrin â hyn ar lefel 'ysgol gyfan' yn sicrhau bod iechyd a lles meddyliol yn dod yn rhan ganolog o'r ffordd mae ysgolion yn gweithio a bydd yn cyffwrdd â sawl agwedd ar fywyd ysgol. Golyga hyn y bydd ethos yr ysgol yn cefnogi iechyd a lles meddyliol ehangach dysgwyr a fydd yn ei dro yn helpu i osgoi problemau eraill rhag datblygu neu waethygu, gan gynnwys problemau yn ymwneud ag iechyd meddwl. Rydym hefyd wedi cytuno i ffurfio Cyd\-grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion er mwyn cyflymu ein gwaith i gyflawni’r dull ysgol gyfan hwn. Byddwn yn cadeirio'r Grŵp gyda'n gilydd, gan uno rhanddeiliaid strategol allweddol o fyd addysg, iechyd, y sector cyhoeddus ehangach a'r trydydd sector. Mae Lynne Neagle AC wedi cytuno i arsylwi ar waith y Grŵp yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a bydd yn cyfrannu ato hefyd. Bydd y grŵp yn caniatáu i ni symud ymlaen â chamau nesaf yr agenda hon ar fyrder; uno'r gwahanol ffrydiau o weithgaredd; tynnu sylw at fylchau yn y ddarpariaeth; a sicrhau bod ynni ac adnoddau yn cael eu targedu i gael yr effaith fwyaf bosib.   Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion yn cael cymorth grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau bod yr holl asiantaethau sydd â rhan wrth gyflawni dull ysgol gyfan yn cael eu cynnwys yn briodol yn y rhaglen. Elfen ganolog o hyn yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu eu sylwadau i helpu gyda'r gweithgaredd sy'n effeithio'n uniongyrchol arnynt. Nid oes cytundeb eto ar y rhaglen waith fanwl ar gyfer y ddau grŵp, ond bydd yn seiliedig ar weithdy amlasiantaethol ac amlbroffesiwn yr ydym yn ei gynnal ar 7 Medi. Yma, gyda'n partneriaid, byddwn yn edrych ar ein dealltwriaeth o ystyr 'dull ysgol gyfan'; nodi ein cyfraniadau ar y cyd; a gweld lle mae bylchau posib yn bodoli. Bydd canlyniadau'r gweithdy hwn yn cyfrannu at gyfarfod cyntaf Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion, y bwriedir ei gynnal yn fuan ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol ddychwelyd ar ôl y toriad. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i ni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddem yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-joint-ministerial-task-and-finish-group-whole-school-approach-mental-health-and
We are launching today, in partnership with Sport Wales and Public Health Wales, a new £5m Healthy and Active Fund which will strengthen community assets and enable people to adopt healthier lifestyles. The benefits to our mental and physical health of healthy and active lifestyles are clear.  By increasing our levels of activity, eating a balanced diet, drinking within recommended levels and stopping smoking we can all not only reduce our risk of cancer and cardiovascular disease but also improve our mental well\-being and reduce the risk of developing dementia. The first phase of the fund will therefore focus on enabling active lifestyles. Delivering a ‘Healthier Wales’ requires a new approach where we look beyond traditional support services and find new ways to work with each other. This collaboration is an example of how we expect the public sector to embed the sustainable development principles of the Well\-being of Future Generations Act (Wales) 2015\. It will also deliver the ‘Prosperity for All: the National Strategy’ commitments for a Well\-being Bond and Challenge Fund. Organisations can register their interest and find out further information by emailing [email protected].      
Heddiw, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn lansio cronfa newydd gwerth £5m o'r enw y Gronfa Byw yn Iach ac Egnïol, gyda'r nod o gryfhau asedau cymunedol sy’n galluogi pobl i fyw mewn ffordd iachach.  Mae'r manteision i'n hiechyd meddwl a'n hiechyd corfforol a ddaw o fabwysiadu ffyrdd o fyw iach ac egnïol yn glir. Drwy fyw bywyd mewn modd mwy egnïol, bwyta deiet cytbwys, yfed o fewn y terfynau a argymhellir, a rhoi'r gorau i smygu, rydym i gyd yn gallu lleihau'r risg o gael canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, yn ogystal â gwella ein llesiant meddyliol a lleihau'r risg o ddatblygu dementia. Bydd cyfnod cyntaf y gronfa felly'n canolbwyntio ar alluogi pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw egnïol. Mae sicrhau llwyddiant 'Cymru Iachach' yn golygu defnyddio dulliau newydd o weithredu sy'n edrych y tu hwnt i'r gwasanaethau cymorth traddodiadol, gan ofyn inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd. Mae'r cydweithio hwn yn enghraifft o sut yr ydym yn disgwyl i'r sector cyhoeddus weithredu mewn modd sy'n seiliedig ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015\. Bydd hefyd yn helpu i gyflawni'r ymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol' i sefydlu Bond Llesiant a Chronfa Her.   Gall sefydliadau gofrestru eu diddordeb a chael rhagor o wybodaeth drwy e\-bostio [email protected].
https://www.gov.wales/written-statement-launch-healthy-active-fund
As Minister for Housing and Regeneration, my overarching priority is the provision of good quality housing for the people of Wales.  Our ambition, as outlined in the Welsh Government’s national strategy, Prosperity for All, is that everyone in Wales should have a safe, affordable home which supports and promotes a prosperous life. For many people, this aspiration will be achieved through home\-ownership. Rising house prices and higher deposit requirements have, however, made it more difficult for potential home buyers to get their foot on the housing ladder. We are committed to improving the range of options available to those who wish to own their own home. As part of this work, I am today committing £70m of funding to support the launch of two new schemes, Rent to Own – Wales and Shared Ownership \- Wales, which will in different ways offer the opportunity of home ownership to households who can afford the monthly mortgage payments but do not have the level of deposit normally required to purchase a home. **Rent to Own – Wales Scheme Design** Under Rent to Own – Wales, aspiring buyers will pay market rents for new\-build homes from participating housing associations, and will have the option to purchase these from the end of the second year of their rental period. Upon exercising the option to purchase, the aspiring buyer will be gifted an amount equivalent to 25% of the rent they have paid and 50% of any increase in the value of the home, to use as a mortgage deposit. This will help them to purchase the home that they are renting. **Shared Ownership – Wales Scheme Design** Shared Ownership \- Wales is a part\-buy, part\-rent scheme suitable for aspiring buyers who have some deposit but are unable to obtain the level of mortgage to purchase the home outright. Aspiring buyers can purchase an initial share of 25% to 75% of the value of new\-build homes, which are available for this scheme from participating housing associations. They can staircase up to full ownership at any time. Rent will be payable on the un\-owned share. Funding will be provided to participating landlords this year to start building new homes for Rent to Own – Wales and Shared Ownership \- Wales.  A small number of homes are currently available for both schemes, but more will become available over the next few years. Today, I am also launching the new Your Home in Wales website. This essential tool will provide key information on all Welsh Government funded home ownership schemes to anyone wanting to become a home\-owner. This clear guidance will help them to decide which scheme is best suited to their personal circumstances.
Fel y Gweinidog Tai ac Adfywio, fy mhrif flaenoriaeth yw darparu tai o safon i bobl Cymru. Ein huchelgais, fel y nodwyd yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, yw bod gan bawb yng Nghymru gartref diogel, fforddiadwy sy’n hybu ac yn hyrwyddo bywyd ffyniannus. I lawer o bobl, caiff y dyhead hwn ei wireddu drwy fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. O ganlyniad i'r cynnydd mewn prisiau tai a'r cynnydd yn y gofynion o ran y blaendal, fodd bynnag, mae'n fwy anodd i bobl sydd o bosibl am brynu cartref gael eu hunain ar yr ysgol tuag at wireddu hynny. Rydym wedi ymrwymo i wella'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i'r bobl hynny sydd am berchen ar eu cartref eu hunain. Yn rhan o'r gwaith hwn, rwyf am ymrwymo heddiw £70 miliwn o gyllid tuag at lansio dau gynllun newydd sef Rhentu i Berchnogi – Cymru a Rhanberchnogaeth – Cymru. Bydd y ddau, mewn ffyrdd gwahanol, yn cynnig y cyfle i deuluoedd sy'n gallu fforddio'r taliadau morgais misol ond sydd heb y lefel o flaendal sy'n ofynnol fel arfer i brynu cartref, fynd ati i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Cynllunio'r Cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru O dan y cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru, bydd darpar brynwyr yn talu rhenti ar lefel y farchnad ar gyfer cartrefi sydd newydd eu hadeiladu gan gymdeithasau tai sy'n rhan o'r cynllun. Byddant hefyd yn cael yr opsiwn i'w prynu o ddiwedd ail flwyddyn y cyfnod rhentu. O fwrw ymlaen â'r opsiwn i brynu, bydd y darpar brynwr yn derbyn yn rhodd swm a fydd yn gyfatebol i 25% o'r rhent maent wedi'i dalu a 50% o unrhyw gynnydd yng ngwerth y cartref, i'w ddefnyddio fel blaendal ar gyfer y morgais. Bydd hyn yn eu helpu i brynu'r cartref maent yn ei rentu. Cynllunio'r Cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru Cynllun yw Rhanberchnogaeth – Cymru  sy'n gyfuniad o brynu cyfran o'r eiddo a rhentu cyfran o'r eiddo ac mae'n addas i ddarpar brynwyr sydd â rhywfaint o flaendal wrth law ond sy'n methu cael gafael ar lefel y morgais i brynu'r cartref yn ei gyfanrwydd. Gall darpar brynwyr brynu cyfran gychwynnol o 25% i 75% o werth cartrefi sydd newydd eu hadeiladu sydd ar gael ar gyfer y cynllun hwn gan gymdeithasau tai sy'n rhan o'r cynllun. Gallant gynyddu cyfran eu perchentyaeth i fod yn berchen ar yr eiddo yn ei gyfanrwydd ar unrhyw adeg. Bydd yn rhaid talu rhent ar y gyfran nad ydynt yn berchen arni. Caiff cyllid ei roi i landlordiaid a fydd yn rhan o'r cynllun eleni i ddechrau adeiladu cartrefi newydd ar gyfer y cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru a'r cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru.  Mae nifer bychan o gartrefi ar gael ar gyfer y ddau gynllun ar hyn o bryd ond bydd rhagor o gartrefi ar gael dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i ddod. Rwyf hefyd heddiw yn lansio'r wefan newydd ar gyfer Eich Cartref yng Nghymru. Bydd yr adnodd hanfodol yma yn darparu gwybodaeth bwysig am holl gynlluniau perchentyaeth Llywodraeth Cymru i bawb sydd am berchen ar eu cartref eu hunain. Bydd y canllawiau clir yn fodd i'w helpu i benderfynu pa gynllun sy'n gweddu orau i'w hamgylchiadau personol hwy.
https://www.gov.wales/written-statement-launch-rent-own-wales-and-shared-ownership-wales
I am today announcing I have asked the UK Government to include powers for Welsh Ministers in an Agriculture Bill which has been introduced to the UK Parliament. The Bill provides a legal basis for future support to farmers after Brexit, as we transition away from the Common Agricultural Policy.  The powers being taken for Welsh Ministers are intended to be transitional until our own primary legislation can be brought forward, to design a ‘Made in Wales’ system which works for Welsh agriculture, rural industries and our communities. Provisions relating to Wales are contained in a separate Schedule so that any changes the National Assembly wishes to see for Welsh Ministers can be made easily. ‘Brexit and our Land’ is the Welsh Government’s consultation on future support to farmers after Brexit. Our land supports livelihoods, anchors communities and generates the vital natural resources we all rely on. The people who manage it contribute a huge amount to our country. We must continue to support them. However, the way we provide the support needs to change after Brexit. The Welsh provisions in the Agriculture Bill broadly mirror those proposed by the UK Government for England.  These include: • New financial powers for future schemes • Collection and sharing of data • Powers to intervene in exceptional market conditions • Setting of marketing standards • Modification of retained EU law relating to the financing, management and monitoring of payments to farmers, including the CAP Basic Payment Scheme There are a small number of additional powers being taken in Wales. In addition to a small number of technical differences, our powers also include an emphasis on supporting rural communities and businesses involved in supply chains. In general, these are enabling powers which provide for Welsh Ministers to bring forward Wales\-specific regulations to the Welsh Assembly for scrutiny. Regulations will not be brought forward until the policy development process has concluded. In “Brexit and our Land” we committed to bring forward a white paper in spring 2019\. The Intergovernmental Agreement on the European Union (Withdrawal) Bill and the Establishment of Common Frameworks sets out how the UK Government and Devolved Administrations will work together to create a fully functioning statute book across the UK when we exit the EU. The introduction of the Agriculture Bill is the first test of the principles in the Agreement of collaboration, cooperation and respect for devolution. Today’s joint statement between the UK and Welsh Government on agriculture support demonstrates the considerable engagement and collaboration that is taking place to establish a UK common framework for agriculture support. The statement makes clear the majority of this framework will be managed through non\-legislative, intergovernmental coordination. As a result, Wales will not be constrained in its design of new schemes and will be able to implement what is best for Wales. While Welsh Government is generally supportive of the Bill as drafted, there are two outstanding issues which have not been resolved to our satisfaction: first, provisions relating to the World Trade Organisation (WTO) Agreement on Agriculture; and, second, the Red Meat Levy. The management of the UK’s Agreement on Agriculture at the WTO is an issue which the UK Government believes to be reserved. As a matter of law, the Welsh Government does not accept all aspects of the clause are reserved and, in any case, there is a strong and self\-evident relationship between the WTO powers and devolved responsibilities on agriculture support. Welsh Ministers have secured an important agreement from the UK Government to commit in Parliament to consult the Devolved Administrations on WTO\-related regulations. We have also agreed to find a process for how such regulations will be brought forward. However, a commitment to consult is insufficient given the importance of this matter. We will therefore continue to work towards an agreement which ensures appropriate engagement with and consideration of the views of Welsh Ministers and other administrations. On the Red Meat Levy, it is disappointing powers relating to the redistribution of Red Meat Levy will not be on the face of the Bill at introduction. The Welsh Government expects a UK Government amendment to correct this as soon as possible. It is critical the red meat industry is able to access funds to prepare it best for the opportunities of Brexit and react to inevitable change. Given a legislative change is required to underpin any future agreed mechanisms about finding a solution, the Agriculture Bill – the first to be introduced in Parliament for some decades – is clearly an opportunity to resolve this longstanding issue. Overall, the introduction of the Agriculture Bill is an important step in our transition to a new system of farm support. It gives significant new powers and flexibilities to Wales. We will continue to work with the UK Government to resolve our outstanding concerns and bring forward advice to the Assembly on legislative consent in the light of this work. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so. ### Documents * #### Agricultural framework progress update: joint statement, file type: pdf, file size: 188 KB 188 KB
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mod wedi gofyn i Lywodraeth y DU gynnwys pwerau i Weinidogion Cymru mewn Bil Amaethyddiaeth sydd wedi'i gyflwyno i Senedd y DU. Mae'r Bil yn sylfaen gyfreithiol i roi cymorth i ffermwyr yn y dyfodol, ar ôl Brexit, wrth inni bontio i ffwrdd o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.  Pwerau dros dro yw'r pwerau sy'n cael eu cymryd i Weinidogion Cymru, tan llunio ein deddfwriaeth sylfaenol ein hunain, i gynllunio system ar gyfer Cymru sy'n gweithio dros amaethyddiaeth Cymru, diwydiannau gwledig a'n cymunedau. Mae’r darpariaethau ar gyfer Cymru wedi’u cynnwys mewn Atodlen ar wahân, fel bod modd i unrhyw newidiadau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol am eu gweld i Weinidogion Cymru gael eu gwneud yn rhwyd. 'Brexit a'n Tir' yw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cymorth i ffermwyr yn y dyfodol wedi Brexit. Mae ein tir yn rhoi bywoliaeth, yn cynnal cymunedau ac yn creu'r adnoddau naturiol hanfodol rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae'r bobl sy'n gofalu amdano yn gwneud cyfraniad anferthol i'n gwlad. Rhaid i ni barhau i'w cefnogi. Fodd bynnag, mae angen i'r ffordd yr ydym yn rhoi'r cymorth newid wedi Brexit. Mae darpariaethau Cymru yn y Bil Amaethyddiaeth, ar y cyfan, yn adlewyrchu y rhai sy'n cael eu cynnig gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr.  Mae'r rhain yn cynnwys: • Pwerau ariannol newydd ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol • Casglu a rhannu data • Pwerau i ymyrryd o dan amodau eithriadol yn y farchnad • Gosod safonau marchnata • Addasu cyfraith yr UE sydd wedi'i chadw sy'n gysylltiedig â chyllido, rheoli a monitro taliadau i ffermwyr, gan gynnwys Cynllun Taliad Sylfaenol PAC Mae nifer fechan o bwerau ychwanegol yn cael eu cymryd yng Nghymru. Yn ogystal â nifer fechan o wahaniaethau technegol, mae ein pwerau hefyd yn cynnwys pwyslais ar gefnogi cymunedau a busnesau gwledig sy'n rhan o gadwyni cyflenwi. Ar y cyfan, mae'r rhain yn bwerau galluogi sy'n darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru, er mwyn iddynt lunio rheoliadau penodol i Gymru i Lywodraeth Cymru graffu arnynt. Ni fydd y rheoliadau yn cael eu llunio tan i'r broses o ddatblygu polisïau ddod i ben. Yn "Brexit a'n Tir" bu inni ymrwymo i gyflwyno papur gwyn yn ystod gwanwyn 2019\. Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn rhoi amlinelliad inni o sut y bydd Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig yn cydweithio i greu llyfr statud sy'n gweithio'n iawn ledled y DU pan fyddwn yn gadael yr UE. Cyflwyno y Bil Amaethyddiaeth yw'r prawf cyntaf o'r egwyddorion yn y Cytundeb cydweithio, cydweithredu a pharch i ddatganoli. Mae'r datganiad ar y cyd heddiw rhwng y DU a Llywodraeth Cymru ar gymorth i amaethyddiaeth yn dangos y cysylltiad sylweddol a'r cydweithio sy'n digwydd i sefydlu fframwaith gyffredin o fewn y DU er mwyn cefnogi amaethyddiaeth. Mae'r datganiad yn datgan yn glir y bydd rhan fwyaf o'r fframwaith hwn yn cael ei reoli drwy gydweithio rhynglywodraethol ar wahân i ddeddfwriaeth. O ganlyniad, ni fydd Cymru yn cael ei chyfyngu wrth greu cynlluniau newydd a bydd yn gallu gweithredu mewn dull sydd orau i Gymru. Er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil ar y cyfan fel y mae wedi'i ddrafftio, mae dau fater sydd heb eu datrys yn ein barn ni: yn gyntaf, darpariaethau sy'n gysylltiedig â Chytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar Amaethyddiaeth; ac, yn ail, y Lefi Cig Coch. Mae rheoli Cytundeb y DU ar Amaethyddiaeth yn Sefydliad Masnach y Byd yn fater y mae Llywodraeth y DU yn credu sydd wedi'i gadw yn ôl. O ran y gyfraith, nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn pob agwedd ar y cymal fel mater a gedwir yn ôl, a ph'un bynnag, mae perthynas gref ac amlwg rhwng y pwerau WTO a chyfrifoldebau datganoledig ar gymorth amaethyddol. Mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau cytundeb pwysig gan Lywodraeth y DU i ymrwymo yn y Senedd i ymgynghori â'r Gweinyddiaethau Datganoledig ar reoliadau sy'n gysylltiedig â'r WTO. Rydym hefyd wedi cytuno i ddod o hyd i broses ar gyfer sut y bydd rheoliadau o'r fath yn cael eu llunio. Fodd bynnag, mae ymrwymiad i ymgynghori yn annigonol o ystyried pwysigrwydd y mater hwn. Byddwn felly yn parhau i weithio tuag at gytundeb sy'n sicrhau bod cysylltiad priodol gyda safbwyntiau Gweinidogion Cymru a gweinyddiaethau eraill ac ystyriaeth ohonynt. Ar y Lefi Cig Coch, mae'n siomedigaeth nad yw pwerau sy'n gysylltiedig ag ail\-ddosbarthu y Lefi Cig Coch ar wyneb y Bil wrth ei gyflwyno. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl diwygiad gan Lywodraeth y DU i gywiro hyn cyn gynted â phosib. Mae'n hollbwysig bod y diwydiant cig coch yn gallu cael mynediad i gyllid i baratoi yn y ffordd orau ar gyfer cyfleoedd Brexit ac i ymateb i'r newid anochel. O ystyried bod angen newid deddfwriaethol i fod yn sail i unrhyw ddulliau y cytunwyd arnynt i ddod o hyd i ateb yn y dyfodol, mae'r Bil Amaethyddiaeth \- y cyntaf i gael ei gyflwyno yn y Senedd am rai degawdau \- yn amlwg yn gyfle i ddatrys y mater hwn. Yn gyffredinol, mae cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth yn gam pwysig yn ein proses o bontio i system newydd o roi cymorth i ffermwyr. Mae'n rhoi pwerau a hyblygrwydd newydd sylweddol i Gymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y pryderon eraill ac i gynnig cyngor i'r Cynulliad ar gydsyniad deddfwriaethol yng ngoleuni'r gwaith hwn. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny. ### Dogfennau * #### Y Diweddaraf am y Fframwaith Amaethyddol: datganiad ar y cyd, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 190 KB 190 KB
https://www.gov.wales/written-statement-introduction-uk-agriculture-bill
The Welsh Government has today launched a consultation on the proposed master plan for Cardiff Airport. As a result of its purchase supported by the Welsh Government in 2013, the airport has seen record passenger growth.  2017 saw an increase of 9% in passenger numbers for the calendar year with over 1,468 million customers having travelled through the Airport over the previous 12 months. This figure represents almost 50% passenger growth since Cardiff Airport came into public ownership. There has already been a multi million pound investment into the terminal building, to improve the passenger experience, to make Cardiff Airport a more attractive and comfortable place to travel for business and leisure.   But cosmetic changes alone will not be sufficient to position this airport for the future, to act as one of the primary international gateways to south Wales, creating that vital first impression of a confident, forward facing and outward looking nation, and a location which can offer business, leisure and learning opportunities. Now that the airport is on a stable and improving footing it is right for Welsh Government and Cardiff Airport, working as a team, to set out a strategic plan for future that builds on the recent successes and looks forward to ensure that the airport is fit for current and future generations. Passengers, stakeholders, local residents and business now have the opportunity to have their say on the future shape of their airport. The Masterplan needs to ensure the airport continues to improve its competitiveness and attractiveness and for it to become, for south Wales and beyond, a gateway to international travel and trade. I welcome the development of the master plan, designed to continue and expand the growth of the airport, with the goal of increasing passenger numbers to three million per year, while delivering a great experience for those travelling for both business and leisure. The exciting proposals for a new terminal building will enable the passenger growth and provide capacity to attract more airlines serving new routes. But this master plan will deliver more benefits than passenger growth alone.  In the Economic Action Plan I launched in December last year, the Government set out a new approach to investing in business and the economy and getting the most from the economy.  The development of further aviation links to the rest of the UK, Europe and beyond is vital to the long term prosperity of Wales. But more broadly, the Economic Action Plan sets out our ambition to improve the skills of our workforce and to build a connected infrastructure that supports growth and investment.  The master plan launched today is the embodiment of our Economic Action Plan. When we set out the Economic Action Plan we recognised the important role of the Airport as part of the vision of inclusive growth. To develop further it is essential that the airport has improved connections to the wider transport infrastructure enabling it to support growth and investment. Our plans for the south Wales Metro will see two trains per hour serving the Vale of Glamorgan line from 2023\. Transport for Wales will develop a new bus interchange at Barry Town station to provide high quality facilities for a new bus link to the Airport for passengers using the four trains per hour through Barry Town station. We are investing £26m in improving 5 Mile Lane, and have invested in the development of initial plans for linking from the northern end of 5 Mile Lane to the M4 at junction 34\. Passenger numbers continue to grow on the T9 route, which is an important component of our national Traws Cymru bus network. High quality, reliable, easy to use and rapid surface access by rail, road and bus is critical for all airports, and Cardiff is no different.  We continue to invest to improve surface access to Cardiff Airport to allow it to achieve the ambitions set out today. Earlier this year the government made a further equity investment of £6m into the airport company, in order to accelerate the point in time when the airport’s value exceeds the amount we have invested in it.   As the business continues to grow towards this year’s target of 1\.65m passengers, the value of the company will continue this acceleration.   Ministers have no ambition to sell the Government’s stake in the company for the sake of selling it.  The government wants to see sustainable growth in passenger numbers and balance sheet strength, but more importantly we want Cardiff Airport to be a lever for developing the economy of Wales.   The investment required to deliver the master plan will need to come from the market not just government, and this will mean that we will find new ways to partner with the private sector. The master plan is the culmination of the work of the Cardiff Airport and St Athan Enterprise Zone. The Enterprise Zone Board made a clear recommendation that we should develop a master plan which tied together the needs of the airport and the wider economic regeneration requirements beyond the airport boundary.  It is because of this wider context that the Welsh Government has partnered with Cardiff Airport to develop this over\-arching master plan. The government didn’t want to see an airport master plan that looked solely at the needs of the airport.  The proposals launched today have a much broader base and rationale.   The master plan fits in with our wider plans for the St Athan Enterprise Zone. The St Athan airfield and business park is due to come under civilian control from the 1st April 2019\. The government can announce that the St Athan Airfield will be managed and operated by Cardiff Airport under a Joint Venture arrangement with the Welsh Government. As well as offering increased flexibility to the users of the site, over the course of the next 10 years, the joint venture is anticipated to save the Welsh Government £20m, compared with the current arrangements. We will promote the St Athan business park for economic development projects from all sectors. We are confident that over the next 10 years the St Athan business park will support 2000 jobs within enterprise zone. The master plan will support these ambitions. It is important now that stakeholders and the public take the time to consider the proposals set out today.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad heddiw ar y cynllun mawr arfaethedig ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. O ganlyniad i brynu'r maes awyr gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn 2013, mae’r maes awyr  wedi gweld mwy o dwf yn nifer y teithwyr nag  erioed o'r blaen.  Yn 2017 gwelwyd cynnydd o 9% yn nifer y teithwyr ar gyfer y flwyddyn galendr gyda dros 1,468 miliwn o gwsmeriaid yn teithio drwy'r Maes Awyr yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae'r ffigur hwn yn golygu twf o bron i 50% yn nifer y teithwyr ers i Faes Awyr Caerdydd ddod i berchnogaeth gyhoeddus. Bu hefyd fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn y prif adeilad, i wella profiad y teithwyr, a gwneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy deniadol a chyfforddus ar gyfer teithwyr busnes a hamdden.   Ond ni fydd newidiadau cosmetig yn ddigon i baratoi y maes awyr hwn ar gyfer y dyfodol, i fod yn un o'r prif byrth rhyngwladol i dde Cymru, i greu'r argraff gyntaf hollbwysig hwnnw fel gwlad hyderus, sy'n datblygu ac am gysylltu â'r byd, a lleoliad sy'n gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer busnes, hamdden a dysgu. Gan bod y maes awyr bellach wedi sefydlu ei hun a hefyd yn gwella, mae'n iawn i Lywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd, gydweithio fel tîm, i bennu cynllun strategol ar gyfer dyfodol sy'n ychwanegu at y llwyddiannau diweddar ac sy'n edrych ymlaen at sicrhau bod y maes awyr yn addas ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol. Mae gan deithwyr, rhanddeiliaid, trigolion lleol a busnesau bellach y cyfle i ddweud eu dweud ar gynlluniau y maes awyr yn y dyfodol. Mae angen i'r Cynllun Mawr sicrhau bod y maes awyr yn parhau i fod yn fwy cystadleuol ac atyniadol, ac iddo fod yn borth i deithio a masnachu yn rhyngwladol, ar gyfer de Cymru a thu hwnt. Rwy'n croesawu datblygiad y cynllun mawr, sydd wedi'i gynllunio i barhau ac ehangu twf y maes awyr, gyda'r nod o gynyddu nifer y teithwyr i dri miliwn y flwyddyn, tra'n cynnig profiad gwych ar gyfer y rhai hynny sy'n teithio ar gyfer busnes a hamdden. Bydd y cynnig cyffrous hwn ar gyfer y prif adeilad newydd yn galluogi twf mewn teithwyr ac yn rhoi capasiti i ddenu mwy o gwmnïau awyrennau yn gwasanaethu llwybrau newydd. Ond bydd y cynllun mawr hwn yn cynnig mwy o fanteision na thwf mewn teithwyr yn unig.  Yn y Cynllun Gweithredu Economaidd a lansiwyd gennyf ym mis Rhagfyr y llynedd, amlinellodd y Llywodraeth ddull newydd o fuddsoddi mewn busnes a'r economi a chael cymaint â phosib o'r economi.  Mae datblygu rhagor o gysylltiadau awyr â gweddill y DU, Ewrop a thu hwnt yn hanfodol i lewyrch hirdymor Cymru. Ond yn ehangach, mae'r Cynllun Gweithredu Economaidd yn pennu ein huchelgais i wella sgiliau ein gweithlu a chreu seilwaith cysylltiedig sy'n cefnogi twf a buddsoddiad.  Mae'r cynllun meistr a lansiwyd heddiw yn ymgorfforiad o'n Cynllun Gweithredu Economaidd. Pan gafodd y Cynllun Gweithredu Economaidd ei greu, roeddem yn cydnabod swyddogaeth bwysig y Maes Awyr fel rhan o'r weledigaeth o dwf cynhwysfawr. I ddatblygu ymhellach mae'n hanfodol i'r maes awyr gael cysylltiadau gwell a seilwaith trafnidiaeth ehangach gan ei alluogi i gefnogi twf a buddsoddiad. Bydd ein cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru yn gweld dwy drên bob awr yn gwasanaethu rheilffordd Bro Morgannwg o 2023\. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cyfnewidfa fysiau newydd ar gyfer gorsaf Y Barri i gynnig cyfleusterau o safon uchel ar gyfer cysylltiadau bws â'r Maes Awyr i deithwyr sy'n defnyddio'r bedair trên yr awr drwy orsaf Y Barri. Rydym yn buddsoddi £26 miliwn i wella 5 Mile Lane, ac wedi buddsoddi yn natblygiad y cynlluniau cychwynnol ar gyfer cysylltu o ben gogleddol 5 Mile Lane i'r M4 ar gyffordd 34\. Mae nifer y teithwyr yn parhau i godi ar lwybr T9, sy'n elfen bwysig o'n rhwydwaith bysiau cenedlaethol Traws Cymru. Mae mynediad o safon uchel, dibynadwy, hawdd ei ddefnyddio a chyflym ar yr wyneb ar reilffyrdd, ffyrdd a bysiau yn hollbwysig i bob maes awyr, ac nid yw Caerdydd yn wahanol yn hyn o beth.  Rydym yn parhau i fuddsoddi i wella mynediad ar yr wyneb i Faes Awyr Caerdydd i ganiatáu iddo gyflawni'r uchelgeisiau a bennwyd heddiw. Yn gynharach eleni gwnaeth y llywodraeth fuddsoddiad ecwiti pellach o £6miliwn i gwmni y maes awyr, er mwyn dod yn nes at yr amser pan fydd gwerth y maes awyr yn fwy na'r swm yr ydym wedi'i fuddsoddi ynddo.   Wrth i'r busnes barhau i ddatblygu tuag at darged eleni o 1\.65 o deithwyr, bydd gwerth y cwmni yn parhau i gynyddu.   Nid oes gan Weinidogion fwriad i werthu cyfran y Llywodraeth yn y cwmni er mwyn ei werthu.  Mae'r llywodraeth am weld twf cynaliadwy yn nifer y teithwyr a chryfder y fantolen, ond yn bwysicach rydym am weld Maes Awyr Caerdydd yn sbardun i ddatblygu economi Cymru.   Bydd angen i'r buddsoddiad fydd ei angen i gyflawni'r cynllun datblygu ddod o'r farchnad, nid dim ond y llywodraeth, a golyga hyn y byddwn yn dod o hyd i ffyrdd newydd i o fod yn bartneriaid â'r sector preifat. Mae'r cynllun mawr yn gyfuniad o waith Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Sain Tathan. Gwnaeth Bwrdd yr Ardal Fenter argymhelliad clir y dylem ddatblygu cynllun oedd yn cyfuno anghenion y maes awyr â gofynion ehangach o ran adfywio economaidd y tu hwnt i ffiniau'r maes awyr. Oherwydd y cyd\-destun ehangach hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi dod yn bartneriaid â Maes Awyr Caerdydd i ddatblygu'r cynllun cynhwysfawr hwn. Nid oedd y llywodraeth am weld cynllun mawr ar gyfer y maes awyr a oedd yn edrych ar anghenion y maes awyr yn unig.  Mae gan y cynigion a lansiwyd heddiw sylfaen a rhesymeg llawer ehangach.   Mae'r cynllun mawr yn cyd\-fynd â'n cynlluniau ehangach ar gyfer Ardal Fenter Sain Tathan. Mae maes awyr a pharc busnes Sain Tathan i ddod o dan reolaeth sifiliaid o'r 1af Ebrill 2019\. Gall y llywodraeth gyhoeddi y bydd Maes Awyr Sain Tathan yn cael ei reoli a'i weithredu gan Faes Awyr Caerdydd o dan Fenter ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â chynnig mwy o hyblygrwydd i ddefnyddwyr y safle, dros y 10 mlynedd nesaf, rhagwelir y bydd y fenter ar y cyd yn arbed £20 miliwn i Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r trefniadau presennol. Byddwn yn hyrwyddo parc busnes Sain Tathan ar gyfer prosiectau datblygu economaidd o bob sector. Rydym yn hyderus y bydd parc busnes Sain Tathan yn cefnogi 2000 o swyddi o fewn yr ardal fenter dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd y cynllun mawr yn cefnogi'r uchelgeisiau hyn. Mae'n bwysig nawr bod rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn cymryd yr amser i ystyried y cynigion a bennwyd heddiw.
https://www.gov.wales/written-statement-launch-consultation-proposed-master-plan-cardiff-airport
NHS Health Boards and Trusts, as a requirement of the National Health Service Finance Act (Wales) 2014, produce Integrated Medium Term Plans (IMTPs) annually. The development of the NHS Planning Framework for 2019\-22 provides direction on the production of clear and deliverable IMTPs. This year, it is imperative that we build on the progress made in previous years and ensure further growth in the maturity of the integrated planning system in Wales. Following publication of A Healthier Wales: our plan for health and social care, there is a requirement for a stronger emphasis on the role of the Regional Partnership Boards and the development of new seamless models of health and social care. The ability of NHS organisations to plan over the short, medium and long term has improved incrementally since the introduction of the National Health Service Finance Act (Wales) 2014 six years ago. However, there remains variation in the quality and effectiveness of plans and this is reflected in the levels of escalation for a number of organisations. This year, I expect to see that gap reduced.  It is a statutory duty for health boards and trusts to provide a balanced three\-year plan and I am committed to supporting all organisations to deliver their duty under the Act. The national strategy, Prosperity for All, and A Healthier Wales highlight the importance of population health organisations focused on prevention, reducing health inequalities and working with stakeholders to address population needs. I will be keen to see how organisations plan to make further inroads to achieve a truly integrated whole system approach, where the citizen is at the heart of planning. Finally, in response to the streamlining aspirations set out within A Healthier Wales, the 2019\-22 cycle will require a single submission of plans and will focus heavily on continuous planning rather than the product. This will require thorough engagement between the Welsh Government and NHS prior to submission in January to ensure plans are developed effectively. The ambition remains to improve the quality of planning in Wales by streamlining process and strengthening capacity and governance within NHS organisations. I am adamant that the NHS must develop plans that do justice to the populations they serve. The Planning Framework requirements include: • Progressing the future vision that A Healthier Wales has set out. Organisations will be required to demonstrate how the Quadruple Aim is underpinning their plans, and evidence how they will work evermore collaboratively in line with the health and social care pursuit of a operating within a sustainable, whole system approach; • Further embedding of the Well\-Being of Future Generations Act (2015\), including the adoption of the sustainable development principles and active contribution towards the well\-being goals; • Delivering exceptional Quality and Safety – the constant driving of improvement in safety, outcomes, efficiency and service user satisfaction; • Utilising prudent and value based healthcare \- healthcare that fits the needs and circumstances of patients; • Ensuring timely access to care; including primary care, cancer, stroke, unscheduled  and  planned care; • Focussing on mental health and ensuring parity with physical health and care services; • Strengthening partnership working \- promoting prosperous partnerships to ensure future sustainability, regionally, sub regionally and across public sector and other boundaries. The framework is available on the Welsh Government’s website at: https://gov.wales/topics/health/nhswales/planning/?lang\=en     
Mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG yn cyhoeddi cynlluniau tymor canolig integredig yn flynyddol, yn unol â gofynion Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014\. Mae Fframwaith Cynllunio'r GIG ar gyfer 2019\-22 yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch cynhyrchu cynlluniau tymor canolig integredig clir y mae modd eu cyflawni. Eleni, mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol a sicrhau twf pellach i aeddfedrwydd y system gynllunio integredig yng Nghymru. Yn dilyn cyhoeddi Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n ofynnol rhoi mwy o bwyslais ar swyddogaeth Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a datblygu modelau newydd, di\-dor o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gallu sefydliadau'r GIG i gynllunio dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir wedi gwella'n raddol ers cyflwyno Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2014 chwe blynedd yn ôl. Fodd bynnag, mae ansawdd ac effeithiolrwydd y cynlluniau yn parhau i amrywio, ac fe welir hyn yn lefelau'r uwchgyfeirio ar gyfer nifer o sefydliadau. Eleni, rwy'n disgwyl gweld y bwlch hwnnw'n lleihau. Mae dyletswydd statudol ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i ddarparu cynllun tair blynedd cytbwys, ac rwyf wedi ymrwymo i helpu pob sefydliad i gyflawni eu dyletswydd dan y Ddeddf. Mae'n strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, a Cymru Iachach yn tynnu sylw at bwysigrwydd sefydliadau iechyd poblogaeth sy'n canolbwyntio ar atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth. Rwy'n awyddus i weld sut bydd sefydliadau'n symud ymlaen i weithio mewn ffordd wirioneddol integredig, gan ganolbwyntio ar y dinesydd wrth gynllunio. Yn olaf, mewn ymateb i'r dyheadau a nodir yn Cymru Iachach, bydd cylch 2019\-22 yn gofyn am gyflwyno un set o gynlluniau, ac yn canolbwyntio ar gynllunio parhaus yn hytrach na'r cynnyrch. Bydd gofyn i Lywodraeth Cymru gadw mewn cysylltiad agos â'r GIG cyn cyflwyno'r cynlluniau ym mis Ionawr, er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu datblygu'n effeithiol. Yr uchelgais o hyd yw gwella ansawdd y cynllunio yng Nghymru drwy symleiddio prosesau a chryfhau gallu a llywodraethiant o fewn sefydliadau'r GIG. Rwy'n benderfynol bod rhaid i'r GIG ddatblygu cynlluniau sy'n gwneud cyfiawnder â'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae gofynion y Fframwaith Cynllunio yn cynnwys: • Symud ymlaen â'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol y mae Cymru Iachach wedi'i gosod. Bydd gofyn i sefydliadau ddangos sut mae'r Nod Pedwarplyg yn sylfaen i'w holl gynlluniau, a rhoi tystiolaeth i ddangos sut y byddant yn cydweithio mwy a mwy yn unol â'r nod y dylai iechyd a gofal cymdeithasol weithredu o fewn un system gynaliadwy. • Gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015\) ymhellach, gan gynnwys mabwysiadu'r egwyddorion datblygu cynaliadwy a chyfrannu at y nodau llesiant. • Sicrhau Ansawdd a Diogelwch eithriadol – ysgogi gwelliant o ran diogelwch, canlyniadau, effeithlonrwydd a bodlonrwydd defnyddwyr gwasanaethau. • Defnyddio gofal iechyd darbodus sy'n seiliedig ar werth \- gofal iechyd sy'n addas ar gyfer anghenion ac amgylchiadau cleifion. • Sicrhau mynediad amserol at ofal; gan gynnwys gofal sylfaenol, gofal canser a strôc, gofal heb ei gynllunio a gofal wedi'i gynllunio. • Canolbwyntio ar iechyd meddwl a sicrhau cydraddoldeb gyda'r gwasanaethau iechyd a gofal corfforol. • Cryfhau gwaith partneriaeth – hyrwyddo partneriaethau ffyniannus i sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol ar lefel ranbarthol, is\-ranbarthol ac ar draws y sector cyhoeddus a ffiniau eraill. Mae'r fframwaith ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://gov.wales/topics/health/nhswales/planning/?skip\=1\&lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-issue-nhs-planning-framework-2019-22
Today I am announcing the launch of the new Welsh Government Energy Service, which brings together the support services we have previously provided as Green Growth Wales and the Local Energy Service. The service now provides a single point of contact for public sector organisations and others seeking to develop energy efficiency or renewable energy schemes. Building on experience and learning over recent years, the service offers technical, financial and commercial support to public bodies and communities. The Wales Funding Programme and the Welsh Energy Loan Fund together provide loans, including low or interest\-free loans, to support installations. Since the launch of Green Growth Wales in 2015 and the evolution of Ynni’r Fro into the Local Energy Service, we have invested over £55m of zero\-interest loans across the public sector in Wales and also supported the delivery of a further £27m of energy and energy efficiency projects, where finance was secured from alternative routes.  This approach helps to reduce the running costs of public bodies across Wales and will realise savings of £138m over the life of the assets in which we’re investing and reduce carbon emissions by over 800,000 tonnes. Over the last three years the Local Energy Service has also invested £10m through loans to support new local renewable energy schemes. The transition to a low carbon energy economy presents Wales with an enormous opportunity to create a system which delivers significant economic and social benefits for Wales. Doing this whilst meeting our legally binding carbon targets and budgets requires us to develop new policies and strengthen the policies and programmes already driving decarbonisation. I have strengthened Planning Policy Wales, our national land\-use planning policy document, to align with our energy ambitions and establish an energy hierarchy. We want local planning authorities to see renewable resources as valuable assets supporting prosperity. I have also introduced new requirements for local authorities to set local targets for renewable energy in their local plans. The service will support greater regional energy planning whilst providing the opportunity to secure the benefits of renewable energy generation, through increased local ownership within Wales. Much of the benefit from the energy generation we host currently leaves Wales in paying energy bills. In the future, energy generation assets close to energy efficient demand centres, with real\-time trading and balancing, will be the norm.  We must ensure communities and our public sector are at the heart of and investing in this transition if we are to keep more of the benefits in Wales. In 2017 I outlined my ambition for the public sector in Wales to be carbon neutral by 2030\. The public sector has a key leadership role, through its various roles in place making, purchasing and service provision, whilst working with the communities, whose interests they serve. This is why I have chosen to integrate our public sector and community based services to ensure a more place\-based approach, whilst retaining the continuity so important to existing service users. I expect the public sector to use the service to actively seek opportunities to invest in energy efficiency and generating renewable energy. The public sector must use their available resources, such as land, buildings and funding, for renewable electricity and heat generation and work with local communities to develop and deliver energy projects. My aim is for the new Energy Service to provide the impetus to drive forward my vision for a new energy system. The focus will be on enabling the public sector and local communities to work together to accelerate the development of carbon reduction projects whilst retaining the benefits within local communities, maximising benefits to the Welsh economy. Further information on the new service and how to apply for support can be found at the following link: gov.wales/energy\-service\-public\-sector\-and\-community\-groups
Heddiw, rwy'n lansio'r Gwasanaeth Ynni newydd Llywodraeth Cymru, sy'n dod â'r gwasanaethau cymorth yr ydym wedi'u darparu yn y gorffennol fel Twf Gwyrdd Cymru a'r Gwasanaeth Ynni Lleol at ei gilydd. Mae'r gwasanaeth bellach yn darparu un pwynt cyswllt i sefydliadau'r sector cyhoeddus ac eraill sy'n ceisio datblygu cynlluniau defnyddio ynni'n effeithlon neu gynlluniau ynni adnewyddadwy. Gan ychwanegu at brofiad a’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth technegol, ariannol a masnachol i gyrff cyhoeddus a chymunedau. Bydd Rhaglen Cyllido Cymru a Chronfa Benthyca Ynni Cymru gyda'i gilydd yn darparu benthyciadau, gan gynnwys benthyciadau llog isel neu ddi\-log, i gefnogi gosodiadau. Ers lansio Twf Gwyrdd Cymru yn 2015 ac esblygiad Ynni'r Fro yn y Gwasanaeth Ynni Lleol, rydym wedi buddsoddi dros £55 miliwn o fenthyciadau di\-log ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a hefyd wedi cefnogi gwerth £27 miliwn arall o brosiectau ynni ac effeithlonrwydd ynni, ble y cafwyd y cyllid drwy ddulliau eraill. Mae'r dull hwn o weithio yn helpu i leihau costau cynnal cyrff cyhoeddus ledled Cymru a bydd yn rhyddhau arbedion o £138 miliwn dros gyfnod oes yr asedau yr ydym yn buddsoddi ynddynt, ac yn lleihau allyriadau carbon o dros 800,000 tunnell. Dros y dair blynedd diwethaf mae'r Gwasanaeth Ynni Lleol wedi buddsoddi £10 miliwn hefyd drwy fenthyciadau i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol newydd. Mae’r newid i economi ynni carbon isel yn cynnig cyfle enfawr i Gymru greu system sy’n sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol i Gymru.  Er mwyn gwneud hyn tra’n bodloni ein targedau a’n cyllidebau carbon sydd wedi’u rhwymo mewn cyfraith, mae’n rhaid inni ddatblygu polisïau newydd a chryfhau’r polisïau a’r rhaglenni sydd eisoes yn sbarduno’r broses ddatgarboneiddio. Rwyf wedi cryfhau Polisi Cynllunio Cymru, ein dogfen polisi cynllunio cenedlaethol ar ddefnydd tir, i gyd\-fynd â'n huchelgais o ran ynni ac i sefydlu hierarchiaeth ynni. Rydym am i awdurdodau cynllunio lleol weld adnoddau adnewyddadwy fel asedau gwerthfawr sy'n cefnogi llewyrch. Rwyf hefyd wedi cyflwyno gofyniad newydd i awdurdodau lleol sefydlu targedau lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn eu cynlluniau lleol. Bydd y gwasanaeth yn cefnogi mwy o gynllunio ynni rhanbarthol tra'n rhoi’r cyfle i sicrhau'r manteision o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, drwy fwy o berchnogaeth leol yng Nghymru. Mae llawer o fanteision cynhyrchu ynni yn gadael Cymru ar hyn o bryd drwy dalu biliau ynni. Yn y dyfodol, asedau cynhyrchu ynni sy'n agos at ganolfannau galw sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, gyda masnachu a chydbwysedd mewn amser real, fydd y norm.  Mae'n rhaid inni sicrhau bod cymunedau a'n sector cyhoeddus yn ganolog i'r newid hwn ac yn buddsoddi ynddo os ydym i gadw mwy o’r manteision yng Nghymru.   Yn 2017 rhoddais amlinelliad o'm huchelgais ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi\-garbon erbyn 2030\. Mae gan y sector cyhoeddus swyddogaeth arwain allweddol, drwy ei swyddogaethau amrywiol yn creu lleoedd, prynu a darparu gwasanaethau, tra’n gweithio gyda’r cymunedau y  maent yn eu gwasanaethu. Dyma pam yr wyf wedi dewis integreiddio ein sector cyhoeddus a'n gwasanaethau o fewn y gymuned yn well i sicrhau dull sy'n fwy seiliedig ar le, tra'n cadw'r parhad sydd mor bwysig i ddefnyddwyr presennol y gwasanaeth. Rwy'n disgwyl i'r sector cyhoeddus ddefnyddio'r gwasanaeth i sicrhau cyfleoedd i fuddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae'n rhaid i'r sector cyhoeddus ddefnyddio yr adnoddau sydd ar gael iddynt, megis tir, adeiladau a chyllid, ar gyfer trydan adnewyddadwy a chynhyrchu gwres a gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu a darparu prosiectau ynni. Fy nod yw i'r Gwasanaeth Ynni newydd ddarparu'r sbardun i ddatblygu fy ngweledigaeth am system ynni newydd. Byddwn yn canolbwyntio ar alluogi y sector cyhoeddus a chymunedau lleol i gydweithio i gyflymu datblygiad y prosiectau lleihau carbon tra'n cadw y manteision o fewn cymunedau lleol, gan sicrhau manteision i economi Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth newydd a sut i wneud cais am gymorth i'w gweld ar y ddolen ganlynol: llyw.cymru/y\-gwasanaeth\-ynni\-ar\-gyfer\-grwpiaur\-sector\-cyhoeddus\-grwpiau\-cymunedol
https://www.gov.wales/written-statement-launch-welsh-government-energy-service
The Landfill Disposals Tax Communities Scheme, which is published today, will replace the UK Landfill Communities Fund in Wales and support environmental and community projects in areas affected by the disposal of waste to landfill. It will come into effect from 1 April 2018, when landfill disposals tax is introduced in Wales. This is a Welsh Government scheme, which will be distributed under contract by the Wales Council for Voluntary Action (WCVA) between April 2018 and March 2022\. It will fund projects, which support biodiversity, waste minimisation and the diversion of waste from landfill and other environmental enhancements. Its overall aim is to support those communities which are affected by the disposal of waste to landfill. £1\.5m will be allocated to the scheme, to be awarded as grants to successful projects. Grants of £5,000 to £50,000 will be available in two annual bidding rounds, with one significant project per year being offered funding of up to £250,000\. Communities and projects which are within five miles of a landfill site or a waste transfer station which sends a minimum of 2,000 tonnes of waste to landfill each year, will be eligible to apply to the Landfill Disposals Tax Communities Scheme. Projects will continue to benefit from any Landfill Communities Fund support awarded before 31 March 2018\. There will be a two\-year transitional period to enable Landfill Communities Fund projects in Wales to be completed and for all remaining funding in Wales to be spent. This period will run from 1 April 2018 to 31 March 2020\. Hannah Blythyn, Minister for Environment, will have Ministerial responsibility for the Landfill Disposals Tax Communities Scheme once it is operational. Further information about the scheme is available on the WCVA website (external link). *This scheme is being laid before the National Assembly during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.*    
Bydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn disodli'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi yng Nghymru ac yn cefnogi prosiectau amgylcheddol a chymunedol mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi. Daw i rym ar 1 Ebrill 2018, pan fydd treth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chyflwyno yng Nghymru. Cynllun Llywodraeth Cymru yw hwn, a fydd yn cael ei ddosbarthu dan gontract gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2022\. Bydd yn ariannu prosiectau sy'n cefnogi bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a gwelliannau amgylcheddol eraill. Y nod cyffredinol yw helpu cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi. Caiff £1\.5m ei neilltuo i'r cynllun, i'w ddyfarnu fel grantiau i brosiectau llwyddiannus. Bydd grantiau rhwng £5,000 a £50,000 ar gael mewn dwy rownd ymgeisio flynyddol, gydag un prosiect sylweddol y flwyddyn yn cael cynnig hyd at £250,000 o gyllid. Bydd cymunedau a phrosiectau sydd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff sy'n anfon o leiaf 2,000 o dunelli o wastraff i safle tirlenwi bob blwyddyn yn gymwys i wneud cais i Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Gall prosiectau barhau i fanteisio ar unrhyw gyllid y Gronfa Cymunedau Tirlenwi a ddyrannwyd cyn 31 Mawrth 2018\. Bydd dwy flynedd o gyfnod pontio er mwyn cwblhau prosiectau'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi yng Nghymru a gwario'r holl gyllid sy'n weddill. Bydd y cyfnod hwn yn ymestyn o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2020\. Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, fydd â'r cyfrifoldeb Gweinidogol dros Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi pan fydd yn weithredol. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (dolen allanol). Caiff y cynllun ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-landfill-disposals-tax-communities-scheme
The Commission on Justice in Wales, established by the First Minister, will consider the question of devolution of policing and the criminal justice system and how such a system should operate in Wales. We will await the conclusions of the Commission. In the meantime, there are increasing challenges of managing demand for public services from those in the criminal justice system, or those affected by having a family member in the system. Whilst the overall responsibility for criminal justice rests with the UK Government, the system in Wales is facing challenges. I am concerned that without a meaningful an in\-depth discussion with the UK Government, we will continue to see increasing demand on Welsh public services and poorer outcomes for people in the criminal justice system in Wales. I am particularly concerned that some of the men and women in Wales who are sent to prison, are not receiving the services and support they need to ensure that they can be effectively rehabilitated and supported not to re\-offend. Whilst we wait for the Commission on Justice to reach its conclusions, we need to press ahead with developing a different and distinct delivery approach that reflects the needs of people in Wales, but is also more closely aligned with our public services and policy approaches in Wales. This includes gaining a better understanding of why people end up in prison and what we could do to prevent many people being sent to prison, often for short sentences that have a devastating impact on their lives. Until we have considered this in more detail and had more detailed discussions with the UK Government, I do not believe it is in the interests either of the Welsh Government or people in Wales, to see further prison development in Wales. I have therefore written to the Secretary of State for Justice to inform him that until a more meaningful dialogue with the Welsh Government takes place, we will not facilitate the further development of prisons in Wales. I will keep Members informed as any discussions with the UK Government progress. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.    
Bydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog, yn ystyried y mater o ddatganoli plismona a'r system cyfiawnder troseddol, a sut y dylid gweithredu system o'r fath yng Nghymru. Disgwyliwn am gasgliadau'r Comisiwn. Yn y cyfamser, mae heriau cynyddol yn codi wrth reoli'r galw am wasanaethau cyhoeddus gan y rheini yn y system cyfiawnder troseddol, neu'r rheini yr effeithir arnynt gan fod aelod o'u teulu yn rhan o'r system. Er mai Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros gyfiawnder troseddol, mae'r system yng Nghymru yn wynebu heriau. Rwy'n bryderus y bydd y galw ar wasanaethau cyhoeddus Cymru yn parhau i gynyddu, ac y bydd pobl o fewn ein system cyfiawnder troseddol yn dioddef canlyniadau gwaeth os na fyddwn yn cynnal trafodaethau ystyrlon a manwl â Llywodraeth y DU. Rwy'n arbennig o bryderus nad yw rhai o'r dynion a'r menywod yng Nghymru sydd wedi'u hanfon i'r carchar yn cael y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt er mwyn sicrhau bod modd eu hadsefydlu'n effeithiol a'u cefnogi i beidio ag aildroseddu. Wrth inni aros i'r Comisiwn ar Gyfiawnder ddod i'w gasgliadau, mae angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu dull gweithredu gwahanol a neilltuol sy'n adlewyrchu anghenion pobl Cymru, ond sydd hefyd yn fwy cydnaws â'n gwasanaethau cyhoeddus a'n polisïau. Mae hyn yn cynnwys deall yn well pam fod pobl yn mynd i'r carchar a'r hyn y gallwn ei wneud i rwystro llawer rhag cael eu hanfon yno, yn aml am ddedfryd fer sy'n cael effaith drychinebus ar eu bywydau. Hyd nes y byddwn wedi ystyried hyn yn fanylach, a chynnal trafodaethau manwl â Llywodraeth y DU, nid wyf yn credu y byddai mwy o waith datblygu carchardai o fudd i Lywodraeth Cymru na phobl Cymru. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i roi gwybod iddo na fyddwn yn hwyluso'r gwaith o ddatblygu carchardai ymhellach yng Nghymru heb i drafodaethau mwy ystyrlon gael eu cynnal â Llywodraeth Cymru. Byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau ynghylch hynt unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-justice-policy-wales
  Following recent consultations concerning the regulation and inspection of fostering, adult placements and children’s statutory advocacy services, I am pleased to share with you links to the consultation in respect of adoption services, which launches today (4 September 2018\).   https://beta.gov.wales/new\-regulatory\-framework\-adoption\-services   This consultation forms part of phase 3 of implementing the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, which is due to come into effect in April 2019\.   Views are sought on the draft Adoption Services (Service Providers and Responsible Individuals) and Local Authority Adoption Services (Wales) Regulations 2019 which, in summary: • place new requirements on regulated adoption service providers and responsible individuals in relation to those services under sections 27 and 28 of the 2016 Act • place similar requirements, where applicable, upon local authority adoption service providers and their managers, under section 9 of the Adoption and Children Act 2002\. Also published for consultation is draft statutory guidance for regulated adoption service providers and responsible individuals under the 2016 Act and a code of practice for local authority adoption service providers and their managers under the Social Services and Well\-Being (Wales) Act 2014\.  These have been developed, and combined within a single document, to complement the draft regulations and further clarify how the requirements can be met.   The consultation also invites views on the options for the future of independent reviews of determinations for adoption, with equivalent options for fostering having been consulted upon earlier this year.    As previously highlighted, the overall approach to developing the requirements for phase 3 services has been to draw from and, wherever appropriate, equate them with the standards that we as a Government and an Assembly put in place at phase 2 (April 2018\), for services such as care homes and domiciliary support. However, the draft requirements have been tailored to ensure the best fit with how adoption services work in practice without compromising overall expectations. The draft Regulations have been scoped and developed with the assistance and advice of a stakeholder technical group, to whom I am very grateful.  I now welcome further views on the proposals and would encourage all those with an interest to respond by the closing date of 27 November 2018\. Finally, I would like to advise that we will be consulting on a further set of regulations in respect of adoption services – that will establish a two\-stage process for the approval of prospective adopters – starting later this month.     This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.    
Yn dilyn yr ymgynghoriadau diweddar ar reoleiddio ac arolygu gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion, a gwasanaethau eirioli statudol i blant, mae'n bleser gennyf anfon y dolenni at yr ymgynghoriad ar wasanaethau mabwysiadu atoch. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei lansio heddiw (4 Medi 2018\).   https://beta.llyw.cymru/fframwaith\-rheoleiddio\-newydd\-ar\-gyfer\-gwasanaethau\-mabwysiadu Mae'n rhan o gam 3 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019\.   Rydym yn awyddus i gael sylwadau ar Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019 sy'n: • gosod gofynion newydd ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig ac unigolion cyfrifol mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny o dan adrannau 27 a 28 o Ddeddf 2016 • gosod gofynion tebyg, lle bo hynny'n briodol, ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol a'u rheolwyr, o dan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002\. Hefyd, mae canllawiau statudol drafft wedi cael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori. Cyhoeddwyd y canllawiau hyn, ar gyfer darparwyr gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig ac unigolion cyfrifol, o dan Ddeddf 2016, a chyhoeddwyd cod ymarfer, ar gyfer darparwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol a'u rheolwyr, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016\. Cafodd y rhain eu datblygu, a'u cyfuno o fewn yr un ddogfen, i ategu'r rheoliadau drafft ac i sicrhau mwy o eglurder o ran sut y dylid mynd ati i fodloni'r gofynion. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gwahodd sylwadau ar yr opsiynau ar gyfer cynnal adolygiadau annibynnol o benderfyniadau mabwysiadu yn y dyfodol. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar yr opsiynau cyfatebol ar gyfer maethu yn gynharach eleni.  Fel y dywedwyd eisoes, mae'r dull gweithredu, a ddefnyddir i ddatblygu'r gofynion cam 3 ar gyfer gwasanaethau, yn ystyried ac yn gyson, lle bo hynny'n briodol, â'r safonau yr ydym ni fel Llywodraeth a Chynulliad wedi eu rhoi ar waith yng ngham 2  (Ebrill 2018\) mewn perthynas â gwasanaethau megis cartrefi gofal a chymorth cartref. Fodd bynnag, mae'r gofynion drafft wedi cael eu teilwra lle bo hynny'n briodol i gyd\-fynd yn y ffordd fwyaf effeithiol â'r ddarpariaeth ymarferol o wasanaethau mabwysiadu, heb gyfaddawdu’r disgwyliadau cyffredinol. Yn yr un modd â cham 2, mae'r Rheoliadau drafft wedi'u cynllunio a'u datblygu gyda chymorth a chyngor gan grwpiau technegol rhanddeiliaid, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny.  Rwyf nawr yn awyddus i gael sylwadau ar y cynigion, a hoffwn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb erbyn y dyddiad cau, sef 27 Tachwedd 2018\. Yn olaf, hoffwn ychwanegu y byddwn yn ymgynghori ar set o reoliadau pellach sy'n ymwneud â gwasanaethau mabwysiadu – a fydd yn sefydlu proses ddau gam ar gyfer cymeradwyo darpar fabwysiadwyr – gan ddechrau yn nes ymlaen y mis hwn. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-launch-consultation-respect-adoption-services
On 20 March 2018, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services made an Oral Statement in the Siambr on: Local Government (external link).
Ar 20 Mawrth 2018, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Llywodraeth Leol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-local-government
Today, I am pleased to announce the publication of a consultation on addressing loneliness and social isolation in Wales. Loneliness and social isolation are growing problems not just here in Wales but across the UK and beyond. And more of us now understand they can affect anyone, at any age, for a wide variety of reasons. They can, and do, have a significant impact on people’s physical and mental health.   As a government, we are committed to securing the best possible health, well\-being and quality of life for all people in Wales. Preventing people from becoming lonely and socially isolated must be a national priority for us, because it will not only improve people’s lives, but it will also help reduce demand for health and social services in the future. The Welsh Government’s Programme for Government, Taking Wales Forward 2016\-2021 therefore included a commitment to develop a nationwide and cross\-government strategy to address these issues. This consultation document represents the first step in delivering on that commitment. It sets out our vision of the Wales we want to see, linked to the Welsh Government’s legislative and strategic frameworks; it highlights what the evidence tells us and what we have heard through engagement with stakeholders so far; it highlights some of the work that the Welsh Government has done and is continuing to do to tackle loneliness and social isolation, and sets out a suggested approach for the future. I am clear, that neither the Welsh Government nor one agency on its own can combat these issues. The only way to address the wide\-ranging and deep\-rooted impacts of loneliness and social isolation is to bring together all agencies to address the causes and the wider harmful impacts for the individual and for communities. As a government we need to be able to foster the right environment and create the right conditions for others to design and deliver solutions that best meet their needs.   I want to hear from people living in all parts of Wales and would be grateful if you could promote this consultation within the communities that you serve. I know you are as keen as I am to ensure our communities and the social fabric that binds them together, are as resilient as they can be. The consultation is available at: https://beta.gov.wales/connected\-communities\-tackling\-loneliness\-and\-social\-isolation and will close on 15 January 2019
Rwyf falch o gyhoeddi ymgynghoriad heddiw ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yng Nghymru. Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol yn broblemau sy’n tyfu, nid yn unig yma yng Nghymru ond drwy’r Deyrnas Unedig a thu hwnt i hynny. Ac mae mwy ohonom yn deall erbyn hyn y gallant effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oed, ac am amryw o wahanol resymau. Maen nhw’n gallu cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Rydyn ni fel llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau’r iechyd, y llesiant a’r ansawdd bywyd gorau i holl bobl Cymru. Rhaid inni roi blaenoriaeth i  atal pobl rhag mynd yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol, oherwydd bydd hynny nid yn unig yn gwella bywydau pobl \- bydd hefyd yn helpu i leihau’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol. Felly, roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen 2016\-2021 yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu strategaeth genedlaethol, drawslywodraethol i fynd i’r afael â’r materion hyn. Y ddogfen ymgynghori hon yw’r cam cyntaf yn y gwaith o gyflawni’r ymrwymiad hwn. Mae’n nodi ein gweledigaeth o’r Gymru yr ydym am ei gweld, a hynny wedi’i gysylltu â fframweithiau deddfwriaethol a strategol Llywodraeth Cymru; mae’n cyfeirio at yr hyn yr ydym yn ei wybod drwy dystiolaeth, a’r hyn a glywsom drwy ymgysylltu â’n rhanddeiliaid hyd yma; mae’n sôn am rywfaint o’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, ac yn awgrymu dull gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae’n amlwg i mi na all Llywodraeth Cymru nac un asiantaeth ar ei phen ei hun fynd i’r afael â’r materion hyn. Yr unig ffordd o ymdrin ag effeithiau eang a dwfn unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yw dod â’r holl asiantaethau ynghyd i edrych ar yr achosion ac ar yr effeithiau niweidiol ehangach i’r unigolion ac i gymunedau. Fel llywodraeth, mae angen inni feithrin yr amgylchedd cywir a chreu’r amodau addas i eraill allu cynllunio a darparu atebion sy’n diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau. Hoffwn glywed gan bobl o bob rhan o Gymru, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech hyrwyddo’r ymgynghoriad hwn yn y cymunedau yr ydych yn eu gwasanaethu. Rwy’n gwybod eich bod chi mor awyddus â finnau i wneud yn siŵr bod ein cymunedau, a’r gwead cymdeithasol sy’n eu clymu ynghyd, mor wydn ag y gallant fod. Mae’r ymgynghoriad i’w weld yn: https://beta.llyw.cymru/cymunedau\-cysylltiedig\-mynd\-ir\-afael\-ag\-unigrwydd\-ac\-ynysigrwydd\-cymdeithasol a bydd yn dod i ben ar 15 Ionawr 2019\.
https://www.gov.wales/written-statement-launch-consultation-loneliness-and-social-isolation-connected-communities
I am writing to update Members on the launch of the new Wales and Borders rail service contract.   Members will recall that following a competitive procurement process, led by Transport for Wales, we awarded the contract to operate the next Wales and Borders rail service contract to KeolisAmey. Today marks the first full day of the new Wales and Borders rail service contract, having seen the 15\-year relationship with Arriva Trains Wales end on Sunday. With the investment totalling almost £5bn over the next decade and a half, our network will be transformed to better meet the needs of communities across Wales. We have committed £800m to deliver new trains across the network, which by 2023 will see 95% of rail journeys made on new trains. A further £194m will be put to improving the passenger experiences at our stations across the Wales and Borders network. There is £738m earmarked to modernise the central metro lines, enabling more trains to run every hour. Furthermore, there will be employment opportunities directly associated with the new contract, with 600 new jobs being offered and a total of 450 apprenticeships over the 15\-year lifespan of the contract. This is an exciting time for Wales, with many benefits being delivered over the next 15 years. I wish Transport for Wales every success in bringing about these transformational changes on our behalf.
Rwy'n ysgrifennu i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar lansio contract newydd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.   Bydd yr aelodau yn cofio, yn dilyn proses gaffael gystadleuol, o dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, i KeolisAmey gael y contract i weithredu contract gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau. Mae heddiw yn nodi diwrnod llawn cyntaf y contract gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau newydd, wedi i'r berthynas 15 mlynedd gyda Trenau Arriva Cymru ddod i ben ddydd Sul. Gyda'r buddsoddiad yn rhoi cyfanswm o bron £5 biliwn dros y ddegawd a hanner nesaf, caiff ein rhwydwaith ei drawsnewid i fodloni anghenion cymunedau ledled Cymru yn well. Rydym wedi ymrwymo £800 miliwn i ddarparu trenau newydd ar draws y rhwydwaith, fydd erbyn 2023 yn golygu bod 95% o deithiau rheilffyrdd yn cael eu gwneud ar drenau newydd. Bydd £194 miliwn yn cael ei roi i wella profiadau teithwyr yn ein gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Mae £738 miliwn wedi ei glustnodi i foderneiddio'r rheilffyrdd metro canolog, gan alluogi mwy o drenau i redeg pob awr. Ar ben hynny, bydd cyfleoedd ar gyfer gwaith, sy'n cael ei gysylltu'n uniongyrchol â'r contract newydd, gyda 600 o swyddi newydd yn cael eu cynnig a chyfanswm o 450 o brentisiaid dros gyfnod 15 mlynedd y contract. Mae hwn yn amser cyffrous i Gymru, gyda nifer o fanteision dros y 15 mlynedd nesaf. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Trafnidiaeth Cymru wrth gyflawni'r newidiadau trawsnewidiol hyn ar ein rhan.
https://www.gov.wales/written-statement-launch-new-wales-and-borders-rail-service-contract
  Further to my statement in Plenary on 22 May 2018, I am pleased to share with you links to the consultation packages on regulating fostering, adult placement and – for the first time – children’s statutory advocacy services. These consultations are part of phase 3 of implementing the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, which is due to come into effect in April 2019\. The fostering services consultation seeks views on:   * requirements to be placed upon service providers and responsible individuals of independent fostering agencies, under the 2016 Act * requirements to be placed upon local authority fostering services, under the Social Services and Well\-being (Wales) Act 2014 * a revised process for approving  foster parents (the Independent Review Mechanism). In addition to the consultation document, also enclosed are a set of draft Regulations; draft statutory guidance, under s.29 of the 2016 Act (in respect of the independent providers) and a draft code of practice, under s.145 of the 2014 Act (in respect of local authority services).  The draft guidance and code contain further information on how providers may comply with the service requirements, set out in the Regulations. The adult placement services consultation seeks views on:     * requirements to be placed upon service providers and responsible  individuals of independent and local authority adult placement schemes, under the 2016 Act * the principle of extending these placement schemes to include 16 and 17 year olds * draft statutory guidance to accompany the Regulations.   The advocacy services consultation seeks views on new Regulations which place requirements on service providers and responsible individuals of children’s statutory advocacy services.  These are advocacy services arranged by local authorities, under their 2014 Act duties, to assist children, looked after children and certain types of care leavers in making representations about their needs for care and support.  Also enclosed for consideration is draft statutory guidance, to complement the Regulations.   The overall approach to developing the requirements for phase 3 services has been to draw from and, wherever appropriate, equate these with the standards approved by this Assembly and put in place at phase 2 of implementation (April 2018\), for services such as care homes and domiciliary support.   Ensuring consistency in the requirements placed on providers and responsible individuals of all regulated services is one of my main policy objectives in implementing the Act.  However, I also recognise that each service has its own characteristics.  Therefore, where appropriate the draft requirements are tailored to ensure the best fit with how phase 3 services are delivered in practice, without compromising the overall expectations. As with phase 2, the draft Regulations have been scoped and developed with the assistance and advice of stakeholder technical groups, to whom I am very grateful.  Their contributions have helped to ensure that the draft requirements are suitable for their particular service. I welcome further views on this. The consultations will close on Thursday 16 August 2018\.       https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/riscaupdate/?lang\=en     https://beta.gov.wales/fostering\-services\-regulations    https://beta.gov.wales/adult\-placement\-services\-regulations    https://beta.gov.wales/advocacy\-services\-regulations         
Yn dilyn fy natganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mai 2018, mae'n bleser gen i rannu dolenni â chi i'r pecynnau ymgynghori ar reoleiddio gwasanaethau maethu, lleoli oedolion ac, am y tro cyntaf, gwasanaethau eirioli statudol plant. Mae'r ymgyngoriadau hyn yn rhan o gam 3 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019\. Mae'r ymgynghoriad ar wasanaethau maethu yn gofyn am farn ar: * ofynion i'w gosod ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol asiantaethau maethu annibynnol, dan Ddeddf 2016 * gofynion i'w gosod ar wasanaethau maethu awdurdodau lleol, dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 * proses ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth (y Mecanwaith Adolygu Annibynnol). Yn ogystal â'r ddogfen ymgynghori, wedi'u cynnwys mae set o Reoliadau drafft; canllawiau statudol drafft, dan adran 29 o Ddeddf 2016 (mewn perthynas â'r darparwyr annibynnol) a chod ymarfer drafft, dan adran 145 o Ddeddf 2014 (mewn perthynas â gwasanaethau awdurdodau lleol). Mae'r canllawiau drafft a'r cod yn cynnwys gwybodaeth bellach ar y ffordd y caiff darparwyr gydymffurfio â gofynion y gwasanaeth sydd wedi'u nodi yn y Rheoliadau. Mae'r ymgynghoriad ar wasanaethau lleoli oedolion yn gofyn am farn ar: * ofynion i'w gosod ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol cynlluniau lleoli oedolion annibynnol ac awdurdodau lleol, dan Ddeddf 2016 * yr egwyddor o ymestyn y cynlluniau hyn i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed * canllawiau statudol drafft i gyd\-fynd â'r Rheoliadau. Mae'r ymgynghoriad ar wasanaethau eirioli yn gofyn am farn ar Reoliadau newydd sy'n gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol gwasanaethau eirioli statudol plant. Caiff y gwasanaethau eirioli hyn eu trefnu gan awdurdodau lleol dan ddyletswydd Deddf 2014 i gynorthwyo plant, plant sy'n derbyn gofal a mathau penodol o unigolion sy'n gadael gofal i wneud sylwadau am eu hanghenion o ran gofal a chymorth. Rydym hefyd wedi amgáu canllawiau statudol drafft i'w hystyried, a fydd yn cyd\-fynd â'r Rheoliadau. Wrth fynd ati i ddatblygu'r gofynion ar gyfer gwasanaethau cam 3, rydym wedi ystyried ac, os yn briodol, cysoni â'r safonau a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad hwn a’u gweithredu yn ystod cam 2 (Ebrill 2018\) ar gyfer gwasanaethau gan gynnwys cartrefi gofal a chymorth cartref. Mae sicrhau cysondeb yn y gofynion a osodir ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol yr holl wasanaethau rheoleiddiedig yn un o fy mhrif amcanion polisi wrth weithredu'r Ddeddf. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod bod gan bob gwasanaeth ei nodweddion ei hun. Bydd y gofynion drafft felly yn cael eu teilwra lle bo'n briodol i sicrhau eu bod yn cyd\-fynd yn y ffordd orau â darpariaeth gwasanaethau cam 3 yn ymarferol, heb gyfaddawdu'r disgwyliadau cyffredinol. Yn yr un modd â cham 2, mae'r Rheoliadau drafft wedi'u cynllunio a'u datblygu gyda chymorth a chyngor gan grwpiau technegol rhanddeiliaid, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny. Mae eu cyfraniadau wedi helpu i sicrhau bod y gofynion drafft yn addas ar gyfer eu gwasanaethau penodol. Rwy'n croesawu barn bellach ar hyn. Bydd yr ymgyngoriadau hyn yn dod i ben ddydd Iau 16 Awst 2018\. https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/riscaupdate/?skip\=1\&lang\=cy  https://beta.llyw.cymru/rheoliadau\-gwasanaethau\-maethu  https://beta.llyw.cymru/rheoliadau\-gwasanaethau\-lleoli\-oedolion  https://beta.llyw.cymru/rheoliadau\-gwasanaethau\-eirioli 
https://www.gov.wales/written-statement-launch-consultation-phase-3-implementation-regulation-and-inspection-social-care
Today the Welsh Government has launched the Business Wales ‘Brexit Portal’ – a website specifically designed to help businesses as they prepare for the changes and challenges arising from the decision to leave the European Union. The portal has two objectives: First, to provide up\-to\-date information and advice on a range of relevant business topics (including trading internationally and workforce planning) as we enter the six\-month period leading up to the UK’s departure from the EU. Second, to provide a diagnostic tool which will enhance our existing support to businesses, raising awareness of appropriate preparedness actions and additional sources of support. This will provide a health check for those businesses already prepared or identifying key actions for those that may need more support. The Brexit Portal (Portal) is part of the wider consideration of the two\-year budget agreement between the Welsh Government and Plaid Cymru to support businesses with Brexit preparations. As a responsible government our Brexit planning is intensifying and we will continue to plan for all possible outcomes. The aim of the Portal is to build on the existing information, advice and guidance provided by Business Wales to support businesses to prepare for Brexit. The concept and specification for the Portal was taken forward through the Council for Economic Development sub\-group on Brexit \- the EU Exit Working Group. Development of the Portal has considered emerging research and evidence on business support requirements as well as good practice from elsewhere including Ireland. The Portal is an evolution of the existing Brexit Q\&A section on the Business Wales website and contains links to the UK Government’s technical advice notices on a no\-deal exit scenario. The Portal can be viewed via the following link: https://businesswales.gov.wales/brexit/
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi lansio 'Porthol Brexit' Busnes Cymru’ \- gwefan sydd wedi'i chynllunio'n benodol i helpu busnesau wrth iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a'r heriau sy'n codi o'r penderfyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae dau nod allweddol i'r Porthol: Yn gyntaf, darparu gwybodaeth ddiweddar a chyngor ar amrywiol bynciau busnes perthnasol (gan gynnwys masnachu yn rhyngwladol a chynllunio y gweithlu) wrth inni ddechrau ar y cyfnod o chwe mis sy'n arwain at weld y DU yn ymadael â'r UE. Yn ail, darparu dull diagnostig fydd yn gwella ein cymorth presennol i fusnesau, yn codi ymwybyddiaeth o gamau paratoi priodol a ffynonellau cymorth ychwanegol. Bydd hyn yn darparu gwiriad iechyd i'r busnesau hynny sydd eisoes wedi paratoi neu nodi'r prif gamau i'r rhai hynny sydd o bosibl angen mwy o gymorth. Mae Porthol Brexit (y Porthol) yn rhan o'r ystyriaeth ehangach o'r cytundeb cyllideb dwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru i gynorthwyo busnesau i baratoi at Brexit. Gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol mae’n gwaith cynllunio ar gyfer Brexit yn cynyddu a byddwn yn parhau i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posibl. Nod y Porthol yw adeiladu ar yr wybodaeth, y cyngor a'r canllawiau a ddarperir gan Busnes Cymru i gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer Brexit. Cafodd y cysyniad a'r fanyleb ar gyfer y Porthol ei ddatblygu drwy is\-grŵp Brexit y Cyngor Datblygu Economaidd \- Gweithgor Ymadael â'r UE. Mae datblygu'r Porthol wedi ystyried y gwaith ymchwil a'r dystiolaeth ar ofynion cymorth busnes yn ogystal ag arferion da o leoedd eraill gan gynnwys Iwerddon. Mae'r Porthol yn ddatblygiad o adran Holi ac Ateb presennol Brexit ar wefan Busnes Cymru, ac yn cynnwys dolenni at hysbysiadau cyngor technegol Llywodraeth y DU ar y sefyllfa o ymadael heb drefnu bargen. I weld y Porthol, cliciwch ar y ddolen hon: https://businesswales.gov.wales/brexit/cy
https://www.gov.wales/written-statement-launch-business-wales-brexit-portal
When I published the Economic Action Plan in December I made clear our commitment to delivering modern and connected infrastructure across Wales that could support our wider priorities as a government.  That meant having a transport system that was safe, multi\-modal and which improved the quality of the communities which they served. Today I am allocating £25\.9 million in transport grants to local authorities across Wales for schemes to help support that ambition – to improve safety, to create inclusive economic growth and to promote active travel. All local authorities were invited to submit applications for their priority schemes. A total of 190 applications were received for all the grants. The Local Transport Fund of £6\.15 million will allow 18 schemes across 13 local authorities to continue work on multi year projects. A further £5 million has been provided to fund local authorities to progress active travel scheme development. The Local Transport Network Fund of £4million will allow 4 existing schemes to continue with 9 new schemes to start across 13 Local Authorities. Nearly £4 million in Road Safety Capital Grant will fund 18 schemes contributing to road casualty reduction in 11 local authorities. The £5 million Safe Routes in Communities Grant is focused on 26 schemes that improve walking and cycling routes to schools in 18 local authorities. In addition, funding of £1\.75 million will be made available to all local authorities for road safety education and training programmes for, in particular, high risk and vulnerable groups, such as children, young people, older drivers and motorcyclists. The grants are a substantial investment to support sustainable local economic growth, improve road safety, enhance public transport facilities and provide more and better routes that will enable a larger number of people in Wales to walk and cycle safely. A full list of successful schemes by local authority will be published on the Welsh Government website.    
Pan gyhoeddais y Cynllun Gweithredu ar yr Economi ym mis Rhagfyr y llynedd gwnes nodi’n glir ein hymrwymiad i gyflawni seilwaith modern a chysylltiedig ar draws Cymru a allai gefnogi blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth. Roedd hynny’n golygu sicrhau system drafnidiaeth sy’n ddiogel, yn amlfoddol a system sy’n gwella ansawdd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Heddiw, rwy’n rhoi £25\.9 miliwn i awdurdodau lleol ar draws Cymru ar gyfer cynlluniau a fydd yn helpu i gyflawni’r uchelgais yma \- i wella diogelwch, i greu twf economaidd cynhwysol ac i hyrwyddo teithio llesol. Gwahoddwyd holl awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno ceisiadau ar gyfer eu prif gynlluniau. Daeth 190 o geisiadau i law. Bydd y Gronfa Trafnidiaeth Leol o £6\.15 miliwn yn galluogi 13 o awdurdodau lleol i barhau i weithio ar brosiectau hir dymor o dan 18 cynllun. Rhoddwyd £5 miliwn ychwanegol i alluogi awdurdodau lleol i ariannu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau teithio llesol. Bydd y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol o £4 miliwn yn sicrhau bod 4 cynllun cyfredol yn gallu parhau a bod 9 cynllun newydd yn gallu dechrau ar draws 13 o awdurdodau lleol. Bydd Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd o bron £4 miliwn yn ariannu 18 cynllun gan gyfrannu at leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd mewn 11 o awdurdodau lleol. Nod y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sy’n werth £5 miliwn, yw canolbwyntio ar 26 o gynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio i’r ysgol mewn 18 awdurdod lleol. Yn ogystal, bydd £1\.75 miliwn yn cael ei neilltuo i’r holl awdurdodau lleol ddarparu rhaglenni addysgu a hyfforddi diogelwch ar y ffyrdd, yn benodol i bobl sy’n agored i niwed a phobl uchel eu risg megis plant, pobl ifanc, gyrwyr hŷn a beicwyr modur. Mae’r grantiau’n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf economaidd lleol a chynaliadwy, gwella diogelwch ar y ffyrdd, gwella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a darparu mwy o lwybrau a rhai gwell a fydd yn galluogi mwy o bobl yng Nghymru i gerdded a beicio’n ddiogel. Caiff rhestr lawn o’r cynlluniau llwyddiannus, yn ôl awdurdod lleol, ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-local-transport-grant-allocations-local-authorities-2018-19
I am pleased to inform you that the headquarters of Health Education and Improvement Wales will be, Ty Dysgu, in Nantgarw, subject to due diligence and contractual agreement. . This site is within the Pontypridd / Treforest strategic hub and therefore this decision delivers part of the Welsh Government’s commitment to transform the South Wales Valleys, through the Valleys Taskforce initiative. This is also a significant example of public partnership. The Welsh Government and the owners of Ty Dysgu, Rhondda Cynon Taff local authority, will be working together to deliver the best possible solution for the new body within the NHS. The refurbishment of the office environment will begin as soon as possible with staff beginning the move into the new premises in October 2018\.    
Rwy’n falch o’ch hysbysu y bydd pencadlys Addysg a Gwella Iechyd Cymru yng nghanolfan Tŷ Dysgu, Nantgarw, yn amodol ar basio’r profion diwydrwydd dyladwy perthnasol a dod i gytundeb contractiol. Mae’r safle hwn yn hyb strategol Pontypridd / Trefforest ac felly mae’r penderfyniad hwn yn gwireddu rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weddnewid Cymoedd De Cymru, drwy fenter Tasglu’r Cymoedd. Mae hon yn enghraifft arwyddocaol o bartneriaeth gyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru a pherchnogion Tŷ Dysgu, sef awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf, yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i’r ateb gorau posibl ar gyfer y corff newydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd y gwaith o ailwampio’r swyddfa yn dechrau cyn gynted â phosibl a bydd staff yn symud i’r lleoliad newydd ym mis Hydref 2018\.
https://www.gov.wales/written-statement-location-health-education-and-improvement-wales
The draft School Organisation Code is being laid before the Assembly today in accordance with the requirements of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013\.   The 2013 Act requires the Welsh Ministers to issue a Code.  The Code imposes requirements in accordance with which relevant bodies (the Welsh Ministers, local authorities, governing bodies and other promoters) must act.  It includes practical guidance to which they must have regard and sets out the policy context, general principles and factors that should be taken into account by those bringing forward proposals to reconfigure school provision and by those responsible for determining proposals. The first edition of the Code came into force on 1 October 2013\.  It has been reviewed following over three years of its operation.  The majority of changes aim to provide clarity where that was needed.  Other changes aim to strengthen the Code for example by requiring consultation documents to be published on a school day.  The most substantial change is the introduction of a presumption against the closure of rural schools.   A list of the substantive changes is set out in the Explanatory Memorandum that accompanies the Code.     Before issuing or revising the Code the Welsh Ministers are required to consult.  A 14 week consultation ran from 30 June to 30 September 2017\.  A summary of consultation responses was published on the Welsh Government website in July.   The draft Code is now being laid before the Assembly for 40 days and is expected to come into force on 1 November 2018\.
Heddiw, caiff y Cod Trefniadaeth Ysgolion drafft ei roi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013\.   Mae Deddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod. Mae'r Cod yn gosod gofynion y bydd angen i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a hyrwyddwyr eraill) weithredu yn unol â hwy. Mae'n cynnwys y canllawiau statudol y mae'n rhaid i gyrff perthnasol roi sylw dyledus iddynt ac mae'n gosod y cyd\-destun polisi, yr egwyddorion cyffredinol a'r ffactorau y dylai'r rhai sy'n cyflwyno cynigion i ad\-drefnu ysgolion a'r rhai sy'n gyfrifol am benderfynu ar gynigion eu hystyried. Daeth argraffiad cyntaf y Cod i rym ar 1 Hydref 2013\. Ar ôl mwy na tair blynedd o weithrediad, cynhaliwyd adolygiad ohono. Nod mwyafrif y newidiadau yw rhoi eglurder lle'r oedd angen hynny.  Mae newidiadau eraill yn ceisio cryfhau'r Cod, drwy ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau ymgynghori gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod ysgol, er enghraifft.  Y newid mwyaf arwyddocaol yw cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Mae rhestr o'r newidiadau sylweddol ar gael yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd\-fynd â'r Cod.     Cyn cyhoeddi neu ddiwygio'r Cod, mae gofyn i Weinidogion Cymru ymgynghori. I'r perwyl hwnnw, cynhaliwyd ymgynghoriad 14 wythnos o hyd o 30 Mehefin hyd 30 Medi 2017\.  Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf.   Yn awr, caiff y Cod ei roi gerbron y Cynulliad am gyfnod o 40 diwrnod ac yna disgwylir iddo ddod i rym ar 1 Tachwedd 2018\.
https://www.gov.wales/written-statement-laying-draft-school-organisation-code-national-assembly-wales
On 1 May 2018, the Minister for Housing and Regeneration made an oral statement in the Siambr on: Low Cost Home Ownership (external link).
Ar 1 Mai 2018, gwnaeth y Gweinidog Tai ac Adfywio ddatganiad lafar yn y Siambr: Perchnogaeth Tai Cost Isel (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-low-cost-home-ownership
Today, we publish our report on our Learning Disability \- Improving Lives Programme. The Improving Lives Programme emerged from the challenge in Welsh Government’s national strategy, Prosperity for All, to ensure the services we provide support people in Wales to live healthy, prosperous lives. The Programme began in February 2017 with a wide ranging review that considered what a person with a learning disability, along with their families and carers may require across the course of their lives, and if and how these needs are currently being met. We have worked collaboratively with the learning disability community to achieve the review’s agreed outcomes. Meetings were held with over 2,000 people and the recommendations reflect the voices of people with a learning disability along with their families, carers, and those who work with them. The Learning Disability Improving Lives Programme is a product of that extensive review and collaboration. To support the implementation of the programme, I have established a Learning Disability Ministerial Advisory Group, whose membership includes people with a learning disability, families, carers and key professionals from local government and the health and charity sectors.  The group will be chaired by Gwenda Thomas, former Assembly Member and Deputy Minister for Social Services and co\-chaired by Sophie Hinksman, a representative of All Wales People First. The Improving Lives Programme can be accessed by following this link: https://gov.wales/topics/health/professionals/nursing/learning/?lang\=en I will be making an oral statement on this Programme in the coming weeks.
Heddiw rydym yn cyhoeddi ein hadroddiad ar Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau. Cafodd y Rhaglen Gwella Bywydau ei chreu mewn ymateb i'r her yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, i sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach a ffyniannus. Dechreuodd y Rhaglen ym mis Chwefror 2017 gydag adolygiad eang a oedd yn ystyried pa anghenion fyddai gan bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr gydol eu hoes, a sut y mae'r anghenion hynny'n cael eu diwallu ar hyn o bryd, os o gwbl. Rydym wedi gweithio gyda'r gymuned anabledd dysgu er mwyn cyflawni'r canlyniadau a gytunwyd ar gyfer yr adolygiad. Cynhaliwyd cyfarfodydd â thros 2,000 o bobl, ac mae'r argymhellion yn adlewyrchu lleisiau pobl ag anableddau dysgu, ynghyd â'u teuluoedd a'u gofalwyr, a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Mae Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau yn deillio o'r adolygiad a'r cydweithio helaeth hwnnw. Er mwyn helpu i roi'r rhaglen ar waith, rwyf wedi sefydlu Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu. Ymysg yr aelodau mae pobl ag anableddau dysgu, teuluoedd a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol o awdurdodau lleol a'r sectorau iechyd ac elusennol.  Bydd y grŵp dan gadeiryddiaeth Gwenda Thomas, cyn Aelod Cynulliad a Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda Sophie Hinksman, cynrychiolydd Pobl yn Gyntaf Cymru yn gyd\-gadeirydd. I fynd at y Rhaglen Gwella Bywydau, cliciwch ar y ddolen hon: https://gov.wales/topics/health/professionals/nursing/learning/?skip\=1\&lang\=cy  Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y Rhaglen hon yn ystod yr wythnosau nesaf.
https://www.gov.wales/written-statement-learning-disability-improving-lives-programme
There has been widespread criticism of poor practice in the use of leasehold.  This government has made clear its commitment to responding swiftly and firmly to these issues. In the debate on leasehold on 31 January, I committed to taking some immediate actions to curb the particular use of leasehold for new build houses.  As I said then, I do not believe this practice is appropriate. Leasehold does have its place as a tenure (for flats, for example), but I will only support its use where it is appropriate \- and this does not apply to new build houses other than in very specific circumstances. As a first step, I undertook to use the tools currently at my disposal to ensure our popular and successful schemes supporting home ownership and assisting home builders do not allow bad practice. Today, I am introducing a package of measures which have been designed and developed by the Welsh Government with the co\-operation from the sector through our House Builder Engagement Programme.  As part of this engagement, we have already secured confirmation from major developers including Bellway, Redrow, Taylor Wimpey, Barratt Homes and Persimmon that they will no longer offer houses for sale on a leasehold basis unless it is absolutely necessary.  I look forward to the other developers making the same commitment to cease the practice. I have also had an agreement from the Home Builders Federation that they will discuss and share with the Welsh Government their submission to the Law Commission consultation into alternatives to selling flats on a leasehold basis. Welsh Government will not support poor practice that impacts negatively on homeowners. That is why new criteria for Help to Buy\-Wales being introduced today will require a developer to present a genuine reason for a house to be marketed as leasehold.  Without a valid reason, which might include National Trust or Crown land, for example, it will not be eligible for Help\-to\-Buy\-Wales.  In addition, the terms of any new lease agreement, for both houses and flats, will have to comply with new minimum standards I am introducing into Help to Buy – Wales.  Any leasehold contract will have to comply with these minimum standards to qualify for sale with the support of the Help\-to\-Buy\-Wales scheme.   These new minimum standards include limiting the starting ground rent to a maximum of 0\.1% of the property’s sale value. Any future increases in ground rent will have to be linked to a government recognised inflation index, such as the Retail Price Index.  This will put and end to ground rents increasing exponentially and ensure they remain affordable. Leases will also have to run for a minimum of 125 years for flats and 250 years for houses.  These minimum terms will provide security to the leaseholder by maintaining the property value and giving assurance the freeholder will not be in a position to force an unfair agreement at the point of renewing a lease.   To ensure compliance with all of the measures I am introducing today they will be included in the contracts Help to Buy\-Wales have with the house builders.  This will mean that any house builder offering homes for sale with our support will be legally obliged to meet with these new requirements.   Another significant issue I am able to tackle at this point is home buyers not being properly advised of the implications of their lease agreements and other ongoing commitments. There have been concerns raised regarding the practice of developers recommending particular conveyancers to prospective purchasers. I am introducing the Help to Buy \- Wales Conveyancer Accreditation Scheme to ensure all purchasers have access to good quality independent advice.  To qualify for accreditation conveyancers will have to complete training designed and delivered by Help to Buy – Wales.  They will have to comply with the high standards set out by the scheme. In addition to demonstrating their experience in the Help to Buy \- Wales process they will have to provide clear, understandable and documented advice on leasehold, service charges, ground rents and unadopted roads.   The performance of all accredited conveyancers will be monitored by Help to Buy\-Wales to ensure these high standards are maintained.  Of course, whilst use of an accredited conveyancer will be a requirement if purchasing under Help to Buy\-Wales, we will also be promoting use of accredited conveyancers by anyone buying a new home, even if they are not funding through Help to Buy \- Wales. The Help to Buy \- Wales Conveyancer Accreditation Scheme already has nearly 150 trained members across all regions of Wales.  From today, a full list of accredited conveyancers will be available on the Help to Buy \- Wales website and from home builders and financial advisers who use the scheme. The Welsh Government also provides encouragement and assistance to small, local house building companies through the Wales Property Development Fund.  This scheme grants accessible, affordable development loans to SME home builders.  To ensure this highly successful and important fund does not allow poor practice I am today introducing the same Help to Buy \- Wales leasehold criteria to properties built with support through this scheme. The actions I have outlined today will address some of the key concerns relating to leasehold for new build homes.  They will ensure that all Welsh Government programmes designed to support the building and ownership of new homes provide home buyers with a proper level of protection and support. However, this is only the start of my plans to address concerns about leasehold, and I will be continuing to develop policy in this area. I have asked officials to set up a multi disciplinary task and finish group to expedite this. I also intend to put in place a voluntary Code of Practice to underpin these measures and improve standards and engagement between all parties and promote best practice. Finally, I reiterate that I am not ruling out the possibility of future legislation. I recognise that legislation may be needed to resolve the wider issues and make leasehold, or an alternative tenure, fit for the modern housing market. Setting out our path for any wider reforms requires detailed consideration which is why I am commissioning research and engaging with the Law Commission Law Commission project looking at this issue.  Once I have the benefit of the Law Commission’s report and our own research, I will set out our next steps.  In the meantime, I continue to explore every avenue currently at my disposal to address the valid concerns being raised.
Mae arferion gwael o ran y ffordd mae lesddaliadau’n cael eu defnyddio wedi cael eu beirniadu’n eang. Mae’r llywodraeth hon wedi nodi’n glir ei hymrwymiad i ymateb yn gyflym ac yn gadarn i’r materion hyn. Yn y ddadl ar lesddaliadau ar 31 Ionawr, fe ymrwymais i weithredu’n syth i atal y defnydd penodol o lesddaliadau ar gyfer tai newydd. Fel y dywedais bryd hynny, nid wyf yn credu bod yr arfer hwn yn briodol. Mae gan lesddaliad le fel deiliadaeth (ar gyfer fflatiau, er enghraifft), ond byddaf ond yn cefnogi ei ddefnydd lle bo hynny’n briodol – ac nid yw hyn yn berthnasol i dai newydd ac eithrio o dan amgylchiadau penodol iawn. Fel cam cyntaf, fe es i ati i ddefnyddio’r holl adnoddau a oedd ar gael i mi i sicrhau nad yw ein cynlluniau poblogaidd a llwyddiannus sy’n cefnogi perchentyaeth ac yn cynorthwyo adeiladwyr tai yn caniatáu arferion gwael. Heddiw, rwy’n cyflwyno pecyn o fesurau a gynlluniwyd ac a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chydweithrediad y sector trwy ein Rhaglen Ymgysylltu ag Adeiladwyr Tai. Fel rhan o’r gwaith ymgysylltu hwn, rydym wedi cael cadarnhad eisoes gan ddatblygwyr mawr, gan gynnwys Bellway, Redrow, Taylor Wimpey, Barratt Homes a Persimmon, na fyddant yn cynnig tai ar werth ar lesddaliad mwyach oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol. Edrychaf ymlaen at weld y datblygwyr eraill yn gwneud yr un ymrwymiad i atal yr arfer. Rwyf wedi dod i gytundeb hefyd gyda’r Ffederasiwn Adeiladwyr Tai y byddant yn trafod a rhannu gyda Llywodraeth Cymru eu cyflwyniad i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ar opsiynau eraill yn lle gwerthu fflatiau ar lesddaliad. Ni fydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi arferion gwael sy’n cael effaith negyddol ar berchnogion tai. Dyna pam y bydd meini prawf newydd ar gyfer Cymorth i Brynu – Cymru sy’n cael eu cyflwyno heddiw yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddatblygwr gyflwyno rheswm go iawn dros farchnata tŷ fel lesddaliad. Heb reswm dilys, a allai gynnwys tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu’r Goron, er enghraifft, ni fydd yn gymwys ar gyfer Cymorth i Brynu – Cymru. Yn ogystal, bydd rhaid i delerau unrhyw gytundeb prydles newydd, ar gyfer tai a fflatiau, gydymffurfio â safonau gofynnol newydd rwy’n eu cyflwyno ar gyfer Cymorth i Brynu – Cymru. Bydd rhaid i unrhyw gontract lesddaliad gydymffurfio â’r safonau gofynnol hyn i fod yn gymwys ar gyfer gwerthu gyda chymorth cynllun Cymorth i Brynu \- Cymru.   Mae’r safonau gofynnol newydd hyn yn cynnwys cyfyngu ar y rhent tir cychwynnol i uchafswm o 0\.1% o werth gwerthu’r eiddo. Bydd angen i unrhyw gynnydd mewn rhent tir yn y dyfodol fod yn gysylltiedig â mynegai chwyddiant a gydnabyddir gan y llywodraeth, megis y Mynegai Prisiau Manwerthu. Bydd hyn yn atal rhenti tir rhag cynyddu fwyfwy  ac yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fforddiadwy. Yn ogystal, bydd rhaid i brydlesi redeg am o leiaf 125 o flynyddoedd ar gyfer fflatiau a 250 o flynyddoedd ar gyfer tai. Bydd y tymhorau lleiaf hyn yn darparu diogelwch i’r lesddeiliad trwy gynnal gwerth yr eiddo a darparu sicrwydd na fydd y lesddeiliad mewn sefyllfa i orfodi cytundeb annheg wrth adnewyddu prydles.   I sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl fesurau rwy’n eu cyflwyno heddiw, byddant yn cael eu cynnwys yn y contractau sydd gan Cymorth i Brynu – Cymru gyda’r adeiladwyr tai. Bydd hyn yn golygu y bydd gofyniad cyfreithiol ar unrhyw adeiladwr tai sy’n cynnig tai i’w gwerthu gyda’n cymorth ni i fodloni’r gofynion newydd hyn.   Un broblem fawr arall rwy’n gallu mynd i’r afael â hi ar hyn o bryd yw’r ffaith nad yw prynwyr tai yn cael digon o wybodaeth am oblygiadau eu cytundebau prydles ac ymrwymiadau parhaus eraill. Mae pryderon wedi codi ynghylch arfer datblygwyr o argymell trawsgludwyr penodol i ddarpar brynwyr. Rwy’n cyflwyno Cynllun Achredu Trawsgludwyr Cymorth i Brynu – Cymru i sicrhau bod pob prynwr yn gallu cael gafael ar gyngor annibynnol o safon uchel. I fod yn gymwys i gael achrediad, bydd rhaid i drawsgludwyr gwblhau hyfforddiant a gynlluniwyd ac a ddarperir gan Cymorth i Brynu \- Cymru. Bydd rhaid iddynt gydymffurfio â’r safonau uchel a amlinellir gan y cynllun. Yn ogystal â dangos eu profiad o broses Cymorth i Brynu – Cymru, bydd rhaid iddynt ddarparu cyngor clir a dealladwy wedi’i ddogfennu’n dda ar lesddaliad, taliadau gwasanaeth, rhenti tir a ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.   Bydd perfformiad yr holl drawsgludwyr achrededig yn cael ei fonitro gan Cymorth i Brynu – Cymru i sicrhau bod y safonau uchel hyn yn cael eu cynnal. Wrth gwrs, er y bydd hi’n ofynnol i chi ddefnyddio trawsgludwr achrededig wrth brynu o dan Cymorth i Brynu – Cymru, byddwn hefyd yn hyrwyddo’r defnydd o drawsgludwyr achrededig gan unrhyw un sy’n prynu cartref newydd, hyd yn oed os nad ydynt yn ariannu hynny trwy Cymorth i Brynu – Cymru. Mae gan Gynllun Achredu Trawsgludwyr Cymorth i Brynu – Cymru bron i 150 o aelodau hyfforddedig yn barod ar draws pob rhanbarth yng Nghymru. O heddiw ymlaen, bydd rhestr lawn o drawsgludwyr achrededig ar gael ar wefan Cymorth i Brynu – Cymru a gan adeiladwyr tai a chynghorwyr ariannol sy’n defnyddio’r cynllun. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru’n darparu anogaeth a chynhorthwy i gwmnïau adeiladu tai lleol, bach trwy Gronfa Datblygu Eiddo Cymru. Mae’r cynllun hwn yn darparu benthyciadau datblygu fforddiadwy, hygyrch i adeiladwyr tai sy’n fusnesau bach a chanolig. I sicrhau nad yw’r gronfa hynod lwyddiannus a phwysig hon yn caniatáu arferion gwael, heddiw rwy’n cyflwyno’r un meini prawf ar gyfer lesddaliadau Cymorth i Brynu – Cymru i eiddo a adeiledir gyda chymorth trwy’r cynllun hwn. Bydd y camau rwyf wedi’u hamlinellu heddiw yn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon allweddol yn ymwneud â lesddaliadau ar gyfer cartrefi newydd. Byddant yn sicrhau bod pob un o raglenni Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd i gefnogi’r gwaith o adeiladu cartrefi newydd, a pherchnogaeth y cartrefi hynny, yn darparu lefel briodol o ddiogelwch a chymorth i brynwyr tai. Fodd bynnag, dim ond dechrau’r gwaith o fynd i’r afael â phryderon ynghylch lesddaliadau yw hwn, a byddaf yn parhau i ddatblygu polisi yn y maes hwn. Rwyf wedi gofyn i swyddogion sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen amlddisgyblaethol i hwyluso hyn. Rwy’n bwriadu rhoi Cod Ymarfer gwirfoddol ar waith hefyd i ategu’r mesurau hyn ac i wella safonau ac ymgysylltu rhwng pob plaid a hyrwyddo arferion gorau. Yn olaf, hoffwn ailadrodd nad wyf yn diystyru’r posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol. Rwy’n cydnabod efallai y bydd angen deddfwriaeth i ddatrys y materion ehangach a gwneud lesddaliadau, neu ddeiliadaethau o fath arall, yn addas i’r farchnad dai fodern. Bydd amlinellu ein llwybr ar gyfer unrhyw ddiwygiadau ehangach yn gofyn am ystyriaeth fanwl, a dyma pam rydw i’n comisiynu ymchwil ac yn ymgysylltu â phrosiect Comisiwn y Gyfraith sy’n ymchwilio i’r mater hwn. Unwaith y byddaf wedi darllen adroddiad Comisiwn y Gyfraith a gwneud fy ymchwil fy hun, byddaf yn amlinellu ein camau nesaf. Yn y cyfamser, rwy’n parhau i archwilio pob llwybr sydd ar gael i mi ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r pryderon dilys sy’n codi.
https://www.gov.wales/written-statement-leasehold-reform-wales
Members will be aware of the statement issued by Cwm Taf University Health Board in respect of maternity services over the last 24 hours.  The Health Board has confirmed  that following an internal review of their incident reporting process a significant number of serious incidents, including the deaths of some babies, have now been reported and are being fully investigated. I share everyone’s concern about the seriousness of the matter and the need for reassurance.  Patient safety is the overriding priority for both myself and NHS Wales. Our main concern is for the welfare of mothers and babies. My officials are in regular contact with the health board to gain immediate assurance on the investigation and actions needed to ensure the service is safe for women and babies. We are actively engaged with the Health Board to agree the support which is needed to strengthen the health board’s maternity service, both in the immediate and longer term. I have also spoken to the Chair to express my concerns and to seek direct assurance that he and the Board are taking all the necessary actions. It is essential that all those using Cwm Taf services can be reassured of excellent safe and compassionate care. I recognise the range of actions and activities being undertaken within the Health Board and specifically those actions it is putting in place to ensure services are supported with immediate effect.  Given the seriousness of this situation, I have decided that an  independent external review should be commissioned by the Welsh Government. I have therefore asked the Chief Medical and Nursing Officers for Wales to contact directly the Royal Colleges of Obstetrics and Gynaecology and Midwifery to request they instigate and undertake a full review of what has happened and what now needs to happen to ensure these services are as safe as possible as quickly as possible.   I will also make an oral statement to the Assembly on this matter early next week when I will set out in more detail the actions being taken.          
Bydd yr Aelodau'n gwybod erbyn hyn am y datganiad a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf dros y 24 awr ddiwethaf mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau bod nifer o ddigwyddiadau difrifol, gan gynnwys marwolaethau rhai babanod, wedi dod i'r amlwg yn dilyn adolygiad mewnol o brosesau’r Bwrdd ar gyfer cofnodi digwyddiadau, Mae materion hyn bellach wedi’u cofnodi ac yn destun ymchwiliad manwl. Mae gennyf yr un pryderon â phawb ynglŷn â difrifoldeb y mater a’r angen am sicrwydd. Mae diogelwch cleifion o'r pwys mwyaf i mi ac i GIG Cymru.  Lles mamau a babanod sydd flaenllaw yn ein meddyliau. Mae fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad â'r Bwrdd Iechyd er mwyn cael sicrwydd uniongyrchol o ran yr ymchwiliad a'r camau y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn ddiogel i fenywod a babanod. Rydym yn trafod gyda'r Bwrdd Iechyd i gytuno ar y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn cefnogi’r gwasanaeth mamolaeth, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rwyf hefyd wedi siarad â'r Cadeirydd er mwyn mynegi fy mhryderon a chael sicrwydd uniongyrchol ei fod ef a’r Bwrdd yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol. Mae'n hanfodol bwysig bod pob un sy'n defnyddio gwasanaethau Cwm Taf yn gwybod y byddant yn cael gofal ardderchog, diogel a thosturiol. Rwy’n cydnabod y camau gwahanol sy’n cael eu cymryd a’r gwaith sy’n mynd rhagddo o fewn y Bwrdd Iechyd ac yn benodol y camau y mae’n eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu cefnogi ar unwaith. O ystyried difrifoldeb y sefyllfa, rwy wedi penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad allanol annibynnol. Felly, rwy wedi gofyn i Brif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru gysylltu'n uniongyrchol â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd i ofyn iddynt gychwyn a chynnal adolygiad llawn o'r hyn sydd wedi digwydd a pha gamau y mae’n rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau mor ddiogel â phosibl, a hynny cyn gynted â phosibl.   Byddaf hefyd yn gwneud datganiad llafar i'r Cynulliad yn gynnar yr wythnos nesaf er mwyn rhoi rhagor o fanylion ar y camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn.
https://www.gov.wales/written-statement-maternity-services-cwm-taf-university-health-board
In accordance with Section 73 of the Government of Wales Act 2006, Welsh Ministers are required to make a scheme setting out how they propose, in the exercise of their functions to sustain and promote Local Government in Wales.  Welsh Ministers are required to publish a report of how the proposals set out in the scheme were implemented in the previous financial year and lay a copy of the report before the National Assembly for Wales. I have laid the Annual Report for 2017\-2018 before the National Assembly today. The report highlights the work which has been done during the previous financial year and is available at: https://gov.wales/topics/localgovernment/partnership\-with\-local\-government/lgps08/annual\-reports/?lang\=en   This is the first Annual Report based on the new Partnership Scheme.   The new Partnership Scheme was adopted by the Local Government Partnership Council on 27 October 2017 and is available at: https://gov.wales/topics/localgovernment/partnership\-with\-local\-government/lgps08/?lang\=en   
Yn unol ag Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn llunio cynllun sy'n amlinellu sut y maent, wrth gyflawni eu swyddogaethau, yn bwriadu cynnal a hyrwyddo Llywodraeth Leol yng Nghymru.  Mae'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd y cynigion a amlinellwyd yn y cynllun eu rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ac yn gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwyf wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2017\-18 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Mae'r adroddiad yn ymdrin â’r  gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ac  mae ar gael yn: https://gov.wales/topics/localgovernment/partnership\-with\-local\-government/lgps08/annual\-reports/?lang\=cy   Dyma’r adroddiad blynyddol cyntaf ar sail y Cynllun  newydd. Cafodd y Cynllun Llywodraeth Leol newydd ei fabwysiadu gan y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 27 Hydref 2017 ac mae ar gael yn: https://gov.wales/topics/localgovernment/partnership\-with\-local\-government/lgps08/?skip\=1\&lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-local-government-partnership-scheme-annual-report-2017-2018
On 17 July 2018, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services made an Oral Statement in the Siambr on: Local Government Reform – next steps (external link).
Ar 17 Gorffennaf 2018, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Diwygio Llywodraeth Leol \- y camau nesaf (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-local-government-reform-next-steps
I have previously spoken about my commitment to expanding medical education and training in North Wales. Any extension must be both sustainable and be a part of the established Welsh arrangements for medical education and training. The Cabinet Secretary for Education shares this view. Working collaboratively, Cardiff, Swansea and Bangor universities have been best\-placed to identify and explore options to deliver plans for the expansion of medical education in North Wales.  The universities have made significant progress and submitted their proposals earlier this year for consideration. These proposals reflect the fact that issues faced in north Wales are also experienced in other parts of Wales, particularly in the west of the country. As a result Aberystwyth University will also be involved in developing the proposals. Today, I can confirm the Cabinet Secretary for Education, the Cabinet Secretary for Finance and I have agreed an approach, which will see an immediate expansion in medical school places in Wales and ensure that more medical students study in North Wales, and also provide a pathway for doctors being trained completely in North Wales. There will be a greater focus on training in the community, reflecting the move to providing more care closer to people’s homes and these new arrangements will provide more opportunities for Welsh speakers to undertake their studies in Welsh. Under the new arrangements, there will be an additional 40 funded medical places from this September, split between Cardiff and Swansea universities. ·        Collaboration between Cardiff and Bangor universities will mean that medical students will be able to study in North Wales for the entirety of their medical degree and plan for their postgraduate training. Key components of the transitional arrangements will be longer placements in North Wales with a greater emphasis on working within the community. By 2019 we expect arrangements to be in place for students to study the totality of their medical degree in North Wales  ·        An increase in places in West Wales will include collaboration between Swansea and Aberystwyth universities, with a greater focus of working in the community. The initial funding to deliver this will come from the resources identified in the two\-year Budget agreement with Plaid Cymru but the commitment goes beyond that agreement.   Expanding medical education opportunities in North and West Wales will not, on their own, address the challenges we face in sustaining our medical workforce. We must ensure medicine is seen as an attractive and accessible career choice. We have been piloting work experience programmes in GP practices across Wales, which appear to have had a positive impact. Funding has also been made available to support a programme for school pupils interested in applying to medical school. This includes a two\-day residential programme, which provides attendees with information about the reality of being a doctor and familiarises them with the admissions processes for medical school. Taken together these are key components of a medical careers framework for Wales. It is equally important to consider the postgraduate opportunities available across Wales and further work will be required in the coming months to explore this in greater detail. Today’s announcement is an important step in addressing some of the longer\-term medical recruitment and retention issues in the NHS in Wales. It will ensure doctors are trained in North Wales within a shorter time period than it would take to establish a medical school. I would like to thank the universities for their commitment and collaboration in developing the proposals to support this expansion.                  
Rwyf wedi sôn o’r blaen am  f’ymrwymiad i ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yn y Gogledd. Rhaid i unrhyw ehangu fod yn gynaliadwy a rhaid iddo fod yn rhan o’r trefniadau sydd wedi’u sefydlu’n barod ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o’r un farn. Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, yn cydweithio â’i gilydd, sydd wedi bod yn y sefyllfa orau i nodi ac archwilio’r opsiynau ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith i ehangu addysg feddygol yn y Gogledd. Mae’r prifysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac fe wnaethon nhw gyflwyno’u cynigion yn gynharach eleni i’w hystyried ymhellach. Mae’r cynigion hyn yn adlewyrchu’r ffaith fod y materion a wynebir yn y Gogledd yn wir am rannau eraill o Gymru hefyd, yn enwedig y Gorllewin. O ganlyniad, bydd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynigion. Gallaf gadarnhau  heddiw fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau wedi cytuno ar ddull gweithredu a fydd yn golygu y bydd  cynnydd ar unwaith mewn lleoedd astudio mewn ysgolion meddygol yng Nghymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod mwy o fyfyrwyr meddygol yn astudio yn y Gogledd, ac yn darparu llwybr ar gyfer hyfforddi meddygon yn gyfangwbl yn y Gogledd. Bydd mwy o bwyslais ar hyfforddiant yn y gymuned, sy’n adlewyrchu’r camau i ddarparu mwy o ofal yn nes at gartrefi pobl, a bydd y trefniadau newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. O dan y trefniadau newydd, bydd 40 o leoedd ychwanegol yn cael eu hariannu mewn ysgolion meddygol o fis Medi ymlaen, a’r rheini wedi’u rhannu rhwng prifysgolion Caerdydd ac Abertawe. ·        Bydd cydweithio rhwng prifysgolion Caerdydd a Bangor yn golygu y bydd modd i fyfyrwyr meddygaeth allu astudio yn y Gogledd drwy gydol eu cwrs gradd mewn meddygaeth, a chynllunio ar gyfer eu hyfforddiant ôl\-raddedig. Elfen allweddol o’r trefniadau pontio fydd lleoliadau hirach yn y Gogledd, gyda mwy o bwyslais ar weithio yn y gymuned. Erbyn 2019, rydym yn disgwyl y bydd trefniadau wedi’u sefydlu i alluogi myfyrwyr i astudio’u gradd feddygol i gyd yn y Gogledd. ·        Bydd mwy o leoedd ar gael yn y Gorllewin drwy gydweithio rhwng prifysgolion Abertawe ac Aberystwyth, gyda mwy o bwyslais ar weithio yn y gymuned. Daw’r cyllid cychwynnol i ariannu hyn o’r adnoddau a ddynodwyd yn y cytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru ar y Gyllideb, ond mae’r ymrwymiad yn mynd y tu hwnt i’r cytundeb hwnnw.  Ni fydd ehangu’r cyfleoedd ar gyfer addysg feddygol yn y Gogledd a’r Gorllewin yn ddigon, ynddo’i hun, i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu o ran cynnal ein gweithlu meddygol. Rhaid inni sicrhau bod maes meddygaeth yn cael ei ystyried yn ddewis gyrfa deniadol a hygyrch. Rydym wedi bod yn treialu rhaglenni profiad gwaith mewn meddygfeydd ledled Cymru, ac mae’n ymddangos bod hyn wedi cael effaith gadarnhaol. Darparwyd cyllid hefyd i gefnogi rhaglen ar gyfer disgyblion ysgol sydd â diddordeb mewn gwneud cais i fynd i ysgol feddygol. Mae hyn yn cynnwys rhaglen breswyl am ddeuddydd, sy’n rhoi gwybodaeth i’r mynychwyr am realiti bod yn feddyg ac yn eu helpu i ymgyfarwyddo â’r broses dderbyn ar gyfer ysgolion meddygol. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn elfennau allweddol o fframwaith gyrfaoedd meddygol ar gyfer Cymru. Mae’r un mor bwysig ystyried y cyfleoedd ôl\-raddedig sydd ar gael drwy Gymru, a bydd gofyn gwneud rhagor o waith yn ystod y misoedd nesaf i archwilio hyn yn fanylach. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig tuag at fynd i’r afael â rhai o’r materion hirdymor o ran recriwtio a chadw staff meddygol yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd yn sicrhau bod meddygon yn cael eu hyfforddi yn y Gogledd o fewn cyfnod byrrach nag y byddai wedi’i gymryd i sefydlu ysgol feddygol. Hoffwn ddiolch i’r prifysgolion am eu hymrwymiad ac am eu gwaith ar y cyd i ddatblygu’r cynigion i gefnogi’r ehangu hwn.  
https://www.gov.wales/written-statement-medical-education-wales
I attended a meeting of the JMC (EN) last Thursday, convened principally to take forward discussions about the potential for agreed amendments to the EU (Withdrawal) Bill which would enable the Welsh Government and Scottish Government to recommend that the National Assembly and the Scottish Parliament respectively should give legislative consent. The meeting was chaired by the Chancellor of the Duchy of Lancaster, the Rt Hon David Lidington, MP. The Minister for UK Negotiations on Scotland’s Place in Europe, Michael Russell MSP represented the Scottish Government. I attach the communique which gives further details of the attendees. The meeting was held in a positive spirit on all sides. I was able to give a considered response to the UK Government’s proposition tabled shortly before the last JMC(EN) on 22 February which as I reported to the Assembly in my oral statement on 27 February represented significant progress but was not of itself sufficient to allay our concerns. Both Michael Russell and I put forward constructive solutions to remaining concerns: these would enable agreement to amendments before the Bill reached the Report stage in the House of Lords. There was agreement that these proposals merited further examination. UK Ministers confirmed that they would be introducing their own amendment(s) in the House of Lords in order to show progress and to test the mood of the House at Committee stage, these have now been tabled. However, I was left with a clear understanding that it would not be the Government’s intention to press such amendments to a vote, and that there would be opportunities for further discussion before an amendment in final form was produced for Lords Report stage. The Welsh Government has been very clear it would have been far preferable to have had amendments already agreed between the three Governments before now. However, in my view, a UK Government amendment at this stage does no more than protect its position, as a fall\-back option, in much the same way as our Continuity legislation does for the Welsh Government and National Assembly. I will, of course, keep Members updated as to progress, while respecting the necessity for respecting the confidentiality of these vital inter\-governmental negotiations. The Committee discussed the UK Government’s latest analysis of areas of EU law that intersect with devolved competence in Scotland, Wales and Northern Ireland. I will be writing to AMs setting out the Welsh Government’s views on this analysis. The Committee was also given an update on negotiations with the EU\-27 and we received a further assurance that a paper would be tabled at the next JMC (EN) on the Devolved Administrations’’ future involvement in these negotiations.         ### Documents * #### Joint Ministerial Committee (EU Negotiations) Communique, 8 March 2018, file type: pdf, file size: 106 KB 106 KB
Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod y Cyd\-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ddydd Iau diwethaf, cyfarfod a alwyd yn bennaf i drafod a fyddai modd cytuno ar welliannau i'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a fyddai'n galluogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban roi cydsyniad deddfwriaethol iddo. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrhydeddus David Lidington, AS. Y Gweinidog dros Drafodaethau’r DU ar Sefyllfa yr Alban yn Ewrop, Michael Russell MSP oedd yn cynrychioli Llywodraeth yr Alban. Atodaf yr ohebiaeth sy'n rhoi rhagor o fanylion am y rhai oedd yn bresennol. Roedd y cyfarfod yn un cadarnhaol iawn, o bob ochr. Cefais gyfle i roi ymateb ystyriol i'r cynnig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ychydig cyn cyfarfod diwethaf y Cyd\-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ar 22 Chwefror a oedd, fel y dywedais wrth y Cynulliad yn fy natganiad llafar ar 27 Chwefror, yn dangos cynnydd sylweddol ond ddim yn ddigon ynddo'i hun i leddfu ein pryderon. Cyflwynodd Michael Russell a minnau atebion adeiladol i'r pryderon sy'n parhau: byddai'r rhain yn ei gwneud yn bosibl cytuno i'r gwelliannau cyn i'r Bil gyrraedd y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Cytunwyd bod gwerth edrych ar y cynigion hyn ymhellach. Cadarnhaodd Gweinidogion y DU eu bwriad i gyflwyno eu gwelliannau eu hunain yn Nhŷ'r Arglwyddi er mwyn dangos cynnydd a gweld teimladau'r Tŷ yn ystod y Cyfnod Pwyllgor, ac mae’r rhain bellach wedi eu cyflwyno. Fodd bynnag, fy nealltwriaeth glir i oedd nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu pwyso am bleidlais dros welliannau o'r fath, ac y byddai cyfle i gael trafodaeth bellach cyn cynhyrchu gwelliant terfynol ar gyfer Cyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y byddai wedi bod yn llawer iawn gwell cytuno ar welliannau rhwng y tair Llywodraeth cyn hyn. Fodd bynnag, yn fy marn i, nid yw gwelliant Llywodraeth y DU nawr yn gwneud unrhyw beth ond diogelu ei sefyllfa, fel opsiwn wrth gefn, yn yr un modd ag y mae'n deddfwriaeth Parhad ni yn ei wneud i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Byddaf hefyd, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y cynnydd, gan barchu cyfrinachedd angenrheidiol y trafodaethau hanfodol hyn rhwng llywodraethau. Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiad diweddaraf Llywodraeth y DU o feysydd cyfraith yr UE sy’n gorgyffwrdd â chymhwysedd datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddaf yn ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad er mwyn nodi sylwadau Llywodraeth Cymru am y dadansoddiad hwn. Fe gafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y negodiadau gyda 27 gwlad yr UE, ac fe gafwyd sicrwydd pellach y byddai papur yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cyd\-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ynghylch rhan y gweinyddiaethau datganoledig yn y negodiadau hynny yn y dyfodol. ### Dogfennau * #### Joint Ministerial Committee (EU Negotiations) Communique, 8 March 2018 (Saesneg yn unig), math o ffeil: pdf, maint ffeil: 106 KB 106 KB
https://www.gov.wales/written-statement-meeting-joint-ministerial-council-european-negotiations-8th-march-2018
This Written Statement provides an update on the status of the M4 Corridor around Newport Project, which proposes a new section of motorway south of Newport, reclassification of the existing M4 over this area and complementary measures to promote cycling, walking and access to public transport. The Public Inquiry into the Scheme has now closed. Detailed evidence has been heard, both for and against the proposals, over 83 sitting days. Two independent inspectors have openly and robustly scrutinised whether the Scheme is the long\-term, sustainable solution to the problems on this gateway. As well as the scope and impacts of the Scheme, suggested alternatives have been thoroughly assessed including the ‘blue\-route’ suggestion of works to existing roads in Newport. I would like to thank all those involved in the Inquiry, ensuring that the Inspectors’ report will be informed by the best possible evidence. Once we receive the Inspectors’ report, the Welsh Ministers must complete the statutory process. The next steps will be announced, alongside publication of the Inspectors’ report for all to see. In recognition of the importance of this matter to the whole of Wales, we have committed to a debate in Government time in the Assembly before a final decision is made by the Welsh Ministers whether to enter into contracts for construction.
Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar statws Prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae'r prosiect hwn yn cynnig darn newydd o draffordd i'r de o Gasnewydd, ailddosbarthu'r M4 presennol yn yr ardal hon a mesurau ategol i hyrwyddo beicio, cerdded a mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Ymchwiliad Cyhoeddus i'r Cynllun bellach wedi dod i ben. Rydym wedi gwrando ar dystiolaeth fanwl o blaid ac yn erbyn y cynigion dros 83 o ddiwrnodau’r Ymchwiliad. Mae dau arolygwr annibynnol wedi craffu mewn ffordd agored a thrylwyr ar y cynllun ac ystyried a yw'n ddatrysiad cynaliadwy a hirdymor i'r problemau yn yr ardal hon ai peidio. Yn ogystal â chwmpas ac effeithiau'r Cynllun, aseswyd yr awgrymiadau eraill yn drylwyr gan gynnwys gwaith y 'llwybr glas' a awgrymwyd i'r ffyrdd presennol yng Nghasnewydd. Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r Ymchwiliad i sicrhau y bydd adroddiad yr Arolygwyr yn cynnwys y dystiolaeth orau bosibl. Ar ôl inni gael adroddiad yr Arolygwyr, rhaid i Weinidogion Cymru gwblhau'r broses statudol Bydd y camau  yma yn cael eu cyhoeddi, ynghyd ag adroddiad yr Arolygwyr i bawb eu darllen. I gydnabod pwysigrwydd y mater hwn i Gymru gyfan, rydym yn ymrwymedig i ddadl o fewn amser y Llywodraeth yn y Senedd cyn bod Gweinidogion Cymru yn cytuno ar gontractau adeiladu.
https://www.gov.wales/written-statement-m4-corridor-around-newport-project-public-inquiry-update